Mae “Cymwys am Oes – cynllun gwella addysg ar gyfer dysgwyr 3-19 oed yng Nghymru” yn datgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi safonau, ac yn egluro’r.

Slides:



Advertisements
Similar presentations
Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion Best practice in leadership development in schools.
Advertisements

Y Cyd-destun Cenedlaethol The National Context Graham Davies Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr Support for Learners Division
Cynhadledd a Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd : Rhai agweddau ar recriwtio The Welsh Language in Healthcare – Conference and Awards Some recruitment.
Arfer effeithiol o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion cynradd Effective practice in improving attendance in primary schools.
Learner support services for pupils aged Gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar gyfer disgyblion oed.
Numeracy in key stages 2 and 3 a baseline study Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: astudiaeth gwaelodlin.
The effectiveness of learner-involvement strategies in further education institutions and Welsh for adults centres Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys.
The effectiveness of learner- involvement strategies in adult community learning and work- based learning Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr.
Prosiect Peilot Seminarau Addysgu Darpar Athrawon Student Teacher Seminar Pilot Project.
Cynllun Datblygu Ysgol Gofynion Statudol o Fedi 2015 School Development Plan Statutory Requirements from September 2015.
Supporting NHS Wales to Deliver World Class Healthcare Agwedd Integredig i Gynllunio Gweithlu An Integrated Approach to Workforce Planning (Rheolwraig.
Arolwg rhanbarthol Estyn regional inspection 2016 Briefing note 1 Nodyn briffio 1 1/7/15.
Adroddiad Blynyddol (Colegau arbenigol annibynnol) Annual Report (Independent specialist colleges)
Arferion Dysgu ac Addysgu Effeithiol Effective Practice in Learning and Teaching Ffocws ar Addysgeg A Focus on Pedagogy.
Adroddiad Blynyddol (Dysgu yn y sector cyfiawnder) Annual Report (Learning in the justice sector)
Adroddiad Blynyddol (Lleoliadau i blant o dan bump oed) Annual Report (Settings for children under five)
Cymorth a chydweithio rhwng ysgolion School-to-school support and collaboration.
Joining in Ymuno Estyn’s report on LEA resource bases, on the site of mainstream schools, for pupils with moderate learning difficulties What we looked.
Strategaeth Gofal Cychwynnol a Chymuned Primary & Community Care Strategy Datblygu Gweithio mewn Cymdogaethau ar Draws Gogledd Cymru Developing Locality.
Gerry Evans Gwaith Cymdeithasol yn y Dyfodol Social Work in the Future.
Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol Working together to tackle the impact of poverty on educational achievement.
Adroddiad Blynyddol (Addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon) Annual Report (Initial teacher education and training)
Ann Keane Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Her Majesty’s Chief Inspector of Education & Training in Wales.
HMS Consortiwm Consortium INSET
Gweithdy 8 Workshop 8 Fframwaith Arolygu newydd Estyn – y Gwersi Cynnar a Ddysgwyd New Estyn Inspection Framework – Early Lessons Learnt Jackie Gapper.
Employability Delivery Plan for Wales
Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch Higher Level Teaching Assistants
Brîff 7 Munud - Maethu Preifat Private Fostering 7Minute Briefing
Arolygiad Rhanbarthol Estyn Regional Inspection
A VISION FOR SPORT IN WALES GWELEDIGAETH AR GYFER CHWARAEON YNG NGHYMRU Activating Future Generations / Gwneud Cenedlaethau’r Dyfodol yn Egnïol.
Prosiect Adolygu Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan
Cynhyrchu ar y Cyd nid Cynhyrchu Ffug
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae Grŵp Hawliau'r Teulu, mewn partneriaeth gyda Nuffield Foundation wedi cynnal adolygiad i ystyried y canlynol: archwilio’r.
1. BETH YDYW? 1. WHAT IS IT? What is Public Law Outline?
Hysbyseb Swydd Ysgol Llanhari Rheolwr Busnes a Safle
Canfod Gofalwyr Cymru a Rhoi Cymorth Iddynt
Building a better wales- lessons from Europe on skills and resilience.
CAM-DRIN DOMESTIG YR HENOEDBRIFFIAD – 7 MUNUD ELDER DOMESTIC ABUSE
Gwella cyraeddiadau, cyflawniadau
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae gan bob gweithiwr proffesiynol ddyletswydd statudol i gynorthwyo’r gwaith o atal terfysgaeth. Y prif nodau yw atal.
Adeiladu Gweithlu'r Dyfodol
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae cyfrifoldeb ar bob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion i ddiogelu’r plant a’r oedolion hynny. Y ffordd.
Arolygiad Estyn o’r Rhanbarth Estyn Inspection of the Region
Adroddiad Blynyddol (Sefydliadau addysg bellach) Annual Report (Further education institutions)
Ynglŷn ag Estyn Estyn yw swyddfa Prif Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n annibynnol ar, ond yn cael ei ariannu gan Gynulliad.
Fframwaith Perfformiad 2016/17 Performance Framework 2016/17
BRIFF 7 MUNUD - Cyngor Rhannu Gwybodaeth i ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau diogelu Information Sharing Advice for practitioners providing safeguarding.
Education Other Than At School: a good practice survey
Gweledigaeth ac athroniaeth: Mynediad i’r cwricwlwm i bawb
Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC
Trosolwg o Gyfarfod Cyntaf y Grŵp Rhanddeiliaid Ardal Leol
Adroddiad Blynyddol (Dysgu yn y system gyfiawnder) Annual Report (Learning in the justice system)
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
Brîff 7 Munud - Goruchwyliaeth Supervision - 7Minute Briefing
Adroddiad Blynyddol (Unedau cyfeirio disgyblion) Annual Report (Pupil referral units)
Anelu at Ragoriaeth Marian Jebb Marilyn Wood Ansawdd a Rheoli Data Ôl-16 Hydref 2014.
Pa mor dda y caiff setiau data craidd Cymru gyfan eu defnyddio i lywio hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella? How well are the all-Wales core data.
Trosolwg o’r Polisi Strategol
Sicrhau rhagoriaeth mewn dysgu seiliedig ar waith Marian Jebb / Marilyn Wood Tîm Ansawdd a Rheoli Data Ôl-16 Hydref 2015.
Adroddiad Blynyddol (Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc) Annual Report (Local authority education services.
Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth
Cynhadledd Cymraeg Ail-Iaith Caerdydd.
Rheoli Arian Managing Money
Welsh in Education Strategic Plans Title Welsh point 45
Cyflwyniad i’r Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol
Cyflwyniad i’r Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol
Prosiect Sgiliau Hanfodol Hyblyg
Sut mae lleoedd dros ben yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i wario ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion? How do surplus places affect the resources.
Adroddiad Blynyddol (Ysgolion arbennig a gynhelir) Annual Report (Maintained special schools)
Adroddiad Alcohol Change UK– Dysgu o drychinebau – BRIFF 7 MUNUD The Alcohol Change UK report – ‘Learning from tragedies’ 7 MINUTE BRIEFING.
Presentation transcript:

