Gweledigaeth ac athroniaeth Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn gysylltiedig o’u hanfod, ac mae’r maes yn cynnwys dylunio a thechnoleg, peirianneg, cyfrifiadureg, bioleg, cemeg a ffiseg. Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gofyn am gael fframwaith cydlynol ar gyfer dysgu ar draws y meysydd traddodiadol, gan adlewyrchu anghenion y byd go iawn. Mae cysyniadau sylfaenol gwyddoniaeth a meddwl cyfrifiadurol yn galluogi cynnydd technolegol. Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cefnogi cynnydd o fewn ac ar draws arbenigeddau pynciol ac yn paratoi dysgwyr i ddefnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg yn eu bywyd bob dydd. A ellid trefnu gwyddoniaeth ar wahân i ddylunio a thechnoleg a chyfrifiadureg, gan greu seithfed maes dysgu a phrofiad? A fyddai cyfrifiant yn cyd-fynd yn well â Mathemateg a Rhifedd? Cwestiynau anodd, yn arbennig am fod Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn ei hanfod, yn faes dysgu eang, ac sy'n tyfu. Er hynny, at ei gilydd, mae Dyfodol Llwyddiannus yn argymell y dylid eu trefnu gyda'i gilydd yn y ffordd hon oherwydd y cysylltiadau annatod rhwng y meysydd pwnc traddodiadol ac, mewn rhai agweddau, hanesyddol hyn. Mae hyn hefyd yn amlwg o ran y ffordd y mae datganiadau yr hyn sy'n bwysig yn rhyngweithio, ond cawn drafod hynny maes o law. Yr hyn sy'n bwysig yma yw na ddylai'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm – na'r dysgu a'r addysgu dilynol – gychwyn o'r farn bod y rhain yn 'seilos' ar wahân a phenodol yn y maes dysgu a phrofiad hwn. Mae gwaith datblygu cydweithredol ac ystyried yr hyn sy'n bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn hanfodol er mwyn i'r maes dysgu a phrofiad hwn weithio'n effeithiol fel agwedd allweddol ar addysg. Mae profiadau drwy ddylunio, darganfod ac arloesi yn creu chwilfrydedd a chreadigrwydd, a all arwain at ddysgu dwfn. Mae uno gwyddoniaeth a thechnoleg yn faes dysgu yn hwyluso proses ystyrlon, gydweithredol a chydlynol o ddatblygu'r cwricwlwm lleol. Gall yr ymagwedd gydweithredol honno at y cwricwlwm arwain at ddysgwyr sy'n ymddiddori'n fwy yn eu dysgu a gwell profiadau dysgu.
Y sail resymegol dros newid Mae ffiniau gwyddoniaeth a thechnoleg yn newid yn barhaus. Rheidrwydd economaidd – cyfleoedd anferth i ddysgwyr. Mae angen i ddysgwyr ymateb i heriau a chydio yng nghyfleoedd yr unfed ganrif ar hugain, beth bynnag fo’u dewis o ran gyrfa. Nid yw’r gwaith presennol o baratoi dysgwyr yn ddigonol i ddiwallu’r anghenion. Mae angen gwybodaeth a sgiliau – y cwbl wedi’u rhoi mewn cyd-destun drwy brofiadau. Mae angen pobl sy’n creu technoleg ac yn ei ddefnyddio i greu, yn hytrach na defnyddwyr cymwys yn unig – dyma pam mae angen dealltwriaeth gysyniadol o gyfrifiannu. Mae Dyfodol Llwyddiannus yn cyflwyno achos cymhellol dros newid. Hefyd, mae nifer o ymarferwyr – o’r sector cynradd ac uwchradd – wedi codi pryderon ynghylch trefniadau'r cwricwlwm presennol. Mae gwell gwybodaeth am y byd, a dealltwriaeth ohono, drwy wyddoniaeth a thechnoleg, yn