Hysbyseb Swydd Ysgol Llanhari Gweinyddwr Swyddfa Cyffredinol Cyflog: APT&C Graddfa 4 £17,391 (Pro-rata) Cytundeb Parhaol 20 awr yr wythnos + 4 diwrnod yn ystod gwyliau’r haf I gychwyn Medi 3ydd 2018 Mae’r Bwrdd Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn cymwys, trefnus ac effeithlon i weithio fel Gweinyddwr Swyddfa Cyffredinol. Lleolir y swydd yn yr Adran Uwchradd. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am groesawu ymwelwyr a rhieni i’r ysgol, llungopio, gwerthu a chadw stoc gwisg ysgol, dosbarthu post mewnol a gwaith gweinyddol/clerigol cyffredinol. Disgwylir hefyd i’r ymgeisydd ateb y ffôn, derbyn a chyfeirio ymwelwyr mewn cydweithrediad ag aelodau eraill swyddfa’r Adran Uwchradd. Dyddiad cau: Dydd Gwener, Mehefin 22ain, hanner dydd, 12 o’r gloch. Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod o staff, a gwirfoddolwyr, rannu’r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol (Enhanced CRB ). Gellir cael ffurflen gais a swydd ddisgrifiad ar wefan eteach. www.llanhari.com Ffôn: 01443 237 824