Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Slides:



Advertisements
Similar presentations
Cynhadledd a Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd : Rhai agweddau ar recriwtio The Welsh Language in Healthcare – Conference and Awards Some recruitment.
Advertisements

Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
The effectiveness of learner-involvement strategies in further education institutions and Welsh for adults centres Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys.
The effectiveness of learner- involvement strategies in adult community learning and work- based learning Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr.
Tystysgrif Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes Certificate to Teach in the Lifelong Learning Sector Tiwtor/ Tutor : Arfon Rhys BSc Dip Ed.FCIPD MIfL 1.CYFLWYNIAD.
Prosiect Peilot Seminarau Addysgu Darpar Athrawon Student Teacher Seminar Pilot Project.
Cynllun Datblygu Ysgol Gofynion Statudol o Fedi 2015 School Development Plan Statutory Requirements from September 2015.
Arolwg rhanbarthol Estyn regional inspection 2016 Briefing note 1 Nodyn briffio 1 1/7/15.
Adroddiad Blynyddol (Colegau arbenigol annibynnol) Annual Report (Independent specialist colleges)
Arferion Dysgu ac Addysgu Effeithiol Effective Practice in Learning and Teaching Ffocws ar Addysgeg A Focus on Pedagogy.
Adroddiad Blynyddol (Dysgu yn y sector cyfiawnder) Annual Report (Learning in the justice sector)
Joining in Ymuno Estyn’s report on LEA resource bases, on the site of mainstream schools, for pupils with moderate learning difficulties What we looked.
Corporate slide master With guidelines for corporate presentations E-Ddiogelwch E-Safety 02 Mehefin / June 2nd
DARPARIAETH SGILIAITH SGILIAITH’S PROVISION. DARPARIAETH SGILIAITH SGILIAITH’S PROVISION Beth yw Sgiliaith? Pam datblygu sgiliau ‘addysgu dwyieithog’
Gerry Evans Gwaith Cymdeithasol yn y Dyfodol Social Work in the Future.
Gweithgor Arfer Dda Plas Menai, 24/4/09.
Adroddiad Blynyddol (Addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon) Annual Report (Initial teacher education and training)
Ann Keane Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Her Majesty’s Chief Inspector of Education & Training in Wales.
Croeso Welcome Cynghorydd Cllr Meryl Gravell OBE.
HMS Consortiwm Consortium INSET
© NCVO Tachwedd | November 2017
Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru (GLP-W)
Overview of the New Curriculum for Wales
Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch Higher Level Teaching Assistants
Dysgu Byd-eang a Bagloriaeth Cymru
Prosiect Adolygu Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan
arweinyddiaeth mewn ysgolion.
Cynhyrchu ar y Cyd nid Cynhyrchu Ffug
Canfod Gofalwyr Cymru a Rhoi Cymorth Iddynt
Diweddariad Arloesi Pioneer Update Diwygio cwricwlwm Curriculum Reform.
Building a better wales- lessons from Europe on skills and resilience.
Y FAGLORIAETH GYMRAEG WELSH BACCALAUREATE.
‘Chwarae i Ddysgu’. ‘Chwarae i Ddysgu’ Cyflwyniad Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: gefndir ‘Chwarae i Ddysgu’
GWEITHIO UNIGOL Introduction
Beth Yw Briffiau 7 Munud? What Are 7 Minute Briefings?
to develop skills, thinking and pedagogy
Y Continwwm Arweinyddiaeth Dawns ar gyfer Pobl Ifanc
Adeiladu Gweithlu'r Dyfodol
Adolygiad Cenedlaethol Gwella Iechyd
Fframwaith Cymwyseddau Digidol/ Digital Competence Framework
Adroddiad Blynyddol (Sefydliadau addysg bellach) Annual Report (Further education institutions)
TYSTYSGRIF LeFel 2 MEWN TECHNOLEG EWINEDD
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Fframwaith Perfformiad 2016/17 Performance Framework 2016/17
Ffocws ar Sgiliau Focus on Skills
Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro newydd am sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn ganolog i’w waith. Keith Towler yw Cadeirydd y Bwrdd. Mae Keith ac.
Noddir gan / Sponsored by:
Gweledigaeth ac athroniaeth: Mynediad i’r cwricwlwm i bawb
Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC
Trosolwg o Gyfarfod Cyntaf y Grŵp Rhanddeiliaid Ardal Leol
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
ARCHWILIO ADEILADU TAI
Anelu at Ragoriaeth Marian Jebb Marilyn Wood Ansawdd a Rheoli Data Ôl-16 Hydref 2014.
‘Understanding curriculum … means to understand the cultural construction of the child and the future citizen’ (Pinar, 2013)
Trosolwg o’r Polisi Strategol
Sicrhau rhagoriaeth mewn dysgu seiliedig ar waith Marian Jebb / Marilyn Wood Tîm Ansawdd a Rheoli Data Ôl-16 Hydref 2015.
‘Understanding curriculum … means to understand the cultural construction of the child and the future citizen’ (Pinar, 2013)
Cyfathrebu gan ddefnyddio iaith briodol i bwrpas a chynulleidfa
Sleid i’r ATHRO yn unig Gwybodaeth am y sleid
Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth
Cynhadledd Cymraeg Ail-Iaith Caerdydd.
Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a
Cyflwyniad i’r Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Y Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Prosiect Sgiliau Hanfodol Hyblyg
Adroddiad Blynyddol (Ysgolion arbennig a gynhelir) Annual Report (Maintained special schools)
Peirianneg Uned 2 Hydref 2015 Mewnosod enw cyflwynwr.
Gweledigaeth ac athroniaeth
Presentation transcript:

Fframwaith Cymhwysedd Digidol Diweddariad – Mehefin 2018 Diben y cyflwyniad Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sydd wedi digwydd ers cyhoeddi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ym mis Medi 2016. Rhoi gwybod i chi am rai o’r cerrig milltir allweddol a’r gwaith sy’n cael ei wneud yn sgîl lansio Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, Cynllun gweithredu 2017–21. Atgoffa ymarferwyr o’r prif negeseuon o ran y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Cynnydd hyd yma Roedd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael i leoliadau ac ysgolion ym mis Medi 2016. Cafodd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ei fireinio yn 2017 yn dilyn adborth gan ymarferwyr; ni fydd rhagor o newidiadau nes bod y cwricwlwm newydd ar waith. Mae adnodd mapio ar gael i groesgyfeirio elfennau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol â’ch gwaith addysgu presennol, sy’n eich helpu i gynllunio i ymdrin â’r amrywiaeth gyfan o sgiliau o fewn pob elfen. Mae adnodd anghenion dysgu proffesiynol ar gael yn Hwb. Dyma amlinelliad bras o’r datblygiadau yn sgîl lansio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Ar ôl ystyried adborth gan leoliadau, ysgolion a rhanddeiliaid ehangach, cafodd addasiadau eu gwneud a’u hymgorffori yn y fersiwn bresennol o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ym mis Medi 2017. I ddechrau, gwnaethom ddatblygu ac ymgorffori syniadau ar gyfer tasgau yn yr ystafell ddosbarth o fewn y fframwaith rhyngweithiol. Yn unol â chyngor ein Hysgolion Arloesi Digidol, mae mwy o syniadau a thasgau wedi cael eu hychwanegu at Hwb, a gallant gael eu haddasu i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer eich ystafell ddosbarth neu leoliad. Mae’r adnodd mapio yn eich galluogi i groesgyfeirio elfennau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol â’ch gwaith addysgu presennol yn ôl pwnc a blwyddyn. Wrth i chi ychwanegu eich gwybodaeth, mae’r adnodd yn dangos faint o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol rydych yn ymdrin ag ef. Mae’r adnodd anghenion dysgu proffesiynol sydd ar gael yn Hwb wedi cael ei gynllunio i helpu ymarferwyr i nodi ym mha feysydd y maent yn teimlo’n hyderus ac ym mha feysydd y mae angen iddynt ddatblygu ymhellach. Mae’r sleidiau nesaf yn dangos strwythur y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Llinynnau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol Dinasyddiaeth. Rhyngweithio a chydweithio. Cynhyrchu. Data a meddwl cyfrifiadurol. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn cynnwys datganiadau sgiliau lefel uchel, sydd wedi’u rhannu’n bedwar llinyn. Mae pob llinyn wedi’i rannu’n elfennau, sydd wedi’u dangos dros y pedwar sleid nesaf.

