Modiwlau eiriolaeth Cyflwyniad a chefndir:

Slides:



Advertisements
Similar presentations
The effectiveness of learner-involvement strategies in further education institutions and Welsh for adults centres Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys.
Advertisements

Addysg sector gofal ac ymwybyddiaeth iaith Care sector education and language awareness Gwenan Prysor Rhaglen Dysgu Ymarfer Gogledd Cymru North Wales Practice.
The effectiveness of learner- involvement strategies in adult community learning and work- based learning Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr.
Tystysgrif Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes Certificate to Teach in the Lifelong Learning Sector Tiwtor/ Tutor : Arfon Rhys BSc Dip Ed.FCIPD MIfL 1.CYFLWYNIAD.
Adroddiad Blynyddol (Colegau arbenigol annibynnol) Annual Report (Independent specialist colleges)
Technegau Arholiad Gweithdy Sgiliau Astudio Exam Techniques Study Skills Workshop.
Gerry Evans Gwaith Cymdeithasol yn y Dyfodol Social Work in the Future.
Cyflwyno Gofal Cymdeithasol Cymru Introducing Social Care Wales
The Child Protection Register.
EIRIOLAETH – Gwasanaeth Rheoleiddiedig ADVOCACY – A Regulated Service
Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru West Wales Care Partnership
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae ymagweddau cam-drin domestig wedi rhoi pwyslais ar drais partner yn hanesyddol. Yn fwy diweddar, bu cydnabyddiaeth.
Overview of the New Curriculum for Wales
Brîff 7 Munud - Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) General Data Protection Regulations (GDPR) - 7 Minute Briefing.
Datblygiad dynol gydol oes Human lifespan development
Brîff 7 Munud- Esgeulustod Self Neglect – 7 Minute Briefing
Brîff 7 Munud - Maethu Preifat Private Fostering 7Minute Briefing
Mae ffrind da i chi’n mwynhau llwytho fideos i’r rhyngrwyd yn rhannu syniadau da ar gyfer Minecraft. Ddoe, aethoch chi i edrych ar ei neges.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac asesiadau poblogaeth The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 and population assessments.
Brîff 7 Munud - Llais y Plentyn Voice of the Child 7 Minute Briefing
Prosiect Adolygu Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae gan y rhai hynny sy’n derbyn taliadau uniongyrchol hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain ac i gymryd risgiau.
Gweithdy ar Sgiliau Astudio
Llysgenhadon Uwchradd Comisiynydd Plant Cymru
Cynhyrchu ar y Cyd nid Cynhyrchu Ffug
Brîff 7 Munud - Gweithio gyda Rhieni sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl Difrifol Working with Parents with Severe Mental Health Problems - 7 Minute Briefing.
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae Grŵp Hawliau'r Teulu, mewn partneriaeth gyda Nuffield Foundation wedi cynnal adolygiad i ystyried y canlynol: archwilio’r.
1. BETH YDYW? 1. WHAT IS IT? What is Public Law Outline?
Brîff 7 Munud - Esgeuluso – dysgu o Adolygiadau Achos Neglect- learning from Case Reviews - 7 Minute Briefing.
Canfod Gofalwyr Cymru a Rhoi Cymorth Iddynt
Brîff 7 Munud - Diogelwch Ar-lein Online Safety - 7 Minute Briefing