rhan bwysig o'n diwylliant a'n heconomi. Ac mae yna bwysau economaidd arnom i feithrin mwy o wybodaeth a sgiliau STEM yng Nghymru, yn ogystal â ledled y DU. Mae astudio pynciau STEM yn sicrhau bod cyfle gwell i gael swydd sy'n rhoi boddhad, a gwell cyflog, a hynny ar draws yr ystod gallu. Gall y canfyddiadau hyn o ran pynciau STEM (gan gynnwys stereoteipio rhywiol – sy'n werth ei nodi) ddechrau o oedran cynnar iawn, felly mae'n hanfodol ein bod yn cynnwys pob dysgwr mewn gwyddoniaeth a thechnoleg o oed cynnar. Beth allai fod yn fwy cyffrous a chymhellol na dysgu amdanom ni ein hunain a'r byd o'n cwmpas? Ond mewn byd lle mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn datblygu'n gyflym, a mwy a mwy o wybodaeth yn cael ei chyflwyno fel ffaith, mae'n hollbwysig hefyd ein bod yn sicrhau dealltwriaeth sylfaenol o wyddoniaeth a thechnoleg. Mae angen i ni sicrhau bod gan bob dysgwr y sgiliau sydd eu hangen arno – ni waeth a fydd yn ymgymryd â dysgu pellach neu'n dilyn gyrfa sy'n gysylltiedig â STEM – er mwyn iddo allu ffynnu a goroesi mewn byd sy'n cael ei lywio gan wyddoniaeth a thechnoleg. Mae PISA a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a chymaryddion eraill (e.e. gwybodaeth am y farchnad lafur, asesiadau o anghenion sgiliau, data am gynnydd dysgwyr) hefyd yn nodi'r angen i bobl ifanc feddu ar ddealltwriaeth well o wyddoniaeth a thechnoleg. Mae'r cwestiynau am wyddoniaeth mewn profion PISA yn mynnu llythrennedd da – ac yn edrych ar sgiliau meddwl yn feirniadol ac yn gyd-destunol – ond mae PISA hefyd yn gofyn am sylfaen dda o wybodaeth wyddonol. Mae angen i chi feddu ar sylfaen wybodaeth dda er mwyn meddwl yn feirniadol. Ni ddylai fod yna ddadl o ran a yw hwn yn gwricwlwm 'sgiliau' ynteu 'wybodaeth' – mae hynny'n ddeuoliaeth ffug. Mae angen Gwyddoniaeth a Thechnoleg, fel ei gilydd, ac mae profiadau bywyd go iawn yn helpu'r dysgwyr i gyd-destunoli'r dysgu ac i gydnabod ei werth. Mae angen corff cydnabyddedig o wybodaeth ac amrywiaeth o sgiliau yma – y dylid eu meithrin o'r blynyddoedd cynnar hyd at 16 oed.
Sut mae’n wahanol? Mae cyfrifiannu yn elfen newydd ar gyfer 3 hyd 16 oed. Dulliau addysgu drwy dywys, sy’n cael eu harwain gan ddysgwyr, a dysgu ‘thematig’. Gwell cydbwysedd rhwng caffael gwybodaeth a datblygu sgiliau drwy ddefnyddio profiadau dysgu yn y byd go iawn. Mae’n debygol y bydd gofyn defnyddio dulliau amlddisgyblaethol. Proses bontio sy’n fwy esmwyth – gyda gwell eglurdeb o ran yr hyn sydd wedi’i ddysgu’n barod ac ynghylch y camau nesaf. Dysgu yn yr awyr agored i gyfoethogi’r profiad dysgu. Pwyslais ar effaith gwyddoniaeth a thechnoleg ar fywydau dysgwyr ac ar yr amgylchedd. Mae cyfrifiant yn faes newydd i ddiwallu anghenion diwylliant ac economi sy'n newid yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n ymestyn y tu hwnt i gymhwysedd digidol, ond nid yw'n ei ddisodli. Mae cymhwysedd digidol yn parhau i fod yn gyfrifoldeb trawsgwricwlaidd. Nid yw cyfrifiant yn enw newydd ar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) na meddwl