Gweledigaeth ac athroniaeth

Slides:



Advertisements
Similar presentations
Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion Best practice in leadership development in schools.
Advertisements

Cynhadledd a Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd : Rhai agweddau ar recriwtio The Welsh Language in Healthcare – Conference and Awards Some recruitment.
Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
The effectiveness of learner-involvement strategies in further education institutions and Welsh for adults centres Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys.
Addysg sector gofal ac ymwybyddiaeth iaith Care sector education and language awareness Gwenan Prysor Rhaglen Dysgu Ymarfer Gogledd Cymru North Wales Practice.
The effectiveness of learner- involvement strategies in adult community learning and work- based learning Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr.
Tystysgrif Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes Certificate to Teach in the Lifelong Learning Sector Tiwtor/ Tutor : Arfon Rhys BSc Dip Ed.FCIPD MIfL 1.CYFLWYNIAD.
Prosiect Peilot Seminarau Addysgu Darpar Athrawon Student Teacher Seminar Pilot Project.
Wise Cymru a Gweithio tuag at Bartneriaeth Alex Butterworth Swyddog Datblygu Wise Cymru Wise Wales and Working Towards Partnership Alex Butterworth Wise.
Cynghorau Ysgol Cymru School Councils Wales Cyfranogiad Disgyblion Pupil Participation Jane Harries Llywodraeth Cynulliad Cymru Welsh Assembly Government.
Arfer orau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2 Best practice in the creative arts at key stage 2.
Dysgu Oedolion a’r Gymuned/ Adult and Community Learning Huw Morris.
Adroddiad Blynyddol (Colegau arbenigol annibynnol) Annual Report (Independent specialist colleges)
Arferion Dysgu ac Addysgu Effeithiol Effective Practice in Learning and Teaching Ffocws ar Addysgeg A Focus on Pedagogy.
Adroddiad Blynyddol (Dysgu yn y sector cyfiawnder) Annual Report (Learning in the justice sector)
Joining in Ymuno Estyn’s report on LEA resource bases, on the site of mainstream schools, for pupils with moderate learning difficulties What we looked.
Technegau Arholiad Gweithdy Sgiliau Astudio Exam Techniques Study Skills Workshop.
Cyflwyno Gofal Cymdeithasol Cymru Introducing Social Care Wales
TAKING WALES FORWARD Symud Cymru Ymlaen 5 Mehefin June 2017
Gweithgor Arfer Dda Plas Menai, 24/4/09.
British Council Wales Professional Development & International Opportunities Datblygiad Proffesiynol a Chyfleoedd Rhyngwladol.
Cryfhau Sgiliau er mwyn Llwyddo Strengthening Skills for Success
Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru (GLP-W)
Overview of the New Curriculum for Wales
Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch Higher Level Teaching Assistants
Dysgu Byd-eang a Bagloriaeth Cymru
A VISION FOR SPORT IN WALES GWELEDIGAETH AR GYFER CHWARAEON YNG NGHYMRU Activating Future Generations / Gwneud Cenedlaethau’r Dyfodol yn Egnïol.
Prosiect Adolygu Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan
arweinyddiaeth mewn ysgolion.
Cynhyrchu ar y Cyd nid Cynhyrchu Ffug
1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mae Grŵp Hawliau'r Teulu, mewn partneriaeth gyda Nuffield Foundation wedi cynnal adolygiad i ystyried y canlynol: archwilio’r.
Building a better wales- lessons from Europe on skills and resilience.
GWEITHIO UNIGOL Introduction
Cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd
ACHREDU ASESIADAU ATHRAWON CYFNOD ALLWEDDOL 3
Y Continwwm Arweinyddiaeth Dawns ar gyfer Pobl Ifanc
Adeiladu Gweithlu'r Dyfodol
Adroddiad Blynyddol (Sefydliadau addysg bellach) Annual Report (Further education institutions)
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Ffocws ar Sgiliau Focus on Skills
Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro newydd am sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn ganolog i’w waith. Keith Towler yw Cadeirydd y Bwrdd. Mae Keith ac.
Gweledigaeth ac athroniaeth
Noddir gan / Sponsored by:
Yr Athro Mererid Hopwood
Gweledigaeth ac athroniaeth: Mynediad i’r cwricwlwm i bawb
Strwythur y prosiect Bwrdd Newid LlC Bwrdd Cyflawni Gweithredol LlC
Adroddiadau Arholwyr Allanol
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Gweledigaeth ac athroniaeth
Sally Holland yw Comisiynydd Plant Cymru
Gweledigaeth ac athroniaeth
ARCHWILIO ADEILADU TAI
Cyd-destun cyffredinol
Anelu at Ragoriaeth Marian Jebb Marilyn Wood Ansawdd a Rheoli Data Ôl-16 Hydref 2014.
‘Understanding curriculum … means to understand the cultural construction of the child and the future citizen’ (Pinar, 2013)
Sicrhau rhagoriaeth mewn dysgu seiliedig ar waith Marian Jebb / Marilyn Wood Tîm Ansawdd a Rheoli Data Ôl-16 Hydref 2015.
‘Understanding curriculum … means to understand the cultural construction of the child and the future citizen’ (Pinar, 2013)
Yr Athro Mererid Hopwood
Gweledigaeth ac athroniaeth
Gweledigaeth ac athroniaeth
Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth
Gweledigaeth ac athroniaeth
Gweledigaeth ac athroniaeth
Title Welsh point 45 Y continwwm dysgu proffesiynol: mentora mewn addysg gychwynnol athrawon The professional learning continuum: mentoring in initial.
Uned 1 Taflen Gymorth/PowerPoint ar Gwestiynau Arholiad
Sleid ar gyfer athrawon YN UNIG
Y Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Prosiect Sgiliau Hanfodol Hyblyg
Peirianneg Uned 2 Hydref 2015 Mewnosod enw cyflwynwr.
Presentation transcript:

Gweledigaeth ac athroniaeth Rhoi cyfleoedd i bob dysgwr fod yn greadigol. Gwneud y cynnig yn gwbl gynhwysol. Yn gysylltiedig â deilliannau iechyd a lles cadarnhaol. Sicrhau bod sgiliau yn y Celfyddydau Mynegiannol yn cael eu cydnabod fel rhai trosglwyddadwy a bod cysylltiad uniongyrchol â gyrfaoedd a dysgu gydol oes. Amlygodd adroddiad yr Athro Dai Smith ar y celfyddydau ac addysg yng Nghymru bwysigrwydd addysg sy'n gyfoethog o ran y celfyddydau i bob dysgwr, gan gynnwys pwysigrwydd creadigrwydd yn y cwricwlwm. Dylai pob dysgwr gael cyfle i ddysgu a chael profiadau ym mhob un o bum disgyblaeth y Celfyddydau Mynegiannol. Mae ymchwil wedi dangos bod y maes dysgu a phrofiad hwn yn helpu i sicrhau canlyniadau iechyd a lles cadarnhaol. Mae'r maes hwn hefyd yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy ac ehangach – sgiliau creadigol a meddwl yn feirniadol sy'n helpu'r dysgwyr i gwestiynu, creu cysylltiadau, arloesi, datrys problemau, cyfathrebu, cydweithio a myfyrio'n feirniadol. Mae'r rhain yn sgiliau lefel uwch, y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr, ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr fod yn ddinasyddion yn yr unfed ganrif ar hugain – cyswllt hollbwysig â sector y diwydiannau creadigol a diwylliannol yng Nghymru, sy’n ffynnu, yn ogystal â dysgu gydol oes.

Y sail resymegol dros newid Mae addysg sy’n gyfoethog yn gelfyddydol yn ganolog i brofiad cyfan dysgwr. Mae angen i bob dysgwr allu manteisio ar gyd-destunau cyfoethog lle mae ganddynt amser i archwilio, i ymateb ac i greu. Mae angen i ddysgwyr allu manteisio ar holl ddisgyblaethau’r Celfyddydau Mynegiannol. Unwaith eto, mae adroddiad yr Athro Dai Smith ar y celfyddydau ac addysg yng Nghymru yn cadarnhau bod y celfyddydau yn bwysig iawn i brofiad dysgwr yn yr ysgol, ynghyd â'r modd y mae cael profiad o'r celfyddydau drwy gyfrwng y cwricwlwm yn gallu dylanwadu ar frwdfrydedd a chyflawniad dysgwr. Mae angen i ddysgwyr gael cyfle i archwilio, ymateb a chreu yn y Celfyddydau Mynegiannol er mwyn meithrin eu sgiliau creadigol eu hunain. Mae hyn yn eu helpu i ddatblygu'n gyfranogwyr blaengar, creadigol – sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith (un o pedwar diben y cwricwlwm). Er enghraifft wrth iddynt brofi methiant, maent yn meithrin gwydnwch wrth greu yn y Celfyddydau Mynegiannol. Mae'n bwysig bod y dysgwyr hyn yn cael profiad o bob un o'r pum disgyblaeth yn y maes dysgu a phrofiad hwn.

