Hyb Gwybodaeth a Dysgu Cyngor Gofal Cymru

Slides:



Advertisements
Similar presentations
The effectiveness of learner-involvement strategies in further education institutions and Welsh for adults centres Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys.
Advertisements

The effectiveness of learner- involvement strategies in adult community learning and work- based learning Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr.
Wise Cymru a Gweithio tuag at Bartneriaeth Alex Butterworth Swyddog Datblygu Wise Cymru Wise Wales and Working Towards Partnership Alex Butterworth Wise.
Joining in Ymuno Estyn’s report on LEA resource bases, on the site of mainstream schools, for pupils with moderate learning difficulties What we looked.
Technegau Arholiad Gweithdy Sgiliau Astudio Exam Techniques Study Skills Workshop.
Gerry Evans Gwaith Cymdeithasol yn y Dyfodol Social Work in the Future.
Cyflwyno Gofal Cymdeithasol Cymru Introducing Social Care Wales
The Child Protection Register.
EIRIOLAETH – Gwasanaeth Rheoleiddiedig ADVOCACY – A Regulated Service
Llysgenhadon Cymunedol | Community Ambassadors
Brîff 7 Munud - Maethu Preifat Private Fostering 7Minute Briefing
Mae ffrind da i chi’n mwynhau llwytho fideos i’r rhyngrwyd yn rhannu syniadau da ar gyfer Minecraft. Ddoe, aethoch chi i edrych ar ei neges.
Gweithdy ar Sgiliau Astudio
Edrychwch tuag Ynysoedd y Gwynt!
Brîff 7 Munud - Llais y Plentyn Voice of the Child 7 Minute Briefing
Prosiect Adolygu Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan
Gweithdy ar Sgiliau Astudio
Gwella Sgiliau Eiriolaeth
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae nifer o rieni yn cefnogi eu plant i fynychu gweithgareddau amrywiol. Fe allai hyn gynnwys grwpiau chwaraeon megis.
Arolwg Chwaraeon Ysgol ac Arolwg Chwaraeon AB 2015
Llysgenhadon Uwchradd Comisiynydd Plant Cymru
1. BETH YDYW? 1. WHAT IS IT? What is Public Law Outline?
Brîff 7 Munud - Esgeuluso – dysgu o Adolygiadau Achos Neglect- learning from Case Reviews - 7 Minute Briefing.
Canfod Gofalwyr Cymru a Rhoi Cymorth Iddynt
Effective Presentations
Modiwlau eiriolaeth Cyflwyniad a chefndir:
The Communication Cycle Y Cylch Cyfathrebu
SIARAD AM ISELDER. SIARAD AM ISELDER SIARAD AM ISELDER.
Brîff 7 Munud - Diogelwch Ar-lein Online Safety - 7 Minute Briefing
Brîff 7 Munud - Canllawiau ar ddefnyddio tystiolaeth ffotograffig ar gyfer Oedolion mewn Perygl Guidance on the use of photographic evidence for Adults.
CA4 ABaCh - Gwers Un BBC Plant Mewn Angen.
ABCh – Cyfnod Sylfaen Gwers 1
Evaluation Titration Defnyddiwch y cyflwyniad PowerPoint rhyngweithiol hwn i werthu’r agweddau hyn ar Ditradu Cywirdeg mewn Titradau Dull Titradu Dethol.
GWEITHIO UNIGOL Introduction
Cyflwyno’r cefndir. Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ac Arolwg Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol AB 2018.
Beth Yw Briffiau 7 Munud? What Are 7 Minute Briefings?
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol i ymarfer diogelu – mae rhannu gwybodaeth yn wael yn cael ei nodi yn aml fel problem.
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae nifer o Adolygiadau Ymarfer Plant / Achosion Difrifol yn y DU wedi canfod nad yw pobl ifanc yn eu harddegau bob.
Y Continwwm Arweinyddiaeth Dawns ar gyfer Pobl Ifanc
Gwers 12 Dull Ymchwil Cynradd Arall
Sleid i ATHRAWON yn unig
BRIFF 7 MUNUD – 11 Arwydd Rhybudd o Chwarae Triciau Meddyliol (Gaslighting) 11 Warning signs of Gaslighting - 7 MINUTE BRIEFING.
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae cyfrifoldeb ar bob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion i ddiogelu’r plant a’r oedolion hynny. Y ffordd.
HUNAN ESGEULUSTOD – BRIFFIAD 7 MUNUD SELF NEGLECT – 7 MINUTE BRIEFING
TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD
Brîff 7 Munud – Meddwl Beirniadol Critical Thinking 7 Minute Briefing
TRYDAN YN Y GWAITHLE Introduction
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Blynyddoedd Cynnar ABCh Cyfnod Sylfaen Gwers 1
BRIFF 7 MUNUD - Cyngor Rhannu Gwybodaeth i ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau diogelu Information Sharing Advice for practitioners providing safeguarding.
Cacen Pen-blwydd.
Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro newydd am sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn ganolog i’w waith. Keith Towler yw Cadeirydd y Bwrdd. Mae Keith ac.
LLITHRO A BAGLU YN Y GWAITH
Noddir gan / Sponsored by:
Cydraddoldeb rhwng y rhywiau
CA3 – Gwneud Dewisiadau ar gyfer CA4 (2)
Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
ARCHWILIO ADEILADU TAI
Brîff 7 Munud - Goruchwyliaeth Supervision - 7Minute Briefing
Brîff 7 Munud - Arolwg Ysgerbydol Skeletal Survey 7 Minute Briefing
Cyfathrebu gan ddefnyddio iaith briodol i bwrpas a chynulleidfa
Sleid i’r ATHRO yn unig Gwybodaeth am y sleid
Uned 1 Taflen Gymorth/PowerPoint ar Gwestiynau Arholiad
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Prosiect Sgiliau Hanfodol Hyblyg
Y Gynulleidfa Darged.
1. Materion Allweddol 1. Key Issues
BRIFF 7 MUNUD Deddf Galluedd Meddyliol (diwygiad) 2019 Mental Capacity (amendment) Act MINUTE BRIEFING.
Presentation transcript:

Hyb Gwybodaeth a Dysgu Cyngor Gofal Cymru Modiwl 2: Ydw i’n Eiriolwr? Hyb Gwybodaeth a Dysgu Cyngor Gofal Cymru Dylai dysgwyr sy’n cwblhau’r modiwl hwn fod wedi cwblhau’r modiwl cyflwyniadol ar gyfer y cwrs a Modiwl 1 – Beth yw Eiriolaeth…? www.cgcymru.org.uk/hyb-deall-y-ddeddf/

Canlyniadau dysgu ar gyfer y sesiwn hon Erbyn diwedd y sesiwn bydd dysgwyr yn gallu: Adnabod pryd a sut y gallan nhw eu hunain weithredu fel eiriolwyr Deall pam na allan nhw eirioli’n effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd o bosibl NOD: Egluro wrth y dysgwyr beth fydd yn cael ei gwmpasu yn ystod y sesiwn. Caniatáu i’r dysgwyr werthuso’r sesiwn yn seiliedig ar y canlyniadau bwriadedig. HYFFORDDWR: Gofynnwch i’r dysgwyr roi sylwadau ar ganlyniadau dysgu’r sesiwn – A yw hyn yn gydnaws â’r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl? A oes unrhyw beth ar goll yr hoffech ei gwmpasu? Lle y bydd dysgwyr yn dymuno cwmpasu pynciau ychwanegol ystyriwch a fydd hyn yn cael ei gwmpasu yn ystod y sesiwn – os na chaiff ei gwmpasu a fydd yn fwy perthynasol i unrhyw un o’r modiwlau eraill? A ellir ei gynnwys yn y sesiwn hon? Gwybod pa opsiynau amgen sydd ar gael er mwyn sicrhau bod y person yn cael cymorth parhaus os na fyddant yn gallu eirioli’n effeithiol

