Edrychwch tuag Ynysoedd y Gwynt! Cwestiwn o Fananas Wedi’i addasu o ‘The nine number picture board’ ar: http://www.sln.org.uk/geography/visual.htm Hawlfraint © 2006 Farming and Countryside Education
1 2 3 4 5 6 7 8 9 Cliciwch ar rif am gwestiwn am fananas! Cliciwch ar y banana i ddod yn ôl i’r dudalen hon. 1 2 3 4 5 6 7 8 9 Adapted from `the nine number picture board’ on: http://www.sln.org.uk/geography/visual.htm
1. Pa un o’r bananas hyn sy’n dda i’w fwyta? A, B neu’r ddau? Cliciwch am yr ateb. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
2. Pa beth yw’r planhigyn banana? A) Coeden B) Llysieuyn C) Bwydlysieuyn Cliciwch am yr ateb. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Ateb 1. Mae A a B ill dau yn dda. Nid yw’r bananas gwyrdd yn A yn ddigon aeddfed i’w bwyta eto, ond wedi ychydig o wythnosau o aeddfedu dylai fod arnynt flas bendigedig. Efallai bod golwg gwael ar y bananas, ond marciau bach ar y croen yn unig yw’r rhain. Ni wnant wahaniaeth o gwbl i du fewn y bananas. Dim ond ychydig iawn o bobl yn y DU sy’n gwybod hyn. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Ateb 2. Llysieuyn ydyw. Mae’r planhigyn yn lysieuyn-cawr lluosflwydd sy’n cynhyrchu’r bwyd ‘rydym yn ei fwyta. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
3. Pa ran o’r byd sy’n cynhyrchu’r nifer fwyaf o fananas Masnach Deg at gyfer y DU? Cliciwch am yr ateb. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Ateb 3. Ynysoedd y Gwynt. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
4. At ba bwrpas y defnyddir y bagiau glas? Cliciwch am yr ateb. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Ateb 4. Pwrpas y bagiau glas yw gochel y ffrwyth fel y mae’n tyfu ar y planhigyn banana. Mae gan y plastic blaladdwyr ynddo sydd yn lleihau colli ffrwyth yn y caeau. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
5. Pa beth yw hwn? Cliciwch am yr ateb. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Ateb 5. ‘Blodyn banana’ yw ef. Fel y mae e’n agor, dengys resi o flodau. Gyda bananas amaethyddol, mae pob blodyn yn datblygu yn fanana heb orfod cael ei beillio. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
6. Pa fath o gludiant a ddefnyddir i ddod â’r bananas i’r farchnad yn y DU? Cliciwch am yr ateb. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Ateb 6. Llong Mae’n cymryd tua 2 wythnos i‘r bananas gael eu llwytho mewn i long a’u cludo i’r DU. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
7. Ai bananas yw’r rhain? Cliciwch am yr ateb. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Ateb 7. Ie. Bananas coch yw’r rhain. Wedi’u pilo maent yn edrych fel bananas melyn. Mae rhai pobl yn meddwl bod arnynt flas melysach nac un y bananas melyn. Efallai mai dechreuad bananas ‘designer’ yw hyn. Mae’n bosibl y bydd gennym llawer math gwahanol i’w prynu yn y dyfodol. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
8. Bananas yw’r unig gnwd a amaethir yn Ynysoedd y Gwynt. Cywir neu anghywir? Cliciwch am yr ateb. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Ateb 8. Anghywir Tyfir lawer o gnydau trofannol eraill megis mangos, cnau coco a llyriad. Mae bananas yn bwysig iawn. Er enghraifft, yn St Lucia bananas yw 58% o holl allforion yr ynys. (Ffynhonell, Macmillan Caribbean Atlas) Mae ynysoedd eraill yn llai dibynnol ar fananas, ond maent yn cyfrif am tua chwarter incwm allforion Dominica a St Vincent. Exports from St Lucia 1 2 3 4 5 6 7 8 9
9. Pa beth yw’r rhain? Cliciwch am yr ateb. 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Ateb 9. Yn y jar ar y chwith ceir Jam Banana, sydd ag arno flas da iawn Y y botel ar y dde y mae cetshyp banana. Gellir ei ddefnyddio ar eich sglodion – neu gellir ei ddefnyddio i gryfhau blas bwyd. Blasus iawn! 1 2 3 4 5 6 7 8 9