Cynllun Rhanbarthol GwE ar gyfer Codi Cyrhaeddiad PMG mewn Ysgolion Ebrill 2015 – Mawrth 2017

Mae “Cymwys am Oes – cynllun gwella addysg ar gyfer dysgwyr 3-19 oed yng Nghymru” yn datgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi safonau, ac yn egluro’r weledigaeth y bydd “pob dysgwr yn mwynhau dysgu sy’n eu hysbrydoli i lwyddo”

Mae GwE, ynghyd â chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru fel rhan o’u rôl fel rhieni corfforaethol, yn rhannu’r amcan hwn – bod pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo’u cefndir a’u man cychwyn mewn bywyd, yn elwa ar addysgu a dysgu rhagorol

Rhan o strategaeth rhianta corfforaethol yr awdurdodau lleol yw sicrhau bod cynllun priodol yn ei le er sicrhau bod pob Plentyn sy’n Derbyn Gofal yn gwireddu ei botensial

Mae tystiolaeth glir sy’n dangos nad yw’r system addysg genedlaethol yn llwyddo i gefnogi plant sy’n derbyn gofal (PMG) yn effeithiol. Fel grŵp, cânt brofiadau anfoddhaol ac o ganlyniad i hyn mae cyfraddau eu cyrhaeddiad addysgol yn sylweddol is na chyfraddau cyrhaeddiad plant eraill yn y prif lif.

Dywed Estyn y bu peth cynnydd mewn ysgolion yng Nghymru o ran cefnogi PMG i gyflawni eu potensial academaidd, ond bach yw’r effaith ac mae angen cyflymu’r gwelliant

Arferai cyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion, sy’n anelu at gefnogi addysg PMG, gael ei ddyrannu yn uniongyrchol i ysgolion ar sail swm penodedig o arian fesul disgybl, gyda’r cyllid yn dilyn y dysgwr. Mae LlC, AauLl ac ysgolion o’r farn nad yw hyn yn effeithiol o ran cyflwyno tystiolaeth o wella deilliannau addysgol. Cred LlC fod angen gweithio mewn dull mwy cyfannol a strategol wrth ddyrannu cymorth ariannol.