Dinasyddiaeth Hunaniaeth, delwedd ac enw da. Iechyd a lles. Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth. Ymddygiad ar-lein a seiberfwlio. Mae pedair elfen i’r llinyn Dinasyddiaeth.

Rhyngweithio a chydweithio Cyfathrebu. Cydweithio. Storio a rhannu. Mae tair elfen i’r llinyn Rhyngweithio a chydweithio.

Cynhyrchu Cynllunio, cyrchu a chwilio. Creu. Gwerthuso a gwella. Mae tair elfen i’r llinyn Cynhyrchu.

Data a meddwl cyfrifiadurol Datrys problemau a modelu. Llythrennedd gwybodaeth a data. Mae dwy elfen i’r llinyn Data a meddwl cyfrifiadurol.

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol rhyngweithiol Mae fersiwn ddigidol o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi cael ei llunio a’i chyhoeddi. Mae’r cipluniau hyn yn dangos sut mae’n edrych. Mae hefyd sawl animeiddiad byr sy’n dangos y fersiwn ddigidol ar wefan Dysgu Cymru. (learning.gov.wales/resources/browse-all/digital-competence-framework/?lang=cy)

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol rhyngweithiol

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol rhyngweithiol

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar ffurf taenlen Dyma ran o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar ffurf taenlen. Caiff sgiliau eu trefnu i ddangos cynnydd yn ôl grwpiau blwyddyn. Caiff hyn ei adolygu wrth i’r cysyniad o gamau cynnydd ddatblygu.

Defnyddio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol Erbyn mis Medi 2018, rydym yn disgwyl y byddai lleoliadau/ysgolion wedi: datblygu gweledigaeth glir ar gyfer dysgu digidol datblygu polisïau a gweithdrefnau i baratoi ar gyfer gwreiddio cymhwysedd digidol nodi arweinydd sy’n gyfrifol am gymhwysedd digidol gwreiddio cymhwysedd digidol yng nghynlluniau gwella’r ysgol cynnal ymarfer mapio mewn perthynas â sicrhau cymhwysedd digidol cynnal archwiliadau staff a nodi gofynion dysgu proffesiynol. Rydym wedi ailddatgan ein hymrwymiad gydag Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, Cynllun gweithredu 2017–21 sy’n nodi sut y bydd y system ysgol yn symud yn ei blaen yn ystod y cyfnod 2017–21, gan roi’r cwricwlwm newydd ar waith wrth ganolbwyntio ar arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol, a rhagoriaeth a thegwch o fewn system hunanwella. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yng Nghymru yn cyrraedd safonau llythrennedd a rhifedd uwch, ac yn dod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, gan ddatblygu i fod yn unigolion mentrus, creadigol sy’n meddwl yn feirniadol.

