Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byArline Boone Modified over 8 years ago
2
Hanes Joseff (Rhan 1) Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies
3
2. Joseff a`i frodyr 3. Gweithio dros Potiffar 4. Yn y carchar DEWISWCH STORI 1. Breuddwydion Joseff
4
Roedd Jacob yn ŵyr i Abraham. Roedd yn byw yng ngwlad Canaan ac roedd ganddo 12 mab.
5
Roedd Jacob yn caru ei fab Joseff yn fwy na`r meibion eraill a rhoddodd iddo got arbennig yn anrheg.
6
Un tro cafodd Joseff freuddwyd rhyfedd. Gwelodd 11 o ysgubau yn plygu o flaen ei ysgub ef.
7
Wyt ti`n bwriadu bod yn fos arnom ni?
8
Ar ôl hyn cafodd Joseff freuddwyd arall: “Gwelais yr haul,lleuad ac 11 o sêr yn ymgrymu i mi.”
9
Wyt ti`n meddwl byddwn ni fel teulu yn dod ac yn ymgrymu o dy flaen di?
10
Peth amser ar ôl hyn pan oedd y brodyr hŷn i ffwrdd oddi cartref yn bugeilio praidd eu tad. Dos i weld sut mae pethau gan dy frodyr.
11
Mae`r breuddwydiwr yn dod. Dewch i ni gael gwared ohono. Na, peidiwn a`i ladd.
12
Taflwyd Joseff i lawr i bydew sych.
13
Yn y man daeth marchnatwyr heibio ar eu ffordd i`r Aifft a gwerthwyd Joseff iddynt am 20 darn arian. Rhoddwyd gwaed gafr ar got Joseff er mwyn rhoi`r argraff bod anifail gwyllt wedi ei ladd.
14
Rydym wedi dod o hyd i`r got hon sy`n llawn gwaed. O na! Cot Joseff yw hi. Mae anifail gwyllt siŵr o fod wedi ei ladd!!
15
Aethpwyd a Joseff i lawr i`r Aifft. Prynwyd Joseff gan ddyn o`r enw Potiffar. Roedd e`n swyddog i Pharo, brenin yr Aifft.
16
Roedd yr Arglwydd gyda Joseff yn gofalu amdano a`i lwyddo yn ei waith. Daeth Potiffar yn hoff o Joseff a rhoddodd iddo`r gyfrifoldeb o ofalu am ei dŷ a`i holl eiddo.
17
Dechreuodd gwraig Potiffar ffansïo Joseff. Helo cariad. Na, rwyt ti`n wraig priod. Allai ddim dy garu di.
18
Er i wraig Potiffar gwrso Joseff dydd ar ôl dydd ni wrandawodd arni ac ni bechodd yn erbyn Duw. Tyrd i`m breichiau. Bydd neb yn gwybod. Rhedodd Joseff i ffwrdd gan adael ei wisg yn ei llaw.
19
Ar ôl cael ei siomi gan Joseff dywedodd gwraig Potiffar gelwydd wrth ei gŵr. Rwyf wedi cael ofn mawr. Mae Joseff wedi bod yn fy nghwrso a dyma`i got fel prawf.
20
Credodd Potiffar yr hyn a ddywedwyd wrtho gan ei wraig. Rhoddwyd Joseff mewn carchar yn yr Aifft yn bell o`i gartref a`i deulu.
21
Ond yr oedd yr Arglwydd gyda Joseff ac unwaith eto gofalodd amdano. Bu ceidwad y carchar yn garedig tuag ato a rhoddodd y carcharorion eraill yn ei ofal.
22
Peth amser ar ôl hyn troseddodd y bwtler a`r pen-pobydd brenhinol yn erbyn Pharo. Anfonwyd y ddau ohonynt i`r carchar. Rhoddodd ceidwad y carchar y bwtler a`r pen-pobydd yng ngofal Joseff.
23
Un noson cafodd y bwtler freuddwyd rhyfedd. Gwelodd winwydden yn llawn grawnwin. Cymerodd y grawnwin, a gwasgodd y sudd i gwpan Pharo a`i roi iddo.
24
Gyda help Duw dehonglodd Joseff y freuddwyd a dywedodd wrth y bwtler y buasai o fewn 3 diwrnod yn gadael y carchar Pan fyddi di unwaith eto yn rhoi gwin yng nghwpan Pharo dywed air bach ar fy rhan i.
25
Daeth adar a bwyta allan o‘r fasged uchaf. Cafodd y pen pobydd freuddwyd rhyfedd hefyd. Roedd yn cario tair basgedaid o fara ar ei ben …
26
Gyda help Duw dehonglodd Joseff y freuddwyd. Dywedodd wrth y pen- pobydd mai newyddion drwg oedd yn y freuddwyd. Mewn 3 diwrnod byddai`n cael ei grogi a byddai adar yn bwyta ei gnawd. Digwyddodd y cyfan fel y dywedodd Joseff.
27
Ond anghofiodd y pen-pobydd y cyfan am Joseff ac ni ddywedodd yr un gair wrth Pharo amdano. Bu Joseff yn y carchar am ddwy flynedd arall.
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.