The Squeaky Wheel I hate to be a kicker, I always long for peace, But the wheel that does the squeaking, Is the one that gets the grease. (Josh Billings, c1870) Cerdd – The squeaky wheel. NOD: Ennyn diddordeb y dysgwyr a chyflwyno’r sesiwn. HYFFORDDWR: Darllenwch y gerdd yn uchel a gofynnwch i’r dysgwyr drafod beth mae’n ei olygu yn eu barn hwy. Eglurwch mai ystyr ‘kicker’ yw rhywun sy’n cwyno neu’n siarad llawer (terminoleg yr UD). Ceisiwch gyfleu’r neges bod yn rhaid i ni leisio barn weithiau er mwyn sicrhau bod pethau’n cael eu hatal/dechrau/newid. Nid oes pawb, am ba reswm bynnag, yn gallu lleisio eu barn heb gael help neu gymorth. Mae eiriolaeth yn helpu’r broses hon a heddiw byddwn yn meddwl am sut/pryd/os ydych yn gweithredu fel eiriolwyr.

Ymarfer 1: Ailedrych ar beth yw eiriolaeth? NOD: Atgoffa dysgwyr o’r hyn y mae’r term eiriolaeth yn ei olygu. HYFFORDDWR: Dosbarthwch gardiau gyda dechrau brawddegau arnynt (Eiriolaeth yw…, Nid eiriolaeth yw…, Rhaid i eiriolwr…). Gofynnwch i’r dysgwyr gwblhau’r frawddeg ar y cerdyn. Gwahoddwch y dysgwyr i rannu eu hatebion a chyflwyno eu hymatebion ar siart troi. (Adnodd 2a)

Beth yw eiriolaeth? Eiriolaeth yw Nid eiriolaeth yw Rhaid i eiriolwr Cynrychioli dymuniadau a theimladau person. Cwnsela. Gael ei arwain gan y person – gwneud yr hyn mae’n gofyn amdano’n unig. Sicrhau bod hawliau’r person yn cael eu bodloni. Gwaith cymorth. Cynrychioli’r hyn a ddymuna’r person, waeth beth yw ei farn ei hun. Cael gafael ar wybodaeth i sicrhau bod y person yn deall y broses. Creu cyfeillgarwch/mentora. Ymgynghori â’r person drwy gydol y broses. Helpu person i ystyried ei opsiynau. Rhoi cyngor i berson ar yr hyn fyddai orau iddo yn eich barn chi. Helpu’r person i ystyried ei holl opsiynau. Mynd i gyfarfod gyda rhywun er mwyn rhoi mwy o hyder iddo. Cynrychioli person yn groes i’w ddymuniadau. Bod â’r amser i gyfrannu cymaint ag y mae’r person yn ei ddymuno. Gwrando ar berson a gweithredu yn ôl ei gyfarwyddyd. Siarad am rywun y tu ôl i’w gefn a gwybod pethau nad yw’r person yn ei wybod. Bod yn gyfeillgar a chadw ffiniau ar yr un pryd. NOD: Cyfuno’r ymarfer blaenorol.

