Gweledigaeth ac athroniaeth

Slides:



Advertisements
Similar presentations
Cynhadledd a Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd : Rhai agweddau ar recriwtio The Welsh Language in Healthcare – Conference and Awards Some recruitment.
Advertisements

Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
The effectiveness of learner-involvement strategies in further education institutions and Welsh for adults centres Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys.
Addysg sector gofal ac ymwybyddiaeth iaith Care sector education and language awareness Gwenan Prysor Rhaglen Dysgu Ymarfer Gogledd Cymru North Wales Practice.
The effectiveness of learner- involvement strategies in adult community learning and work- based learning Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr.
Wise Cymru a Gweithio tuag at Bartneriaeth Alex Butterworth Swyddog Datblygu Wise Cymru Wise Wales and Working Towards Partnership Alex Butterworth Wise.
Cynllun Datblygu Ysgol Gofynion Statudol o Fedi 2015 School Development Plan Statutory Requirements from September 2015.
Adroddiad Blynyddol (Dysgu yn y sector cyfiawnder) Annual Report (Learning in the justice sector)
Joining in Ymuno Estyn’s report on LEA resource bases, on the site of mainstream schools, for pupils with moderate learning difficulties What we looked.
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ADCDF Education for Sustainable Development and Global Citizenship ESDGC 22/02/2012.
Gerry Evans Gwaith Cymdeithasol yn y Dyfodol Social Work in the Future.
Cyflwyno Gofal Cymdeithasol Cymru Introducing Social Care Wales
TAKING WALES FORWARD Symud Cymru Ymlaen 5 Mehefin June 2017
Gweithgor Arfer Dda Plas Menai, 24/4/09.
Adroddiad Blynyddol (Addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon) Annual Report (Initial teacher education and training)
Cynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau
Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru (GLP-W)
Employability Delivery Plan for Wales
Overview of the New Curriculum for Wales
Brîff 7 Munud - Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) General Data Protection Regulations (GDPR) - 7 Minute Briefing.
Dysgu Byd-eang a Bagloriaeth Cymru
A VISION FOR SPORT IN WALES GWELEDIGAETH AR GYFER CHWARAEON YNG NGHYMRU Activating Future Generations / Gwneud Cenedlaethau’r Dyfodol yn Egnïol.
Prosiect Adolygu Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan
Cynhyrchu ar y Cyd nid Cynhyrchu Ffug
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae Grŵp Hawliau'r Teulu, mewn partneriaeth gyda Nuffield Foundation wedi cynnal adolygiad i ystyried y canlynol: archwilio’r.
Canfod Gofalwyr Cymru a Rhoi Cymorth Iddynt
Diweddariad Arloesi Pioneer Update Diwygio cwricwlwm Curriculum Reform.
GWEITHIO UNIGOL Introduction
CAM-DRIN DOMESTIG YR HENOEDBRIFFIAD – 7 MUNUD ELDER DOMESTIC ABUSE
Beth Yw Briffiau 7 Munud? What Are 7 Minute Briefings?
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol i ymarfer diogelu – mae rhannu gwybodaeth yn wael yn cael ei nodi yn aml fel problem.
GADd: 2/12/08 Sesiwn 2: Cynllunio’r Dysgu Session 2: Planning Learning
Cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd
Hunanarfarniad o ganlyniadau
ACHREDU ASESIADAU ATHRAWON CYFNOD ALLWEDDOL 3
Y Continwwm Arweinyddiaeth Dawns ar gyfer Pobl Ifanc
Adeiladu Gweithlu'r Dyfodol
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae cyfrifoldeb ar bob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion i ddiogelu’r plant a’r oedolion hynny. Y ffordd.
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae diogelu cyd- destunol yn ceisio adnabod ac ymateb i niwed a cham-drin pobl ifanc tu allan i’w cartrefi, un ai.
Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru
Brîff 7 Munud – Meddwl Beirniadol Critical Thinking 7 Minute Briefing
BRIFF 7 MUNUD - Cyngor Rhannu Gwybodaeth i ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau diogelu Information Sharing Advice for practitioners providing safeguarding.
Ffocws ar Sgiliau Focus on Skills
Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro newydd am sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn ganolog i’w waith. Keith Towler yw Cadeirydd y Bwrdd. Mae Keith ac.
Gweledigaeth ac athroniaeth
Yr Athro Mererid Hopwood
Gweledigaeth ac athroniaeth: Mynediad i’r cwricwlwm i bawb
Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC
Trosolwg o Gyfarfod Cyntaf y Grŵp Rhanddeiliaid Ardal Leol
Gweledigaeth ac athroniaeth
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
Gweledigaeth ac athroniaeth
Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio. Beth yw gwerthoedd chwaraeon?
ARCHWILIO ADEILADU TAI
Cyd-destun cyffredinol
‘Understanding curriculum … means to understand the cultural construction of the child and the future citizen’ (Pinar, 2013)
‘Understanding curriculum … means to understand the cultural construction of the child and the future citizen’ (Pinar, 2013)
Yr Athro Mererid Hopwood
Gweledigaeth ac athroniaeth
Gweledigaeth ac athroniaeth
Gweledigaeth ac athroniaeth
Title Welsh point 45 Y continwwm dysgu proffesiynol: mentora mewn addysg gychwynnol athrawon The professional learning continuum: mentoring in initial.
Uned 1 Taflen Gymorth/PowerPoint ar Gwestiynau Arholiad
Y Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Prosiect Sgiliau Hanfodol Hyblyg
Adroddiad Blynyddol (Ysgolion arbennig a gynhelir) Annual Report (Maintained special schools)
1. Materion Allweddol 1. Key Issues
Peirianneg Uned 2 Hydref 2015 Mewnosod enw cyflwynwr.
Gweledigaeth ac athroniaeth
Presentation transcript:

Gweledigaeth ac athroniaeth Yn cynnwys hanes, daearyddiaeth, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Dull gweithredu holistaidd, integredig a rhyngddisgyblaethol. Trylwyredd ac arbenigedd yng Ngham Cynnydd 5 yn paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaethau pellach. Datblygu ymdeimlad o dreftadaeth a lle trwy eu cynefin, Cymru ac fel rhan o’r byd ehangach. Cwmpasu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, gan gynnwys rôl dysgwyr fel dinasyddion. Fel y nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus, mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn cynnwys hanes, daearyddiaeth, addysg grefyddol, busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Cynefin – mae'n fwy na dim ond lle yn yr ystyr ffisegol neu ddaearyddol – mae'n rhywle hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol, sydd wedi llywio'r gymuned sy'n byw yno, ac sy'n parhau i'w llywio. Yn seiliedig ar ymchwil i fodelau cwricwlwm rhyngwladol, tystiolaeth a phrofiadau athrawon, lluniwyd Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau mewn modd cyfannol, a dylid ei ystyried yn y modd hwnnw. Felly, lluniwyd datganiadau yr hyn sy'n bwysig mewn modd rhyngddisgyblaethol, ac, o bosibl, integredig. Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn rhagweld y bydd dysgwyr yn cynnal lefel o ddealltwriaeth eang pan fyddant yn 14 i 16 oed, gan ganiatáu hefyd ar gyfer arbenigo mewn un ddisgyblaeth neu fwy. Er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn gallu dilyn astudiaethau Safon Uwch ac addysg uwch mewn pynciau penodol, daw'r disgyblaethau'n fwy amlwg ar Gam cynnydd 5. Mae cwricwlwm y Dyniaethau hefyd yn ceisio annog dysgwyr i feithrin ymdeimlad o berthyn a lle, ynghyd â dealltwriaeth o'u hardal leol, a'u treftadaeth. Mae cynnwys astudiaethau cymdeithasol yn y cwricwlwm wedi arwain at ffocws cynyddol yn y Dyniaethau ar ddinasyddiaeth a gweithredu cymdeithasol. Mae'r rhain yn gysyniadau allweddol mewn astudiaethau cymdeithasol. Yn wir, mae rôl y cysyniadau'n bwysig ar draws cwricwlwm cyfan y Dyniaethau. Dylid ailedrych ar y cysyniadau allweddol yn rheolaidd, a hynny mewn modd mwy manwl, cymhleth a soffistigedig. Mae canllawiau ar gael ar gyfer dewis cynnwys ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

