Cofio dros Heddwch Rhaglen arddangosfa a digwyddiadau 29 Mehefin – 24 Medi 2016 Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd CymrudrosHeddwch.org WalesforPeace.org Temple of Peace, King Edward VII Avenue, Cathays Park, Cardiff, CF10 3AP TEL 029 2082 1051 EMAIL walesforpeace@wcia.org.uk
Digwyddiadau: Haf 2016 I gofrestru ar gyfer digwyddiad, ewch i'n gwefan. Teithiau o amgylch y crypt a'r Deml Heddwch Bob dydd Gwener, 1pm 8 Gorffennaf - 23 Medi Ymwelwch â'r crypt yn sylfeini'r adeilad (i lawr un rhes o risiau) i weld Llyfr y Cofio ac i ddysgu mwy am hanes yr adeilad unigryw hwn. Noson agored prosiectau heddwch 13 Gorffennaf 5pm-7pm Hoffech gael gwybod mwy am gasglu straeon heddwch? Cyflwyniad i'r prosiect yn ogystal â sesiwn ymarferol i fynd i afael â’r technoleg. Gŵyl Heddwch Dydd Sadwrn 16 Gorffennaf 10pm – 4pm Dewch â'ch teulu i'r dathliad hwn o bopeth heddychlon! Cerddoriaeth ryngwladol, bwyd, sgyrsiau gemau, llwybrau a theithiau. Dewch â phicnic i'w fwynhau yn ein gardd heddwch. Gweithdai Sgiliau: casglu a rhannu treftadaeth heddwch 6 Gorffennaf 9.30am i 1pm: Hyfforddiant arwain teithiau, i'n helpu i gynnig cyfres o deithiau i ymwelwyr. 20 Gorffennaf. Bore: Casgliad y Werin Cymru 20 Gorffennaf, Prynhawn: Gweithdy golygu Wicipedia Ymunwch â ni trwy'r dydd neu am hanner diwrnod ar gyfer hyfforddiant (achrediad yn bosib) a fydd yn trosglwyddo'r sgiliau sydd eu hangen i chi lwytho treftadaeth i CyW, a golygu ac adolygu tudalennau Wicipedia. 21 Gorffennaf 10am-4pm Casglu straeon Milwyr Dysgu sut i ddefnyddio app 'Cymru yn y Rhyfel' i storio eich ymchwil sy'n ymwneud â milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf. GALW GWIRFODDOLWYR! Mae sawl rôl ar gael, gan gynnwys arweinwyr teithiau a gwirfoddolwyr archif. Gweler ein gwefan am fanylion. Mae Llyfr Coffa Cenedlaethol Cymru, sydd yn cael ei chadw mewn crypt o dan y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, yn dal enwau 35,000 o ddynion a menywod a aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wrth i Gymru nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme o 1 Gorffennaf - 18 Tachwedd, 2016, mae'r arddangosfa hon yn adrodd hanes y Llyfr, rhai o'r bobl y tu ôl i'r enwau, a sut y mae wedi cael ei ddefnyddio i gofio dros heddwch dros y 100 mlynedd diwethaf. Am y tro cyntaf erioed, bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i archwilio'r Llyfr drwy gopi digidol newydd, a grëwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Helpwch ni i archwilio cwestiwn allweddol y prosiect hwn: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at heddwch? Bangor Archives Cofrestru www.CymrudrosHeddwch.org www.WalesforPeace.org