Prosiect Adolygu Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan Newyddlen Ebrill 2018
Y diweddaraf am y prosiect Beth sydd angen i chi ei wneud? Gweithdrefnau Drafft: Mae CYFLWYNIAD a PHENNOD 1 wedi eu datblygu. Ar hyn o bryd mae yng ngofal y tîm prosiect ehangach a fydd yn cyflwyno eu hadborth. Bydd adran gyntaf y gweithdrefnau wedyn yn cael eu llwytho ar safle Academi Cymru Gyfan i bawb gael mynediad iddynt. Fe ddylech dderbyn hysbysiad fod y drafft ar gael yn wythnos gyntaf Mai 2018. Bydd gennych 4-6 wythnos wedyn i ddarparu eich adborth i dîm y prosiect drwy safle Academi Cymru Gyfan Pan fyddwch yn derbyn yr hysbysiad e-bost, ewch i'ch cyfrif ar Academi Cymru Gyfan a darllenwch drwy'r gweithdrefnau drafft (CYFLWYNIAD A PHENNOD 1). Cliciwch ar ‘eich adborth’ ac atebwch y cwestiynau. Gall pob rhanbarth ddewis cydlynu'r broses hon. Er enghraifft, fe all y Byrddau Diogelu Rhanbarthol ddewis gwahodd adborth yn eu cyfarfodydd bwrdd diogelu rhanbarthol ac yna cyflwyno adborth ar ran grwpiau neu sefydliadau. Bydd yr hysbysiad yn darparu amserlen a bydd rhaid cyflwyno’r holl adborth o fewn yr amserlen honno. Dim ond adborth a dderbynnir o fewn yr amserlen hon a thrwy Academi Cymru Gyfan fydd yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad i hysbysu newidiadau pellach.
Adborth I’ch helpu i gynllunio eich cyfarfodydd Darparu adborth: Adran Ymgynghoriad drwy Academi Cymru Gyfan Dyddiad cau yr adborth Cyfarfodydd y Bwrdd Cyflwyniad a Phennod 1 Dyletswydd i Roi Gwybod 8 Mehefin- 28 Mehefin 28 Mehefin 5 Gorffennaf Ymholiad Cychwynnol, Ymateb i Adroddiad a Gwneud Penderfyniadau 30 Gorffennaf – 31 Awst 31 Awst 7 Medi Cynllunio ac ymyriadau 22 Hydref -15 Tachwedd 15 Tachwedd 22 Tachwedd Cymorth Cynnar ac Atal 7 Rhagfyr -3 Ionawr 2019 3 Ionawr 2019 10 Ionawr Fersiwn Derfynol o’r ddogfen gyfan 4 Ebrill Darparu adborth: Rydym yn annog adborth gan yr holl bartneriaid a chydweithwyr. Fel rhanbarth, mae’n bosib y byddwch yn dymuno cofnodi eich adborth fel unigolyn, neu mae’n bosib y dymunwch gydlynu'r hyn rydych yn ei gyflwyno drwy gyfuno adborth gan grwpiau a sefydliadau a chyflwyno adborth ar ran y grŵp neu'r sefydliad hwnnw. Mae unrhyw un o’r dewisiadau’n dderbyniol. Yr unig amod sydd wedi ei osod gennym o ran derbyn adborth yw bod rhaid i’r holl adborth gael ei gyflwyno drwy Academi Cymru Gyfan. Y rheswm am hyn yw fel y gallwn sicrhau cysondeb yn ffurf yr adborth ac y gallwch sicrhau fod adborth yn canolbwyntio ar y gwaith. I’ch helpu i gynllunio eich cyfarfodydd Rydym wedi llunio amserlen i ddangos pryd y bydd pob adran ddrafft o’r gweithdrefnau yn barod ar gyfer eu hadolygu. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio eich amser a dyddiadau cyfarfod i alluogi ymgysylltu gyda chydweithwyr a phartneriaid.
Manylion cyswllt y prosiect: Camau Nesaf y Prosiect Mae datblygiad y rhan nesaf o’r gweithdrefnau ar y gweill. Bydd drafft ‘Dyletswydd i Roi Gwybod’ yn cael ei gyflwyno i Dîm y Prosiect ar gyfer adborth cychwynnol erbyn dechrau Mai, a'r bwriad yw y bydd yn barod i'w lwytho i Academi Cymru Gyfan yn nechrau Mehefin. Yn dilyn eich adborth ar ddwy adran gyntaf y gweithdrefnau, fe geisir cymeradwyaeth yn y Bwrdd Prosiect nesaf ym mis Gorffennaf. Manylion cyswllt y prosiect: Jo Phillips-Rheolwr y Prosiect jophillips@Cardiff.gov.uk Alys Jones-Swyddog Gweithredol y Prosiect alys.jones@Cardiff.gov.uk