Canllawiau ar addysgu darllen: www.cymru.gov.uk Canllawiau ar addysgu darllen: Cyfleoedd HMS i athrawon pynciau ar draws y cwricwlwm yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3
Pam mae angen y pecyn hwn? Mae’r gallu i ddarllen yn effeithiol yn hanfodol er mwyn gallu astudio pob pwnc yn y CC a hefyd er lles dysgwyr yn gyffredinol. Er bod y mwyafrif o ddysgwyr yn llwyddo i ryw raddau mewn darllen cychwynnol, mae llawer yn cael eu gadael i ymdopi ar eu pennau eu hunain wedi’r cyfnod cynnar a dydyn nhw ddim yn gwneud cynnydd digonol. Wrth sylweddoli’r diffyg cynnydd hwn, mae’n bosib y bydd rhai yn gwrthryfela yn erbyn y broses gyfan ac yn methu datblygu i fod yn ddarllenwyr effeithiol.
Mae llawer o athrawon yn ansicr o sut i ddatblygu uwch sgiliau darllen dysgwyr. Oherwydd hyn, bach iawn o ddysgu uniongyrchol o’r uwch sgiliau darllen sy’n digwydd mewn rhai dosbarthiadau. Bwriad y pecyn hwn ydy cynnig nifer o strategaethau i’w defnyddio gan athrawon.
Sut/Pryd dylai’r pecyn gael ei ddefnyddio? Mae’r pecyn wedi’i gynllunio ar gyfer HMS mewn ysgolion unigol neu glystyrau. Mae’n addas ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg neu iaith a llythrennedd ar draws y cwricwlwm yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Dylai gael ei ddefnyddio os ydy proses hunan werthuso’r ysgol wedi dangos bod angen sylw ar ddarllen yn y Gymraeg neu mewn pynciau eraill ar draws y cwricwlwm.
Ar gyfer pwy mae’r pecyn hwn? Gallai’r pecyn gael ei ddefnyddio gan: athrawon y Gymraeg athrawon pynciau eraill y cwricwlwm cynorthwywyr dysgu aelodau’r uwch dîm rheoli sydd â chyfrifoldeb am iaith a llythrennedd ar draws y cwricwlwm timau ymgynghorol yr ALl tiwtoriaid colegau hyfforddi cychwynnol.
Beth mae’r pecyn yn ei gynnwys? Mae’r pecyn yn cynnwys 10 uned wedi’u trefnu fel sesiynau HMS. Gall pob uned gael ei defnyddio’n unigol neu fel rhan o raglen waith barhaus. Mae pob uned yn annibynnol ac yn cynnwys gweithgareddau, cyfarwyddyd cefnogol ac ‘atebion’ at ddefnydd yr arweinydd grŵp.
Uned 1: Tuag at ddiffiniad Beth ydy’r arfer gorau o ran addysgu darllen? Ydyn ni’n dilyn arferion cyfredol? Beth ydy darllen? Darllen er mwyn deall Diffinio’r sgiliau
Uned 2. Datblygu’r sgiliau Rhagfynegi gan y grŵp Gwneud penderfyniadau cyflym Darllen i ddod o hyd i wybodaeth benodol Trafodaeth gyffredinol
Uned 3. Dealltwriaeth:chwilio am ystyr Beth ydy ‘dealltwriaeth’? Dealltwriaeth fel proses Yr ymarfer darllen a deall Gosod cwestiynau Defnyddio’r canllaw ar osod cwestiynau
Uned 4. Darllen ar y cyd a darllen dan arweiniad Pa nodweddion y dylid eu haddysgu? Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng darllen ar y cyd a darllen dan arweiniad? Gweithredu un strategaeth
Uned 5. Mynd i’r afael â’r testun:dulliau gweithredol 1A. Gweithdrefn cyfannu 1B. (dewisol) Technegau llithr ddarllen. 2. Paratoi darnau Gweithgareddau dilyniannu Modelu graffig
Uned 6. Trawsieithu Beth ydy trawsieithu? Pam mae trawsieithu’n bwysig? Cymryd nodiadau Cyflwyno trawsieithu i ddysgwyr Trawsieithu gyda thestunau hwy neu nifer o destunau
Uned 7. Datblygu sgiliau ymchwil a threfnu gwybodaeth Darllen i bwrpas:nodi’r hyn yr hoffech ei wybod Defnyddio llyfrau cyfair 3. Datblygu arferion da 4. Darllen i bwrpas penodol, casglu a choladu ffeithiau, a rhoi trefn ar wybodaeth
Uned 8. Dehongli’r dystiolaeth Gwahaniaethu rhwng ffaith a barn: ymwybyddiaeth o duedd awdur Defnyddio ffynhonnell wreiddiol Ymgyfarwyddo â geirfa pwnc benodol Defnyddio cliwiau ieithyddol er mwyn deall Tasg ddewisol: defnyddio llyfrgell
Uned 9. Edrych ar lenyddiaeth Pam llenyddiaeth? Defnyddio dulliau drama: y gadair goch Gwaith byrfyfyr a chwarae rôl Adeiliadu ffeil-o-ffaith Gwerthfawrogi’r defnydd o iaith
Uned 10. Asesu darllen Ble mae’r dystiolaeth? Asesiad ffurfiannol:asesu ar gyfer dysgu Dilyniant mewn darllen Dod i farn ar waith un dysgwr Asesiad crynodol:asesu dysgu. Y polisi yng Nghymru
Cwestiynau trafod Beth fyddai’r ffordd orau i ddefnyddio’r cyhoeddiad: yn eich ysgol yn eich clwstwr o ysgolion yn eich ALl? Sut byddech chi’n amseru’r gwaith? Dros hanner tymor, tymor neu gyfnod gwahanol? Pryd/sut byddech chi’n trefnu’r gwaith? Pa fanteision allai ddeillio o hyn?
Ymholiadau Dylid cyfeirio ymholiadau am y ddogfen hon at: www.cymru.gov.uk Dylid cyfeirio ymholiadau am y ddogfen hon at: Yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ e-bost: C&A3-14.C&A3-14@cymru.gsi.gov.uk