Sut mae’n wahanol? Mae’n cwmpasu dawns, drama, ffilm a’r cyfryngau digidol, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol, sydd wedi’u cysylltu gan broses greadigol gyffredin a sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r dysgu’n cael ei gysylltu drwy’r broses greadigol sy’n fodd i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddisgyblaethau unigol. Nid yw cynnydd yn llinellol. Ffocws ar gyd-destunau cyfoethog a dilys ar gyfer dysgu yn bodoli o 3 i 16 oed. Anogir llais y dysgwr. Cydweithredu ar draws y maes dysgu a phrofiad ac ar draws meysydd dysgu a phrofiad eraill. Hyblygrwydd – amryw o fodelau cyflawni. Pum Disgyblaeth – dwy newydd yn y maes hwn, sef dawns a'r cyfryngau digidol. Mae pob un yn gysylltiedig drwy broses greadigol gyffredin a sgiliau trosglwyddadwy. Rhoi'r maes dysgu a phrofiad ar waith – nid oes llwybr llinol drwy'r Celfyddydau Mynegiannol. Drwy gysylltu eu dysgu, drwy'r broses greadigol neu thema, bydd y dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach ar draws y maes dysgu a phrofiad. Cyd-destunau cyfoethog, dilys, wedi'u hategu gan brosesau cynllunio a gweithio ar draws meysydd dysgu a phrofiad. Mae fframwaith y cwricwlwm a amlinellwyd ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol yn cefnogi ac yn annog cyfuniad o'r dulliau cyflwyno canlynol yn yr ysgol. Dull rhyngddisgyblaethol – mae dysgu rhyngddisgyblaethol yn ddull wedi'i gynllunio o gyflwyno'r Celfyddydau Mynegiannol, sy'n defnyddio'r broses greadigol, thema neu gyd-destun i gysylltu'r disgyblaethau gwahanol sy'n rhan o'r maes dysgu a phrofiad, sef: dawns, drama, ffilm a'r cyfryngau digidol, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol. Drwy gysylltu'r broses greadigol ar draws y disgyblaethau, mae'r dysgwyr yn cysylltu eu profiadau, eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn meithrin lefel ddyfnach o wybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r ddisgyblaeth. Dull Integredig/'Integredig' – mae cwricwlwm integredig y Celfyddydau Mynegiannol yn nodedig oherwydd y modd y caiff cyfuniad o ddawns, drama, ffilm a'r cyfryngau digidol, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol eu haddysgu mewn un wers, yn hytrach nag ar wahân. Mae cyfuno'r disgyblaethau hyn yn annog y dysgwyr i greu cysylltiadau ac uno cysyniadau, sy'n eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau perthnasol ac ystyrlon, y gellir eu cysylltu â chyd-destunau cyfoethog, dilys. Gellir addysgu'r holl ddisgyblaethau mewn un wers, gan un athro, gyda thema gyffredinol sy'n galluogi'r dysgwyr i drosglwyddo'u sgiliau a chydweithio mewn cyd-destunau dilys. Mae hyn yn efelychu byd gwaith yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Dull tasgau penagored – yn ogystal â'r dulliau uchod, ac fel rhan o faes dysgu a phrofiad cytbwys, dylai'r dysgwyr gael cyfleoedd i archwilio, ymateb a chreu mewn un ddisgyblaeth neu fwy o'u dewis. Mae'r dull penagored hwn yn galluogi'r dysgwyr i arddangos arbenigedd neu feithrin sgiliau mewn disgyblaeth y maent yn teimlo bod angen iddynt ei datblygu. Mae'r dysgu yn effeithiol pan fo'n cynnwys profiad cyfoethog, penodol. Caiff y dysgwyr eu tywys drwy'r sgiliau a'r technegau, ond maent yn mynd ati wedyn i lywio eu taith ddysgu eu hunain o fewn y Celfyddydau Mynegiannol. Dylai pob dull cyflwyno gynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol, gan alluogi'r dysgwyr i hunangyfeirio'r dysgu, ac i gael mwy o ymreolaeth a rheolaeth drosto.

Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Celfyddydau Mynegiannol Mae archwilio’r Celfyddydau Mynegiannol a drwyddynt yn dyfnhau ein gwybodaeth artistig ac yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o hunaniaethau, diwylliannau a chymdeithasau. Mae ymateb a myfyrio, fel artist a chynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu am y Celfyddydau Mynegiannol a thrwyddynt. Mae gwaith creadigol yn cyfuno gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio’r synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg. Archwilio'r model – mae datganiadau yr hyn sy'n bwysig yn y Celfyddydau Mynegiannol yn seiliedig ar dri llinyn rhyngysylltiedig sy'n cynrychioli'r broses greadigol, sy'n gyffredin i bob disgyblaeth yn y Celfyddydau Mynegiannol. Beth yw'r pum disgyblaeth a'r gydberthynas rhyngddynt? – dawns, drama, ffilm a'r cyfryngau digidol, cerddoriaeth a'r celfyddydau gweledol – pob un â'i phrofiadau, ei gwybodaeth a'i sgiliau unigryw ei hun ond hefyd yn rhannu proses greadigol gyffredin a sgiliau trosglwyddadwy.

Sut gyrhaeddon ni yma? Dull gweithredu Ffocws ar ymchwil, tystiolaeth a chyfraniadau gan arbenigwyr. Gwaith adolygu a thrafodaeth yn arwain at gytundeb i symud oddi wrth disgyblaethau unigol i Faes Dysgu a Phrofiad ehangach y Celfyddydau Mynegiannol. Ystyried arfer gorau a thrafodaethau proffesiynol o fewn y grŵp arloesi. Gweithredu ar adborth gan ysgolion y grŵp arloesi, rhanddeiliaid, a meysydd dysgu a phrofiad eraill, ac ati. Dull  Ar ddechrau'r broses ddatblygu, cafwyd cryn drafodaeth ymhlith y grŵp arloesi ynghylch unigoliaeth y disgyblaethau a'r ffordd orau o ymdrin â'r maes dysgu a phrofiad mewn modd rhyngddisgyblaethol. Roedd y grŵp arloesi yn deall bod pob disgyblaeth yn wahanol a bod ganddi ei set sgiliau ei hun; fodd bynnag, ar ôl ymchwilio, adolygu tystiolaeth gan arbenigwyr a thrafod hynny, cytunodd y grŵp fod pob disgyblaeth yn rhannu proses greadigol a sgiliau trosglwyddadwy – dyma sut y datblygodd datganiadau yr hyn sy'n bwysig yn y Celfyddydau Mynegiannol.

Tystiolaeth a chyfraniad gan arbenigwyr Ymchwil: adroddiadau yr OECD ar y celfyddydau a chreadigrwydd, Y Celfyddydau mewn Addysg yng Nghymru (yr Athro Dai Smith), Progression in Creativity (Spencer, Lucas, Claxton) Tystiolaeth: Dysgu Creadigol drwy’r rhaglen Celfyddydau (Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru); adroddiadau arfer gorau Estyn; addysgeg y Cyfnod Sylfaen; Creative Learning – Paul Collard; Syr Ken Robinson ar greadigrwydd mewn addysg. Cwricwla rhyngwladol a ystyriwyd – Awstralia, Columbia Brydeinig, Iwerddon, Quebec, Seland Newydd, yr Alban, Ontario. Tystiolaeth ac adborth Seiliedig ar ymchwil: Adroddiadau OECD ar y Celfyddydau a chreadigrwydd, Y Celfyddydau mewn Addysg yng Nghymru (Yr Athro Dai Smith), Progression in Creativity (Spencer, Lucas, Claxton). Tystiolaeth o'r canlynol: Rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau a gynhelir gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys prosiectau Ysgolion Creadigol Arweiniol, grantiau Ewch i Weld sy'n galluogi ysgolion i fanteisio ar brofiadau celfyddydol allanol a rhwydweithiau addysg a'r celfyddydau rhanbarthol sy'n cynnal rhaglenni Hyrwyddwyr y Celfyddydau a chyfleoedd datblygiad proffesiynol i athrawon. Mynediad drwy'r Parth Dysgu Creadigol ar Hwb: hwb.gov.wales/getting-started Tystiolaeth o adroddiadau thematig Estyn ar y Celfyddydau – Arfer gorau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2, Arfer gorau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 (neu'r Parth Dysgu Creadigol ar Hwb). Tystiolaeth gadarnhaol gan Syr Ken Robinson ar greadigrwydd mewn addysg – ei wefan ei hun a TED Talks (sirkenrobinson.com). Adeiladu ar arfer gorau ac addysgeg y Cyfnod Sylfaen. Cynnydd – mewnbwn arbenigol gan dîm CAMAU o Brifysgol Glasgow a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (adroddiad Dysgu am Ddilyniant). Arfer gorau a deialog proffesiynol o fewn y grŵp – cynrychiolaeth dda iawn o bob disgyblaeth, cyfnod, ysgol.

