Mae ffrind da i chi’n mwynhau llwytho fideos i’r rhyngrwyd yn rhannu syniadau da ar gyfer Minecraft. Ddoe, aethoch chi i edrych ar ei neges ddiweddaraf a gweld rhai sylwadau cas o dan y neges. Mae un defnyddiwr penodol wedi gadael sylwadau fel: ‘Ha ha mae dy lais di mor od, pam wyt ti’n siarad fel’na?’ ac mae pobl eraill hefyd wedi dweud pethau am y geiriau ddefnyddiodd eich ffrind. Rydych chi’n gwybod bydd eich ffrind yn ddigalon oherwydd hyn, gan ei fod e’n ceisio helpu pobl eraill gyda Minecraft.
Gwneud dim byd Dweud wrth oedolyn Ysgrifennu sylw mewn ymateb Rhywbeth arall
Rydych chi’n gwneud ymchwil ar-lein ar gyfer prosiect gwaith cartref am eich hoff wlad. Rydych chi’n dod o hyd i wefan lle gall pobl roi eu ffeithiau difyr eu hunain a rhannu eu barn. Gwelwch fod un person wedi rhoi llawer o negeseuon yn dweud pethau cas iawn am bobl o’r wlad honno. Mae’r unigolyn yn ceisio cael pobl eraill i’w casáu nhw hefyd.
Dweud wrth oedolyn Rhywbeth arall Rhoi gwybod i’r wefan am y sylwadau Cau’r wefan a byth ei defnyddio eto Rhywbeth arall
Dydy hynny ddim yn ddoniol, mae’n gwneud i mi deimlo’n ddigalon iawn. Rydych chi’n sgwrsio â ffrindiau ar-lein ac mae un o’r ffrindiau yn rhannu jôc sy’n gwneud hwyl am ben crefydd rhywun. Mae un arall o’ch ffrindiau yn ateb gyda’r neges hon: Dydy hynny ddim yn ddoniol, mae’n gwneud i mi deimlo’n ddigalon iawn.
Dweud wrth oedolyn Rhywbeth arall Helpu eich ffrindiau i siarad am hyn Blocio’r ffrind roddodd y jôc ar-lein Rhywbeth arall
Blociwch y sylw neu’r defnyddiwr Dywedwch wrth rywun Rhowch wybod amdano Blociwch y sylw neu’r defnyddiwr Chwiliwch am safle arall i’w ddefnyddio Peidiwch ag ymuno na brwydro’n ôl Helpwch eich ffrindiau i siarad â’i gilydd Gofynnwch i’r unigolyn beth oedd yn ei feddwl Atgoffwch eich ffrindiau nad yw pawb yn cael yr un pethau’n ddoniol Cyn dweud beth sydd ar eich meddwl, gofynnwch i chi’ch hun, a yw’n garedig?
Gall helpu i esbonio beth rydych chi wedi’i weld Gall helpu i chi flocio neu roi gwybod am sylwadau a defnyddwyr Os oeddech chi wedi digalonni oherwydd beth weloch chi, gall helpu i wneud i chi deimlo’n well Gall helpu i chi ddod o hyd i wefan arall i’w defnyddio’r tro nesaf
Hoffi a negeseuon caredig Dangos esiampl dda Rhoi gwybod am gyfrifon cas a’u blocio
SAFE MEET ACCEPTING RELIABLE TELL Cadwch eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel MEET Mae ffrindiau a wnewch ar-lein yn bobl ddieithr; gall cyfarfod â nhw fod yn beryglus ACCEPTING Gall derbyn ffeiliau fod yn beryglus. Holwch oedolyn os nad ydych chi’n siŵr! RELIABLE Nid yw’n bosibl dibynnu ar bopeth neu bawb ar-lein, nac ymddiried ynddyn nhw TELL Dywedwch wrth oedolyn bob tro os bydd rhywbeth ar-lein yn peri gofid neu drallod i chi
Mae Pecynnau Addysg Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2016 gan UK Safer Internet Centre wedi’u trwyddedu o dan drwydded ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0.