The Great Get Together
“We have more in common than that which divides us.” Jo Cox
Bywyd Jo Cox
Bywyd Jo Cox Cafodd ei magu yn Swydd Efrog ac roedd hi bob amser wedi breuddwydio am fod yn AS yn etholaeth ei chartref. Aeth hi i Brifysgol Caergrawnt lle dysgodd lawer am wleidyddiaeth. Ar ôl prifysgol, aeth Jo i deithio a bu yn gweithio yn rhai o ardaloedd rhyfel mwyaf peryglus y byd, gan ymgyrchu i wneud y byd yn lle tecach.
The life of Jo Cox Yn 2015, cafodd Jo ei hethol yn AS Batley a Spen yn Swydd Efrog. Aeth yn ôl i weithio yna ac roedd hi wrth ei bodd o gael cysylltiad â’r dref lle cafodd ei geni. Bu Jo yn gweithio’n galed iawn iawn – ond ei phlant oedd yn dod yn gyntaf bob tro – roedd hi wedi gwisgo ei dillad beicio yn Siamber y Tŷ Cyffredin fel y gallai fod gartref ar gyfer amser gwely’r plant. Yn ystod ei chyfnod byr yn AS, cyflawnodd Jo gymaint ac roedd hi’n boblogaidd iawn gyda’r holl bleidiau yn Nau Dŷ’r Senedd.
Sut allwn ddathlu’r pethau pwysig yr oedd Jo wedi’u gwneud ac yr oedd yn credu ynddynt?
The Great Get Together
The Great Get Together Mae penwythnos 16-18 Mehefin yn nodi blwyddyn ers marwolaeth Jo. Nid oedd ffrindiau a theulu Jo am gael achlysur trwm. Felly’r bwriad yw cynnal dathliadau i uno cymunedau ar draws y wlad. Mae digwyddiadau o bob math a maint yn cael eu trefnu, o bartis stryd, i ddigwyddiadau pobi, o ddigwyddiadau pentref i gemau pêl-droed ac o rasys rhwyfo i bicnics – gobeithio bod modd ichi fod yn rhan o’r hwyl!
The Great Get Together https://youtu.be/sUm4pm9wTi4
Beth allech chi ei wneud i gymryd rhan yn The Great Get Together neu i ddathlu amrywiaeth yn eich cymuned?