cyfrifiadurol – bydd yn adeiladu ar y ddealltwriaeth gyd-destunol y mae ar ddysgwyr ei hangen er mwyn dod yn grewyr technoleg, a thrwyddi. Drwy sicrhau ffocws ar gysyniadau dylai'r cwricwlwm cenedlaethol allu parhau'n gyfredol yn y maes cymdeithasol hwn sy'n newid yn gyflym. Mae dysgu arbrofol effeithiol o 3 i 16 oed yn ystyried yr arferion da a sefydlwyd yn y Cyfnod Sylfaen a'u hehangu ar draws y continwwm. Mae dysgwyr yn cyfrannu'n fwyaf effeithiol at eu dysgu pan fo'r proffesiynoldeb a'r arbenigedd yn sicrhau bod dilyniant a manwl gywirdeb yn allweddol i'w gweithgareddau. Mae'n cynnig dull mwy cyfannol wrth weithio'n thematig – gall datblygu'r cwricwlwm sicrhau profiad dysgu cyfoethog. Fodd bynnag, mae lle o hyd i addysgu arwahanol mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg – felly hefyd addysgu arbenigol yn ddiweddarach mewn dysgu. Mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng dulliau addysgu arwahanol a thematig (gweler y 12 egwyddor addysgegol yn Dyfodol Llwyddiannus). Nid yw rhai o'r llinynnau cynnydd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn dechrau ar Gam cynnydd 1 na 2. Gall camau cynnar osod sylfeini dysgu cadarn tuag at gysyniadau diweddarach mwy cymhleth, ond caiff rhai eraill eu cyflwyno pan fo hynny'n briodol i ddatblygiad y dysgwyr. Caiff profiadau dysgu dilys eu hategu gan gysylltiadau â'r gymuned leol, diwydiant, busnesau a sefydliadau perthnasol eraill. mae cysylltiadau o'r fath yn cynnig manteision i'r ysgol gyfan, ond yn arbennig i Wyddoniaeth a Thechnoleg. Yn yr un modd, mae'n hanfodol bod dysgwyr yn cael cyfle i feithrin eu dealltwriaeth weithdrefnol a'r sylfaen wyddonol ar gyfer ystyried goblygiadau ein gweithredoedd ar ein gilydd ac ar y byd.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg Anogir y dysgwyr i fod yn chwilfrydig ac i chwilio am atebion, er mwyn eu helpu i wella eu dealltwriaeth o’r byd naturiol, ac i hwyluso cynnydd cymdeithas. Bydd dysgwyr yn dod i werthfawrogi bod meddylfryd dylunio a pheirianneg yn ymdrechion technegol a chreadigol, a’u bwriad yw diwallu anghenion cymdeithas. Bydd dysgwyr yn archwilio’r modd y mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi. Daw dysgwyr i ddeall natur atomig mater a’r modd y mae’n llywio’r byd. Bydd dysgwyr yn archwilio’r modd y mae grymoedd ac egni yn pennu strwythur a dynameg y bydysawd. Bydd dysgwyr yn profi sut mae cyfrifiant yn cymhwyso algorithmau at ddata er mwyn datrys problemau go iawn. Mae datganiadau yr hyn sy'n bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn egluro prif bwyslais yr addysgu, ynghyd â goblygiadau'r addysgeg dan sylw. Mae'r datganiad cyntaf – sy'n ymdrin â chwilfrydedd a'r broses o chwilio am atebion, ynghyd â goblygiadau Gwyddoniaeth a Thechnoleg – wedi'i gynllunio i fod yn rhan annatod o holl ddatganiadau eraill yr hyn sy'n bwysig. Hefyd, mae nifer o gysylltiadau rhwng datganiadau yr hyn sy'n bwysig yn y maes dysgu a phrofiad hwn – yn ogystal ag ar hyd a lled y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a