Hanes Moses (Rhan 1). Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies
Cynnwys Cwis Dewis Stori Cliciwch ar fotwm chwith y llygoden i wneud eich dewis Gwybodaeth ddefnyddiol
2. Genedigaeth Moses DEWIS STORI 1. Gormesu’r Israeliaid yn yr Aifft 4. Y berth yn llosgi 3. Moses yn ffoi o’r Aifft
Cofiwch mai o wlad Canaan y daethoch chi a dyna ble rwy’ i am gael fy nghladdu. Arhosodd Joseff a’i deulu yn yr Aifft am weddill eu hoes.
Bu Joseff farw yn 110 oed. Eneiniwyd ei gorff, a nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach cariwyd ei esgyrn yn ôl i wlad Canaan i’w claddu.
Cynyddodd yr Israeliaid gan ddod yn bobl gryf a niferus. Arhosodd pobl Israel (sef teulu Jacob) yn yr Aifft ac roedden nhw’n cael mwy a mwy o blant.
Flynyddoedd yn ddiweddarach daeth Pharo newydd i deyrnasu ar yr Aifft. Doedd e ddim yn gwybod dim am Joseff a’r help a gafwyd ganddo adeg y newyn. Roedd y Pharo yn poeni bod llawer gormod o bobl ddieithr yn y wlad. Roedd e’n poeni hefyd y gallai pobl Israel ymuno â gelynion yr Aifft a dechrau ymladd yn eu herbyn.
Felly, fe wnaeth Pharo fywydau’r Israeliaid yn anodd ac fe gawson nhw eu gorfodi i weithio’n galed.
Yn ychwanegol at hyn, gorchmynodd Pharo bod pob bachgen a anwyd i’r Israeliaid yn cael ei daflu i’r Afon Nîl.
Un diwrnod, ganwyd mab i ferch o’r enw Jochebed. Roedd hi’n un o’r Israeliaid ac am dri mis llwyddodd i guddio’r baban bach..
Yna, rhoddodd yr un bach mewn cawell a dweud wrth ei merch Miriam i’w guddio ynghanol y brwyn ar lan Afon Nîl.
Ond pwy ddaeth heibio a darganfod y baban ond merch Pharo! Un o blant yr Israeliaid yw hwn.
Hoffech chi gael rhywun i ofalu am y baban? Rwy’n gwybod am berson fyddai’n gwneud y gwaith yn dda.
Aeth Miriam a galw’i mam. Cytunodd y dywysoges i roi’r baban yng ngofal ei fam a rhoi tâl iddi am ei gwaith. … Enwodd y dywysoges y baban yn Moses.
Er hyn, roedd Moses bob amser yn cofio mai un o bobl Israel oedd e ac nid un o’r Eifftwyr. Hebreaid 11:24 Roedd gan Moses ffydd yn yr Arglwydd Dduw ac roedd e’n credu y byddai Duw yn cadw’i addewid i ddod â phobl Israel allan o’r Aifft. Magwyd Moses fel mab i’r dywysoges a chafodd yr addysg orau posib. Actau 7:22
Un diwrnod, gwelodd Moses Eifftiwr yn taro un o’r Israeliaid yn ddidrugaredd.
Aeth Moses i’w amddiffyn ac fe drawodd yr Eifftiwr mor galed nes iddo’i ladd. Ond yn anffodus i Moses, roedd un o’r Israeliaid wedi gweld beth ddigwyddodd.
Wyt ti am ein lladd ni fel y gwnest ti ladd yr Eifftiwr ‘na ddoe? Trannoeth, aeth Moses i ymyrryd mewn dadl rhwng dau o’r Israeliaid.
Pan glywodd Pharo beth roedd Moses wedi’i wneud, ceisiodd ei ladd.
Ond roedd Moses yn ddigon pell o’r Aifft. Roedd wedi ffoi i wlad Midian, ac yno eisteddodd i lawr wrth ymyl pydew.
Daeth saith o ferched i’r pydew i godi dŵr ar gyfer eu praidd. Pan ddaeth bugeiliaid heibio a’u rhwystro, cododd Moses ar ei draed i amddiffyn y merched.
Sut y daethoch chi nôl mor fuan heddiw? Daeth Eifftiwr i’n hamddiffyn rhag y bugeiliaid, a rhoddodd ddŵr i’r praidd.
Diolch i ti am dy help. Mae croeso i ti aros gyda ni mor hyr ag wyt ti’n dymuno.
Cytunodd Moses i aros gyda’r g ŵ r, a rhoddodd hwnnw ei ferch Seffora yn wraig iddo.
Yn y cyfamser, roedd pobl Israel yn parhau i ddioddef yn yr Aifft. Clywodd yr Arglwydd eu gwaedd am help. Dewisodd Moses i fynd i’w gwared o’u caethiwed.
Moses, Moses… Un dydd, wrth i Moses ofalu am ddefaid ei dad yng nghyfraith, digwyddodd rhywbeth rhyfedd….
Dos nôl i’r Aifft i arwain fy mhobl allan o’r wlad.
DOUBLE DOUBLE DOUBLE DOUBLE DOUBLE DOUBLE
DOUBLE DOUBLE DOUBLE DOUBLE DOUBLE DOUBLE
… Y Stori Bwriedir i’r stori gael ei chyflwyno mewn 4 rhan. Gallwch naill ai gyflwyno stori unigol neu fynd yn eich blaen a chyflwyno mwy nag un stori ar y tro. Y Cwis Rhifau Bydd angen eich bod wedi paratoi hyd at 20 cwestiwn. Rhannwch y plant yn ddau dîm a holwch gwestiynau i’r naill dîm a’r llall. Ar ôl i blentyn ateb yn gywir bydd angen iddo ddewis rhif. Defnyddiwch y llygoden i symud y saeth i’r sgwâr priodol a chliciwch ar y botwm chwith. Bydd y sgwâr yn datgelu un o’r symbolau canlynol: sy’n dynodi 1 pwynt; sy’n dynodi 2 bwynt; neu sy’n dynodi 0 pwynt. Mae dau gwis gwahanol ar gael. Er mwyn symud o’r naill i’r llall defnyddiwch y saeth ymlaen neu’r saeth yn ôl ar y cyfrifiadur. Gwybodaeth ddefnyddiol… Bydd y botwm cartref yn mynd â chi yn ôl i’r dudalen Cynnwys. DOUBLE