Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth Wedi’u datblygu a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag ysgolion, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ERW Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth Dolen gyswllt ar-lein i gyflwyniad byr https://www.youtube.com/watch?v=kOh9vAEkXm4 Leadership Development Opportunities at UWTSD
Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS Beth sydd ar gynnig? Rhaglen datblygu arweinyddiaeth hyblyg, arloesol sy’n canolbwyntio ar arfer ac sy’n darparu achrediad gan brifysgol ar; Lefel 6 - Tystysgrif Dysgu Proffesiynol i Raddedigion Lefel 7 - MA Addysg (Arweinyddiaeth, Dysgu ac Addysgu, Cydraddoldeb mewn Addysg) Cyfle i athrawon ymgysylltu â dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar wella eu gwybodaeth a sgiliau arweinyddiaeth generig ynghyd â darparu llwybrau i’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn arwain dysgu ac addysgu a chydraddoldeb mewn addysg. Ceir hefyd o fewn MA Addysg llwybrau ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn anghenion dysgu ychwanegol (ALN) ac Iaith a Llythrennedd Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Pam y dylai athrawon ymgysylltu â’r rhaglen hon ? Mae’n darparu llwybr hyblyg sy’n ymwneud yn agos ag arfer; mae’n cydnabod ac yn achredu arfer ysgol-seiliedig. Mae’n galluogi athrawon i symud ymlaen yn gyflym i achrediad lefel 7 (Meistr) mewn ffordd gefnogol a strwythurol y gellir ei haddasu yn ôl yr angen; Dyluniwyd a chaiff ei chyflwyno mewn partneriaeth ag ysgolion er mwyn sicrhau mai’r arfer gorau posib yw craidd y dysgu, a chaiff hwn ei rannu drwy gydol y rhaglen. Caiff ei hysbysu gan ymchwil a gwnaiff gefnogi athrawon wrth iddynt ymgysylltu ag arfer wedi ei seilio ar dystiolaeth, ymchwil ac adfyfyrio beirniadol; Oherwydd gwaith athrawon cyfrannog, bwriad y rhaglen yw effeithio ar ddeilliannau dysgwyr ac ar wella ysgolion. Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Beth y disgwylir o gyfranogwyr? Eu presenoldeb mewn sesiynau ysgol-seiliedig lle y byddant yn ymgysylltu â sesiynau a gyflwynir gan ysgolion croesawu a thiwtoriaid prifysgol; Cymryd rhan mewn Ymweliadau Dysgu drwy ymweld ag ysgolion eraill er mwyn ymwneud ag, ac adfyfyrio ar arfer effeithiol. Rhyngweithio a dysgu mewn Grwpiau Ymddiried sy’n darparu cefnogaeth ar gyfer ac yn herio cyfoedion, yn ogystal â darparu cyfleoedd rhannu arfer. Cwblhau aseiniadau sydd yn bennaf yn canolbwyntio ar y cyfrifoldebau ac arferion gwaith sydd eisoes yn bodoli; mae’r rhain yn gysylltiedig â thasgau gwella ysgolion ac yn adlewyrchu cyd-destunau a heriau penodol ysgolion. Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Beth yw manteision bod yn rhan o’r rhaglen o safbwynt yr unigolyn? Cyfle i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol ac ennill achrediad Prifysgol ar lefel Meistr; Datblygiad proffesiynol a wnaiff eich helpu gyda dyrchafiad a chymryd ymlaen cyfrifoldebau arweinyddiaeth – gan gynnwys dysgu ac addysgu; Alinio gyda’r Safonau Arweinyddiaeth Cenedlaethol i’ch cefnogi wrth i chi wneud cynnydd yn eich gyrfa; Cyfle i ehangu eich mewnwelediad o ran arfer effeithiol a chael effaith yn eich ystafell ddosbarth a’ch ysgol; Ymgymryd â rhaglen unigryw sy’n cyfuno arfer rhagorol, fframwaith academaidd ar gyfer dysgu ac achrediad, ynghyd ag ysgolion yn dysgu oddi wrth ysgolion a dysgu cyfoedion. Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Beth yw manteision bod yn rhan o’r rhaglen o safbwynt yr ysgol? Gwell gynhwysedd o ran gyrru ymlaen mentrau gwella ysgolion; Athrawon ac arweinwyr sydd â’r wybodaeth o ran arfer effeithiol, ymchwil a’r sgiliau i achosi gwelliant; Deilliannau dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â pholisïau allweddol Llywodraeth Cymru, megis Dyfodol Llwyddiannus, Cymwys am Oes ac Ailysgrifennu’r Dyfodol; Staff brwdfrydig, cryf eu cymhelliad sy’n ymwneud ag ymchwil ac arfer arloesol ac sydd am arwain gwella ysgolion. Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS Beth yw’r costau? Ar gyfer y Dystysgrif i Raddedigion - £350 y modwl Ar gyfer MA Addysg - £375 y modwl Dylai ysgolion neu grwpiau a hoffai gomisiynu rhaglenni neu fodylau penodol gysylltu â’r Brifysgol er mwyn trafod costau. Lesley Morgan, Gweinyddwr Dysgu Proffesiynol – lesley.morgan@uwtsd.ac.uk 01792 482070 Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS
Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS Y Camau nesaf ? Ymgeisiwch drwy gysylltu â Lesley Morgan (lesley.morgan@uwtsd.ac.uk) neu drwy gwblhau’r ffurflen sydd ar wefan ERW Dewch o hyd i fwy o wybodaeth a rhestr gyflawn o fodylau ar wefan PCYDDS http://www.uwtsd.ac.uk/education-and-commnuities/centre-for- continuing-professional-learning-and-development / neu wefan ERW Cysylltwch â Lesley er mwyn trefnu trafodaeth gyda thiwtoriaid y brifysgol Darllenwch am y rhaglenni yn y dogfennau canlynol; Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth: Gwybodaeth ar gyfer Prifathrawon Darganfyddwch Ddysgu Proffesiynol: Arweinyddiaeth Cyfleoedd Datblygu Arweinyddiaeth yn PCYDDS