Cynhyrchu ar y Cyd nid Cynhyrchu Ffug Dulliau creadigol ac arloesol o ymgysylltu, galluogi trafodaeth ystyrlon, creu syniadau a ffyrdd newydd o weithio Rosie Thomas, Rheolwr Comisiynu, Cyngor Sir Penfro Peter Anderson, Sylfaenydd, VocalEyes
Pam mae arnom angen ymgysylltu ystyrlon? Dyna'r peth iawn i'w wneud! Dim byd amdanom ni, hebddom ni. Creu gwerth cymdeithasol a chymunedau ffyniannus a gwydn. Mae hyn er lles pawb. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cyflwynwyd y Ddeddf hon ag un prif amcan mewn golwg; newid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru yn sylweddol, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i ganolbwyntio ar ddinasyddion unigol a'u llesiant. Ymrwymiad a Gweledigaeth Strategol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru Mae uwch arweinwyr a chomisiynwyr yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau annibynnol a dinasyddion i sicrhau bod gwasanaethau yn canolbwyntio ar ganlyniadau, eu bod o'r safon uchaf ac ar gael i bawb sydd eu hangen, ar yr amser ac yn y lle y mae eu hangen. Dameg Blobs a Squares
Sut y gallwn ni wneud hyn? Fforwm Arloesi Rhanbarthol - datblygu fforwm rhanbarthol ar gyfer darparwyr gofal, sydd ag aelodaeth agored ac yn seiliedig ar werthoedd. Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd - cynnal 'Sgyrsiau Cymunedol Mawr' â dinasyddion ledled Rhanbarth Gorllewin Cymru a defnyddio technoleg i ddarparu fforwm trafod ar-lein unigryw a deniadol. Creu cyd-ddealltwriaeth o'r heriau cyffredin a wynebir gan y sector, a'r hyn y mae aelodau ein cymunedau yn ei werthfawrogi, meithrin cydweithredu a datrysiadau a chreu lle ar gyfer arloesi o ran darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau drwy ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig. Fforwm Darparwyr Rhanbarthol / Platfform VocalEyes Sgyrsiau Cymunedol Mawr / Panel Dinasyddion Rhanbarthol / Platfform VocalEyes Partneriaethau Comisiynu Rhanbarthol a Chynlluniau Comisiynu Rhanbarthol / Cynllun Ardal Gorllewin Cymru Partneriaethau Comisiynu Lleol a Chynlluniau Comisiynu Lleol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chynlluniau Llesiant
Dod a’r cwbl at ei gilydd Dull cyfunol - ymgysylltu traddodiadol, wyneb yn wyneb a gwella hyn gyda thechnoleg - cynyddu cyfranogiad Defnyddio lle, sgyrsiau, cyflwyniadau ac ati fel cyfle i rannu syniadau, rhannu dysgu a thrafod pynciau er mwyn creu cyd-ddealltwriaeth a gweledigaeth a rennir. Ymchwilio i themâu Cynllun Ardal Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a chael dealltwriaeth ynghylch pa effaith y bydd hyn yn ei chael ar bobl yn ein cymunedau. Defnyddio dulliau digidol i rannu, ystyried a thrafod syniadau a blaenoriaethu Mae VocalEyes yn ddull sy'n hyrwyddo cyd-gynhyrchu, trefnu cymunedol a chymorth cyfrannu torfol ar gyfer prosiectau llesiant Trosolwg VocalEyes
Arddangos a Thrafod Beth yw eich barn chi? Cymorth pwy fydd ei angen arnom? Sut y gallem dreialu hwn? Pa ddulliau eraill y gallem eu harchwilio? O ble y gallwn ni ddysgu?