Gweddïwch 2019 dros Gymru
Diolchgarwch Mae llawer i ddiolch i Dduw amdano: gweinidogaeth ffyddlon, eglwysi newydd yn cael eu plannu, mentrau creadigol newydd i gyrraedd pobl o bob oed â’r Newydd Da am Yr Iesu.
Diolchgarwch Diolchwch am nifer o ymgyrchoedd gweddi ar draws y genedl. Daeth Cymrugyfan â phobl ynghyd ym Mhenybont ar Ogwr, Bae Cinmel, Tonypandy, Caerfyrddin, Ceredigion, Dolgellau a Bedwas.
Gyda’n Gilydd Gweddïwch y bydd enwadau, ffrydiau a rhwydweithiau’n dirnad yn strategol sut mae mynd â’r Efengyl i gymunedau lle nad oes presenoldeb Cristnogol byw a ble mae’r cymunedau hynny.
Gyda’n Gilydd Gweddïwch y bydd Duw’n rhoi cyfeiriad clir o ran ffyrdd y gall eglwysi bartneru ag eglwysi eraill yng Nghymru sydd angen anogaeth a chefnogaeth mewn gweddi.
Gafael ynddi Gweddïwch yn rheolaidd am weithwyr (Math 9:38): y bydd pobl yn teimlo’u bod yn cael eu galw i fuddsoddi eu bywydau yma yng Nghymru – yn arbennig mewn ardaloedd y tu allan i goridor yr M4.
Cofio Gweddïwch dros y rhai sydd ar hyn o bryd yn plannu eglwysi. Hefyd, y rhai sy’n newid eglwysi i fod yn fwy perthnasol o fewn eu cyd-destun ac yn yr amseroedd rydym yn byw ynddynt. Gofynnwch i Dduw adnewyddu eu nerth yn ddyddiol, fel y gallant gadw’u llygaid yn wastad ar yr Iesu.
Breuddwydio Dywedodd William Carey, tad cenhadaeth fodern, “Attempt great things for God, expect great things from God”. Yn weddïgar, ystyriwch pa ‘bethau mawr’ y mentrwch chi roi cynnig arnynt dros Dduw yn y genedl hon.