Brîff 7 Munud - Canllawiau ar ddefnyddio tystiolaeth ffotograffig ar gyfer Oedolion mewn Perygl Guidance on the use of photographic evidence for Adults.
GWEITHIO UNIGOL Introduction
CAM-DRIN DOMESTIG YR HENOEDBRIFFIAD – 7 MUNUD ELDER DOMESTIC ABUSE
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Bydd Gorchymyn Gofal ond yn cael ei wneud os yw'r llys yn fodlon bod y plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef.
Beth Yw Briffiau 7 Munud? What Are 7 Minute Briefings?
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol i ymarfer diogelu – mae rhannu gwybodaeth yn wael yn cael ei nodi yn aml fel problem.
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae gan bob gweithiwr proffesiynol ddyletswydd statudol i gynorthwyo’r gwaith o atal terfysgaeth. Y prif nodau yw atal.
Beth mae’r Ddeddf yn ei olygu i mi?
Y Continwwm Arweinyddiaeth Dawns ar gyfer Pobl Ifanc
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae cyfrifoldeb ar bob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion i ddiogelu’r plant a’r oedolion hynny. Y ffordd.
Hyb Gwybodaeth a Dysgu Cyngor Gofal Cymru
Briff 7 Munud Ydi Gofal yn Ddigon Da. Is Care Good Enough
HUNAN ESGEULUSTOD – BRIFFIAD 7 MUNUD SELF NEGLECT – 7 MINUTE BRIEFING
Adroddiad Blynyddol (Sefydliadau addysg bellach) Annual Report (Further education institutions)
TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD
Brîff 7 Munud – Meddwl Beirniadol Critical Thinking 7 Minute Briefing
Yn cefnogi gofalwyr ac yn cyflawni dyletswyddau newydd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Adnodd hyfforddi.
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
BRIFF 7 MUNUD - Cyngor Rhannu Gwybodaeth i ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau diogelu Information Sharing Advice for practitioners providing safeguarding.
Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro newydd am sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn ganolog i’w waith. Keith Towler yw Cadeirydd y Bwrdd. Mae Keith ac.
LLITHRO A BAGLU YN Y GWAITH
Tamaid i Gnoi Cil Dysgu am… Dir Cynradd.
Beth mae’r Ddeddf yn ei olygu i mi?
Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC
Y Gymraeg - Why bother pam trafferthu? with Welsh?
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae Radicaleiddio ar-lein yn cyfeirio at broses lle caiff unigolion eu paratoi drwy’r amgylchedd ar-lein i gefnogi.
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio. Beth yw gwerthoedd chwaraeon?
ARCHWILIO ADEILADU TAI
Brîff 7 Munud - Goruchwyliaeth Supervision - 7Minute Briefing
Anelu at Ragoriaeth Marian Jebb Marilyn Wood Ansawdd a Rheoli Data Ôl-16 Hydref 2014.
Brîff 7 Munud - Arolwg Ysgerbydol Skeletal Survey 7 Minute Briefing
Sleid i’r ATHRO yn unig Gwybodaeth am y sleid
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Prosiect Sgiliau Hanfodol Hyblyg
Y Gynulleidfa Darged.
Adroddiad Alcohol Change UK– Dysgu o drychinebau – BRIFF 7 MUNUD The Alcohol Change UK report – ‘Learning from tragedies’ 7 MINUTE BRIEFING.
1. Materion Allweddol 1. Key Issues
1. Rhesymau dros 1. Reason for briefing y briff
Presentation transcript:

Modiwlau eiriolaeth Cyflwyniad a chefndir: Hyb Gwybodaeth a Dysgu Cyngor Gofal Cymru Dylid darparu’r cyflwyniad byr hwn ar ddechrau’r sesiwn i gysylltu’r dysgu â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gellir darparu’r modiwl neu fodiwlau eiriolaeth fel rhan o’r un sesiwn. Pan ddarperir mwy nag un modiwl nid oes angen ailadrodd y cyflwyniad. www.cgcymru.org.uk/hyb-deall-y-ddeddf/

Canlyniadau dysgu Erbyn diwedd y sesiwn hon bydd y dysgwyr yn gallu: Deall tarddiad y modiwlau hyfforddi a sut maent wedi cael eu datblygu Rhoi trosolwg o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (‘y Ddeddf’) a’i phrif egwyddorion Deall pa mor bwysig yw eiriolaeth i weithrediad y Ddeddf HYFFORDDWR: Eglurwch wrth y dysgwyr y cyfeirir at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) fel ‘y Ddeddf’. Bod yn ymwybodol o’r modiwlau hyfforddiant eiriolaeth sydd ar gael a’r hyn y gellir ei ddysgu o bob un

Cefndir y modiwlau hyn Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ym mis Ebrill 2016. Mae hyn yn newid sut mae cynghorau a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio. Mae’r Ddeddf yn cwmpasu plant a phobl ifanc, oedolion a gofalwyr. Mae pwyslais cadarn yn y Ddeddf ar roi llais cryfach i bobl a mwy o reolaeth dros eu bywydau.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gyngor Gofal Cymru ddatblygu cynllun dysgu a datblygu cenedlaethol i helpu i weithredu’r Ddeddf. Cyflwyniad Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gyngor Gofal Cymru weithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r cynllun dysgu a datblygu cenedlaethol i ategu’r broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.   Gofynnwyd i’r Cyngor Gofal hefyd ddatblygu ‘siop un stop’ lle y gall yr holl adnoddau sy’n rhan o’r Ddeddf fod ar gael o un hyb gwybodaeth ganolog er mwyn i bob sefydliad allu cael gafael arnynt http://www.cgcymru.org.uk/hyb-deall-y-ddeddf/ Roedd y Cyngor Gofal eisiau gweithio gyda phartneriaid o sefydliadau eraill er mwyn sicrhau bod ystod eang o adnoddau ar gael.

Mae’r hyfforddiant hwn ar gael yn yr Hyb Gwybodaeth a Dysgu: Cyflwynodd y Cyngor Gofal ‘Gronfa Grantiau ar gyfer Cydgynhyrchu’ er mwyn i ystod o sefydliadau allu defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth i ddatblygu deunyddiau o fewn eu meysydd arbenigedd. Dyfarnwyd y contract i Tros Gynnal Plant ddatblygu’r deunyddiau dysgu hyn yn ymwneud ag elfennau eiriolaeth y Ddeddf. Roedd y Cyngor Gofal eisiau gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ystod eang o adnoddau ar gael ar yr Hyb – o ran ‘cydgynhyrchu’. HYFFORDDWR: Mae’r egwyddor ‘cydgynhyrchu’ yn rhedeg drwy’r Ddeddf. Cwestiwn – Beth yw ystyr ‘Cydgynhyrchu’ yn eich barn chi? Egwyddor rhannu pŵer a gweithio fel pobl gyfartal. Mae hyn yn ymwneud â’r ffordd mae’r hyfforddiant wedi cael ei ddatblygu gan ddefnyddio grwpiau peilot o bobl broffesiynol, teuluoedd a phlant/pobl ifanc. Mae hefyd yn ymwneud â’r ffordd y mae’r Ddeddf wedi newid y broses gwneud penderfyniadau – gan sicrhau bod pobl sy’n cael mynediad i ofal a chymorth a’u gofalwyr yn cael mwy o fewnbwn i benderfyniadau ynghylch eu bywydau eu hunain. Mae’r hyfforddiant hwn ar gael yn yr Hyb Gwybodaeth a Dysgu: www.cgcymru.org.uk/hyb-deall-y-ddeddf/

Gwybodaeth am y Ddeddf Mae’r Ddeddf yn cynnwys 11 rhan, mae’n seiliedig ar bum egwyddor ac yn diffinio’r bobl mae’n effeithio arnynt. Cyflwyniad Swyddogaethau Cyffredinol Asesu Anghenion Unigolion Diwallu Anghenion Codi Ffioedd ac Asesiad Ariannol Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n cael eu Lletya Diogelu Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Cydweithredu a Phartneriaeth Cwynion, sylwadu a Gwasanaethau Eiriolaeth Amrywiol a Chyffredinol Egwyddorion Llais a rheolaeth Atal ac ymyrryd yn gynnar Llesiant Cydgynhyrchu Aml-asiantaeth Pobl Oedolion Plant Gofalwyr CANLYNIADAU Rhoi trosolwg o’r Ddeddf i ddysgwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r rhannau, yr egwyddorion a’r bobl. HYFFORDDWR: Awgrymwch y gallai fod yn ddefnyddiol i’r dysgwyr gofio’r elfennau hyn yn Saesneg fel y ‘3 Ps’ – Parts, Principles, People Er mwyn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r rhannau o’r Ddeddf, gall dysgwyr gyflawni’r modiwl e-ddysgu Gwybodaeth ac Ymwybyddiaeth sydd ar gael o Man Dysgu y Cyngor Gofal: http://mandysgu.cgcymru.org.uk/?lang=cy

