PAWB YN CYFRI Uned 2: Amser ac anghydraddoldeb.

Slides:



Advertisements
Similar presentations
Hanes Joseff (Rhan 2) Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies.
Advertisements

Noson Agored Rhieni Blwyddyn Derbyn 2007 Open Evening For parents who have children starting in the reception class.
Hanes Moses (Rhan 1). Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies.
TRÖEDIGAETH SAUL Actau pennod 9: 1-27 Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies Golygydd Testun: Linda Lockley.
Ydych chi’n falch o fod yn Gymro/Gymraes?. Ni feddyliodd am y GIG (NHS) Aneurin 'Nye' Bevan sefydlodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Un o Dredegar.
Hanes Joseff (Rhan 1) Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies.
BETH YW DAMCANIAETH? WHAT IS A THEORY? Nid yw gwyddonwyr yn gwybod sut mae pob dim yn gweithio. Scientists don’t understand how everything works. Mae rhai.
  Brechiad y ffliw yw'r ffordd unigol orau o warchod rhag dal neu ledaenu'r ffliw Flu vaccination is the single best way to protect from catching or spreading.
TRIAWD GWENWYNIG – BRIFFIAD 7 MUNUD TOXIC TRIO – 7 MINUTE BRIEFING
Mae gennym ni gyfres o enynnau wedi eu hetifeddu oddi wrth ein rhieni
Chwarae Teg? Defnyddio'r Gemau Olympaidd i edrych ar anghydraddoldeb.
Addysg i bawb.
Brîff 7 Munud - Triawd Gwenwynig Toxix Trio – 7 Minute Briefing
Brîff 7 Munud - Maethu Preifat Private Fostering 7Minute Briefing
Her i gludo tomatos i lawr ochr mynydd heb iddyn nhw droi’n slwtsh!
Mae ffrind da i chi’n mwynhau llwytho fideos i’r rhyngrwyd yn rhannu syniadau da ar gyfer Minecraft. Ddoe, aethoch chi i edrych ar ei neges.
Edrychwch tuag Ynysoedd y Gwynt!
Brîff 7 Munud - Llais y Plentyn Voice of the Child 7 Minute Briefing
HYSBYSEBION                      PRAWF-DDARLLEN 2.
HYSBYSEBION                      PRAWF-DDARLLEN 2.
Gwers un - CA3 ABaCH BBC Plant Mewn Angen.
Arolwg Chwaraeon Ysgol ac Arolwg Chwaraeon AB 2015
Cofio dros Heddwch Rhaglen arddangosfa a digwyddiadau 29 Mehefin –
Llysgenhadon Uwchradd Comisiynydd Plant Cymru
Christmas can be such a joyful time here in Britain and Ireland.
Canfod Gofalwyr Cymru a Rhoi Cymorth Iddynt
LANSIAD YSGOLION UWCHRADD CYFLWYNIAD
‘Pwysigrwydd y Gymraeg fel sgil yn y Gweithle’
SWYDDI                      PRAWF-DDARLLEN 1.
SIARAD AM ISELDER. SIARAD AM ISELDER SIARAD AM ISELDER.
Brîff 7 Munud - Diogelwch Ar-lein Online Safety - 7 Minute Briefing
CA4 ABaCh - Gwers Un BBC Plant Mewn Angen.
Darlleniad: 1 Ioan 4: 7-21   Cariad Duw a'n cariad ni 7 Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu'n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy'n.
ABCh – Cyfnod Sylfaen Gwers 1
Evaluation Titration Defnyddiwch y cyflwyniad PowerPoint rhyngweithiol hwn i werthu’r agweddau hyn ar Ditradu Cywirdeg mewn Titradau Dull Titradu Dethol.
The Great Get Together.
Cyflwyno’r cefndir. Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ac Arolwg Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol AB 2018.
Beth Yw Briffiau 7 Munud? What Are 7 Minute Briefings?
Blynyddoedd Cynnar Cyfnod Sylfaen Mathemateg Gwers 1
The Great Get Together.
Yn y dechreuad… HAWLFRAINT © 2005 Vision for Children.
Y Blynyddoedd Cyn Crist
Gwers 12 Dull Ymchwil Cynradd Arall
Blynyddoedd Cynnar Cyfnod Sylfaen Cymraeg Gwers 1
TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD
MATHEMATEG – Cyfnod Sylfaen Gwers 1
TRYDAN YN Y GWAITHLE Introduction
Blynyddoedd Cynnar ABCh Cyfnod Sylfaen Gwers 1
LLITHRO A BAGLU YN Y GWAITH
Cydraddoldeb rhwng y rhywiau
CA3 – Gwneud Dewisiadau ar gyfer CA4 (2)
SGILIAU SWYDDFA.
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Beth yw gwaith gweddus?.
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
ARCHWILIO ADEILADU TAI
Y Groes Addasiad GJenkins
Cyflogaeth.
(Sgram! Golygydd Non ap Emlyn)
Y Blynyddoedd Cyn Crist
SGILIAU SWYDDFA TWRISTIAETH.
Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion
Cyfathrebu gan ddefnyddio iaith briodol i bwrpas a chynulleidfa
Sleid i’r ATHRO yn unig Gwybodaeth am y sleid
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2019 LLAIS
PowerPoint 101 Dwi’n hoffi hwnna…. © Food – a fact of life 2011.
Prosiect Sgiliau Hanfodol Hyblyg
Y Gynulleidfa Darged.
N ll C n y u.
Presentation transcript:

