Addysg heblaw yn yr ysgol Education other than at school EOTAS
Cefndir Background Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn cynnwys unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), gwersi unigol, gwersi grŵp, Porth Ieuenctid, darpariaeth annibynnol, addysg yn gysylltiedig â gwaith a darpariaeth gan sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar addysg heblaw yn yr ysgol a ddarperir fel y cyfan o addysg disgyblion, neu brif ran ohoni. • Education other than at school (EOTAS) includes pupil referral units (PRUs), individual tuition, group tuition, Youth Gateway, independent provision, work- related education and provision by voluntary and community organisations. The report focuses on EOTAS that is provided as all or a main part of pupils’ education.
Cefndir Background Mae’r adroddiad hwn yn ystyried deilliannau ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol a’r mathau o ddarpariaeth, cwricwlwm a’r cymwysterau a gânt. Mae hefyd yn trafod y trefniadau ar gyfer cynllunio, rheoli, monitro ac arfarnu addysg heblaw yn yr ysgol. This report considers outcomes for pupils receiving EOTAS and the types of provision, curriculum and qualifications they receive. It also discusses the arrangements for planning, managing, monitoring and evaluating EOTAS.
Prif ganfyddiadau Main findings At ei gilydd, nid yw darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yn rhoi’r un cyfle i ddisgyblion elwa ar eu hawliau addysg â’u cyfoedion. Nid yw disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol fel arfer yn cael cyfle i elwa ar gwricwlwm eang a chytbwys sy’n eu galluogi i ennill cymwysterau sy’n bodloni eu hanghenion ac yn cyflawni eu potensial. Mae’r diffyg hwn yn golygu bod disgyblion yn colli agweddau pwysig ar addysg sy’n gallu effeithio ar eu cyfleoedd i gael cyflogaeth a hyfforddiant yn y dyfodol. Overall, EOTAS provision does not give pupils the same access to their education entitlements as their peers. Pupils receiving EOTAS do not usually have access to a broad and balanced curriculum that enables them to gain qualifications that meet their needs and potential. This shortfall means that pupils miss out on important aspects of education which can impact on their future chances of employment and training. .
Prif ganfyddiadau Main findings Mae diffyg adnoddau, cyfleusterau a staff arbenigol ar gyfer pynciau fel gwyddoniaeth yn cyfyngu ar y cwricwlwm i ormod o’r disgyblion hyn. Nid yw disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol bob amser yn cael yr addysg amser llawn y mae ganddynt hawl iddi. Caiff y rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n cael gwersi gartref neu wersi grŵp eu haddysgu am uchafswm o ddeg awr yr wythnos ac maent yn dilyn cwricwlwm cyfyngedig. A lack of specialist resources, facilities and staff for subjects such as science limits the curriculum for too many of these pupils. Pupils receiving EOTAS do not always receive the full‑time education to which they are entitled. Most pupils receiving home or group tuition are educated for a maximum of ten hours a week and follow a restricted curriculum.
Prif ganfyddiadau Main findings Mae disgyblion sydd wedi bod yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y gorffennol yn cael cyfleoedd eithriadol o gyfyngedig i barhau â’u dysgu yn Gymraeg pan fyddant yn dechrau addysg heblaw yn yr ysgol. Nid yw disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn aml yn cael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt, hyd yn oed pan fydd hyn wedi ei nodi mewn datganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae anawsterau o ran gwneud yn siwr bod disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn manteisio ar arbenigedd CAMHS a bod staff yn cael cyngor arbenigol mewn perthynas â chynorthwyo disgyblion ag anghenion iechyd meddwl. Pupils who have previously been attending Welsh‑medium schools have extremely limited opportunities to continue their learning in Welsh when they start EOTAS. Pupils with additional learning needs do not often receive the specialist support they need, even when this is set out in a statement of special educational needs. There are difficulties making sure that pupils receiving EOTAS access the expertise of the CAMHS and that staff get specialist advice in relation to supporting pupils with mental health needs.
