‘Understanding curriculum … means to understand the cultural construction of the child and the future citizen’ (Pinar, 2013)
Nod y cyflwyniad hwn Crynhoi’r cynnydd. Rhannu negeseuon allweddol ynglŷn â’r cwricwlwm. Disgrifio’r camau nesaf o ran datblygu ac ymgysylltu. Ond yn gyntaf, dyma ffilm sy’n gosod y naws ar gyfer y cyflwyniad hwn. www.youtube.com/watch?v=6FsrD_tJqW4
Pam bod angen newid y cwricwlwm? Diffygion canfyddedig yn y cwricwlwm presennol a’r trefniadau asesu. Nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) berfformiad isel ymhlith cyfran uchel o bobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru. Perfformiad cymharol isel yn arolygon PISA. Mae’r canfyddiad bod cynnwys rhagnodol iawn ynghŷd â systemau atebolrwydd cynyddol bwerus wedi dinistrio rôl greadigol ysgolion a gweithwyr proffesiynol. Nid yw’r nodweddion hanfodol o’n cwricwlwm a luniwyd yn 1988 yn adlewyrchu ein byd technolegol na globaleiddio.
Beth oedd argymhellion allweddol Dyfodol Llwyddiannus? Pedwar diben y cwricwlwm. Chwe maes dysgu a phrofiad. Tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd. Camau dilyniant i bobl ifanc 5, 8, 11, 14 ac 16 oed. Deilliannau cyflawniad. Amrywiaeth o ddulliau addysgegol. Newid asesiadau i ganolbwyntio ar ddysgu, gan gynnwys hunanasesiadau ac asesidadau gan gyfoedion. Monitro perfformiad y system ar lefel genedlaethol drwy samplu’n flynyddol. Mae'r adroddiad yn cynnwys 68 o argymhellion. Mae'r rhain yn cynnwys y cynigion canlynol. Dylai strwythur y cwriclwm gynnwys: pedwar diben y cwricwlwm chwe maes dysgu a phrofiad tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd camau cynnydd ar gyfer dysgwyr 5, 8, 11, 14 a 16 oed (gan gynnwys Ar Drywydd Dysgu) deilliannau cyflawniad amrywiaeth o ddulliau addysgegol ail-ganolbwyntio’r asesu ar ddysgu, gan gynnwys hunanasesu'r dysgwyr ac asesu gan gymheiriaid monitro perfformiad y system ar lefel genedlaethol drwy waith samplu blynyddol.
Diben y cwricwlwm newydd yw cefnogi ein plant a phobl ifanc i fod yn: ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Mae'r pedwar diben wrth wraidd y gwaith o gynllunio a datblygu'r cwricwlwm cenedlaethol, ac, felly, yn cynrychioli'r ymagweddau yr ydym am i bob dysgwr eu meithrin pan fyddant yn 16 oed (a thu hwnt i hynny). Mae'n bwysig nodi bod y prif ddatganiadau uchod o ran y pedwar diben yn seiliedig ar nodweddion allweddol manwl (gweler tudalen 31 Dyfodol Llwyddiannus). Mae'r nodweddion allweddol hyn yn darparu'r manylder angenrheidiol, ochr yn ochr â chynnwys y meysydd dysgu a phrofiad (datganiadau yr hyn sy'n bwysig a'r deilliannau cyflawniad), i ddatblygu eich cwricwlwm lefel ysgol ac i ddeall sut y gall dysgwyr ddangos eu bod yn cyflawni'r pedwar diben.
Diffinio ‘cwricwlwm’ Mae ‘cwricwlwm’ yn cynnwys yr holl brofiadau dysgu a gweithgareddau asesu sydd wedi’u cynllunio yn unol â’r dibenion y cytunwyd arnynt ar gyfer addysg. Mae Cwricwlwm i Gymru 2022 yn cynnwys: fframwaith ar lefel genedlaethol dulliau dylunio a chynllunio ar lefel ysgol. Cwricwlwm cenedlaethol yw Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd disgwyl i ysgolion ddefnyddio'r cwricwlwm cenedlaethol i ddatblygu a chynllunio eu cwricwlwm lefel ysgol eu hunain. Mae'r cwricwlwm cenedlaethol yn cynnwys nifer o elfennau a fydd yn cefnogi hyn ac yn lleihau'r anghysondebau a allai ddigwydd drwy amrywioldeb, ond mae'n bwysig nodi ar y cam hwn mai un rhan yn unig o'r rhaglen diwygio addysg ehangach yw diwygio'r cwricwlwm. Bydd yr elfennau ehangach hyn yn helpu i gefnogi ysgolion i ddeall dyluniad y cwricwlwm, cydweithio mewn rhwydweithiau/clystyrau a chyflawni'r dysgu proffesiynol priodol sy'n seiliedig ar y cwricwlwm.