O Ebrill 2015, ailgyfeiriwyd dyraniad cyllid y GAD i’r consortia addysg rhanbarthol gan llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am sicrhau bod cefnogaeth sydd wedi’i thargedu yn cael effaith go iawn sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyrhaeddiad addysgol plant PMG

Mae gennym amcanion strategol o’r lefel uchaf i yrru’r agenda hon a darparu fframwaith ar gyfer gweithredu yn y dyfodol, sydd yn: Codi dyheadau a chyrhaeddiad addysgol PMG a gallu’r rhai hynny sy’n gofalu amdanynt i gefnogi eu datblygiad addysgol;   Atgyfnerthu cyd-atebolrwydd ac arweinyddiaeth effeithiol ar draws Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch gyda golwg ar ddeilliannau addysgol PMG

Gwneud addysg yn flaenoriaeth ac yn bwynt ffocws, yn enwedig yn ystod y cyfnodau anodd ac ansicr hynny sy’n gallu digwydd ym mywyd PMG;   Adnabod data sydd yn gymorth gydag arfer, creu polisiau a monitro deilliannau addysgol; Sicrhau bod arfer ragorol yn cael ei hadnabod, ei hybu a’i rhannu

Mae ein cynllun rhanbarthol ar gyfer codi cyrhaeddiad PMG yn ein hysgolion yn seiliedig ar ddogfen ymgynghori LlC – Codi uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru – a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015. Rhoddir ystyriaeth hefyd i Adroddiad Blynyddol diweddaraf Estyn a’r canfyddiadau o ran arfer orau mewn ysgolion yng Nghymru

O ganlyniad, mae GwE a’r awdurdodau lleol wedi ymrwymo i: Adnabod y camau ymarferol sy’n angenrheidiol i oresgyn rhwystrau cyflawni a’u gweithredu Herio tanberfformiad yn gadarn Sicrhau eglurder ac aliniad o ran disgwyliadau allweddol ym maes cefnogi PMG Rhannu arfer dda a sicrhau bod y dehongliad o ganllawiau presennol yn gyson ar draws y rhanbarth Sicrhau bod deilliannau yn cael eu monitro yn well ar gyfer cyllid sy’n cefnogi PMG

Mae GwE, ar y cyd â’r cydlynwyr PMG o bob Awdurdod, yn goruchwylio a chydlynu’r cynllun rhanbarthol ac mae pawb yn cydweithio fel grŵp. Mae tair lefel o gefnogaeth ar gyfer PMG y rhanbarth:   Datblygu agwedd ysgol-gyfan Datblygu agwedd ysgol-i-ysgol Agwedd sy’n unigryw i’r unigolyn, pan fo angen

1. Datblygu agwedd ysgol-gyfan Mae Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2013-14, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015, yn datgan bod y nodweddion a ganlyn yn gyffredin i ysgolion sy’n cefnogi dysgwyr bregus yn effeithiol , gan gynnwys PMG: Gweithredir ystod o ddulliau a strategaethau yn yr ysgol - nid ‘un ateb sy’n addas i bawb’ Mae cysondeb mewn dulliau gweithredu ar draws yr ysgol – mae’r holl staff, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu a goruchwylwyr amser cinio, yn wybodus ac yn gallu cefnogi dysgwyr bregus yn briodol Mae gan un aelod o staff gyfrifoldeb arweiniol dros ddysgwyr bregus, sy’n gallu hyfforddi a chefnogi cydweithwyr ar draws yr ysgol yn ogystal â bod yn gyswllt cyntaf ar gyfer y dysgwyr eu hunain

Mae ein cynllun yn ymgorffori’r athroniaeth hon drwy gyflwyno rhaglen o hyfforddiant ysgol-gyfan ar ymyriadau sydd â hanes o fod yn rhai llwyddiannus Rydym yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau gan gynnwys y gwasanaethau ieuenctid yn yr AauLl er sicrhau mynediad cyfartal i arlwy cynhwysfawr o hyfforddiant ar gyfer pob ysgol sydd â PMG wedi’u cofrestru ar eu llyfrau Rydym yn sicrhau bod cyfleodd dysgu proffesiynol penodol ar reoli ymddygiad heriol ac adnabod anghenion plant sy’n dioddef o drawma a materion sy’n ymwneud ag ymlyniad

Manteision yr agwedd hon yw: rhaglen gymorth sy’n fwy cynaliadwy mewn ysgolion. Trwy uwchsgilio staff i ddefnyddio’r strategaethau mwyaf effeithiol i gefnogi PMG yn eu hysgol, gellir parhau â hyn pan ddaw cyllid y grant i ben. rhaglen gymorth sy’n ymestyn yn ehangach oddi mewn i ysgolion. Bydd dysgwyr bregus eraill yn elwa ar y strategaethau a ddefnyddir, nid yn unig PMG – e.e. plant wedi’u mabwysiadu, ceiswyr lloches.