Prif ganfyddiadau Main findings Mae bron pob un o’r disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn aros mewn addysg heblaw yn yr ysgol am weddill eu gyrfa ysgol. Caiff llawer o ddisgyblion sy’n astudio cyrsiau galwedigaethol eu cymell i wneud yn dda, dysgu’r medrau sydd eu hangen i elwa ar ragor o hyfforddiant neu waith ac ennill cymwysterau sy’n berthnasol. Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu perthnasoedd da gyda staff ac mae’r rhain yn eu helpu i wella eu hymddygiad. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n parhau i fod yn ffrindiau â disgyblion o’u hysgolion prif ffrwd. Nearly all pupils who receive EOTAS in Years 10 and 11 remain in EOTAS for the rest of their school career. Many pupils who study vocational courses are motivated to do well, learn the skills needed to access further training or work and gain qualifications that are relevant. Many pupils develop good relationships with staff and these help them to improve their behaviour. Very few pupils continue to be friends with pupils from their mainstream schools.
Prif ganfyddiadau Main findings Mae diffyg dealltwriaeth ynglŷn â’r gofynion cofrestru ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol Mae ychydig iawn o benaethiaid, sydd â disgyblion sydd â chofrestriad deuol sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol ym Mlwyddyn 11, yn eu tynnu oddi ar gofrestr yr ysgol ym mis Ionawr, sy’n golygu nad yw eu cyrhaeddiad yn cyfrif yn nata perfformiad yr ysgol. Nid yw’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn monitro na goruchwylio addysg heblaw yn yr ysgol na darpariaeth amgen yn ddigon trylwyr. Ychydig iawn ohonynt sy’n gwybod faint o ddisgyblion sy’n manteisio ar ddarpariaeth amser llawn oddi ar y safle a gomisiynir yn uniongyrchol gan ysgolion. There is a lack of understanding about the registration requirements for pupils receiving EOTAS A very few headteachers, who have dual registered pupils receiving EOTAS in Year 11, remove them from the register of the school in January which means their attainment does not count in the school’s performance data. Most local authorities do not monitor or oversee EOTAS or alternative provision robustly enough. Very few know how many pupils are accessing full-time offsite alternative provision directly commissioned by schools.
Prif ganfyddiadau Main findings Nid yw prosesau cyfeirio yn gwneud yn siwr bod gwybodaeth am asesu a gwybodaeth arall yn cael ei throsglwyddo’n brydlon o’r ysgol i’r darparwr addysg heblaw yn yr ysgol. At ei gilydd, nid yw awdurdodau lleol yn olrhain cynnydd parhaus disgyblion yn ddigon da i sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni ei botensial. Maent yn monitro presenoldeb, ymddygiad ac yn cofnodi’r cymwysterau a enillwyd, ond nid ydynt yn monitro cynnydd disgyblion yn erbyn targedau dysgu. Mewn rhai achosion, ni ddilynir gweithdrefnau i olrhain prydlondeb a phresenoldeb dyddiol a sicrhau diogelwch disgyblion. Referral processes do not make sure that assessment and other information is transferred promptly from school to the EOTAS provider. Overall, local authorities do not track the ongoing progress of pupils well enough to ensure all pupils meet their potential. They monitor attendance, behaviour and record qualifications gained, but they do not monitor pupils’ progress against learning targets. In a few cases, procedures to track pupils’ daily punctuality and attendance and to ensure pupils’ safety are not followed.
Prif ganfyddiadau Main findings Ychydig iawn o athrawon addysg heblaw yn yr ysgol, yn enwedig y rheiny a gyflogir gan ddarparwyr annibynnol, sy’n gallu manteisio ar hyfforddiant a chymorth a fyddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr arfer ddiweddaraf a gofynion y cwricwlwm. Nid ydynt fel arfer yn gwybod ble i fynd i gael y cyngor gorau neu weld arfer dda. Nid yw awdurdodau lleol yn annog eu hathrawon arbenigol a’u seicolegwyr addysg i rannu eu harbenigedd â darparwyr annibynnol addysg heblaw yn yr ysgol. Very few teachers of EOTAS, especially those employed by independent providers, have access to training and support that would keep them up-to-date with the latest practice and curriculum requirements. They do not usually know where to go to get the best advice or to see good practice. Local authorities do not encourage their specialist teachers and educational psychologists to share their expertise with independent providers of EOTAS.