hynny'n fwriadol. Mae'n allweddol bod y modd yr eir ati i gynllunio'r cwricwlwm ar lefel yr ysgol yn ystyried holl ddatganiadau yr hyn sy'n bwysig, yn hytrach na'u hystyried ar wahân, neu fel seilos dysgu. Wrth gasglu adborth ar datganiadau yr hyn sy'n bwysig gan ymarferwyr o feysydd dysgu a phrofiad eraill ym mis Ionawr 2019, nodwyd y canlynol. Eu bod yn hoffi eglurder a hygyrchedd chwech o ddatganiadau yr hyn sy'n bwysig – a oedd yn darparu rhesymeg dda dros agweddau ar y dysgu a ffocws ar gyfer datblygu'r cwricwlwm. Eu bod yn hoffi'r 'dull llinynnau' (caiff cynnydd ym mhob un o feysydd yr hyn sy'n bwysig ei rannu'n 'llinynnau' dysgu ar draws y camau cynnydd) gan eu bod yn nodi cynnydd o ran y dysgu a chymorth defnyddiol i athrawon. Eu bod yn hoffi'r cysylltiadau a wnaed â'r meysydd dysgu a phrofiad eraill. Eu bod yn hoffi'r ffaith bod angen defnyddio'r holl ddatganiadau gyda'i gilydd er mwyn iddynt fod yn ystyrlon. Eu bod yn hoffi'r modd y caiff ystyr a dealltwriaeth eu hychwanegu at gynnwys – a'r modd y gellir eu cymhwyso ar draws meysydd amlddisgyblaethol.
Sut y gwnaethom ni gyrraedd yma? Dull gweithredu Gweithio ac ymchwilio ar y cyd i greu a threialu gwahanol syniadau; cael llawer o gyngor arbenigol. Bu arbrofi gyda dull thematig yn defnyddio pynciau traddodiadol mewn pum datganiad bras yr hyn sy’n bwysig yn cyfyngu ar gynnydd a chyfleoedd i arbenigo yn nes ymlaen. Mae’r dull y cytunwyd arno’n seiliedig ar egwyddorion o ‘Big Ideas in Science’. Y canlyniad y cytunwyd arno yw chwe datganiad yr hyn sy’n bwysig sy’n gydgysylltiedig ac sy’n fwy hygyrch i bob athro, gan hwyluso dysgu â chwmpas eang a dysgu arbenigol. Arbrofwyd â nifer o fersiynau o ddatganiadau yr hyn sy’n bwysig o fewn y Grŵp Arloesi – proses anodd, gyda thystiolaeth a mewnbynnau gwahanol, ac, weithiau, croes i’w gilydd yn cael eu darparu. Mae penderfyniadau cytbwys wedi cael eu gwneud, gan gadw'n driw i weledigaeth Dyfodol Llwyddiannus, gyda datganiadau yr hyn sy'n bwysig dilynol yn cael eu croesawu gan ymarferwyr arloesi nad ydynt yn addysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg a ystyriodd y fersiynau cyn i'r drafftiau gael eu cyhoeddi. Cafwyd llawer o adborth cadarnhaol gan grwpiau ehangach hefyd, yn ogystal â'r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu. Mae'r camau cynnydd bellach yn llawer cliriach yn strwythur cyfredol y maes dysgu a phrofiad nag yr oeddent mewn fersiynau blaenorol o ddatganiadau yr hyn sy'n bwysig. Nid oedd y dulliau gweithredu cynnar hynny'n darparu'r eglurder (na'r sylw) o ran cysyniadau allweddol Gwyddoniaeth a Thechnoleg – sy'n sail i waith ar gynnydd. Mae'n werth nodi nad yw'r datganiadau yr hyn sy'n bwysig hynny sy'n ymwneud â 'maes' penodol yn cynnwys yr holl bynciau traddodiadol; maent yn ddetholus o ran yr hyn a ystyrir yn hanfodol ar gyfer cynnydd mewn cysyniadau allweddol. Maent yn rhoi sylw i hanfod 'yr hyn sy'n bwysig' wrth ddysgu. Mae ysgolion yn rhydd i fynd y tu hwnt i hynny os ydynt yn dymuno, and gallai fod yn well ganddynt greu mwy o 