Gweledigaeth ac athroniaeth Wedi ei lunio er mwyn helpu dysgwyr i fyw bywyd iach, boddhaus a chynhyrchiol. Yn galluogi dysgu llwyddiannus a chydberthnasau boddhaus. Mae’n canolbwyntio ar yr agweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol ar ein bywydau. Dull gweithredu holistaidd i helpu ysgolion i ymdrin â meysydd sydd yn flaenoriaeth iddynt.
Y rhesymeg o blaid newid Mae’n cyd-fynd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae angen i addysg ynghylch anghenion iechyd meddyliol, corfforol ac emosiynol fod yn fwy integredig – heriau cynyddol. Mae’r ddarpariaeth bresennol yn anghyson. Ni ellid cymryd siawns gyda iechyd a lles yr holl ddysgwyr yng Nghymru. Yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – mae cyrff cyhoeddus yn gweithio tuag at y saith nod lles. Mae angen i addysg ar anghenion iechyd meddwl, emosiynol a chorfforol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru gael ei hintegreiddio'n fwy er mwyn ymateb i'r heriau cynyddol. Mae'r ddarpariaeth gyfredol ar gyfer 'iechyd a lles' yn cael ei threfnu'n bennaf yn addysg gorfforol, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac addysg bersonol a chymdeithasol, ac mae ansawdd y ddarpariaeth yn anghyson.
Sut mae’n wahanol? Holistaidd – mae Iechyd a Lles yn faes dysgu a phrofiad ond rhaid iddo fod yn gyfrifoldeb i bawb. Profiadau, gwybodaeth a sgiliau sy’n arwain at ffordd o fyw iach ac egnïol. Yn cefnogi iechyd corfforol a meddyliol. Datblygu dysgwyr fel eu bod yn gwneud gweithgarwch corfforol gydol eu bywyd. Rhaid adlewyrchu anghenion lleol yn ogystal ag anghenion cenedlaethol a byd-eang. Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn rhoi profiadau, gwybodaeth a sgiliau i blant a phobl ifanc ddatblygu'r rhinweddau sy'n arwain at ffyrdd iach ac egnïol o fyw. Bellach, mae'n gwricwlwm llythrennedd ffisegol sy'n meithrin hyder, cymhelliant, cymhwysedd corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth plentyn i ymgymryd â gweithgarwch corfforol gydol oes, a all gynnwys amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon. Ar lefel yr ysgol, dylai'r cwricwlwm fod yn seiliedig ar anghenion lleol, ond gan adlewyrchu materion cenedlaethol a byd-eang sy'n effeithio ar iechyd a lles.
Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Iechyd a Lles Mae datblygu iechyd a lles corfforol yn fanteisiol gydol ein hoes. Mae sut yr ydym yn prosesu ac yn ymateb i’n profiadau yn cael effaith ar ein iechyd meddyliol a’n lles emosiynol. Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau pobl eraill. Mae sut yr ydym yn ymateb i wahanol ddylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydym ni a’n hiechyd a’n lles. Mae cydberthnasau iach yn sylfaenol i’n hymdeimlad o berthyn a lles.
Dull gweithredu ac adborth Sut gyrhaeddon ni yma? Dull gweithredu ac adborth Edrych ar ymchwil/ystyried cwricwla rhyngwladol. Nodi blaenoriaethau ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Cytuno ar ymagwedd ar gyfer bywyd llawn a chynhyrchiol. Nodi pum maes eang. Cefnogaeth arbenigwyr i’r rhesymeg a’r cynnydd. Diffinio ‘ffiniau’ a rhyngddibyniaethau ymhlith datganiadau yr hyn sy’n bwysig. Trafod ag ysgolion, partneriaid a rhanddeiliaid. Cafodd modelau cwricwlwm rhyngwladol eu hystyried a'u defnyddio i lywio'r gwaith cynllunio. Cafodd ymchwil yn y maes hwn ei harchwilio a'i defnyddio i lywio meddylfryd. Nodwyd y meysydd â blaenoriaeth cyfredol ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Cytunwyd ar yr ymagweddau sy'n arwain at fywyd cynhyrchiol ac sy'n rhoi boddhad, a hynny nawr ac yn y dyfodol. Nodwyd pum maes eang a fyddai'n sail i'r hyn sy'n bwysig. Cymorth gan arbenigwyr allanol i fireinio ac atgyfnerthu datganiadau yr hyn sy'n bwysig – rhesymeg a chynnydd. Gwaith i sicrhau bod 'ffiniau' datganiadau yr hyn sy'n bwysig yn glir, yn ogystal â'r cysylltiadau a'r rhyngddibyniaethau rhyngddynt. Ymgysylltu ag ysgolion nad ydynt yn ysgolion arloesi. Ymgysylltu â phartneriaid allweddol a rhanddeiliaid.
Tystiolaeth a chyfraniadau gan arbenigwyr Cyffredinol: Estyn a Cymwysterau Cymru. Addysg cydberthynas a rhywioldeb: Yr Athro Emma Renold, Prifysgol Caerdydd. Integreiddio’r meddwl/y corff ac emosiynau: Dr Dan Siegel, Prifysgol California. Niwrowyddoniaeth a phŵer ymarfer myfyriol: Dr Dusana Dorjee, Prifysgol Bangor. Llythrennedd corfforol: Dr Elizabeth Durden-Myers, Prifysgol Liverpool John Moores a Gethin Mon Thomas, Prifysgol Bangor. Cydberthnasau a dysgu cymdeithasol ac emosiynol: Yr Athro Robin Banerjee, Prifysgol Sussex. Iechyd: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion Cymru.
Ystyriaethau i ysgolion Sut bydd eich arweinwyr, ymarferwyr a rhwydweithiau’n gallu paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf o gyd-greu a rhoi adborth ystyrlon? Beth, os o gwbl, yw’r goblygiadau o ran adnoddau (cenedlaethol a lleol)? Sut y gallwch chi ddefnyddio dull ysgol gyfan a/neu rhyng-adrannol i sicrhau bod pawb yn: – gwybod am y cwricwlwm newydd? – deall sut i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?