Twenty-two years of ageing in Adelaide: Findings from the Australian Longitudinal Study of Ageing Mae DSDC Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn eich gwahodd i seminar lle bydd y siaradwr gwadd Yr Athro Mary Luszcz yn trafod yr hyn a ddysgwyd o’r astudiaeth bwysig hon ar heneiddio yn Awstralia Fe’i cynhelir ddydd Mercher 15 Hydref 12:30-14:00 yn ystafell gyfarfod Ardudwy, Safle’r Normal, Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2PZ Oherwydd mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, a fyddech cystal â chysylltu â : dsdc@bangor.ac.uk neu 01248 383719 i archebu eich lle. Gwybodaeth am y siaradwr Mae Mary’n un o arloeswyr ymchwilio ym maes seicoleg heneiddio yn Awstralia ac, ymysg nifer o bynciau eraill, mae ganddi ddiddordeb neilltuol mewn adnoddau personol, seicolegol a chymdeithasol/amgylcheddol sy’n hybu heneiddio’n dda. Hi yw Athro Hyglod Matthew Flinders mewn Seicoleg a Gerontoleg ym Mhrifysgol Flinders, De Awstralia, ac mae’n Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Heneiddio Flinders. Ar hyn o bryd mae hefyd yn cynnull sefydliad sy’n integreiddio ymchwil rhwng y brifysgol, y llywodraeth a sectorau gofalu am yr henoed. Gwybodaeth am y seminar… Bydd Mary’n cyflwyno darganfyddiadau allweddol o broject amlddisgyblaethol sydd wedi mynd ymlaen ers dwy flynedd ar hugain erbyn hyn. Hi yw Prif Ymchwilydd y project hwn, sy’n dilyn hynt bywydau Awstraliaid hŷn dros gyfnod sylweddol.