Ymarfer 2: Sut rydyn ni’n helpu eraill i leisio barn a chael eu clywed? 1. Clywed eu stori – egluro’r mater 2. Eu helpu i gael y wybodaeth gywir 8. Creu diweddglo cadarnhaol pan ddaw’r berthynas eiriolaeth i ben 3. Canfod beth yw’r canlyniad o’u dewis 7. Eu helpu i ddeall canlyniadau 4. Eu helpu i ymchwilio i opsiynau yn cynnwys y prosesau sy’n gysylltiedig â phob un 6. Eu helpu i ddweud wrth eraill beth maent yn ei ddymuno NOD: Helpu dysgwyr i ddechrau adnabod sut a phryd maent yn gweithredu fel eiriolwyr yn eu bywydau personol a/neu broffesiynol. HYFFORDDWR: Dywedwch y bydd y dysgwyr wedi gweld y sleid hwn ym modiwl 1 pan oeddent yn meddwl yn wrthrychol am y broses eirioli. Yn y modiwl hwn, defnyddir y broses eirioli i’w helpu i ystyried sut y gallent gyflawni rôl eiriolwr. Dosbarthwch gopïau o’r broses eirioli ar daflenni A3. Mewn parau/grwpiau, gofynnwch i’r dysgwyr ddewis un neu ddau ddatganiad gan nodi ar y daflen enghreifftiau ymarferol o sut/pryd y maent wedi cyflawni pob cam yn eu bywydau personol a/neu broffesiynol. Caiff dysgwyr enghreifftiau i’w cynorthwyo. Efallai y bydd ganddynt un enghraifft sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o’r broses neu efallai y bydd ganddynt lawer sy’n berthnasol ar un neu ddau gam. Anogwch drafodaeth ymhlith y grŵp llawn – ‘Beth oedd eich barn ar hynny?’ ‘Sut rydych chi’n teimlo ynghylch cydnabod eich hun fel eiriolwr posibl?’ ‘A fyddai unrhyw un yn hoffi rhannu rhai o’u henghreifftiau?’ Gall fod yn ddefnyddiol nodi sut mae enghreifftiau sy’n ymwneud â gwahanol sefyllfaoedd yn amlwg ar wahanol gamau o’r broses (e.e. yn aml caiff plant eu cefnogi gan eu rhieni ar gam 1 yna cam 6 a phrin iawn yn y canol). Dylai’r ymarfer hwn ddechrau dangos bod pob dysgwr yn gweithredu fel eiriolwyr mewn rhai ffyrdd. (Adnodd 2b) 5. Eu helpu i benderfynu beth maent yn ei ddymuno, gan gynnwys pob canlyniad posibl

Ailedrych ar fathau o eiriolaeth Eiriolaeth cymheiriaid Gall unigolyn edrych am gymorth ar ffurf eiriolaeth gan rywun sy’n deall ei sefyllfa oherwydd ei fod wedi bod yn y sefyllfa honno neu’n profi amgylchiadau tebyg. Eiriolaeth ffurfiol Mae elfen o eiriolaeth yn perthyn i rai rolau proffesiynol ehangach. Gall y gweithiwr proffesiynol helpu’r unigolyn i fynegi ei safbwyntiau a’i ddymuniadau gan fynegi ei safbwyntiau neu farn broffesiynol ei hun ar wahân. Eiriolaeth anffurfiol Gall unigolyn geisio cymorth ar ffurf eiriolaeth gan rywun mae’n ei adnabod ar sail anffurfiol. Mae’r math hwn o eiriolaeth yn ffurfio rhan o berthynas emosiynol ehangach lle gallai’r eiriolwr fod â’i deimladau cryf ei hun ynghylch yr hyn sydd orau i’r unigolyn. Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol Gall unigolyn geisio cymorth eiriolwr sy’n gyfrifol am ddarparu cymorth annibynnol er mwyn mynegi barn yr unigolyn waeth beth yw ei safbwynt neu ei farn ei hun am y sefyllfa. NOD: Atgoffa dysgwyr o’r mathau o eiriolaeth y gwnaethant ddysgu amdanynt ym Modiwl 1. HYFFORDDWR: Dangoswch y penawdau yn unig a gofynnwch i’r dysgwyr gynnig eu diffiniadau eu hunain o bob un. Datgelwch y penawdau ac eglurwch.

Ymarfer 3: Mathau o eiriolaeth NOD: Cefnogi dysgwyr i adnabod pa fath neu fathau o eiriolwr ydynt. HYFFORDDWR: Gosodwch y pedwar cerdyn sy’n cynnwys y diffiniadau o bob math o eiriolaeth mewn pedair ardal yn yr ystafell. Gofynnwch i’r dysgwyr feddwl am yr enghreifftiau maent wedi’u nodi yn ymarfer 2 a meddwl am y math o eiriolwr ydynt. Gofynnwch iddynt sefyll ger y math o eiriolaeth sy’n fwyaf perthnasol iddyn nhw. Lle y bydd dysgwyr yn uniaethu â mwy nag un math (mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gwneud hyn) gofynnwch iddynt sefyll wrth y math sy’n fwyaf perthnasol iddynt. Gofynnwch i’r dysgwyr egluro pam maent wedi dewis y math hwn o eiriolaeth ac i roi enghraifft o adeg pan wnaethant gefnogi rhywun yn y ffordd hon. Efallai yr hoffech gynnig ail ‘rownd’ lle bydd dysgwyr yn sefyll wrth yr ail fath o eiriolaeth sy’n berthnasol iddynt. Gofynnwch y cwestiwn ‘pa fath o eiriolaeth sydd fwyaf effeithiol?’ – i gysylltu â’r adran nesaf. (Ceisiwch ymestyn yr ymarfer o bosibl i ystyried manteision/anfanteision pob math...?) (Adnodd 2c)