'le' ar gyfer dealltwriaeth gysyniadol ddyfnach yn y meysydd a gyflwynir, a mynd ati'n raddol i ddatblygu 'ystwythder' y dysgwyr i drosglwyddo'u dysgu i gyd-destunau ehangach. Bu gwaith Yr Athro Wynne Harlen ar 'Big Ideas of Science Education' yn ddylanwadol iawn – gan arwain at ddefnyddio datganiadau yr hyn sy'n bwysig i drefnu'r cwricwlwm cyfan. Hefyd, ei hymagwedd hi at wyddoniaeth oedd y cysyniad a fabwysiadwyd gan y maes dysgu a phrofiad i gael rhagor o ddatganiadau penodol o ran parth mewn perthynas â gwyddoniaeth a thechnoleg – ochr yn ochr â datganiad 'am' wyddoniaeth a thechnoleg sy'n uno'r cyfan. Mae'r datganiad hwnnw 'am' wyddoniaeth a thechnoleg yn cynnwys agweddau hanfodol – er enghraifft caiff goblygiadau gwyddoniaeth a thechnoleg eu nodi'n glir a dylid eu defnyddio drwy gydol y dysgu, yn hytrach na'u hystyried yn 'ychwanegiadau' ar wahân.
Tystiolaeth a chyfraniad gan arbenigwyr Mae tystiolaeth a chyfraniad arbenigwyr mewn meysydd penodol yn cynnwys y canlynol. Ymarferwyr: Arloeswyr a’r rhai sydd ddim yn arloeswyr, ymgynghorwyr consortia rhanbarthol, addysg bellach. Syniadau Mawr Gwyddoniaeth ac egwyddorion cynnydd: yr Athro Wynne Harlen. Syniadau Mawr Dylunio a Thechnoleg: Dr David Barlex a Torben Steeg. Cysyniadau cyfrifiadurol: yr Athro Crick, yr Athro Moller – Prifysgol Abertawe. Gwyddoniaeth a Thechnoleg yng Nghymru: yr Athro Tucker/Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae'r Grŵp Arloesi wedi ystyried nifer fawr o fewnbynnau mewn perthynas â'r maes dysgu a phrofiad hwn – gormod o lawer i'w rhestru yma. Mae'r sleid yn dangos y cyfranwyr allweddol. Mae rhai dogfennau allweddol eisoes ar gael yn gyhoeddus ac mae rhai hefyd yn cael eu cyfieithu. Dyma rai enghreifftiau o ddeunyddiau darllen/cyfeirio ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Big Ideas of Science Education ac Working with Big ideas of Science gan Harlen, et. Al – ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd. Big Ideas of D&T – ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd. Adolygiadau thematig Estyn (gwyddoniaeth CA2-3 2013/gwyddoniaeth a thechnoleg CA2 2017) – y ddau yn negeseuon allweddol ar gyfer athrawon cynradd yn enwedig. Adolygiad Cymwysterau Cymru o TGCh – ar gyfer athrawon uwchradd. Parth y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (NNEST) ar Hwb – ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd. Cyhoeddiadau am y cwricwlwm gan y Sefydliad Ffiseg, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol – ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd – deunydd da iawn, a chymorth i athrawon. Adnoddau Explorify gan Ymddiriedolaeth Wellcome – ar gyfer athrawon cynradd. Darpariaeth Technocamps, adnoddau Computing at School, adnoddau CodeClubUK, adnoddau Barefoot. Argymhellir y canlynol hefyd. The Teaching of Science in Primary Schools – 7fed Argraffiad gan Yr Athro Wynne Harlen (2018) – mae'r egwyddorion a'r dulliau gweithredu yn berthnasol i athrawon uwchradd hefyd, yn ogystal â dulliau addysgu STEM mewn ysgolion cynradd.