Atal ac ymyrryd yn gynnar Egwyddorion y Ddeddf Mae’r Ddeddf yn cynnwys 11 rhan sydd â pump egwyddor allweddol : Llais a rheolaeth Atal ac ymyrryd yn gynnar HYFFORDDWR: Rhowch drosolwg o bob egwyddor a gofynnwch i’r dysgwyr sut mae hyn yn gysylltiedig ag eiriolaeth/sut y gall eiriolaeth helpu yn eu barn hwy. Llais a rheolaeth – Mae llais cryf a rheolaeth wirioneddol yn ganolog i’r Ddeddf. Mae gan bawb hawl i gael eu clywed fel unigolion a dinasyddion. Mae ymgysylltu â dinasyddion yn un o themâu canolog y Ddeddf ac mae gan eiriolaeth ran bwysig i’w chwarae i ategu gofynion ehangach y Ddeddf o ran llesiant, diogelu ac atal. Gall fod o gymorth mawr i bobl sydd am fynegi eu barn a gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Atal ac ymyrryd yn gynnar – Gallu cael gafael ar gyngor a chymorth yn gynnar, er mwyn cynnal ansawdd bywyd da, a lleihau neu oedi’r angen am ofal a chymorth tymor hwy. Diben y Ddeddf yw sicrhau bod: • Pobl yn gallu gofyn am yr help sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu • Gofalwyr yn gallu cael cefnogaeth i’w helpu yn eu rolau gofalu a chynnal eu llesiant eu hunain Llesiant – Mae egwyddor llesiant wrth wraidd y Ddeddf. Mae llesiant yn cyfeirio at lesiant person sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac mae’n cynnwys y canlynol: • Iechyd corfforol a meddyliol, a llesiant emosiynol • Amddiffyn rhag cam-drin ac esgeulustod • Addysg, hyfforddiant a hamdden • Perthnasau domestig, teulu a phersonol • Gallu cymryd rhan a chyfrannu at gymdeithas • Parchu a diogelu hawliau a hawliadau • Cyflawni llesiant cymdeithasol ac economaidd • Bod â llety addas Mewn perthynas â phlentyn, mae llesiant hefyd yn cynnwys datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol, yn ogystal â “llesiant” fel y dehonglir y gair hwnnw at ddibenion Deddf Plant 1989. Mewn perthynas ag oedolyn, mae llesiant hefyd yn cynnwys rheolaeth dros fywyd o ddydd i ddydd a chymryd rhan mewn gwaith. (Ymarfer opsiynol – beth yw ystyr “llesiant” yn eich barn chi? – rhowch atebion ar ffurf siart droi a’u cymharu â’r diffiniadau uchod.) Cydgynhyrchu – Cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio a darparu cymorth a gwasanaethau, a chydnabod y wybodaeth a’r arbenigedd y gallant eu cyflwyno. Aml-asiantaeth – Mae gwaith partneriaeth cadarn rhwng pob asiantaeth a sefydliad yn hanfodol er mwyn gwella llesiant unigolion sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth. Efallai y byddwch am ddangos y fideo byr hwn sy’n cyflwyno’r Ddeddf i’ch dysgwyr, sy’n para tua naw munud http://www.cgcymru.org.uk/adnoddau-dysgu-1/trosolwg-ac-ymwybyddiaeth/ I gael rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion, ewch i http://www.cgcymru.org.uk/adnoddau-dysgu-1/egwyddorion-y-ddeddf/ Llesiant Cydgynhyrchu Aml-asiantaeth