PAWB YN CYFRI Uned 2: Amser ac anghydraddoldeb

UNED 2: SESIWN 1 Bywyd bob dydd

SUT BETH YW’CH DIWRNOD CHI? Pa weithgareddau’r ydych fel arfer yn gwneud bob dydd? Faint o’r gloch ydych chi’n gwneud y gweithgareddau hyn? Gwybodaeth am y llun: Ystafell ddosbarth yn Andhra Pradesh. Mae byrddau du bach yn cael eu defnyddio mewn llawer o ysgolion yn India. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig

Afework Ethiopia Dyma Afework (A-ffi-wyrc). Mae’n 12 oed ac yn byw yn Addis Ababa, prifddinas Ethiopia. Bu farw mam Afework pan oedd yn saith oed a bu farw ei dad pan oedd yn ddeg oed. Mae Afework yn byw gyda’i frawd hŷn, Bekele, a’i genfder, Addisu. Maen nhw’n byw mewn lle sydd â 12 o dai a chlos yn y canol. Mae’r tai yn berchen i’r cyngor lleol (kebele) ac maen nhw wedi eu hadeiladu o fwd a phren. Mae’r holl deuluoedd yn rhannu tair cegin a chwe latrine. Waliau gwyn sydd i’r tŷ ac un ystafell fawr ydyw. Mae’r ystafell yn dywyll ond mae ganddynt drydan er mwyn cael golau, a theledu a fideo. Mae’r ystafell wedi ei rhannu’n ddwy gan lenni. Ar un ochr i’r llenni y mae gwely mawr pren. Ar yr ochr arall y mae cypyrddau ac offer cegin. Mae dau focs hefyd i gadw dillad a dillad gwely. Mae Afework yn mynd i ysgol breifat. Nid oes yn rhaid iddo dalu unrhyw ffioedd ysgol am ei fod yn blentyn amddifad. Mae Afework yn hoff o fynd i’r ysgol. Yn ei amser hamdden, mae’n hoffi chwarae pêl-droed gyda’i ffrindiau a gwylio’r teledu. Pan fydd yn hŷn, mae eisiau bod yn feddyg neu’n chwaraewr pêl-droed. Hoffai fod yn feddyg er mwyn helpu ei bobl. Neu hoffai fod yn beldroediwr am ei fod yn dwlu ar bêl droed! Gair allweddol Ystyr latrine yw toiled neu dŷ bach, neu gyfleuster symlach sy’n cael ei ddefnyddio fel toiled. Fel arfer, nid oes powlen i eistedd arni, a gallai fod yn ddim ond ffos neu dwll yn y ddaear. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Aida Ashenafi Dyma Afework gydag un o’i ffrindiau. Yn ei amser hamdden, mae’n hoffi chwarae pêl-droed gyda’i ffrindiau a gwylio’r teledu. 