Enghreifftiau o eiriolaeth Eiriolaeth cymheiriaid – dadlau y dylai cydweithiwr gael yr un faint o seibiannau â chi. Eiriolaeth anffurfiol – dadlau bod eich plentyn yn dymuno newid ysgol er mwyn astudio pwnc penodol y mae ganddo ddiddordeb ynddo. Eiriolaeth ffurfiol – dadlau nad yw rhywun rydych yn darparu gofal iddo yn hapus yn ei lety, ar gais yr unigolyn hwnnw. Eiriolaeth broffesiynol/annibynnol – gweithio i wasanaeth eiriolaeth a dadlau dros berson ifanc mewn cyfarfod adolygu. NOD: Cyfuno’r dysgu o’r ymarfer blaenorol. HYFFORDDWR: Darllenwch enghreifftiau ar goedd a chyfunwch yr hyn a ddysgwyd o ymarfer 3.

Ymarfer 4 – Pa fath sydd orau? NOD: Egluro bod gwahanol fathau o eiriolaeth yn addas ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol a dewisiadau personol. Egluro nad ydym bob amser yn gallu bod yn eiriolwr effeithiol. Dechrau archwilio’r rhesymau dros y pethau sy’n cael effaith ar yr uchod. HYFFORDDWR: Bwriad yr ymarfer hwn yw cyfuno’r dysgu am y gwahanol fathau o eiriolaeth ac i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr er mwyn dechrau cyflwyno’r cysyniad o ffiniau – lle y gallai fod angen iddyn nhw dderbyn nad ydynt yn y sefyllfa orau i eirioli o dan rai amgylchiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr edrych ar yr astudiaethau achos mewn grwpiau/parau (dewiswch neu crëwch astudiaethau achos priodol ar gyfer y gynulleidfa) a nodwch eu hymatebion i’r cwestiynau ar ôl pob sefyllfa.

Rhwystrau rhag bod yn eiriolwr effeithiol Nid oes un math o eiriolaeth sydd ‘orau’. Gall y rhesymau pam na allai bob math o eiriolaeth fod yn addas i’r sefyllfa fod: 1) Yn gysylltiedig â’r person sydd angen eiriolaeth 2) Yn gysylltiedig â’r person sy’n darparu’r eiriolaeth o bosibl 3) Yn gysylltiedig â’r mater neu’r sefyllfa NOD: Archwilio ymhellach y rhesymau pam na allant bob amser fod yn eiriolwr effeithiol. HYFFORDDWR: Gofynnwch i’r dysgwyr gynnig rhai enghreifftiau: Cysylltiad emosiynol – os oes gennych gysylltiad emosiynol cryf mae’n anodd peidio â rhoi barn neu gynnig unrhyw fath o annibynniaeth Gwrthdaro buddiannau – mae’n anodd dadlau’n effeithiol yn erbyn system neu berson rydych yn gysylltiedig â hwy drwy fuddiannau eraill (e.e. cyflogwr neu landlord) Baich gormodol – efallai na fydd gennych yr amser na’r egni i fod yn eiriolwr Diffyg hyder/sgiliau – efallai y byddwch yn teimlo na allwch gynnig unrhyw beth yn fwy nag sydd gan y person sy’n gofyn am eiriolaeth yn barod

“Deciding what not to do is as important as deciding what to do” Steve Jobs – Cyd-sefydlydd, Apple Inc. NOD: Ailadrodd pwysigrwydd gwybod a allwch/na allwch eirioli’n effeithiol. Mae bod yn ymwybodol o’ch ffiniau yn allweddol i eiriolaeth. Mae’n hanfodol nad ydym yn darparu eiriolaeth os ydym yn teimlo na allwn wneud hynny neu lle y byddwn yn aneffeithiol. Ble y gallwn edrych am opsiynau amgen fel bod y person yn cael ei gefnogi o hyd?

