Mae blwch chwilio syml tebyg i un Google ar y dudalen gartref sy'n eich galluogi i chwilio am eiriau o fewn testun erthygl, a bydd y gosodiadau diofyn yn chwilio testun cyfan yr holl bapurau newydd.
Gallwch hefyd osod meini prawf mwy penodol a mireinio eich chwiliad ar y dudalen gartref i unrhyw gyfuniad o bapurau newydd gwahanol, blynyddoedd penodol ac/neu i gategorïau penodol o erthyglau.
Wedi chwilio am…”Cymru” a “milwr” Teitl yr erthygl Teitl y papur newydd, y dyddiad a rhif y dudalen Nifer y geiriau yn nhestun yr erthygl Mae’r canlyniadau chwilio yn rhestru unrhyw erthyglau sy’n cyd-fynd â’ch chwiliad ac yn cynnwys peth gwybodaeth ychwanegol i’ch cynorthwyo i benderfynu a ydynt yn berthnasol neu beidio.
Defnyddiwch y panel ar yr ochr chwith i newid ac addasu y ffordd rydych yn chwilio. Er enghraifft, chwiliwch am ddyddiad penodol neu mewn papurau newydd arbennig ayyb.
Gallwch bori drwy restr o deitlau papurau newydd ar y dudalen gartref, darganfod beth a gyhoeddwyd ar ddyddiad penodol, neu glicio ar y map i ddarganfod pa deitlau a gyhoeddwyd ym mhedwar rhanbarth gweinyddol modern Cymru, neu y tu allan i Gymru.