Tufa Ethiopia Dyma Tufa yn nhŷ ei ffrind. Maen nhw’n defnyddio masgl cnau i chwarae gêm. Allwch chi weld y masgl cnau yn llaw Tufa?   Dyma Tufa (Tw-ffa). Mae’n 13 oed ac yn byw gyda’i deulu mewn ardal wledig yn Nhalaith Oromiya yn Ethiopia. Mae saith o bobl yn ei deulu: ei dad a’i fam, dau frawd a thair chwaer. Roedd gan Tufa chwaer arall, ond bu farw o falaria. Mae Tufa a’i deulu yn byw gyda’i gilydd mewn un ystafell fach wedi ei chreu o haearn gwrymiog (corrugated). Mae wedi ei rhannu’n ddwy a chaiff ei defnyddio fel ystafell fyw, ystafell wely, cegin ac i gadw anifeiliaid. Nid oes ganddynt doiled. Roedd Tufa yn gwneud yn dda yn yr ysgol ond bu’n rhaid iddo roi’r gorau iddi er mwyn gofalu am y gwartheg. Roedd Tufa yn drist am fod y plant eraill yn cael cyfle i ddysgu ond ni châi ef. Ef oedd yr unig blentyn yn y cartref a allai ofalu am y gwartheg. Mae un o chwiorydd iau Tufa hefyd yn methu â mynd i’r ysgol am ei bod yn helpu gartref. Cafodd gweddill ei frodyr a’i chwiorydd fynd i’r ysgol. Mae Tufa eisiau dysgu a bod yn athro wedi iddo orffen ei addysg. Mae Tufa yn hôl dŵr o’r afon ac yn gofalu am y geifr a’r gwartheg. Mae’n rhaid iddo atal y gwartheg rhag bwyta’r cnydau. Mae Tufa hefyd yn treulio llawer o amser yn pysgota. Mae angen iddo bysgota i helpu i fwydo’r teulu. Mae’n rhaid i blant tlawd bysgota. Mae bechgyn cyfoethog yn prynu eu pysgod oddi wrth deuluoedd tlawd yn hytrach na physgota. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Antonio Fiorente