Y rhesymeg o blaid newid Mae ymreolaeth, hyblygrwydd a chreadigrwydd yn arwain at ddysgu dilys. Mae dull gweithredu rhyngddisgyblaethol yn cefnogi datblygu gwybodaeth a sgiliau. Mae cysylltu profiadau, gwybodaeth a sgiliau yn arwain at gyfleoedd cyfoethog. Mae’n ymgorffori astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae addysg grefyddol yn y cwricwlwm yn caniatáu ar gyfer cydraddoldeb. Un o egwyddorion Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yw y dylai fod gan ymarferwyr ymreolaeth i benderfynu ar y cynnwys penodol a addysgir yn y Dyniaethau. Mae'r ymreolaeth hon yn eu galluogi i addasu'r cynnwys i ddiwallu anghenion gwahanol y dysgwyr, gan sicrhau hyblygrwydd a mwy o gyfleoedd i'r dysgwyr lywio eu dysgu, a chyfrannu ato. Fodd bynnag, dylai'r broses o gynllunio cwricwla ysgolion sicrhau y caiff cyd-destunau a phrofiadau'r dysgwyr o'u hardal leol ac o Gymru eu hystyried yn rhan bwysig a chreiddiol o'r gwaith cynllunio. Gellir archwilio pynciau'r Dyniaethau ym mhob datganiad yr hyn sy'n bwysig. Dylai ysgolion greu cysylltiadau rhwng datganiadau yr hyn sy'n bwysig a phynciau'r Dyniaethau. Mae astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol yn bynciau newydd yn y cwricwlwm sy'n cyfoethogi profiadau'r dysgwyr yn y Dyniaethau. Yng nghwricwlwm y Dyniaethau, ystyrir bod astudiaethau busnes yn canolbwyntio ar rôl, effaith a phwysigrwydd busnesau, ynghyd â rôl economaidd bosibl a gwirioneddol unigolyn. Ystyriwyd bod astudiaethau cymdeithasol yn y maes dysgu a phrofiad hwn yn ymdrin â materion cymdeithasol cyfredol, deall strwythurau cymdeithasol, amrywiaeth ddiwylliannol, a chysyniadau gweithredu cymdeithasol a dinasyddiaeth.

Sut mae’n wahanol? Holistaidd a rhyngddisgyblaethol. Disgyblaethau yn fwy gweladwy o Gam cynnydd 4. Mwy o bwysigrwydd ar brofiadau dilys. Canolbwyntio ar ddinasyddiaeth fyd-eang a chymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol. Ymwneud ag astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol yn gynt. Cydbwysedd rhwng astudiaethau lleol, Cymreig/Prydeinig a byd-eang. Cynnwys addysg grefyddol a’i wneud yn statudol ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed. Mae cwricwlwm y Dyniaethau yn canolbwyntio ar gyd-destunau go iawn, materion cyfoes a pherthnasol, ac yn rhoi'r hyblygrwydd i ymateb i faterion cyfoes. Mae gan ddysgwyr yr hawl i gyfoethogi eu dysgu drwy brofiadau uniongyrchol. Bydd cysyniadau astudiaethau busnes/astudiaethau cymdeithasol yn cael eu cynnwys mewn cwricwlwm ehangach i ddysgwyr o oedran llawer cynharach nag sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae addysg grefyddol bellach wedi'i chynnwys yn y cwricwlwm, ynghyd â fframwaith ategol.

Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Dyniaethau Mae'r datganiadau yr hyn sy’n bwysig hynny yn gysylltiedig ac ni fwriedir iddynt gael eu trin ar wahân. Mae datblygu meddwl ymchwilgar yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymchwilio i’r byd, y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, drostynt nhw eu hunain. Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth ac yn cael eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi ei ddylanwadu gan brosesau ffisegol a gweithredoedd dynol. Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac amrywiol, ac yn cael eu llunio gan weithredoedd a chredoau dynol. Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau moesegol a chynaliadwy. Datganiadau yr hyn sy'n bwysig  Mae'r rhain yn gysylltiedig, ac ni fwriedir iddynt gael eu cymryd ar wahân. Mae uned waith, neu gwestiwn allweddol, yn debygol o gwmpasu sawl un o ddatganiadau yr hyn sy'n bwysig. Datblygu meddwl chwilfrydig ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â dysgu am sgiliau ymholi, eu meithrin a'u cymhwyso, yn ogystal â defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth. Mae'n ymwneud â methodoleg pynciau'r Dyniaethau. Fodd bynnag, nid yw'n ymwneud yn gyfan gwbl â'r broses ymholi. Dylai annog dull o ddarganfod a chwestiynu, gan gynnwys y parodrwydd i ofyn cwestiynau pwysig am y dyniaethau. Digwyddiadau a phrofiadau dynol ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â deall sut a pham y mae dehongliadau gwahanol o bobl a digwyddiadau wedi dod i'r amlwg, ystyried yr amrywiaeth o ffactorau sy'n effeithio ar y modd y mae pobl yn llunio eu dehongliadau a'u safbwyntiau eu hunain, a'r ffyrdd gwahanol y cânt eu cyflwyno. Mae'n annog y dysgwyr i gwestiynu dilysrwydd dehongliadau, ac i feithrin ymagwedd feirniadol. Mae ein byd naturiol yn amrywiol ac yn ddynamig ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â deall y rhyngberthynas rhwng pobl a'r byd naturiol. Mae hyn yn cynnwys yr effaith y mae'r byd naturiol wedi ei chael arnom ni, a'r effaith yr ydym ni wedi ei chael ar y byd naturiol. Mae'n annog y dysgwyr i ystyried cwestiynau moesol a moesegol am gyfrifoldeb pobl dros y byd naturiol. Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â natur a dynameg cymdeithasau, y modd y mae cymdeithasau wedi newid dros amser, a'r modd y mae pobl wedi byw mewn ffyrdd gwahanol ar adegau gwahanol ac mewn lleoedd gwahanol. Mae'n galluogi'r dysgwyr i archwilio crefyddau a safbwyntiau'r byd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae'r cysyniadau allweddol yn cynnwys cronoleg, newid a pharhad, achos a chanlyniadau. Dinasyddion gwybodus a hunanymwybodol ... – Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â deall yr heriau y mae'r ddynoliaeth yn eu hwynebu, er enghraifft y newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd, eithafiaeth, gwrthdaro, a'r cyfleoedd sydd gennym i ymateb i'r heriau hyn. Yn bwysicaf oll, mae'n ymwneud â defnyddio'r hyn a ddysgwyd – deall ein rolau a'n cyfrifoldebau mewn cymdeithas a chymryd camau gwybodus ac ystyriol i lywio'r hyn a allai fod, yn hytrach na'i dderbyn yn oddefol ar ei ffurf bresennol.

