Addysg i bawb.

Slides:



Advertisements
Similar presentations
Hanes Joseff (Rhan 2) Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies.
Advertisements

Noson Agored Rhieni Blwyddyn Derbyn 2007 Open Evening For parents who have children starting in the reception class.
Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Y Dyfodol Fy Nyfodol My future Ar ôl YsgolBlwyddyn nesa’ hoffwn ibydda i’n mynd i ysgol arall goleg weithio wneud prentisaeth er mwyn gwneud lefel A.
Edrych ar y sêr. 4 Y Daith © The Collective Worship Resource - The National Society and The Culham Institute.
Hanes Moses (Rhan 1). Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies.
TRÖEDIGAETH SAUL Actau pennod 9: 1-27 Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies Golygydd Testun: Linda Lockley.
Edrych ar y sêr. 3 Y Teulu © The Collective Worship Resource - The National Society and The Culham Institute.
Adroddiad Blynyddol (Colegau arbenigol annibynnol) Annual Report (Independent specialist colleges)
Ysgrifennu Sgript Nod y wers: adnabod a defnyddio nodweddion sgript. datblygu sgwrs yn deillio o stori ‘Rama a Sita’.
Hanes Joseff (Rhan 1) Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies.
Technegau Arholiad Gweithdy Sgiliau Astudio Exam Techniques Study Skills Workshop.
  Brechiad y ffliw yw'r ffordd unigol orau o warchod rhag dal neu ledaenu'r ffliw Flu vaccination is the single best way to protect from catching or spreading.
Ann Keane Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Her Majesty’s Chief Inspector of Education & Training in Wales.
“I liked the follow-up and telephone contact”
Llysgenhadon Cymunedol | Community Ambassadors
Brîff 7 Munud - Maethu Preifat Private Fostering 7Minute Briefing
Her i gludo tomatos i lawr ochr mynydd heb iddyn nhw droi’n slwtsh!
Mae ffrind da i chi’n mwynhau llwytho fideos i’r rhyngrwyd yn rhannu syniadau da ar gyfer Minecraft. Ddoe, aethoch chi i edrych ar ei neges.
Edrychwch tuag Ynysoedd y Gwynt!
Brîff 7 Munud - Llais y Plentyn Voice of the Child 7 Minute Briefing
Gweithdy ar Sgiliau Astudio
Gwers un - CA3 ABaCH BBC Plant Mewn Angen.
Llysgenhadon Uwchradd Comisiynydd Plant Cymru
What do tutors mean when they say “check your work’’?
Christmas can be such a joyful time here in Britain and Ireland.
Cyfarfod boreol (i blant 7-14 oed)
TYBIO PETHAU Neges destun
Canfod Gofalwyr Cymru a Rhoi Cymorth Iddynt
LANSIAD YSGOLION UWCHRADD CYFLWYNIAD
SIARAD AM ISELDER. SIARAD AM ISELDER SIARAD AM ISELDER.
Brîff 7 Munud - Diogelwch Ar-lein Online Safety - 7 Minute Briefing
CA4 ABaCh - Gwers Un BBC Plant Mewn Angen.
Darlleniad: 1 Ioan 4: 7-21   Cariad Duw a'n cariad ni 7 Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu'n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy'n.
ABCh – Cyfnod Sylfaen Gwers 1
Evaluation Titration Defnyddiwch y cyflwyniad PowerPoint rhyngweithiol hwn i werthu’r agweddau hyn ar Ditradu Cywirdeg mewn Titradau Dull Titradu Dethol.
The Great Get Together.
MYTHAU A FFEITHIAU AM HUNAN-NIWED
Cyflwyno’r cefndir. Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ac Arolwg Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol AB 2018.
Beth Yw Briffiau 7 Munud? What Are 7 Minute Briefings?
The Great Get Together.
Y Blynyddoedd Cyn Crist
Y Continwwm Arweinyddiaeth Dawns ar gyfer Pobl Ifanc
PAWB YN CYFRI Uned 2: Amser ac anghydraddoldeb.
Sleid i ATHRAWON yn unig
Nadolig Llawen.
Blynyddoedd Cynnar Cyfnod Sylfaen Cymraeg Gwers 1
Gweithdy ar Sgiliau Astudio
TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD
1st person to 3rd person Mae o’n/hi’n/Bob yn Dydy o/hi/Bob ddim yn
MATHEMATEG – Cyfnod Sylfaen Gwers 1
Pam ydw i yma? Beth yw fy niddordeb? Why am I here?
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Blynyddoedd Cynnar ABCh Cyfnod Sylfaen Gwers 1
Cacen Pen-blwydd.
Cydraddoldeb rhwng y rhywiau
CA3 – Gwneud Dewisiadau ar gyfer CA4 (2)
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
Cyflogaeth.
(Sgram! Golygydd Non ap Emlyn)
Y Blynyddoedd Cyn Crist
Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion
Sleid i’r ATHRO yn unig Gwybodaeth am y sleid
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2019 LLAIS
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Prosiect Sgiliau Hanfodol Hyblyg
Y Gynulleidfa Darged.
N ll C n y u.
Peirianneg Uned 2 Hydref 2015 Mewnosod enw cyflwynwr.
Presentation transcript:

Addysg i bawb

Ffoto: Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone © Aubrey Wade/Oxfam

Y ffeithiau Yn 2015, nid oedd 58 miliwn o blant wedi'u cofrestru mewn ysgol gynradd. Graffeg: GCE UK (ystadegau’n gywir yn 2015)

Meddyliwch a phenderfynwch. Beth sy'n gwneud addysg dda? Sylfaen Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn gorffen yr ysgol gynradd. Mae addysg dda'n golygu bod gan bob plentyn werslyfr. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn gallu darllen, ysgrifennu a rhifo. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn cael ei addysgu gan athro sydd wedi'i gymhwyso. Mae addysg dda'n golygu bod gan ferched a bechgyn gyfleoedd cyfartal. Mae addysg dda'n golygu bod gan bob ysgol ddŵr yfed a thoiledau. Estyniad Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn cofrestru mewn ysgol. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn mynd i'r ysgol rhwng 9am a 3.30pm bum diwrnod yr wythnos. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn cael ei addysgu mewn dosbarth heb fod yn fwy na 30 disgybl. Mae addysg dda'n golygu bod anghenion plant sydd ag ADY yn cael eu hateb. Mae addysg dda'n golygu bod plant yn saff ac yn ddiogel yn yr ysgol. Mae addysg dda'n golygu bod yr ysgol yn parchu diwylliant ac iaith gartref y plentyn. Ffotograff: Woodside High School, Llundain© Chris O’Donovan/Oxfam Meddyliwch a phenderfynwch.

Astudiaeth achos: Adama Gadawodd Adama yr ysgol gynradd am flwyddyn ac yna dychwelyd. Pan gwrddodd Oxfam ag Adama, roedd hi'n ddisgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh, ychydig y tu allan i Freetown yn Sierra Leone. Roedd hi'n 12 mlwydd oed ‘Pan o'n i ym mlwyddyn 5 doedd fy mam ddim yn gallu fforddio talu'r tâl o 9,000 Leones (£1.40) i gronfa datblygu'r ysgol. Dyma'r arian y mae'n rhaid i rieni ei dalu er mwyn i'r ysgol allu prynu pethau fel dodrefn ac offer. Pan oedd hi'n methu talu roedd rhaid imi stopio mynd i'r ysgol. Doeddwn i ddim yn mynd i'r ysgol am flwyddyn. Drwy'r amser ro'n i'n byw yma, yn union wrth ymyl yr ysgol. 'Roedd fy mam yn mynd â fy chwaer a minnau i'r farchnad ac ro'n ni'n gwerthu gari (blawd casafa) bob dydd. Do'n i ddim yn hoffi gweithio yn y farchnad. Dydy e ddim yn fuddiol i blentyn a'r cyfan ro'n i'n meddwl amdano oedd beth ro'n i'n ei golli yn yr ysgol. 'Siaradais â fy rhieni. Dywedais wrthyn nhw nad o'n i eisiau gwerthu yn y farchnad. Dywedais, plîs gwnewch eich gorau i'm hanfon i'n ôl i'r ysgol. 'Ro'n i wir yn hapus pan ddywedodd fy rhieni wrtha i fy mod i wedi cael fy lle yn yr ysgol yn ôl. Roedd rhaid i mi ddechrau Blwyddyn 5 eto a nawr dwi ym Mlwyddyn 6 sy'n fy mharatoi at yr arholiadau terfynol. Dwi'n hoffi'r ysgol achos mae'r ysgol yn fanteisiol i mi ar gyfer y dyfodol. Pan fyddaf i'n henach dwi eisiau bod yn rhywun fel nyrs neu gyfreithiwr. 'Dwi'n gwerthfawrogi'r ysgol a dwi'n astudio'n galed iawn. Dwi eisiau pasio fy arholiadau a mynd i'r Ysgol Uwchradd Iau.' Ffotograff: Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone, © Aubrey Wade/Oxfam