Rhwystrau rhag eirioli’n effeithiol Bod â chysylltiad personol â’r sefyllfa Prinder amser Ddim yn gallu deall na chyfathrebu â’r person yn llawn Gwrthdaro buddiannau o ran eich sefyllfa eich hun a pheidio â gallu bod yn annibynnol HYFFORDDWR: Nid rhestr derfynol yw hon – dim ond er mwyn rhoi enghreifftiau – ychwanegwch eich enghreifftiau eich hun, sy’n berthnasol i’r dysgwyr.

Beth allwn ni ei wneud os na allwn eirioli? Oes unrhyw un arall mewn rôl debyg a allai eirioli? Oes math arall o eiriolaeth ar gael? Meic – 0808 802 3456 www.meiccymru.org Cyngor ar Bopeth – 0345 404 0506 www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/ Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – 02920 445030 www.olderpeoplewales.com/wl/Home.aspx Comisiynydd Plant Cymru – 0808 801 1000 www.complantcymru.org.uk/ A yw’r person yn gymwys i dderbyn cymorth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol? (Yn benodol i’w sefyllfa) NOD: Gwneud dysgwyr yn ymwybodol o’r llwybrau cymorth posibl. HYFFORDDWR: Mae angen rhywfaint o ymchwil sy’n benodol i’ch cynulleidfa er mwyn rhoi gwybodaeth gyflawn i’r dysgwyr (yn dibynnu ar oedran, sefyllfa, mater ac ati). Ffrind/perthynas arall mewn sefyllfa well? Gweithiwr proffesiynol mewn sefyllfa i gynnig eiriolaeth? Meic – llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Cyngor ar Bopeth – cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim i bawb ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Comisiynydd Pobl Hŷn – llais annibynnol a hyrwyddwr pobl hŷn ledled Cymru, yn dadlau drostynt ac yn lleisio barn ar eu rhan. Comisiynydd Plant – yn siarad o blaid plant a phobl ifanc gyda’r nod o sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu a’u lleisiau’n cael eu clywed. Eiriolaeth Broffesiynol?

Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol Mae’n rhaid i awdurdodau lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol ar gyfer person nad yw’n gallu goresgyn y rhwystr(au) i gymryd rhan yn llawn… heb gael cymorth gan unigolyn priodol, ond nad oes unigolyn priodol ar gael. NOD: Egluro dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas ag eiriolaeth. Mewn rhai amgylchiadau, rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth eirioli. Gall dysgwyr gael mwy o wybodaeth am y Côd Ymarfer ar Ran 10 Eiriolaeth yn http://gov.wales/docs/dhss/publications/151218part10cy.pdf

Canlyniadau dysgu ar gyfer y sesiwn hon Erbyn diwedd y sesiwn bydd dysgwyr yn gallu: Adnabod pryd a sut y gallen nhw eu hunain weithredu fel eiriolwyr Deall pam na allant eirioli’n effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd o bosibl Gwybod pa opsiynau amgen sydd ar gael er mwyn sicrhau bod y person yn cael cymorth parhaus os na fyddant yn gallu eirioli’n effeithiol NOD: Egluro wrth y dysgwyr beth y bwriadwyd ei gyflawni yn ystod y sesiwn. Caniatáu i ddysgwyr werthuso’r sesiwn yn seiliedig ar y canlyniadau bwriadedig. HYFFORDDWR: Gofyn i ddysgwyr roi sylwadau ar y canlyniadau dysgu ar gyfer y sesiwn – a gafodd y rhain eu cyflawni yn eu barn hwy? Gofyn i’r dysgwyr gwblhau gwerthusiad.