Sut gyrhaeddon ni yma? Dull gweithredu Ystyried modelau cwricwlwm rhyngwladol. Comisiynu papurau gan arbenigwyr. Nodi sgiliau, cysyniadau a themâu cyffredin. Nodi meysydd eang er mwyn llunio datganiadau yr hyn sy’n bwysig. Datblygu’r prif gysyniadau a’r themâu disgyblaethol fel rhan o ddatganiadau yr hyn sy’n bwysig. Adborth gan arbenigwyr a rhanddeiliaid. Cefnogaeth gan CAMAU o ran cynnydd. Sut yr ydym wedi cyrraedd y man hwn? Ystyriwyd modelau cwricwlwm rhyngwladol. Comisiynwyd papurau gan arbenigwyr ar bob maes disgyblaeth, yn ogystal â'r Dyniaethau yn gyffredinol. Nodwyd cysyniadau, sgiliau a themâu cyffredinol ar draws y Dyniaethau. Nodwyd meysydd eang er mwyn llunio sail Yr Hyn sy'n Bwysig. Datblygwyd cysyniadau a themâu disgyblaethol allweddol o fewn pob datganiad yr hyn sy'n bwysig cyffredinol. Defnyddiwyd adborth gan arbenigwyr a rhanddeiliaid i fireinio datganiadau yr hyn sy'n bwysig a datblygu cynnydd. Cafodd y grŵp gymorth gan arbenigwyr CAMAU i ddatblygu cynnydd.

Cyfraniadau gan arbenigwyr Arbenigwyr disgyblaethol E Jones – The Essentials of History (2017). C Sinnema – Social Studies in the Welsh Curriculum (2017). C Jones – Business and the Economy in the Welsh Curriculum (2017); Nation Cymru (2018). E Rawling – gwaith wedi’i gomisiynu ar y cwriclwlm daearyddiaeth (2017). G Millar – Geographical association and its contribution to ‘Big Ideas’. C Jones – Making Sense of Ourselves and Others (2017). P Sutch – Politics and the Humanities (2018). G Donaldson – Dyfodol Llwyddiannus (2015). B Wintersgill – Big Ideas for Religious Education. Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAGau). Estyn a Cymwysterau Cymru. Mae'r arloeswyr wedi defnyddio cwricwla rhyngwladol a mewnbwn gan arbenigwyr. Mae arbenigwyr wedi darparu papurau a gomisiynwyd, ac wedi rhoi adborth a chyngor i'r grŵp ar adegau penodol yn ystod y broses.

Tystiolaeth a chyfraniad gan arbenigwyr Ystyried cwricwla eraill: Awstralia. Columbia Brydeinig, Canada. Ontario, Canada. Y Ffindir. Seland Newydd. Yr Alban. Singapôr. Mae'r arloeswyr wedi defnyddio cwricwla rhyngwladol a mewnbwn gan arbenigwyr. Mae arbenigwyr wedi darparu papurau a gomisiynwyd, ac wedi rhoi adborth a chyngor i'r grŵp ar adegau penodol yn ystod y broses.

Ystyriaethau i ysgolion Sut bydd eich arweinwyr, ymarferwyr a rhwydweithiau’n gallu paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf o gyd-greu a rhoi adborth ystyrlon? Beth, os o gwbl, yw’r goblygiadau o ran adnoddau (cenedlaethol a lleol)? Sut y gallwch chi ddefnyddio dull ysgol gyfan a/neu rhyng-adrannol i sicrhau bod pawb yn: – gwybod am y cwricwlwm newydd? – deall sut i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?