Astudiaeth achos: Hawanatu Gadawodd Hawanatu yr ysgol heb gwblhau ei haddysg gynradd a dechrau gweithio. Pan gwrddodd Oxfam â Hawanatu roedd hi'n wrthi'n gweithio, yn torri llysiau yn y stryd yn Pamaronkoh, ychydig y tu allan i Freetown yn Sierra Leone. Roedd hi'n 13 blwydd oed.   'Es i i bob blwyddyn ysgol yn yr ysgol gynradd hyd at Flwyddyn 5. Yna buodd fy nhad farw wan o'n i ar fin dechrau Blwyddyn 6. Dwi'n byw gyda fy anti a doedd hi ddim yn gallu fforddio'r tâl ysgol, felly roedd rhaid i mi adael heb orffen fy arholiadau ysgol gynradd. 'Dwi ddim yn teimlo'n dda o gwbl am hyn achos dwi'n gorweithio. Mae fy anti'n gwerthu eba (toes casafa), halen a winwns o stondin y tu allan i'n tŷ ni. Dwi'n gweithio bob dydd yn nôl dŵr, yn ysgubo ac yn paratoi bwyd. Hefyd mae'n rhaid i mi helpu i gadw'r tŷ'n daclus. 'Dydy fy mrodyr a'm chwiorydd ddim yn mynd i'r ysgol chwaith. Ers i fy nhad farw does dim un ohonon ni'n mynd i'r ysgol. 'Un rheswm hoffwn i fynd yn ôl a gorffen yr ysgol yw achos bod y gwaith hwn yn ormod i mi. Ond hefyd hoffwn i fod yn nyrs ac mae hynny'n hollol amhosibl os nad ydw i'n gorffen yr ysgol.' Ffoto: cymuned Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone © Aubrey Wade/Oxfam

Astudiaeth achos: Gbessay Aeth Gbessay ddim I’r ysgol gynradd, a dechreuodd hi ddarllen ac ysgrifennu pan oedd hi yn ei harddegau, mewn canolfan hyfforddi galwedigaethol. Cwrddodd Oxfam â Gbessay yn Grassroots, canolfan hyfforddi galwedigaethol yn Pamaronkoh yn union y tu allan i Freetown yn Sierra Leone. Doedd Gbessay erioed wedi bod i'r ysgol a chofrestrodd yn Grassroots er mwyn dysgu gwneud dillad. Roedd hi'n 15 mlwydd oed.  'Dwi erioed wedi bod i'r ysgol. Roedd ysgol wrth ymyl fy nghartref pan o'n i'n byw yn y pentref ond es i byth. Mae fy rhieni'n dlawd iawn a doedd dim arian gyda nhw i dalu i mi fynd i'r ysgol. 'Ro'n i'n teimlo'n wael am golli'r ysgol. Aethon nhw â fi i fferm y teulu ac roedd rhaid i mi weithio yno. Ro'n i'n teimlo'n wael am hynny. Dechreuais weithio pan o'n i'n chwe blwyddyn oed, yn gwneud pethau fel chwynnu a gyrru'r adar i ffwrdd. Gweithiais ar y fferm am bum mlynedd heb fynd i'r ysgol o gwbl. Roedd fy ffrindiau yn y pentref yn gwrthod siarad â mi. Ro'n nhw'n mynd i'r ysgol a do'n i ddim, felly pan o'n nhw'n fy ngweld i, ro'n nhw'n gwrthod siarad â mi. 'Ro'n i'n teimlo fy mod i'n cael fy esgeuluso oherwydd mai merch o'n i. Siaradais â fy rhieni ac ymbil arnyn nhw i'm hanfon i'r ysgol. Dywedon nhw wrtha i nad oedd arian gyda nhw i wneud hynny. Dim ond nawr mae rhieni'n anfon merched i'r ysgol. 'Daeth fy nain â fi i Freetown pan o'n i'n 11. Roedd hi eisiau i mi ddysgu rhywbeth. Des i i'r ganolfan (Grassroots) a dechrau dysgu sgiliau newydd. Darllenais ddarllen pan o'n i'n 13. Roedd ysgrifennu fy ychydig eiriau cyntaf yn braf iawn. 'Nawr dwi'n dysgu gwneud dillad. Hoffwn sefydlu fy menter fy hun os gallaf godi'r arian. O edrych yn ôl hoffwn i ddweud pa mor bwysig yw hi i ferch fynd i'r ysgol. Y rheswm? Os yw person yn anllythrennog, mae bywyd yn anodd iawn iddyn nhw.' Ffoto: cymuned Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone © Aubrey Wade/Oxfam