Cefnogi’r cwricwlwm newydd Ymagwedd genedlaethol tuag at ddysgu proffesiynol (a chyllid). Trefniadau gwerthuso a gwella (atebolrwydd) newydd. Asesiadau personol ar-lein. Dull newydd o ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol. Cymwysterau. Mae'r rhaglen diwygio addysg bresennol yn ehangach na diwygio'r cwricwlwm yn unig. Mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl yn pennu'r amcanion, y manylion a'r amserlenni ar gyfer elfennau'r rhaglen ddiwygio.
Mae ein cwricwlwm newydd: yn gwricwlwm a arweinir gan ddibenion – mae’r pedwar diben wrth wraidd y gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm ar lefel genedlaethol a lleol wedi’i drefnu fel continwwm dysgu rhwng 3 ac 16 oed – bydd yr holl blant a phobl ifanc yn gwneud cynnydd ar hyd yr un continwwm wedi’i drefnu yn seiliedig ar gamau dilyniant, a fynegir ar ffurf deilliannau cyflawniad yn cynnwys y tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd yn rhoi sail i feddwl am y cyfnod rhwng 14 ac 16 oed, cymwysterau a thu hwnt. Mae'r rhain yn bwyntiau cyfeirio sy'n darparu 'map ffordd' ar gyfer cynnydd pob dysgwr, yn hytrach na disgwyliadau cyffredinol o berfformiad ar gamau penodol. Y pedwar diben, ynghyd â datganiadau yr hyn sy'n bwysig, yw'r uchelgais ar gyfer pob dysgwr 16 oed yng Nghymru. Ni fydd cyfnodau allweddol mwyach. Bydd y dysgwyr yn gwneud cynnydd ar hyd yr un continwwm dysgu. Mae'r deilliannau cyflawniad wedi'u cynllunio i ddisgrifio cynnydd ar bum cam, a hynny o fewn datganiad yr hyn sy'n bwysig. Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (cyhoeddwyd yr elfen gyntaf ym mis Medi 2016). Mae Cymwysterau Cymru yn ymwneud â'r gwaith o gyd-lunio'r cwricwlwm, a bydd yr arloeswyr yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru i ddechrau gweithio tuag at y cymwysterau newydd.
Ni fydd ein cwricwlwm newydd: yn rhy rhagnodol na phenodol; ni fydd yn gosod dyraniadau amser ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad, pynciau a disgyblaethau wedi’i lywio gan gynnwys, nac yn diffinio mewnbynnau manwl i ddysgwyr, na grwpiau o ddysgwyr yn ffafrio naill ai gwybodaeth neu sgiliau; mae wedi’i ddatblygu er mwyn galluogi ysgolion i roi cydbwysedd o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn seiliedig ar raglenni astudio; bydd pynciau a disgyblaethau yn rhan o’r meysydd dysgu a phrofiad er mwyn sicrhau y gellid gwneud cysylltiadau pwrpasol. Mae'r rhain yn bwyntiau cyfeirio sy'n darparu 'map ffordd' ar gyfer cynnydd pob dysgwr, yn hytrach na disgwyliadau cyffredinol o berfformiad ar gamau penodol. Y pedwar diben, ynghyd â datganiadau yr hyn sy'n bwysig, yw'r uchelgais ar gyfer pob dysgwr 16 oed yng Nghymru. Ni fydd cyfnodau allweddol mwyach. Bydd y dysgwyr yn gwneud cynnydd ar hyd yr un continwwm dysgu. Mae'r deilliannau cyflawniad wedi'u cynllunio i ddisgrifio cynnydd ar bum cam, a hynny o fewn datganiad yr hyn sy'n bwysig. Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (cyhoeddwyd yr elfen gyntaf ym mis Medi 2016). Mae Cymwysterau Cymru yn ymwneud â'r gwaith o gyd-lunio'r cwricwlwm, a bydd yr arloeswyr yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru i ddechrau gweithio tuag at y cymwysterau newydd.
Beth sy’n newydd yn y cwricwlwm? Diben Proses Cynnydd Addysgeg Dysgu proffesiynol Ymarfer
Creu cwricwlwm i’ch ysgol chi: O lefel genedlaethol i lefel ysgol Cwricwlwm lefel genedlaethol – fel y’i diffinnir gan Lywodraeth Cymru. Cwricwlwm lefel ysgol – a gaiff ei gynllunio, ei ddatblygu a’i werthuso ymhellach gan athrawon mewn ysgolion a chlystyrau. Bydd sawl model o’r cwricwlwm yn dod yn amlwg wrth i chi ymgysylltu â’r cwricwlwm a’r ymchwil sy’n sail iddo. Bwriedir i gwricwlwm cenedlaethol, fel y'i diffinnir gan Lywodraeth Cymru, gael ei ddehongli, ei ddatblygu a'i fireinio gan ysgolion i greu eu cwricwlwm lefel ysgol eu hunain, a gaiff ei gynllunio, ei ddatblygu a'i werthuso ymhellach gan yr athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Wrth ddefnyddio'r model cenedlaethol i ddatblygu cwricwlwm lefel ysgol, byddwch yn gweld nifer o fodelau cwricwlwm yn dod i'r amlwg wrth i chi ddefnyddio'r cwricwlwm, a'r ymchwil sy'n sail iddo. Wrth symud drwy'r broses hon gallwch greu cwricwlwm sy'n cael ei archwilio, ei ddatblygu a'i weithredu, ac sy'n cael ei adolygu, ei werthuso a'i wella'n barhaus – gan ddiwallu anghenion eich cymuned o ddysgwyr. Mae'r bylchau rhwng y camau cynnydd yn darparu cyfleoedd.
Cynnydd (dysgu) Dylid disgrifio cynnydd ar hyd continwwm dysgu ymhob maes dysgu a phrofiad. Mae’n ffurfiannol ac yn gofyn i’r dysgwr chwarae rhan weithredol yn y broses. Caiff cwricwlwm, asesiadau ac addysgeg eu hystyried fel un system integredig. Mae’r model wedi’i ddatblygu yn seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth yn ogystal â phrosiect CAMAU. Caiff cynnydd dysgu ei ddisgrifio fel rhan o’r deilliannau cyflawniad ar bum cam o’r continwwm. Mae’r camau cynnydd yn ymwneud yn fras â’r disgwyliadau ar gyfer pobl ifanc 5, 8, 11, 14 ac 16 oed.
Cynnydd (dysgu) Dylai’r camau cynnydd fod yn gyfeirbwyntiau, gan roi ‘map ffordd’ ar gyfer cynnydd pob dysgwr ar gyfer eu dysgu, yn hytrach na disgwyliadau cyffredinol ar gyfer eu perfformiad ar adegau penodol. Cyfleoedd dysgu gwirioneddol sy’n cysylltu agweddau ar y cwricwlwm ac sy’n gwneud cysylltiadau â ‘bywyd bob dydd’. Ni ddylid defnyddio’r deilliannau cyflawniad ar gyfer asesiadau yn uniongyrchol. Dylid eu defnyddio i: – ddylunio, datblygu a chynllunio cwricwlwm lefel ysgol a dosbarth – cefnogi dealltwriaeth ymarferwyr o ddatblygu dysgu.
Yr elfennau o’n cwricwlwm newydd Cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd Pedwar diben Meysydd dysgu a phrofiad Yr hyn sy’n bwysig Gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau Deilliannau cyflawniad Sgiliau ehangach Y dimensiwn Cymreig a’r safbwynt rhyngwladol Cwricwlwm lefel ysgol
Meysydd Dysgu a Phrofiad Celfyddydau Mynegiannol Dyniaethau Iechyd a Lles Gwyddoniaeth a Thechnoleg Mathemateg a Rhifedd Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Mae pob maes dysgu a phrofiad wedi’i drefnu’n gyfres o ddatganiadau yr hyn sy’n bwysig sy’n blaenoriaethu’r cysyniadau pwysig y mae’n rhaid i ddysgwyr gael profiadau a meithrin dealltwriaeth a sgiliau yn eu cylch.
Datganiadau yr hyn sy’n bwysig Trefnwyr dysgu hanfodol yn gweithio tuag at y pedwar diben. Darparu ysgogiadau cysyniadol ar gyfer profiadau, gwybodaeth a sgiliau yn ymwneud â phwnc/disgyblaeth. Mae pennawd a rhesymeg yn un – rhaid eu defnyddio gyda’i gilydd. Allweddol i gwricwlwm lefel ysgol a datblygiad – dewis a blaenoriaethu deunydd pynciau. Cynnig cyfleoedd clir i wneud cysylltiadau o fewn meysydd dysgu a phrofiad a rhyngddynt. Sail y cynnydd.
Profiadau, gwybodaeth a sgiliau Cymorth cynllunio hanfodol i ysgolion – man cychwyn cyffredin. Cysylltiadau o fewn meysydd dysgu a phrofiad a rhyngddynt. Angen eu hystyried er mwyn galluogi’r dysgwr i gyflawni: – pedwar diben y cwricwlwm – deilliannau cyflawniad – datganiadau yr hyn sy’n bwysig.
Deilliannau cyflawniad Cânt eu disgrifio o safbwynt y dysgwr, gan ddefnyddio termau megis ‘Gallaf … ’ neu ‘Rwyf wedi … ’. Maent yn disgrifio’r wybodaeth, y cymhwysedd neu’r profiad eang y mae angen i ddysgwyr eu datblygu. Dylent gyfrannu at bedwar diben y cwricwlwm yn glir a rhoi pwyslais ar gyflawniad mewn ffordd gyffredinol, yn hytrach na mesurau asesu cul.
Deilliannau cyflawniad Maent yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ar hyd yr un continwwm, waeth beth fo’u anghenion dysgu ychwanegol, er y byddant yn symud rhwng y camau cynnydd ar gyflymder gwahanol o bosibl. Dylid eu defnyddio fel sail i ddatblygu dulliau asesu, e.e. ffurfiannol, crynodol, hunanasesiadau, asesiadau gan gyfoedion, portffolio. Dylent roi bŵer i weithwyr proffesiynol wrth iddynt ddatblygu cwricwlwm a helpu dysgwyr i gyflawni’r deilliant cyflawniad.
Nid yw’r deilliannau cyflawniad yn golygu: mesurau cyrhaeddiad cul manylebau cymhwyster amcanion dysgu manwl disgrifiadau arwynebol o’r cynnwys meini prawf ar gyfer un darn asesu. Dylid defnyddio'r deilliannau cyflawniad i ddatblygu arferion asesu yn yr ysgol, ac nid ydynt wedi'u datblygu fel amcanion asesu.
Asesiadau Bydd y trefniadau: yn cynnwys egwyddorion allweddol ar gyfer asesiadau effeithiol yng nghyd-destun y cwricwlwm ar gael i roi adborth arnynt ym mis Ebrill ochr yn ochr â’r cwricwlwm newydd.
Asesiad Bydd y trefniadau yn cynnwys canllawiau ar: ddefnyddio hunanasesiadau ac asesiadau gan gyfoedion i gefnogi dysgu o ansawdd uchel defnyddio e-bortffolios er mwyn annog plant i arddangos yr hyn maent wedi’i ddysgu a’u profiadau sicrhau bod adroddiadau i rieni/gofalwyr, sy’n rhoi darlun o ddatblygiad dysgwr yn erbyn pedwar diben y cwricwlwm o’r ansawdd gorau posibl ac mor werthfawr â phosibl safoni a chymedroli i ddatblygu dealltwriaeth gytûn o ddatblygu arfer da presennol trefniadau pontio i gefnogi parhad a chynnydd dysgu i ddysgwyr mewn ysgolion, a rhwng gwahanol ysgolion.
Ymagwedd genedlaethol tuag at ddysgu proffesiynol Bydd y cwricwlwm newydd yn gofyn i bob ymarferydd ailystyried yr hyn y mae am ei ddysgu, ei ddulliau addysgu a’r hyn rydym am i bobl ifanc ddatblygu i fod ac i ddysgu amdano. Bydd gan arweinwyr ac athrawon fwy o ymreolaeth a phŵer mewn ysgolion ac ystafelloedd dosbarth, a bydd angen datblygu sgiliau a dulliau newydd yn sgil hyn. Cyhoeddwyd dull cenedlaethol newydd ar gyfer dysgu proffesiynol (ynghyd â phecyn ariannu) ym mis Tachwedd 2018. Mae cyflwyniad ar wahân ar gael er mwyn rhoi manylion cynhwysfawr i chi, ond am y tro, dyma'r penawdau. Mae arloeswyr dysgu proffesiynol a phrifysgolion eisoes wedi cydweithio ag arloeswyr y cwricwlwm i gefnogi hyn. Mae’r elfennau allweddol yn cynnwys: addysgeg taith dysgu proffesiynol yr unigolyn safonau proffesiynol newydd ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu cyfuniad dysgu proffesiynol, gyda mwy o achrediad. Sefydlwyd Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol. Enghreifftiau o'r meysydd y bydd angen i ysgolion eu harchwilio yn 2019: goblygiadau cynnwys y cwricwlwm newydd – cynllunio, gwireddu ac asesu datblygu sgiliau cynllunio cwricwlwm lefel ysgol, fel ysgolion unigol ac fel clystyrau goblygiadau'r meysydd dysgu a phrofiad o ran trefniadaeth ysgolion, er enghraifft trefniadaeth isadrannau, amserlennu a lleoliad y dysgu.
Cymwysterau Bydd cymwysterau yn cael eu haddasu i adlewyrchu’r cwricwlwm. Mae’r llinell amser ar gyfer datblygu cymwysterau fel a ganlyn. 2019 – Trafodaethau/ymgyngoriadau â rhanddeiliaid ynglŷn â dibenion cymwysterau yn y dyfodol. 2020 – Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i gadarnhau’r cymwysterau a gynigir. 2021 – Ymgynghoriad ar ddyluniad manwl y cymwysterau. 2023 – Cymeradwyo cymwysterau newydd; hyfforddiant ac adnoddau ar gael. 2025 – Addysgu’r cymwysterau newydd mewn ysgolion.
Cynigion ar gyfer fframwaith deddfwriaethol newydd Adlewyrchu’r argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus. Mae’r ymgynghoriad yn nodi cynigion deddfwriaethol ar gyfer: – pedwar diben sydd wrth wraidd y fframwaith – chwe maes dysgu a phrofiad wedi’u cynnwys mewn canllawiau statudol – tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd – cyfeirbwyntiau cynnydd ar gyfer pobl ifanc 5, 8, 11, 14 ac 16 oed – Cymraeg a Saesneg yn statudol o hyd – addysg grefyddol ac addysg am gydberthnasau a rhywedd sy’n briodol ar gyfer eu hoedrannau. Mae'r cynigion yn efelychu'r argymhellion a nodir yn Dyfodol Llwyddiannus, ynghyd â nodau ac amcanion Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl. Yr egwyddor yw creu continwwm dysgu o 3 i 16 oed, gyda'r pedwar diben yn ganolog i hynny; caiff y pedwar diben eu pennu mewn deddfwriaeth sylfaenol fel y man cychwyn ar gyfer yr holl dysgu ac addysgu. Caiff teitlau'r meysydd dysgu a phrofiad eu pennu mewn deddfwriaeth sylfaenol, ond bydd cynnwys y meysydd mewn canllawiau statudol. Bydd hyn yn galluogi'r ymarferwyr i gymhwyso eu harbenigedd a'u creadigrwydd o ran y modd y cânt eu cyflawni. Ni chaiff pynciau penodol (ac eithrio'r rhai a restrir isod) eu pennu mewn deddfwriaeth sylfaenol. Caiff llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol eu henwi mewn deddfwriaeth, ond ni fydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol na'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn fframweithiau statudol mwyach. Mae'r egwyddor o gael un continwwm dysgu yn rhan annatod o'r cynigion o 3 i 16 oed. Bydd yr egwyddor hon yn berthnasol i ddysgu Cymraeg a Saesneg. Er mwyn bod yn glir, ein cynnig yw y bydd y cwricwlwm newydd yn dal i alluogi ysgolion a lleoliadau i drochi plant yn llawn yn y Gymraeg. Bydd Cymraeg yn parhau i fod yn statudol hyd at 16 oed – fodd bynnag, mae'r newidiadau'n dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith. Bydd addysg grefyddol bellach yn cael ei haddysgu i ddysgwyr o 3 i 16 oed. Byddai'r eithriad ar gyfer ysgolion meithrin yn cael ei ddileu. Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn briodol i oedran y dysgwyr, gan ddibynnu ar yr adeg y caiff ei haddysgu yn y continwwm. Ar hyn o bryd mae hawl gan rieni i dynnu eu plant o addysg grefyddol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar yr hawl i dynnu plant o addysg o'r fath, a'r modd y gallai gyd-fynd â'r cynigion ehangach. Ailddeddfu ynghylch mwyafrif y darpariaethau asesu y mae'r cwricwlwm cenedlaethol eisoes yn darparu ar eu cyfer. Bydd hyn yn cynnal y ffocws ar asesu ar gyfer dysgu. Caiff Fframwaith Asesu a Gwerthuso ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r canllawiau statudol.
Cynigion ar gyfer fframwaith deddfwriaethol newydd Fodd bynnag, does: dim deddfwriaeth arfaethedig ar gyfer gwerthuso dim byd am gynnwys y cwricwlwm na’r prosesau addysgegol a methodolegol mewn ysgolion. Gellir dod o hyd i’r ymgynghoriad yma: https://beta.llyw.cymru/cenhadaeth-ein-cenedl-cwricwlwm-trawsnewidiol Y terfyn amser ar gyfer eich ymatebion yw 25 Mawrth 2019. Nid oes unrhyw gynigion i ddeddfu yn y Bil hwn ar gyfer trefniadau gwerthuso a gwella. Mae'r ymgynghoriad yn cynnig cyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi prosesau hunanwerthuso cadarn o dan y ddeddfwriaeth gyfredol. Caiff y Trefniadau Gwerthuso a Gwella eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2019, a hynny ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar gynigion ar gyfer fframwaith deddfwriaethol i gefnogi'r cwricwlwm newydd a'r trefniadau asesu. Nid yw cynnwys y cwricwlwm yn rhan o gwmpas yr ymgynghoriad hwn.
Cwricwlwm ar gael i roi adborth arno Bydd y cwricwlwm ar gael ar-lein er mwyn i ni gael adborth tan 14 Gorffennaf. Diben yr ymarfer adborth yw: deall safbwyntiau a syniadau’r proffesiwn dysgu sut i’w fireinio – y cam datblygu nesaf. I’w ystyried yn ystod y cyfnod adborth: Cydrannau’r meysydd dysgu a phrofiad a’u geiriad. Ddim i’w ystyried yn ystod y cyfnod adborth: Model y meysydd dysgu a phrofiad a’u helfennau. Bydd digwyddiadau ymgysylltu’n digwydd yn rhanbarthol drwy gydol tymor yr haf. Diben yr adborth Prif ddeilliannau Meithrin dealltwriaeth ymhlith aelodau ehangach y proffesiwn a deall eu canfyddiadau cychwynnol o'r cwricwlwm. Llywio cam nesaf y gwaith o fireinio'r cwricwlwm. Deilliannau eilaidd Casglu gwybodaeth mewn perthynas â chymorth proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm. Gwybodaeth gychwynnol ar gyfer gwaith hunanwerthuso ysgolion. Asesu a meintioli'r angen am gyfathrebu ac ymgysylltu pellach ar gyfer y proffesiwn. Yr hyn sy'n cael ei ystyried Ffocws a geiriad unrhyw elfen o'r meysydd dysgu a phrofiad. Yr hyn nad yw'n cael ei ystyried Y model ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad (y cysyniad o ddatganiadau yr hyn sy'n bwysig; profiadau, gwybodaeth a sgiliau; deilliannau cyflawni; ac ati).
Beth gallwch chi ei wneud nesaf? Rhannu’r cyflwyniad hwn â’ch cydweithwyr – er mwyn dechrau’r drafodaeth. Dechrau archwilio’r meysydd dysgu a phrofiad yn fanwl – maent wedi’u cyhoeddi ar y wefan hwb.llyw.cymru Dilyn blog y Cwricwlwm i Gymru yn https://cwricwlwmigymru.llyw.cymru Rhoi gwybod am wefan ‘Mae addysg yn newid’ i rieni/gofalwyr: https://beta.llyw.cymru/mae-addysg-yn-newid Dilyn #diwygioaddysgcymru ar Twitter.
Diolch am wrando.