Dysgu Byd-eang a Bagloriaeth Cymru
Beth yw Bagloriaeth Cymru? Cymhwyster cydnabyddedig ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed Mae’n datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gwaith, prifysgol a bywyd Mae Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd, sydd wedi’i diwygio ac yn fanylach, wedi’i seilio ar Dystysgrif Her Sgiliau a Chymwysterau Ategol. Y prif nod yw hybu sgiliau hanfodol ar gyfer cyflogaeth a darparu cyfleoedd trwy dair Her a Phrosiect Unigol.
Pa sgiliau? Llythrennedd a rhifedd llythrennedd digidol meddwl yn feirniadol, datrys problemau cynllunio, trefnu, creadigrwydd, arloesedd ac effeithiolrwydd personol. Dylai’r sgiliau hyn gael eu datblygu o ddechrau addysg ffurfiol – gweler Donaldson
Strwythur Bagloriaeth Cymru
3 lefel Mae tair lefel i’r cymhwyster: Uwch - (a gwblheir yn y chweched dosbarth) = Safon Uwch Cenedlaethol - (a gwblheir ym mlwyddyn 10 ac 11) CA4 = TGAU A*-C Sylfaenol - (a gwblheir ym mlwyddyn 10 ac 11) CA4 = TGAU D-G Mae’r cymhwyster Uwch yn cyfateb i 1 Safon Uwch ac mae’r cymhwyster Cenedlaethol/Sylfaenol yn cyfateb i 1 TGAU.
Cymwysterau Ategol Bydd y Cymwysterau Ategol yn cynnwys yr elfennau canlynol: TGAU Iaith Gymraeg/Saesneg TGAU Mathemateg/Rhifedd Cymwysterau Safon Uwch, TGAU neu gyfwerth
I gyflawni cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch, mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch ynghyd â’r cymwysterau ategol canlynol: TGAU Iaith Gymraeg/Saesneg a TGAU Mathemateg/Rhifedd ar lefel A*-C a 2 Safon Uwch ar lefel A*-E neu gyfwerth. I gyflawni cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol, mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni’r Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol (A*-C) ynghyd â’r cymwysterau ategol canlynol: TGAU Iaith Gymraeg/Saesneg, TGAU Rhifedd a 3 TGAU arall (gydag uchafswm o 2 yn gymwysterau cyfwerth â TGAU) ar lefel A*-C. I gyflawni cymhwyster Bagloriaeth Cymru Sylfaenol, mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni naill ai’r Dystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol neu Sylfaenol ynghyd â’r cymwysterau ategol canlynol: TGAU Iaith Gymraeg/Saesneg, TGAU Rhifedd a 3 TGAU arall (gydag uchafswm o 2 yn gymwysterau cyfwerth â TGAU) ar lefel A*-G.
Tystysgrif Her Sgiliau Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau yn cynnwys yr elfennau canlynol: Prosiect Unigol: 50% Her Menter a Chyflogadwyedd: 20% Her Dinasyddiaeth Fyd-eang: 15% Her Gymunedol: 15%
Her Dinasyddiaeth Fyd-eang – pa sgiliau? CD1 Gallu Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau CD2 Gallu defnyddio Creadigrwydd ac Arloesedd CD3 Deall materion sy’n ymwneud â Her Dinasyddiaeth Fyd-eang
Her Dinasyddiaeth Fyd-eang – Tasgau 1. Datblygu a chyflwyno Safbwynt Personol ysgrifenedig ar (y mater byd-eang) gan gynnwys: ffeithiau, ffactorau, barn a safbwyntiau gwahanol, gan gynnwys barn a safbwyntiau cyfoedion; ystyried credadwyedd y ffynonellau a ddefnyddiwyd; ffactorau perthnasol – gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol (PESTLE). 3. Cynhyrchu Adolygiad Personol o’r gweithgaredd cynyddu ymwybyddiaeth, gan gynnwys: datblygu a defnyddio Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; datblygu a defnyddio Creadigrwydd ac Arloesedd. 2. Datblygu a gweithredu, yn unigol neu mewn tîm (sy’n cynnwys 3-6 o aelodau), gweithgaredd Cynyddu Ymwybyddiaeth ar (y mater byd-eang) ar gyfer (nodwch y gynulleidfa darged). Cynhyrchu Pecyn Cynyddu Ymwybyddiaeth yn unigol a allai gynnwys tystiolaeth sy’n dangos: cynhyrchu a gwerthuso syniadau ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth; dewis un syniad; datblygu a gweithredu’r syniad, gan gynnwys technegau priodol ar gyfer datrys problemau a gwneud penderfyniadau; deunyddiau ac adnoddau sydd i’w defnyddio yn rhan o’r gweithgaredd cynyddu ymwybyddiaeth.
Sut gallwch chi gynllunio ar gyfer y mathau hyn o weithgareddau yn CA3 a CA2? GWEITHGAREDD 1 – Sut ydych chi’n cyflwyno’r sgiliau hyn yn eich cwricwlwm ar hyn o bryd? Datblygu a chyflwyno Safbwynt Personol ysgrifenedig Cynhyrchu Pecyn Cynyddu Ymwybyddiaeth Cynhyrchu Adolygiad Personol GWEITHGAREDD 2 – A ellir mynd i’r afael â Materion Byd-eang gan ddefnyddio’r dulliau hyn? A ellir defnyddio’r adnoddau hyn sy’n ymwneud â MASNACH DEG mewn unrhyw ffordd i helpu i baratoi’r 3 tasg?
Masnach Deg - fideo
Cynlluniau Gwers Cynllun Gwers 1 Cynllun Gwers 2
Beth Nesaf? Archwilio’ch darpariaeth bresennol ar gyfer Sgiliau Allweddol Bagloriaeth Cymru? Cynnwys y 3 tasg yn eich proses gynllunio ar draws y cwricwlwm? Addasu’r adnoddau Masnach Deg ar gyfer eich ysgol?
Adnoddau eraill ABCh ym Magloriaeth Cymru: http://gov.wales/psesub/home/resources/casestudies/secondaryschoolcasestudies/psewithinthewelshbaccalaureate/?lang=en Cynaliadwyedd: http://www.welshbaccalaureate.org.uk/Welsh-Baccalaureate-Home-Page/Teaching-and-learning/Intermediate-level/PSE/Sustainability Dinasyddiaeth: http://www.welshbaccalaureate.org.uk/Welsh-Baccalaureate-Home-Page/Teaching-and-learning/Intermediate-level/PSE/Citizenship Cymru, Ewrop a’r Byd – materion cymdeithasol: http://www.welshbaccalaureate.org.uk/Welsh-Baccalaureate-Home-Page/Teaching-and-learning/Intermediate-level/WEW/Social-Issues Cymru, Ewrop a’r Byd – materion Diwylliannol: http://www.welshbaccalaureate.org.uk/Welsh-Baccalaureate-Home-Page/Teaching-and-learning/Intermediate-level/WEW/Cultural-Issues Cymru, Ewrop a’r Byd – materion Economaidd a Thechnolegol: http://www.welshbaccalaureate.org.uk/Welsh-Baccalaureate-Home-Page/Teaching-and-learning/Intermediate-level/WEW/Economic-and-Technological CA2 – Lesotho http://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2011-12/esdgc/Lesotho/index.html