Harika India Rhaid i Harika weithio’n galed i helpu ei mam gartref. Dyma Harika (Har-i-ca). Mae’n 12 oed ac yn byw mewn pentref yn nhalaith Telangana yn India. Harika yw’r unig ferch yn ei theulu. Mae ganddi ddau frawd, y naill yn hŷn a’r llall yn iau. Mae ei brawd hŷn yn aros gyda modryb sy’n byw gerllaw. Mae’n rhaid i Harika weithio’n galed i helpu ei mam gartref. Mae’n hôl y dŵr, brwsio’r llawr, golchi’r llestri, coginio a throelli cotwm. Nid oes yn rhaid i’w brawd iau wneud unrhyw waith tŷ. Fel y rhan fwyaf o blant yn y pentref, mae’n rhaid i Harika a’i brawd weithio’n y caeau yn ystod y tymor cotwm. Weithiau bydd plant o bentrefi cyfagos yn dod i helpu. Rhaid i’r cotwm gael ei beillio. Mae ar bawb yn y pentref angen yr arian a ddaw wrth werthu’r cotwm. Mae Harika yn mwynhau mynd i’r ysgol ac mae’n credu bod addysg yn bwysig. Mae’n poeni am fethu â mynd i’r ysgol pan mae’n rhaid iddi weithio yn y caeau. Yn ystod y cyfnod hwn, yn aml bydd yn rhaid i Harika godi am 4 y bore er mwyn iddi allu gwneud gwaith ysgol cyn mynd i weithio. Mae Harika yn credu bod ei ffrind, Salma, yn ffodus am nad oes yn rhaid iddi hithau weithio yn y caeau na gwneud gwaith tŷ ac mae’n gwisgo ffrogiau hardd. Yn yr ysgol, mae’n chwarae gemau gyda’i ffrindiau ac mae’n hoff o sgipio a kho kho. Weithiau bydd yn gwylio’r teledu yng nghartref cymydog gyda’r nos. Pan fydd yn hŷn, hoffai Harika fod yn athrawes, fel ei hewythr. Ond dim ond hyd at Ddosbarth 10 y gall astudio yn ysgol y pentref. Hoffai ei rhieni iddi barhau ar ôl Dosbarth 10 ond byddai’n rhaid iddi fynd i’r ysgol mewn pentref arall. Geiriau allweddol Peillio yw pan fo paill yn cael ei drosglwyddo i’r stigma, ofwl neu flodyn neu blanhigyn, er mwyn gallu ffrwythloni’r planhigyn. Gêm boblogaidd yn India yw Kho kho sy’n cael ei chwarae ar iard yr ysgol, yn weddol debyg i gêm gyffwrdd.   Llun: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig

Ravi India Dyma Ravi yn bwyta ei ginio. Mae’n bwyta dahl (lentil) a reis. Dyma Ravi (Raf-i). Mae’n 13 oed ac yn byw mewn pentref yn nhalaith Andhra Pradesh yn India. Mae Ravi yn byw gyda’i rieni a’i frodyr. Mae nai Ravi hefyd yn byw gyda nhw; mae’r nai yn fab i chwaer hŷn Ravi. Daw Ravi a’i deulu o grŵp Cast Rhestredig, a gaiff eu galw hefyd yn Dalits. Bu’n rhaid i Ravi roi’r gorau i fynd i’r ysgol dair blynedd yn ôl er mwyn ennill arian i helpu’r teulu i dalu dyled o 20,000 rwpî (≈£195). Y mae bellach yn gweithio amser llawn fel gwas fferm. Mae Ravi yn casglu cnau daear, yn clirio cerrig o’r caeau ac yn gwneud tasgau tymhorol eraill fel torri’r gwair. Mae’n rhaid i Ravi godi am 5 y bore i garthu’r beudy, brwsio’r llawr a hôl dŵr. Mae’n gadael am 9 y bore i weithio yn y caeau ac yn dod adre tua 3 y prynhawn i gael cinio. Gyda’r nos, mae’n aml yn helpu gyda thasgau fel casglu coed tân neu fynd i’r siop i brynu bwyd i swper. Weithiau bydd yn gwylio’r teledu neu’n chwarae marblis gyda’i ffrindiau. Ar ddydd Sul, bydd Ravi yn treulio’r diwrnod yn ymlacio gartref. Byddan nhw’n bwyta cyw iâr neu gig dafad ac weithiau bydd yn mynd i’r sinema. Pan fydd dyled y teulu wedi ei thalu, gobaith Ravi yw y gall ddychwelyd i’r ysgol. Creda Ravi y dylai plant ei oed ef fynd i’r ysgol. Gair allweddol Mae system cast India yn ei lle ers miloedd o flynyddoedd ac mae’n dal i fod yn eithriadol o bwysig ym mywyd bob dydd heddiw. Castiau Rhestredig (a elwir hefyd yn Dalits) a Llwythi Rhestredig (a elwir hefyd yn adivasis, pobl frodorol India) yw’r cymunedau mwyaf difreintiedig. Llun: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig

Sut beth yw diwrnod Afework? Mae’r ychydig sleidiau nesaf yn dangos rhai o’r gweithgareddau rwy’n eu gwneud bob dydd. Mae’r lluniau yn dangos pobl eraill yn Ethiopia yn gwneud gweithgareddau tebyg. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Aida Ashenafi

Am chwarter wedi saith, rwy’n cerdded i’r ysgol gyda fy ffrind. Gwybodaeth am y llun: Stryd yn Addis Ababa, prifddinas Ethiopia. Caiff yr ardal hon ei dymchwel cyn hir er mwyn creu lle i godi adeiladau newydd fel yr un yn y cefndir. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Alula Pankhurst

Mae gwersi’r bore yn dechrau am hanner awr wedi saith. Gwybodaeth am y llun: Yn ardaloedd gwledig Ethiopia, mae plant o oed cymysg yn dysgu gyda’i gilydd mewn un dosbarth. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Antonio Fiorente

12:30pm 12:30 Am hanner awr wedi deuddeg, rwy’n mynd adref i gael cinio. Mae’r ferch fach yn y llun hwn yn dysgu sut i wneud injera. Math o fara fflat yw hwn sy’n gyffredin iawn yn Ethiopia. Gwybodaeth am y llun: A young girl learns to bake injera, a type of flat bread which is the staple food in Ethiopia. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Aida Ashenafi

1:30pm 13:30 Ar ôl cinio, rwy’n cerdded yn ôl i’r ysgol. Mae gwersi’r prynhawn yn dechrau am hanner awr wedi un. Gwybodaeth am y llun: Ysgrifennu ar y bwrdd du o dan lygad barcud yr athro mewn ysgol wledig yn Ethiopia. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Antonio Fiorente

3:15pm 15:15 Mae’r ysgol yn gorffen am chwarter wedi tri ac rwy’n cerdded adref. Dyma ferched yn mwynhau bwyta lolis iâ ar eu ffordd adref. Gwybodaeth am y llun: Bwyta lolis iâ ar y ffordd adref o’r ysgol ar gyrion Addis Ababa, Ethiopia Llun gan: © Bywydau Ifanc/Aida Ashenafi

4.00pm 16:00 Am bedwar o’r gloch, rwy’n mynd allan i chwarae gyda fy ffrindiau. Dyma ddau o fy ffrindiau yn chwarae pêl-droed bwrdd. Gwybodaeth am y llun: Chwarae pêl-droed bwrdd y tu allan i gaffi yn Addis Ababa, Ethiopia. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Aida Ashenafi

Am hanner awr wedi chwech, rwy’n gwneud fy ngwaith cartref. 6:30pm 18:30 Am hanner awr wedi chwech, rwy’n gwneud fy ngwaith cartref. Gwybodaeth am y llun: Plant yn canolbwyntio ar eu gwaith mewn ysgol wledig yn Ethiopia. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Antonio Fiorente

7:30pm 19:30 Am hanner awr wedi saith rwy’n helpu gyda’r gwaith tŷ. Dyma fechgyn yn golchi dillad mewn stryd gefn ger fy nghartref i. Gwybodaeth am y llun: Bechgyn yn golchi dillad mewn stryd gefn yn Addis Ababa, Ethiopia. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Antonio Fiorente

8:00pm 20:00 Rydyn ni’n bwyta swper am wyth o’r gloch. Dyma deulu yn bwyta pryd o fwyd mewn pentref yn Ethiopia. Gwybodaeth am y llun: Teulu a chymydog yn bwyta pryd o fwyd y tu allan i’w cartref ym mhentref Assosa yng ngorllewin Ethiopia. Llun gan: Tom Pietrasik

Sut beth yw diwrnod Harika? Mae’r ychydig sleidiau nesaf yn dangos rhai o’r gweithgareddau rwy’n eu gwneud bob dydd. Mae’r lluniau yn dangos pobl eraill yn India yn gwneud gweithgareddau tebyg. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig

6:00am 06:00 Am chwech o’r gloch rwy’n codi, yn brwsio fy ngwallt, yn cael bath ac yn yfed te. Gwybodaeth am y llun: Vicas yn cael bath mewn pentref ym Madhya Pradesh, India. Llun gan: Rajendra Shaw/Oxfam

7:00am 07:00 Am saith o’r gloch, rwy’n hôl dŵr, yn glochi’r llestri ac yn brwsio’r llawr. Dyma lun o ferch yn hôl dŵr yn y pentref. Gwybodaeth am y llun: Hôl dŵr mewn pentref llwythol yn Andhra Pradesh, India. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Sarika Gulati

9:30am 09:30 Mae’r ysgol yn dechrau am hanner awr wedi naw. Mae’r ferch hon yn ysgrifennu ar fwrdd du bach. Gwybodaeth am y llun: Ystafell ddosbarth yn Andhra Pradesh. Mae byrddau du bach yn cael eu defnyddio mewn llawer o ysgolion yn India. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig

4:00pm 16:00 Mae’r ysgol yn gorffen am bedwar o’r gloch ac rwy’n hoffi chwarae gemau gyda fy ffrindiau. Gwybodaeth am y llun: Plant yn dysgu sgipio mewn pentref gwledig yn Andhra Pradesh, India. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig

4:30pm 16:30 Am hanner awr wedi pedwar, rwy’n mynd adref ac yn yfed te. Wedyn rwy’n brwsio’r llawr ac yn hôl mwy o ddŵr. Gwybodaeth am y llun: Hôl dŵr o ffynnon mewn ardal wledig yn Andhra Pradesh, India. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Sarika Gulati

5:30pm 17:30 Am hanner awr wedi pump, rwy’n coginio swper ac yn gofalu am fy nhad a fy mrawd. Gwybodaeth am y llun: Hôl dŵr i’r gegin mewn ardal wledig yn Andhra Pradesh, India. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig

Rwy’n bwyta swper gyda fy mrawd a fy rhieni am hanner awr wedi chwech. 6:30pm 18:30 Rwy’n bwyta swper gyda fy mrawd a fy rhieni am hanner awr wedi chwech. Gwybodaeth am y llun: Bachgen yn cael seibiant dros ginio yn Andhra Pradesh, India. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig

UNED 2: SESIWN 2 Faint o amser ydych yn treulio?

Mae Afework yn gadael ei gartref am 7.15am. Mae’n cyrraedd yr ysgol am 7.30am. Faint o amser mae’n cymryd iddo gerdded i’r ysgol? Gwybodaeth am y llun: Stryd yn Addis Ababa, Ethiopia. Caiff yr ardal hon ei dymchwel cyn hir er mwyn creu lle i godi adeiladau newydd fel yr un yn y cefndir. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Alula Pankhurst

Mae Afework yn mynd allan i chwarae gyda’i ffrindiau am 4.00pm. Mae’n mynd adref i wneud gwaith cartref am 6.30pm. Am faint o amser mae Afework yn chwarae gyda’i ffrindiau? Gwybodaeth am y llun: Chwarae pêl-droed bwrdd y tu allan i gaffi yn Addis Ababa, Ethiopia. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Aida Ashenafi

Mae Harika yn dechrau yn yr ysgol am 9.30am. Mae’r ysgol yn gorffen am 4.00pm. Faint o amser mae Harika yn treulio yn yr ysgol? Gwybodaeth am y llun: Ystafell ddosbarth yn Andhra Pradesh. Mae byrddau du bach yn cael eu defnyddio mewn llawer o ysgolion yn India. Llun gan: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig

Mae Harika yn mynd i’r gwely am 7.30pm. Mae’n codi am 6.00am. Am faint o amser mae’n cysgu? Llun gan: © Bywydau Ifanc/Farhatullah Beig