Beth mae’r Ddeddf yn ei ddweud am eiriolaeth? Mae eiriolaeth yn ategu holl egwyddorion y Ddeddf ac mae’n offeryn pwysig i gefnogi llais, rheolaeth a llesiant unigolion. Mae eiriolaeth yn galluogi pobl i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau, cyfrannu at benderfyniadau ynglŷn â’u bywydau, archwilio dewisiadau ac opsiynau, a mynegi eu hanghenion a’u dymuniadau. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn cefnogi pobl – plant ac oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, a gofalwyr – i gyfrannu’n llawn at brosesau gofal a chymorth allweddol sef asesu, cynllunio ac adolygu, ac unrhyw brosesau diogelu. Yn ogystal â’r ddyletswydd llesiant mae dyletswyddau cyffredinol eraill sy’n sail i’r Ddeddf, a rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau i sicrhau bod pob gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn. Mae’r dyletswyddau hyn yn berthnasol i awdurdodau lleol (neu sefydliadau eraill maent wedi dirprwyo swyddogaethau iddynt) a’u hymarferwyr wrth ddelio â pherson y gallai fod ganddo anghenion gofal a chymorth neu ofalwr sydd ag anghenion cymorth, hyd yn oed os na chadarnhawyd bod gan yr unigolyn anghenion o’r fath neu y byddai’n gymwys. Mae pedair o’r dyletswyddau cyffredinol hyn yn berthnasol ym mhob achos, boed yn oedolyn neu blentyn, sef bod yn rhaid i’r person: I’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny Rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn Rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm Rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn, gan gynnwys iaith

Eiriolaeth Efallai y bydd rhai pobl yn profi rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyfrannu’n llawn ac felly gall fod angen eiriolwr arnynt i’w cefnogi. Gallai rhiant, gofalwr, ffrind, cymydog neu berthynas er enghraifft fod yn ‘unigolyn priodol’ i eirioli ar ran y person. Rhaid i unigolyn priodol: Allu cefnogi cyfraniad y person yn ddigonol Bod yn rhywun y mae’r person am iddo ei gefnogi Peidio â bod yn rhan o ymchwiliad diogelu Os na fydd unigolion priodol ar gael i hwyluso cyfraniad y person, rhaid i’r awdurdod lleol, o dan Ran 10 o’r Ddeddf, drefnu bod eiriolwr ffurfiol yn ei gefnogi a’i gynrychioli. Mae’r Ddeddf yn diffinio pedair ffordd y gallai pobl brofi rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyfrannu’n llawn at eu prosesau gofal a chymorth allweddol neu brosesau diogelu: Deall gwybodaeth berthnasol Cadw gwybodaeth Defnyddio neu ystyried y wybodaeth Trosglwyddo eu safbwyntiau, dymuniadau a’u teimladau HYFFORDDWR – ceisiwch annog trafodaeth ynghylch y rhain, enghreifftiau o’r rhesymau pam y gallai pobl brofi’r rhwystrau hyn a’r effaith y byddai’n ei chael ar eu gallu i gyfrannu’n llawn.

Pam mae hyn yn berthnasol i mi? Gallai eiriolwr fod yn aelodau o’r teulu, ffrindiau, gofalwyr, cymdogion ac ati (eiriolwyr anffurfiol) neu bobl broffesiynol sy’n cyflawni rôl eirioli fel rhan o’u swydd (eiriolwyr ffurfiol). Nid yw’r rhai sy’n darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth i gefnogi unigolyn i gael ei glywed yn aml yn cydnabod eu hunain fel eiriolwyr. Os nad ydych yn cydnabod eich hun fel eiriolwr efallai na fyddwch yn cyflawni potensial eich rôl i gefnogi person i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddo. Mae eirioli yn rhywbeth yr ydym oll yn ei wneud o bryd i’w gilydd ond efallai na fyddwn yn ei gydnabod a gallai fod lle i wella. Enghreifftiau: Mynd i’r feddygfa gyda chymydog nad yw’n gallu clywed yn dda iawn ac sy’n poeni na fydd yn deall yr hyn mae’r meddyg yn ei ddweud. Helpu eich merch i baratoi ar gyfer galwad ffôn y mae am ei wneud i gwyno am wasanaeth mae wedi’i dderbyn. Mynychu cyfarfod ysgol gyda pherson ifanc sy’n dod i glwb ieuenctid rydych yn ei redeg, i’w helpu i roi ei ochr ef o’r stori am sgarmes roedd yn rhan ohoni. HYFFORDDWR: Pwysleisio bod y modiwlau hyn yn helpu dysgwyr i nodi lle maen nhw eisoes yn cyflawni rôl eiriolaeth a’u cefnogi i deimlo’n fwy hyderus a medrus wrth wneud hyn, ac nid eu hyfforddi i fod yn eiriolwyr proffesiynol annibynnol fel rôl ychwanegol. Drwy gwblhau’r modiwl hwn (neu’r modiwlau hyn) bydd unigolion, boed yn eiriolwyr ffurfiol neu anffurfiol, yn gallu cydnabod eu rôl eu hunain fel eiriolwr a gwella eu sgiliau yn y maes hwn.