Tystiolaeth a chyfraniad gan arbenigwyr Cyfraniadau ac adborth gan arbenigwyr: Cyngor Celfyddydau Cymru; Estyn; Cymwysterau Cymru; Dawns – Geraldine Hurl; Drama – Emma Thayer, Ysgol Addysg Prifysgol Metropolitan Caerdydd; Ffilm – Into Film Cymru; y Cyfryngau Digidol – Dr Jenny Kidd, Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd; Martin Thomas, Coleg Cambria; Cerddoriaeth – yr Athro Chris Collins, Prifysgol Bangor; y Celfyddydau Gweledol – Gwenllian Beynon, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cynnydd: Tîm CAMAU. Arfer gorau a thrafodaeth broffesiynol o fewn y grŵp arloesi. Defnyddio’r adborth gan ysgolion y grŵp arloesi, rhanddeiliaid, a meysydd dysgu a phrofiad eraill. Tystiolaeth ac adborth Seiliedig ar ymchwil: Adroddiadau OECD ar y Celfyddydau a chreadigrwydd, Y Celfyddydau mewn Addysg yng Nghymru (Yr Athro Dai Smith), Progression in Creativity (Spencer, Lucas, Claxton). Tystiolaeth o'r canlynol: Rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau a gynhelir gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys prosiectau Ysgolion Creadigol Arweiniol, grantiau Ewch i Weld sy'n galluogi ysgolion i fanteisio ar brofiadau celfyddydol allanol a rhwydweithiau addysg a'r celfyddydau rhanbarthol sy'n cynnal rhaglenni Hyrwyddwyr y Celfyddydau a chyfleoedd datblygiad proffesiynol i athrawon. Mynediad drwy'r Parth Dysgu Creadigol ar Hwb: hwb.gov.wales/getting-started Tystiolaeth o adroddiadau thematig Estyn ar y Celfyddydau – Arfer gorau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2, Arfer gorau yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 (neu'r Parth Dysgu Creadigol ar Hwb). Tystiolaeth gadarnhaol gan Syr Ken Robinson ar greadigrwydd mewn addysg – ei wefan ei hun a TED Talks (sirkenrobinson.com). Adeiladu ar arfer gorau ac addysgeg y Cyfnod Sylfaen. Cynnydd – mewnbwn arbenigol gan dîm CAMAU o Brifysgol Glasgow a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (adroddiad Dysgu am Ddilyniant). Arfer gorau a deialog proffesiynol o fewn y grŵp – cynrychiolaeth dda iawn o bob disgyblaeth, cyfnod, ysgol.

Ystyriaethau i ysgolion Sut bydd eich arweinwyr, eich ymarferwyr a’ch rhwydweithiau’n gallu paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf o gyd-greu a rhoi adborth ystyrlon? Beth, os o gwbl, yw’r goblygiadau o ran adnoddau (cenedlaethol a lleol)? Sut y gallwch chi ddefnyddio dull ysgol gyfan a/neu rhyng-adrannol i sicrhau bod pawb yn: – gwybod am y cwricwlwm newydd? – deall sut i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?