Prif ganfyddiadau Main findings Nid yw lleiafrif o awdurdodau lleol yn comisiynu addysg heblaw yn yr ysgol amser llawn ar gyfer grwpiau mawr o ddisgyblion o ddarparwyr nad ydynt wedi eu cofrestru fel ysgolion annibynnol. Mae mwyafrif yr awdurdodau lleol yr ymwelwyd â nhw yn cynnal unedau cyfeirio disgyblion anghofrestredig. Maent yn gweithredu canolfannau dysgu a chanolfannau eraill anghofrestredig i ddarparu addysg am hyd at 25 awr yr wythnos. A minority of local authorities commission full-time EOTAS for large groups of pupils from providers that are not registered as independent schools. The majority of local authorities visited maintain unregistered pupil referral units. They operate tuition centres and other non-registered centres to provide education for up to 25 hours a week.
Prif ganfyddiadau Main findings Nid yw aelodau etholedig yn ymwybodol o bob agwedd ar addysg heblaw yn yr ysgol y maent yn gyfrifol amdanynt. Maent yn ansicr ynghylch pa mor dda y mae disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn gwneud cynnydd neu faint y mae’r awdurdod lleol yn ei wario ar addysg heblaw yn yr ysgol. Nid ydynt yn gwybod a yw’r disgyblion a gafodd addysg heblaw yn yr ysgol yn mynd ymlaen i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant. Nid ydynt yn gwybod a yw’r addysg heblaw yn yr ysgol a ddarperir ganddynt yn effeithiol neu’n rhoi gwerth am arian. Elected members are unaware of all the aspects of EOTAS for which they are responsible. They are unsure about how well pupils receiving EOTAS progress or how much the local authority spends on EOTAS. They do not know if the pupils who received EOTAS go on to further education, employment or training. They do not know whether the EOTAS they provide is effective or gives value for money
Argymhellion Recommendations The Welsh Government should: Dylai Llywodraeth Cymru: A1 gryfhau arweiniad i awdurdodau lleol ac ysgolion ynglŷn â’r gofyniad i: roi gwybod i Lywodraeth Cymru am yr holl addysg heblaw yn yr ysgol y maent yn ei darparu neu’n ei chomisiynu, gan gynnwys canolfannau dysgu, unedau cyfeirio disgyblion a darpariaeth annibynnol cynnal cofnodion o’r holl ddisgyblion sy’n cael darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, a’r rheiny sy’n cael darpariaeth amgen wedi ei threfnu gan ysgolion yn annibynnol ar eu hawdurdod lleol cynnal cofnodion o niferoedd y disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol sy’n mynd ymlaen i fod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NACH) The Welsh Government should: R1 strengthen guidance to local authorities and schools regarding the requirement to: notify the Welsh Government of all EOTAS they provide or commission, including tuition centres, pupil referral units and independent provision maintain records of all pupils receiving EOTAS provision, and those who receive alternative provision arranged by schools independently of their local authority maintain records of the numbers of pupils receiving EOTAS who go on to become not in education, employment or training (NEETS)
Argymhellion Recommendations improve accessibility to Community and Mental Health Service (CAMHS) and other specialist agencies for pupils who receive EOTAS R2 publish attainment and attendance data for EOTAS learners at local authority level R3 consider revising the threshold for providers to register as independent schools gwella hygyrchedd i Wasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl (CAMHS) ac asiantaethau arbenigol eraill ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol A2 cyhoeddi data cyrhaeddiad a phresenoldeb ar gyfer dysgwyr sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol ar lefel awdurdod lleol A3 ystyried diwygio’r trothwy i ddarparwyr gofrestru fel ysgolion annibynnol
Argymhellion Recommendations Dylai awdurdodau lleol: A4 roi gwybod i Lywodraeth Cymru am yr holl ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol y maent yn ei chynnig neu’n ei chomisiynu A5 gwirio’n ofalus statws cofrestru pob darparwr y maent yn ei ddefnyddio i sicrhau bod y ddarpariaeth y maent yn ei chomisiynu wedi ei chofrestru fel ysgol annibynnol gyda Llywodraeth Cymru, lle bo’n briodol A6 sicrhau bod ysgolion yn deall gweithdrefnau cyfeirio ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol a’u bod yn cynnwys y gofyniad ar gyfer gwybodaeth asesu a gwybodaeth arall i drosglwyddo’n brydlon o’r ysgol i’r darparwr addysg heblaw yn yr ysgol Local authorities should: R4 notify the Welsh Government of all EOTAS provision they provide or commission R5 check carefully the registration status of each provider they use to ensure that, where appropriate, provision that they commission is registered as an independent school with the Welsh Government R6 ensure that EOTAS referral procedures are understood by schools and include the requirement for assessment and other information to transfer promptly from school to EOTAS provider
