Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

1. BETH YDI HYN? WHAT IS IT? Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) yn fath o gam-drin rhywiol. Mae’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn.

Similar presentations


Presentation on theme: "1. BETH YDI HYN? WHAT IS IT? Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) yn fath o gam-drin rhywiol. Mae’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn."— Presentation transcript:

1 Brîff 7 Munud - Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Child Sexual Exploitation - 7 Minute Briefing

2 1. BETH YDI HYN? WHAT IS IT? Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) yn fath o gam-drin rhywiol. Mae’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn manteisio ar anghydbwysedd grym i orfodi neu dwyllo plentyn neu unigolyn ifanc o dan 18 oed i gyflawni neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol: yn gyfnewid am rywbeth y mae’r dioddefwr ei angen neu ei eisiau, a/neu er budd ariannol neu i godi statws y troseddwr neu’r hwyluswr. Gallai’r dioddefwr fod wedi ei ecsbloetio’n rhywiol hyd yn oed os yw’n ymddangos fod y gweithgaredd rhywiol yn gydsyniol, Nid yw CSE bob amser yn cynnwys cyswllt corfforol, gall hefyd ddigwydd drwy ddefnyddio technoleg CSE is a form of child sexual abuse. It occurs where an individual or group takes advantage of an imbalance of power to coerce, manipulate or deceive a child or young person under the age of 18 into sexual activity in exchange for something the victim needs or wants, and/or the financial advantage or increased status of the perpetrator or facilitator. The victim may have been sexually exploited even if the sexual activity appears consensual. CSE does not always involve physical contact; it can also occur through the use of technology

3 2. BETH YDI HYN ? WHAT IS IT? Mae CSE yn drosedd ofnadwy sydd â chanlyniadau dinistriol a phellgyrhaeddol i’r dioddefwr, eu teulu a chymdeithas. Nid yw’n gyfyngedig i unrhyw un ardal ddaearyddol na chefndir ethnig na chymdeithasol. Mae bod â diffiniad cyffredin o CSE yn hollbwysig o ran adnabod, monitro a sicrhau ymatebion amlasiantaeth effeithiol. Mae effeithiau CSE yn eang a gallant fod yn ddinistriol ac yn hirdymor. Mae hyn yn arbennig o wir os nad yw dioddefwyr yn cael y gefnogaeth briodol. Gall dioddefwyr ddioddef amrywiaeth o effeithiau iechyd gan gynnwys anafiadau corfforol, heintiau a drosglwyddir drwy ryw a chanlyniadau gynaecolegol mwy hirdymor i ferched CSE is a terrible crime with destructive and far reaching consequences for victims, their families, and society. It is not limited to any particular geography, ethnic or social background. Having a shared definition of CSE is critical to identification, monitoring & effective multi-agency responses The impacts of CSE are wide- ranging, & can be profound & long lasting. This is particularly true when victims do not receive appropriate support. Victims can suffer a range of health impacts including physical injuries, sexually transmitted infections & longer- term gynaecological consequences for females

4 3. BETH YDI HYN ? WHAT IS IT? Gall pant/pobl ifanc brofi trawma emosiynol/salwch meddwl megis iselder, hunan-niweidio, meddwl am ladd eu hunain, anhwylder straeon wedi trawma a phroblemau cyffuriau/alcohol. Mae CSE hefyd yn effeithio ar blentyn/unigolyn ifanc yn y tymor hirach gan ei fod yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o droseddu ymysg pobl ifanc, rhagolygon addysgol gwael, ymgysylltiad â gwaith rhyw fel oedolyn, ymddieithrio rhag teulu a ffrindiau, perthnasau negyddol yn y dyfodol a mwy o risg o ddioddef mathau eraill o drais a chamdriniaeth Gall CSE hefyd effeithio ar gylchoedd cyfeillgarwch, rhwydweithiau teulu a’r gymuned ehangach. Children/ Young People can experience emotional trauma/mental illness such as depression, self-harm, suicidal ideation, post-traumatic stress disorder & drug/alcohol problems. CSE also impacts longer-term, being associated with higher rates of youth offending, poor educational prospects, involvement in adult sex work, isolation from family & friends, negative future relationships & increased risk of other forms of violence or abuse. CSE can also create strong ripple effects on friendship circles, family networks & the wider community.

5 4. ADNABOD RECOGNITION Fel unrhyw fath arall o gam-drin plant yn rhywiol, gall CSE : Effeithio ar unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc (bachgen neu ferch) o dan 18 oed, gan gynnwys rhai 16/17 oed sy’n gallu cydsynio’n gyfreithiol i gael rhyw. Mae’n gam- drin – hyd yn oed os yw’n ymddangos ei fod yn gydsyniol Gall gynnwys grym a/neu ddulliau cymhellol o ennyn cydsyniad a gall fod trais neu fygythiadau o drais ynghlwm ag o, ond nid bob amser Gall ddigwydd heb fod y plentyn neu’r unigolyn ifanc yn ymwybodol o hynny (e.e. pobl eraill yn creu fideos/delweddau ac yn eu postio yn y cyfryngau cymdeithasol Like any other form of child sexual abuse, CSE: Can affect any child or young person (male or female) under the age of 18 years, including 16/17 year olds who can legally consent to have sex. Is abuse - even if sexual activity appears consensual Can involve force and/or enticement-based methods of compliance & may/may not, be accompanied by violence or threats of violence. May occur without the child or young person’s immediate knowledge (e.g. through others creating videos/ images & posting on social media)

6 5. MATERION ALLWEDOL 5. KEY ISSUES
Gall y ffaith fod plant a phobl ifanc yn aml yn credu eu bod nhw wedi cael dewis eu hatal nhw rhag gofyn am gefnogaeth Mae deall y cyd-destun y mae dioddefwyr yn gwneud eu ‘dewis’ ynddo yn hollbwysig o ran ein gallu ni i ymateb yn effeithiol i CSE . Mae’r ymateb i CSE yn gofyn am symudiad tuag at ystyried rhieni/gofalwyr yn bartneriaid yn y broses ddiogelu (yn hytrach nag fel ffynhonnell o risg). Mae perthnasau diogel a chyson yn hollbwysig o ran hybu gwytnwch mewn plant a phobl ifanc The fact that children & young people often see themselves as making a choice can prevent them from seeking support. Understanding the context within which ