Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar

Slides:



Advertisements
Similar presentations
Information Services within Ysbyty Gwynedd, Bangor Cyflwyniad gan / Presentation by Debbie Pace Jean Pierce Gwasanaethau Gwybodaeth yn Ysbyty Gwynedd,
Advertisements

Adroddiad Blynyddol (Lleoliadau i blant o dan bump oed) Annual Report (Settings for children under five)
Joining in Ymuno Estyn’s report on LEA resource bases, on the site of mainstream schools, for pupils with moderate learning difficulties What we looked.
Corporate slide master With guidelines for corporate presentations E-Ddiogelwch E-Safety 02 Mehefin / June 2nd
Gerry Evans Gwaith Cymdeithasol yn y Dyfodol Social Work in the Future.
Cyflwyno Gofal Cymdeithasol Cymru Introducing Social Care Wales
The Child Protection Register.
  Brechiad y ffliw yw'r ffordd unigol orau o warchod rhag dal neu ledaenu'r ffliw Flu vaccination is the single best way to protect from catching or spreading.
British Council Wales Professional Development & International Opportunities Datblygiad Proffesiynol a Chyfleoedd Rhyngwladol.
EIRIOLAETH – Gwasanaeth Rheoleiddiedig ADVOCACY – A Regulated Service
TRIAWD GWENWYNIG – BRIFFIAD 7 MUNUD TOXIC TRIO – 7 MINUTE BRIEFING
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae ymagweddau cam-drin domestig wedi rhoi pwyslais ar drais partner yn hanesyddol. Yn fwy diweddar, bu cydnabyddiaeth.
ASBESTOS Introduction
Brîff 7 Munud - Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n amau camdriniaeth? What to do if you suspect Abuse? - 7 Minute Briefing.
Brîff 7 Munud - Triawd Gwenwynig Toxix Trio – 7 Minute Briefing
Datblygiad dynol gydol oes Human lifespan development
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Gellir diffinio ymddygiad rhywiol niweidiol fel: Ymddygiad rhywiol gan blant a phobl ifanc dan 18 oed sy’n amhriodol.
Brîff 7 Munud - Maethu Preifat Private Fostering 7Minute Briefing
Mae ffrind da i chi’n mwynhau llwytho fideos i’r rhyngrwyd yn rhannu syniadau da ar gyfer Minecraft. Ddoe, aethoch chi i edrych ar ei neges.
Edrychwch tuag Ynysoedd y Gwynt!
Brîff 7 Munud - Llais y Plentyn Voice of the Child 7 Minute Briefing
Prosiect Adolygu Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan
  Brechiad y ffliw yw'r ffordd unigol orau o warchod rhag dal neu ledaenu'r ffliw Flu vaccination is the single best way to protect from catching or spreading.
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae nifer o rieni yn cefnogi eu plant i fynychu gweithgareddau amrywiol. Fe allai hyn gynnwys grwpiau chwaraeon megis.
Llysgenhadon Uwchradd Comisiynydd Plant Cymru
Brîff 7 Munud - Gweithio gyda Rhieni sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl Difrifol Working with Parents with Severe Mental Health Problems - 7 Minute Briefing.
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae Grŵp Hawliau'r Teulu, mewn partneriaeth gyda Nuffield Foundation wedi cynnal adolygiad i ystyried y canlynol: archwilio’r.
1. BETH YDYW? 1. WHAT IS IT? What is Public Law Outline?
Brîff 7 Munud - Diogelu Plant a Phobl Ifanc ar Remánd Safeguarding Children and Young People on Remand - 7 Minute Briefing.
Brîff 7 Munud - Esgeuluso – dysgu o Adolygiadau Achos Neglect- learning from Case Reviews - 7 Minute Briefing.
Canfod Gofalwyr Cymru a Rhoi Cymorth Iddynt
LANSIAD YSGOLION UWCHRADD CYFLWYNIAD
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae gan blant anabl yr un hawl i gael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth a phlant nad ydynt yn anabl, hawl sydd wedi’i.
‘Pwysigrwydd y Gymraeg fel sgil yn y Gweithle’
Jean Parry Jones Tachwedd/November 2015
SIARAD AM ISELDER. SIARAD AM ISELDER SIARAD AM ISELDER.
CA4 ABaCh - Gwers Un BBC Plant Mewn Angen.
ABCh – Cyfnod Sylfaen Gwers 1
GWEITHIO UNIGOL Introduction
CAM-DRIN DOMESTIG YR HENOEDBRIFFIAD – 7 MUNUD ELDER DOMESTIC ABUSE
Dull Yn Seiliedig ar Asedau
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Bydd Gorchymyn Gofal ond yn cael ei wneud os yw'r llys yn fodlon bod y plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef.
Beth Yw Briffiau 7 Munud? What Are 7 Minute Briefings?
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae gan bob gweithiwr proffesiynol ddyletswydd statudol i gynorthwyo’r gwaith o atal terfysgaeth. Y prif nodau yw atal.
Y Continwwm Arweinyddiaeth Dawns ar gyfer Pobl Ifanc
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae cyfrifoldeb ar bob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion i ddiogelu’r plant a’r oedolion hynny. Y ffordd.
HUNAN ESGEULUSTOD – BRIFFIAD 7 MUNUD SELF NEGLECT – 7 MINUTE BRIEFING
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae diogelu cyd- destunol yn ceisio adnabod ac ymateb i niwed a cham-drin pobl ifanc tu allan i’w cartrefi, un ai.
TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD
Pwy ydw i? Adnodd 1 1.
Ynglŷn ag Estyn Estyn yw swyddfa Prif Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n annibynnol ar, ond yn cael ei ariannu gan Gynulliad.
TRYDAN YN Y GWAITHLE Introduction
Blynyddoedd Cynnar ABCh Cyfnod Sylfaen Gwers 1
Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro newydd am sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn ganolog i’w waith. Keith Towler yw Cadeirydd y Bwrdd. Mae Keith ac.
LLITHRO A BAGLU YN Y GWAITH
CA3 – Gwneud Dewisiadau ar gyfer CA4 (2)
Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC
Trosolwg o Gyfarfod Cyntaf y Grŵp Rhanddeiliaid Ardal Leol
Adroddiad Blynyddol (Dysgu yn y system gyfiawnder) Annual Report (Learning in the justice system)
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio. Beth yw gwerthoedd chwaraeon?
ARCHWILIO ADEILADU TAI
Cyflogaeth.
Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion
Cyfathrebu gan ddefnyddio iaith briodol i bwrpas a chynulleidfa
– BRIFF 7 MUNUD Cam-drin Plant yn Rhywiol mewn Sefydliadau Cadw: – Adroddiad Ymchwilio (IICSA, Chwefror 2019) Sexual Abuse of Children in.
Prosiect Sgiliau Hanfodol Hyblyg
Y Gynulleidfa Darged.
1. Materion Allweddol 1. Key Issues
1. Rhesymau dros 1. Reason for briefing y briff
Presentation transcript:

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar Julie Stokes Jones

Gofal Cymdeithasol Plant Mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol i ofalu am les a diogelwch plant, hynny yw unrhyw un dan 18 mlwydd oed. Y Llywodraeth sy’n ariannu pob gwasanaeth, felly maent yn 'wasanaethau statudol'. Beth ydych chi'n feddwl sydd ar gael?

Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) Pwy yw CAMHS a beth maent yn ei wneud? Tîm o ddoctoriaid, nyrsys, seiciatryddion a therapyddion sy'n helpu pobl ifanc hyd at 18 oed sydd â phroblemau iechyd meddwl. Nid oes gan lawer o bobl ifanc broblemau iechyd meddwl ond efallai fod ganddynt broblemau difrifol o ran eu hemosiynau, eu hymddygiad, eu perthynas â phobl eraill ac o ran ymdopi â straen a thrawma.

Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig Cefnogaeth i Deuluoedd: Pwy sy’n darparu hyn a beth maent yn ei wneud? Mae Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd / Môn yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd. Pan fydd teuluoedd yn wynebu anawsterau, maent yn gweithio'n agos gyda phlant, eu rhieni, eu perthnasau neu ofalwyr a sefydliadau eraill i ddod o hyd i'r datrysiad gorau. Eu nod yw cadw teuluoedd gyda'i gilydd pan fydd hynny'n bosib.

Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig Cam-drin Plant Pwy all helpu gyda hyn a beth maent yn ei wneud? Os oes plentyn yn cael ei gam-drin mae dyletswydd ar yr adrannau gwasanaethau cymdeithasol i archwilio ac amddiffyn y plentyn hwnnw. Beth ddylech chi ei wneud? Cysylltu ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd a dweud wrthynt beth sy'n digwydd. E-bost: cyfeiriadauplant@gwynedd.gov.uk Mewn argyfwng - er enghraifft os oes rhywun yn cael ei daro neu ei gau allan o'i gartref - ffoniwch yr heddlu ar 999 Ffoniwch Childline ar 0800 1111 neu ewch i wefan ChildLine Gallwch ofyn i oedolyn rydych yn ymddiried ynddo, megis athro, gweithiwr ieuenctid neu hyd yn oed ffrind i ffonio ar eich rhan. Pan fydd pobl yn gweithio gyda phant a phobl ifanc mae'n rhaid iddynt ddilyn gweithdrefnau penodol, ond cewch wybod beth fyddent yn ei wneud a chewch eich cefnogi drwy'r broses. Edrychwch ar  Ti’n Bwysig – arweiniad pwysig i bobl ifanc yng Ngwynedd a Môn

Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig Tîm Integredig ar gyfer Plant Anabl Pwy yw'r tîm a beth mae’n ei wneud? Derwen - Tîm Integredig ar gyfer plant anabl sy'n gweithio gyda phant a phobl ifanc 0-18 oed yng Ngwynedd. Mae'n darparu cefnogaeth arbenigol i: blant sydd ag anhwylder neu oediad datblygiad plant anabl plant sy'n dioddef â salwch. Mae Derwen yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.   Beth mae Derwen yn ei gynnig? un pwynt cyswllt ar gyfer y Tîm cyngor a gwybodaeth asesiad cychwynnol gan swyddog dyletswydd mewnbwn proffesiynol i ddiwallu anghenion y plentyn adolygiad amlasiantaethol o anghenion y plentyn asesiad o anghenion y gofalwr cyfnodau o seibiant byr. Mae ein 'datganiad ar gyfnodau seibiant byr' ar waelod y dudalen hon

Pwy all gyfeirio plentyn at Derwen? y plentyn neu'r person ifanc rhiant/gofalwr pobl broffesiynol (gyda chaniatâd y teulu) Pwy sy'n gweithio i Derwen? Swyddog Dyletswydd Nyrsys Cymunedol (Datblygiad Plant) Seicolegwyr Clinigol Gweithwyr Cymdeithasol Swyddog Cyswllt Addysg Swyddogion Gwasanaethau Cefnogi Therapyddion Galwedigaethol (Addasiadau) Swyddog Gwybodaeth

Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig Plant mewn Gofal Mae dyletswydd cyfreithiol ar Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd i ofalu am blant na all fyw gyda'u teulu agos am resymau megis salwch, esgeulustod a chamdriniaeth. Mewn amgylchiadau o'r fath gellir trefnu bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn byw gyda theulu, ffrindiau neu ofalwyr maeth. Yn y sefyllfaoedd hyn mae cyfrifoldeb ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fel rhiant 'corfforaethol' neu 'gyhoeddus' i ddarparu'r un lefel o ofal i'r plentyn mewn gofal ag y byddai rhieni gofalus yn ei roi i'w plant eu hunain. Sut mae Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd yn cefnogi ac yn gofalu am blant? Un o'u prif flaenoriaethau i'w anghenion iechyd ac addysg y plentyn. Er mwyn diwallu'r anghenion hyn, mae angen iddynt ddarparu amgylchedd ble mae’r plentyn yn teimlo ei fod yn perthyn ac yn gallu ymddiried yn ei ofalwyr a siarad gyda hwy. Mae’r adran hefyd yn cefnogi plant a phobl ifanc i gynnal perthnasau presennol gyda theulu a ffrindiau, i ddatblygu perthnasau newydd os ydynt yn dymuno gwneud hynny ac i fynd ymlaen a datblygu diddordebau eraill.  

Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig Mabwysiadu plentyn Mae hyn yn golygu bod yn deulu i'r plentyn am oes. Mae'r broses yn cynnwys: cyfnod hyfforddi ac asesu cyn derbyn cymeradwyaeth adnabod anghenion plentyn a chanfod teulu i ddiwallu'r anghenion hynny cyfnod cyflwyno a symud i mewn y llys yn cymeradwyo'r penderfyniad i fabwysiadu - dod yn rhieni cyfreithiol i’r plentyn Gall y broses cymeradwyo a’r cyfnod aros fod yn hir, ond mae'r gwasanaeth wedi helpu nifer o bobl sydd eisiau mabwysiadu a nifer o blant lleol i ddod at ei gilydd a chael bywyd teuluol hapus. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn wasanaeth ar y cyd rhwng timau mabwysiadu awdurdodau lleol Gwynedd, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy ac Ynys Môn. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i deuluoedd lleol ar gyfer plant yng ngogledd Cymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig Gofalwyr maeth Mae gofalwyr maeth yn croesawu plant na all aros gyda'u rhieni i’w cartrefi ac yn gofalu amdanynt. Gall hyn fod oherwydd camdriniaeth neu oherwydd bod eu rhieni yn wael. Mae'n rhaid i ofalwyr maeth: fod yn hyblyg, yn ofalus ac yn amyneddgar helpu'r plentyn i ddod yn rhan o'u teulu derbyn ac annog ymweliadau rheolaidd â rhieni gallu cydymdeimlo a siarad yn agored â'r plentyn ynglŷn â'u gorffennol. lleolir plant yn eu harddegau sydd â phroblemau gwahanol gyda gofalwyr maeth.

Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig Cyfiawnder Ieuenctid Partneriaeth rhwng asiantaethau (yr heddlu, y bwrdd iechyd a'r gwasanaethau prawf) a chynghorau Gwynedd a Môn yw'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'n gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau cyfiawnder ieuenctid i bobl ifanc 10-18 oed yng Ngwynedd a Môn. Rydym yn gweithio â phobl ifanc a theuluoedd pobl ifanc: a gaiff eu cyfeirio atom gan yr Heddlu sy'n mynd drwy'r llysoedd sydd wedi'u rhoi dan ein goruchwyliaeth fel rhan o ddedfryd o garchar yn y gymuned a gaiff eu cyfeirio atom o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol a nodwyd eu bod mewn peryg o gyflawni trosedd Ein nod yw sicrhau: y diwallir anghenion y dioddefwyr bod pobl ifanc yn cymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad troseddol ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymuned bod rhieni yn cymryd cyfrifoldeb am eu plant bod cyfleoedd ar gael i atal trosedd ymhlith pobl ifanc y gweinyddir cyfiawnder yn gyflym.

Pa fath o swyddi a geir yn y sector hwn? Gweithwyr Cymdeithasol Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Swyddog Dyletswydd Nyrsys Cymunedol (Datblygiad Plant) Seicolegwyr Clinigol Swyddog Cyswllt Addysg Swyddogion Gwasanaethau Cefnogi Therapyddion Galwedigaethol (Addasiadau) Swyddog Gwybodaeth Maethu A llawer iawn mwy....

Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y sector hwn? sgiliau cyfathrebu a thrin pobl ardderchog y gallu i uniaethu â phobl o bob oed ac o wahanol gefndiroedd ac ennyn eu hymddiriedaeth tact, amynedd ac empathi dealltwriaeth o anghenion grwpiau cleient gwahanol peidio â barnu y gallu i weithio mewn tîm a gweithio ar eich liwt eich hun y gallu i asesu sefyllfaoedd a chymryd camau priodol y gallu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd ac achosion heriol sgiliau rheoli amser a threfnu da sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol a gweinyddu.

Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar Gofalwyr dydd proffesiynol yw gofalwyr plant cofrestredig sy'n gweithio yn eu cartrefi eu hunain i ofalu a darparu cyfleoedd dysgu i nifer o blant dan 8 oed am fwy na 2 awr y dydd mewn sefyllfa deuluol. Maent wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) ac archwilir gwasanaeth y gofalwr plant pob blwyddyn i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn addas ar gyfer plant ifanc. Fel arfer mae gofalwyr plant wedi'u cofrestru i ofalu am hyd at dri o blant dan 5 oed a thri o blant 5 - 8 oed, yn cynnwys eu plant eu hunain. Gallent ofalu am blant hŷn hyd at 14 oed. Mae Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) wedi llunio canllaw defnyddiol ar gyfer rhieni / gofalwyr 'Dewis Nani neu Ofalwr Plant'. Gellir lawrlwytho'r daflen hon o wefan PACEY.

Meithrinfa Mae’n rhaid i feithrinfeydd preifat, cymunedol a meithrinfeydd yn y gweithle fod wedi cofrestru â CSSIW a chânt eu harchwilio pob blwyddyn. Mae meithrinfeydd dydd yn aelodau Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd.

Clybiau y tu allan i oriau ysgol Ceir mathau gwahanol o wasanaethau y tu allan i oriau ysgol: Clybiau brecwast - ar agor yn y bore cyn yr ysgol fel y gall plant fwynhau bwyta brecwast yno. Clybiau ar ôl ysgol - ar agor yn y prynhawn rhwng tua 3:30pm a 6:00pm fel arfer. Rhaid i wasanaethau y tu allan i oriau ysgol fod wedi cofrestru â CSSIW os ydynt yn gofalu am blant dan wyth oed am fwy na dwy awr y dydd a mwy na phum diwrnod y flwyddyn.

Cylch Meithrin / Cylchoedd Chwarae Ni ddylai un sesiwn bara mwy na 4 awr. Pan cynigir dwy sesiwn yn y dydd ni ddylai plant fynychu mwy na phum sesiwn yr wythnos. Rhaid cael egwyl rhwng y sesiynau ac ni ddylai'r darparwr fod yn gofalu am unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod hwn. Mae angen i’r rhan fwyaf o gylchoedd chwarae fod wedi cofrestru â CSSIW. Caiff Cylchoedd Meithrin eu cefnogi gan y Mudiad Ysgolion Meithrin ac mae Cylchoedd Chwarae yn aelodau Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru.

Crèche Mae'n rhaid i’r crèche fod wedi cofrestru â CSSIW os yw’n rhedeg am fwy na dwy awr y dydd, hyd yn oed os yw plant unigol yn mynychu am gyfnodau byrrach.

Addysg feithrin rhan-amser am ddim i blant 3 blwydd oed Mae gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i ddarparu 10 awr o addysg feithrin rhan-amser yr wythnos i blant tair blwydd oed yng Ngwynedd. Er mwyn derbyn arian ar gyfer Addysg Blynyddoedd Cynnar i blentyn 3 oed rhaid: Gweithio tuag at ennill Cylch Rhagorol (MYM) / Sicrwydd Ansawdd Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru (WPPA).

Beth sydd ar gael yn eich ardal chi?

Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y sector hwn? Amynedd Gallu bod yn greadigol Dim cywilydd bod yn wirion - canu a dawnsio a chwarae'n wirion Gweithio mewn tîm Gweithio ar eich liwt eich hun Disgyblaeth Synnwyr digrifwch!!!

Cyfeiriadau Gwynedd Ni: http://www.gwynedd-ni.org.uk Cyngor Gwynedd: http://www.gwynedd.gov.uk