Argymhellion Recommendations A7 monitro ansawdd yr holl ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol a ddarperir neu a gomisiynir ar gyfer disgyblion yn eu hawdurdod lleol, gan gynnwys y ddarpariaeth a drefnir gan ysgolion neu drwy Rwydweithiau 14 – 19 A8 darparu addysg addas i ddisgyblion o fewn 15 diwrnod o wneud penderfyniad y dylent gael addysg heblaw yn yr ysgol A9 darparu cwricwlwm amser llawn ar gyfer yr holl ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol sy’n bodloni eu hanghenion, yn eu galluogi i gyflawni eu potensial ac yn sicrhau eu bod yn cael eu hailintegreiddio, ble bynnag y bo modd A10 darparu addysg heblaw yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion sydd wedi cael eu haddysg yn Gymraeg R7 monitor the quality of all EOTAS provision provided or commissioned for pupils in their local authority, including that arranged by schools or through 14 – 19 Networks R8 provide pupils with suitable education within 15 days of a decision being made that they should receive EOTAS R9 provide all pupils receiving EOTAS with a full time curriculum that meets their needs, enables them to achieve their potential and ensures they are re-integrated wherever possible R10 provide Welsh‑medium EOTAS for pupils who have received their education in Welsh
Argymhellion Recommendations A11 bodloni’r gofyniad statudol i sicrhau bod disgyblion â datganiad o angen addysgol arbennig yn cael y cymorth a nodwyd ar eu datganiad neu’u Cynllun Datblygu Unigol. A12 rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i aelodau etholedig am addysg heblaw yn yr ysgol i’w galluogi i farnu ei heffeithiolrwydd a’i gwerth am arian R11 meet the statutory requirement to ensure pupils with a statement of special educational need receive the support noted on their statement or Individual Development Plan. R12 provide elected members with all the information they need about EOTAS to enable them to judge its effectiveness and value for money
Argymhellion Recommendations Dylai ysgolion: A13 weithio’n agos â’u hawdurdod lleol a rhoi gwybodaeth amserol gynhwysfawr iddynt am yr holl ddisgyblion y maent yn eu cyfeirio ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol a darpariaeth amgen, gan gynnwys trwy Rwydweithiau 14 – 19 A14 gwirio statws cofrestru pob darparwr y maent yn ei ddefnyddio yn ofalus a gwirio p’un a ddylent gofrestru os nad ydynt eisoes wedi gwneud A15 sicrhau bod darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol sy’n addysgu disgyblion o’u hysgol yn cael gwybodaeth o ansawdd da am anghenion dysgu ac ymddygiad disgyblion Schools should: R13 work closely with their local authority and provide them with comprehensive timely information about all pupils they refer for EOTAS and alternative provision, including through 14 – 19 Networks R14 check carefully the registration status of each provider they use and check whether they should be registered if they are not R15 ensure providers of EOTAS who are educating pupils from their school receive good quality information about pupils’ learning and behaviour needs
Argymhellion Recommendations A16 cadw mewn cysylltiad â disgyblion o’u hysgolion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, monitro eu cynnydd, gan gynnwys perfformiad academaidd, a’u hailintegreiddio ble bynnag y bo modd A17 gweithio’n agos â darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol i sicrhau parhad y cwricwlwm ar gyfer disgyblion o’u hysgol R16 keep in touch with pupils from their schools receiving EOTAS, monitor their progress, including academic performance, and re-integrate them wherever possible R17 work closely with EOTAS providers to ensure curriculum continuity for pupils from their school
Arfer orau Best practice Trwy ganolfan ar gyfer gweithgareddau awyr agored, gall disgyblion gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored yn ogystal â datblygu cymorth cyntaf a medrau perthnasol eraill. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn hyfforddiant cymhellol heriol ac yn ennill cymwysterau. Mae’r profiadau fel caiacio a dringo, yn cefnogi datblygiad eu medrau galwedigaethol, eu hyder a’u hunan-barch. Mae disgyblion yn dysgu cymryd cyfrifoldeb ac yn datblygu’r hyder angenrheidiol ar gyfer arwain pobl eraill. Yn aml, mae angen gwaith tîm mewn gweithgareddau. Yn 2015, llwyddodd y pymtheg disgybl a fynychodd i ennill yr hyn sydd gyfwerth â 39 cymhwyster TGAU ar gyfer eu dysgu ar draws ystod o weithgareddau awyr agored a gweithgareddau cysylltiedig yn y ganolfan. Llwyddodd tri disgybl i gael gwaith yn y ganolfan. Through a centre for outdoor pursuits, pupils access a wide range of outdoor activities as well as developing first aid and other relevant skills. Pupils take part in challenging motivational training and gain qualifications. The experiences, such as kayaking and climbing, support the development of their vocational skills, confidence and self-esteem. Pupils learn to take responsibility and develop the confidence required for leadership of others. Activities often require teamwork. In 2015, the fifteen pupils who attended gained the equivalent of thirty-nine GCSEs for their learning across a range of outdoor and associated activities at the centre. Three pupils gained work at the centre. .
10 questions for local authorities, school leaders and EOTAS providers 10 cwestiwn i awdurdodau lleol, arweinwyr ysgol a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol 10 questions for local authorities, school leaders and EOTAS providers Are we sure that what we provide meets the needs of pupils receiving EOTAS? Do we provide pupils receiving EOTAS with the same entitlement to education as their peers, including Welsh-medium provision? Do we motivate pupils to attend well and learn through providing interesting experiences? Are we making sure that pupils receiving EOTAS have the very best chances of going on to training or gaining a job? A ydym ni’n siwr fod yr hyn rydym yn ei ddarparu yn bodloni anghenion disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol? A ydym ni’n rhoi’r un hawl i addysg i ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol â’u cyfoedion, gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg? A ydym ni’n cymell disgyblion i fynychu’n dda a dysgu trwy brofiadau diddorol? A ydym ni’n gwneud yn siwr bod disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn cael y cyfleoedd gorau posibl i fynd ymlaen i hyfforddiant neu gael swydd?
10 questions for providers 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers A ydym ni’n gwneud ein gorau i wneud yn siwr bod disgyblion yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr pwnc a fydd yn gwneud dysgu’n hygyrch ac yn cynorthwyo disgyblion i ennill cymwysterau priodol? A ydym ni’n gwybod ble mae pob un o’n disgyblion yn cael eu haddysgu, am faint o oriau, gyda phwy a pha mor dda y maent yn dod yn eu blaenau? Sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd yn well i gynllunio, rheoli, monitro ac arfarnu addysg heblaw yn yr ysgol yn ein hawdurdod lleol ac ar draws y rhanbarth? A ydym ni’n sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol am ddisgyblion yn cael ei throsglwyddo i ddarparwyr addysg heblaw yn yr ysgol mewn pryd iddynt gynllunio’n briodol ar gyfer eu hanghenion? Are we doing our best to make sure that pupils are taught by subject specialists who will make learning accessible and support pupils to gain appropriate qualifications? Do we know where all our pupils are being educated, for how many hours, with whom and how well they are progressing? How can we work together better to plan, manage, monitor and evaluate EOTAS in our local authority and across the region? Do we ensure that all relevant information about pupils is transferred to EOTAS providers in time for them to plan appropriately for their needs?
10 questions for providers 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers Sut ydym ni’n gwneud yn siwr bod disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn cael cymorth arbenigol priodol, er enghraifft mewn perthynas â’u hanghenion addysgol arbennig neu’u hanghenion iechyd meddwl? Sut ydym ni’n sicrhau datblygiad proffesiynol effeithiol ar gyfer staff mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol? How do we make sure that pupils receiving EOTAS have appropriate specialist support, for example in relation to their special educational needs or mental health needs? How do we ensure effective professional development for staff in EOTAS provision?