2. Datblygu agwedd ysgol-i-ysgol   Mae cydweithio rhwng ysgolion wrth wraidd blaengareddau cenedlaethol diweddar, ac mae’n rhan annatod o Gynllun Busnes presennol GwE. Rydym yn cydnabod bod gan nifer o ysgolion arfer effeithiol ac rydym yn awyddus i ddefnyddio hyn i gefnogi ysgolion eraill yn y rhanbarth a thu hwnt. Mae gan gydlynwyr PMG o bob Awdurdod ran bwysig mewn adnabod hyn, tra bo rôl GwE yn cynnwys hwyluso rhannu’r arfer orau hon ar lefel ranbarthol. Mae’r dull gweithredu yr Ysgolion Cyd-arweiniol yn cael ei ymestyn i gynnwys arfer effeithiol mewn strategaethau ysgol-gyfan i gefnogi PMG, ac mae cyllid yn cael ei ddyrannu yn briodol i’r Ysgolion Cyd-arweiniol weithredu fel hybiau i gefnogi ysgolion eraill yn y rhanbarth.

Cydlynwyr PMG o bob Awdurdod sy’n parhau i ddatblygu a chefnogi rhwydweithiau is-ranbarthol , a bydd y rhain yn fforymau i rannu arfer effeithiol ymhellach yn ogystal â bod yn gymorth i ymarferwyr sy’n gweithio mewn ysgolion. Mae hyn hefyd wedi’i alinio efo’r dull gweithredu y cytunodd chwe ALl Gogledd Cymru arno ar gyfer cyflawni’r Model Cenedlaethol – h.y. arweinyddiaeth a chydlynu rhanbarthol yn cefnogi cyflawni yn lleol.

3. Agwedd sy’n unigryw i’r unigolyn, pan fo angen Mae angen cefnogaeth arbenigol mewn maes arbennig ar rai PMG , neu’r rhai sy’n elwa ar gael cyfleoedd penodol i ddatblygu eu potensial addysgol ymhellach. Credwn ei bod yn bwysig bod hyblygrwydd yn ein cynllun i ddarparu ar gyfer anghenion o’r fath. Felly, mai swm o arian y cytunwyd arno yn cael ei gadw gan bob Awdurdod Lleol unigol ar wahân er mwyn ei neilltuo i achosion o’r fath. Rhoddir blaenoriaeth i PMG Blwyddyn 6 a Blwyddyn 11 i hwyluso eu trosglwyddiad i gam nesaf eu taith addysgol. Bydd pob achos yn cael sylw’r grŵp Cydlynwyr PMG rhanbarthol, a fydd yn trafod ac yn ymateb yn briodol yn unol ag angen; bydd hwn, o’r herwydd, yn gweithredu fel panel cymedroli rhanbarthol.

Mae’r cynllun yn cael ei fonitro gan: Monitro’r cynllun rhanbarthol  Mae’r cynllun yn cael ei fonitro gan: Gydlynwyr PMG ym mhob Awdurdod, a fydd yn parhau yn eu rôl bresennol o fonitro’r ddarpariaeth a deilliannau pob PMG yn eu ALl eu hunain Ymgynghorwyr Her GwE, fel rhan o’u rôl yn monitro a herio perfformiad ysgol a darpariaeth. Maent yn sicrhau bod targedau heriol priodol yn cael eu gosod ar gyfer PMG, yn unol â photensial Cydlynydd PMG pob Awdurdod, ynghyd ag arweinydd strategol GwE ar gyfer tlodi a difreintedd a ’r arweinydd strategol rhanbarthol Maent yn cyfarfod yn rheolaidd fel y grŵp monitro rhanbarthol i adolygu’r cynnydd yn erbyn deilliannau â tharged y cynllun Bydd adroddiadau yn cael eu cyflwyno yn rheolaidd i UDA GwE, y Bwrdd Rheoli, y Grŵp Defnyddwyr a’r Cyd-bwyllgor yn ogystal â LlC. Bydd Bwrdd Rheoli GwE wedyn yn rhannu’r adroddiadau cynnydd â grwpiau strategol rhianta corfforaethol yr Awurdodau.