Tystiolaeth a chyfraniad gan arbenigwyr Mae tystiolaeth a chyfraniadau arbenigwyr mewn meysydd penodol yn cynnwys y canlynol. Cwricwla rhyngwladol a ystyriwyd: Estonia, yr Almaen, Awstralia, Seland Newydd, UDA, Columbia Brydeinig, Singapôr, Ontario, y Ffindir a'r Alban. Cyngor a chyfraniadau arbenigwyr: y Sefydliad Ffiseg, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, y Gymdeithas Fioleg Frenhinol, Wellcome Trust, DATA, Estyn, sefydliadau addysg uwch (Met Caerdydd, Caerdydd, Abertawe, Bangor, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Glasgow, Stirling, Aberdeen), Engineering UK, Cymwysterau Cymru. Mae'r Grŵp Arloesi wedi ystyried nifer fawr o fewnbynnau mewn perthynas â'r maes dysgu a phrofiad hwn – gormod o lawer i'w rhestru yma. Mae'r sleid yn dangos y cyfranwyr allweddol. Mae rhai dogfennau allweddol eisoes ar gael yn gyhoeddus ac mae rhai hefyd yn cael eu cyfieithu. Dyma rai enghreifftiau o ddeunyddiau darllen/cyfeirio ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Big Ideas of Science Education ac Working with Big ideas of Science gan Harlen, et. Al – ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd. Big Ideas of D&T – ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd. Adolygiadau thematig Estyn (gwyddoniaeth CA2-3 2013/gwyddoniaeth a thechnoleg CA2 2017) – y ddau yn negeseuon allweddol ar gyfer athrawon cynradd yn enwedig. Adolygiad Cymwysterau Cymru o TGCh – ar gyfer athrawon uwchradd. Parth y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (NNEST) ar Hwb – ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd. Cyhoeddiadau am y cwricwlwm gan y Sefydliad Ffiseg, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol – ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd – deunydd da iawn, a chymorth i athrawon. Adnoddau Explorify gan Ymddiriedolaeth Wellcome – ar gyfer athrawon cynradd. Darpariaeth Technocamps, adnoddau Computing at School, adnoddau CodeClubUK, adnoddau Barefoot. Argymhellir y canlynol hefyd. The Teaching of Science in Primary Schools – 7fed Argraffiad gan Yr Athro Wynne Harlen (2018) – mae'r egwyddorion a'r dulliau gweithredu yn berthnasol i athrawon uwchradd hefyd, yn ogystal â dulliau addysgu STEM mewn ysgolion cynradd.
Ystyriaethau i ysgolion Sut bydd eich arweinwyr, eich ymarferwyr a’ch rhwydweithiau’n gallu paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf o gyd-greu a rhoi adborth ystyrlon? Beth, os o gwbl, yw’r goblygiadau o ran adnoddau (cenedlaethol a lleol)? Sut y gallwch chi ddefnyddio dull ysgol gyfan a/neu rhyng-adrannol i sicrhau bod pawb yn: – gwybod am y cwricwlwm newydd? – deall sut i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?
Ystyriaethau i ysgolion Cynradd: gallai’r disgwyliadau ar gyfer dysgu yn y maes dysgu a phrofiad hwn beri pryder i rai staff i ddechrau. Sut y byddwch yn lliniaru’r pryderon hyn? A fydd angen dysgu proffesiynol penodol? Uwchradd: disgwyliad y bydd dysgwyr yn cael mynediad at athrawon sy’n arbenigwyr pwnc wrth iddynt symud ymlaen. Sut y byddwch chi’n hwyluso hyn yn eich ysgol chi? Ystyriwch ehangder y maes dysgu a phrofiad hwn a sut y byddwch chi’n rheoli’r elfen gyfrifiant newydd. Beth sydd ei angen i sicrhau ei fod yn llwyddiant? Beth yw’r goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer eich ysgol chi sy’n deillio o’r maes dysgu a phrofiad penodol hwn?