Astudiaeth achos: Fatmata Gorffennodd Fatmata ei haddysg gynradd a symud ymlaen i addysg uwchradd iau. Pan gwrddodd Oxfam â Fatmata roedd hi'n fyfyriwr Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Iau yn Makeni, Sierra Leone. Roedd yn 16 blwydd oedWhen Oxfam met Fatmata she was a Year 9 student at St Joseph’s Junior Secondary School in Makeni, Sierra Leone. Fatmata was 16 years old.   'Dwi'n byw ym mhentref Mashirmba y tu allan i Makeni. Roedd yr ysgol gynradd yn weddol agos i'm cartref ond mae'r ysgol uwchradd yn y dref ac yn bell o gartref. Dwi'n codi am 5 y bore er mwyn gallu cerdded i'r ysgol erbyn y gwersi am 8am. Dwi'n gadael yn syth ar ôl i'r gwersi orffen am 4pm ac yn cerdded adref, gan gyrraedd y tŷ am 7pm. Yna dwi'n bwyta, yn gwneud fy ngwaith cartref ac yn helpu fy rhieni yn y tŷ. Mae gen i saith brawd a phedair chwaer. 'Ar y penwythnos mae fy rhieni'n disgwyl i mi eu helpu nhw gyda'r fferm. Weithiau dwi'n dweud fy mod i eisiau gwneud gwersi ychwanegol ond mae fy rhieni'n dweud: paid â gwneud rhagor o ysgol, dere i helpu dy rieni. Does dim un o'm rhieni wedi cael addysg. Maen nhw eisiau i mi fod yn gyfreithiwr, ond hefyd mae fy angen i arnyn nhw i helpu. 'Weithiau dwi'n colli'r ysgol oherwydd fy mod i mor flinedig, ond rwy'n benderfynol o wneud yn dda a dwi eisiau bod yn gyfreithiwr. Mae rhai o'm ffrindiau wedi gadael yr ysgol. Naill ai does dim arian gyda nhw ar gyfer yr ysgol neu mae eu hangen nhw i weithio. Maen nhw'n gwneud pethau fel gwerthu yn y farchnad neu weithio yn y caeau'n cario coed. Dwi bob amser yn dweud wrthyn nhw fod addysg yn bwysig iawn. Fydd addysg byth yn eich siomi chi. Mae llawer o ferched sydd ddim yn mynd i'r ysgol yn cael babis, ac yna mae'n amhosibl mynd yn ôl.' Dywedodd athrawes Fatmata ei bod hi'n fyfyriwr gwych ond roedd hi'n cwyno ei bod hi'n aml yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol a'i bod hi'n flinedig. Byddai hi wedi hoffi i Fatma aros yn y prynhawniau i wneud gweithgareddau allgyrsiol. Ffotograff: Ysgol Uwchradd Iau St Joseph’s, Makeni, Sierra Leone © Aubrey Wade/Oxfam

MDG2 yn troi'n SDG4 MDG2 'Sicrhau, erbyn 2015, y bydd plant ym mhobman, bechgyn a merched fel ei gilydd, yn gallu cwblhau cwrs llawn o addysg gynradd.' SDG4 ‘Sicrhau bod addysg gynhwysol a chydradd o ansawdd dda a hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.’ Yn 2015 lansiodd y Cenhedloedd Unedig y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs). Disodlodd y SDGs Nodau Datblygu’r Mileniwm(MDGs), a’u bwriad yw adeiladu ar lwyddiannau’r MDGs ac arwain at ddileu tlodi erbyn 2030.

Beth yw'r pethau sy'n debyg ac yn wahanol? Trafodwch: Beth yw'r pethau sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y nodau? Pa un o'r nodau sydd agosaf at eich syniadau chi am addysg dda? Gweithiwch gyda rhywun nad ydych chi’n ei adnabod. (10 munud, gyda 5 munud ar gyfer adborth)

Beth yw targedau addysg 2030? pob merch a bachgen yn gorffen addysg gynradd ac uwchradd o ansawdd dda addysg gyn-ysgol o ansawdd dda ar gael i bob bachgen a merch addysg dechnegol, alwedigaethol a phrifysgol fforddiadwy o safon ar gael i bob menyw a dyn mwy o ieuenctid ac oedolion â sgiliau cyflogaeth da mynediad cyfartal i bob lefel o addysg, e.e. i fenywod a phobl ag anableddau llythrennedd a rhifedd da gan bob person ifanc a llawer o oedolion pawb yn dysgu am ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang cyfleusterau addysg da i bawb ehangu ysgoloriaethau i bobl mewn gwledydd sy'n datblygu cynyddu nifer yr athrawon wedi'u cymhwyso. Dyma restr lawn targedau’r CU: http://www.un.org/sustainabledevelopment/education/

Diolch! Ffotograff: Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone © John McLaverty/Oxfam