Y modiwlau eiriolaeth Mae tri modiwl ar gael: Modiwl 1: Beth yw Eiriolaeth…? Modiwl 2: Ydw i’n Eiriolwr…? Modiwl 3: Gwella Sgiliau Eirioli Beth yw Eiriolaeth...? – Y wybodaeth sylfaenol ynglŷn ag eiriolaeth a dulliau gwahanol. Cydnabod paramedrau’r rôl eiriolaeth a’r hyn y mae eiriolwr yn ei wneud/ddim yn ei wneud. Deall y broses eirioli ac ystyriaethau allweddol ar gyfer yr eiriolwr ar bob cam. Ydw i’n Eiriolwr...? – Nodi pryd a sut maent yn gweithredu fel eiriolwyr, deall pam na allant eirioli’n effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd, gwybod pa ddulliau amgen sydd ar gael os na allant eirioli eu hunain. Gwella Sgiliau Eirioli – Nodi sgiliau eirioli effeithiol, eu gwneud yn berthnasol i sefyllfaoedd eirioli a deall eu pwysigrwydd. Cydnabod eu sgiliau a’u hymarfer presennol eu hunain/gwella’r rhain yng nghyd-destun sefyllfa eirioli. Nodi’n glir pa fodiwl(au) sy’n cael eu darparu yn ystod y sesiwn hon.

Cyflwyniadau a chytundeb grŵp Mewn parau: Cyflwynwch eich hun i’ch partner Dywedwch wrth eich partner am dri pheth sy’n peri anhawster neu ddiflastod i chi mewn sesiynau neu gyfarfodydd Cofnodwch y rhain ar nodiadau Post-it, cyflwynwch eich partner a rhannwch gyda’r grŵp Ymarfer a awgrymir yw hwn – efallai y byddai’n well gennych gynnwys eich ymarfer eich hun. NOD: Creu rheolau sylfaenol ar gyfer y sesiwn, torri’r iâ. Bydd y rhain yn creu’r rheolau sylfaenol ar gyfer y sesiwn. Cyfeiriwch at bob nodyn Post-it ar wahân a chytunwch ar set o reolau sylfaenol gyda’r grŵp (dylai’r rhain fod yn gysylltiedig â straeon/sylwadau’r dysgwr sy’n ymwneud â sesiynau blaenorol). Cofnodwch y rheolau sylfaenol y cytunwyd arnynt ar y siart troi er mwyn cyfeirio atynt yn ystod y sesiwn os bydd angen (os caiff mwy nag un modiwl ei ddarparu yn ystod sesiynau ar wahân efallai y byddwch am gadw’r wybodaeth hon i’w harddangos mewn sesiynau yn y dyfodol). Er mwyn arbed amser efallai y gallwch grwpio’r nodiadau Post-it yn themâu. Sicrhewch fod y canlynol yn cael eu cynnwys: Cyfrinachedd (wedi’i gadw o fewn y grŵp) Parch at farn a phrofiadau eich gilydd Cofiwch ein bod mewn amgylchedd dysgu – dylai’r hyfforddwr bwysleisio, er ei bod yn ddefnyddiol cyflwyno a rhannu eich profiadau eich hun, na allwn ymwneud â phroses o ‘ddatrys problemau’ na chynnig cymorth ‘cwnsela’