Camau gweithredu allweddol i uwch arweinwyr Darllen Dyfodol Llwyddiannus (yn enwedig cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd).  Hwyluso trafodaeth â’r ysgol gyfan i ddatblygu gweledigaeth ddigidol – ‘Pam, Beth a Sut’. Dylai cynrychiolwyr o ddysgwyr, athrawon, llywodraethwyr a rhieni/gofalwyr gael eu cynnwys yn y drafodaeth. Cynnal adolygiad cynhwysfawr o wybodaeth dysgwyr, staff a llywodraethwyr, eu hagweddau a’r ffordd y maent yn cymhwyso dysgu digidol. Ymweld ag ysgolion eraill ac ystyried ymarfer effeithiol mewn cyd-destun. HMS i’r ysgol gyfan ar ddysgu digidol a’r ffordd y mae’n cyd-fynd â blaenoriaethau addysgeg ehangach. Cynnwys dysgu digidol fel blaenoriaeth i’r ysgol yng nghynllun datblygu’r adran/cynllun datblygu’r ysgol/hunanarfarnu’r ysgol. Cynnal 360 degree safe Cymru ar Hwb. Adolygu adnoddau ac ystyried y ffordd y cânt eu defnyddio i sicrhau mynediad gwell. Meddwl yn fwy creadigol ynghylch adnoddau presennol a chynllunio ar gyfer unrhyw ofynion o ran adnoddau angenrheidiol. Darparu hyfforddiant i’r ysgol gyfan ar ddysgu digidol a chymhwysedd digidol, gan gynnwys hyfforddiant ar linynnau ac elfennau penodol lle y bo’n briodol.

Camau gweithredu allweddol i arweinwyr canol Ystyried astudiaethau achos o leoliadau/ysgolion eraill. Hyrwyddo gwaith triad er mwyn ystyried darpariaethau dysgu digidol. Hyrwyddo darllen papurau ac ymchwil academaidd. Defnyddio’r adnodd mapio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol i nodi meysydd i’w datblygu. Gofyn am farn dysgwyr ar dechnoleg mewn gwersi. Ymchwilio i ffyrdd y gellir gwella eu disgyblaeth pwnc gyda thechnoleg neu gael hyfforddiant ar hynny. Dechrau cyfuno gweithgareddau digidol â’u gwaith addysgu pwnc, gan gynnwys gwaith ymchwil a chreu annibynnol gan ddysgwyr.

Camau gweithredu allweddol i athrawon ystafell ddosbarth Trafod gydag aelodau eraill o staff yn y lleoliad/ysgol a sylweddoli beth yw gwerth dysgu digidol i’ch dysgwyr a’u lles. Gofyn am farn dysgwyr ar dechnoleg mewn gwersi. Ymchwilio ar-lein, e.e. Microsoft Educators Community, Google for Education BlogSpot. Darllen polisïau ysgol cyfoes ar faterion digidol. Ymgyfarwyddo â dysgu digidol a chymhwysedd digidol yn eich cynllun gwella’r adran a’ch cynllun datblygu’r ysgol. Cydweithio â meysydd pwnc eraill ar brosiect sy’n cynnwys agweddau ar greu digidol neu ymgorffori nifer o themâu pwnc o fewn prosiect mwy, gan ddefnyddio technolegau digidol.

Bwrw ymlaen â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol O fis Medi 2018, bydd lleoliadau ac ysgolion: wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer sicrhau cymhwysedd digidol yn yr ystafell ddosbarth ar draws y cwricwlwm wedi cadarnhau cyfrifoldebau staff o ran gwreiddio cymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm yn adolygu yn rheolaidd: – gofynion o ran caledwedd/meddalwedd – anghenion dysgu proffesiynol staff yn mapio cymhwysedd digidol yn erbyn adran/blwyddyn y cwricwlwm presennol wedi cynllunio ar gyfer datblygiad proffesiynol staff ym maes cymhwysedd digidol, ac yn gwneud hynny drwy weithio gyda chonsortia rhanbarthol.

Camau nesaf ar gyfer y cwricwlwm Ionawr 2018 – Mae Arloeswyr Digidol yn ymuno â grwpiau Maes Dysgu a Phrofiad er mwyn rhoi cyngor ar ddysgu digidol ar draws y cwricwlwm. Ebrill 2019 – Bydd y cwricwlwm newydd a’r trefniadau asesu ar gael i roi adborth arnynt. Medi 2022 – Caiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno yn y dosbarth Meithrin hyd at Flwyddyn 7, a bydd lleoliadau/ysgolion wedi gwreiddio cymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm ysgol. Medi 2022 ymlaen – Mae’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm hyd at Flwyddyn 11 yn parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn hyd at 2026. Mae rhagor o syniadau am dasgau yn yr ystafell ddosbarth ar gael ar Hwb.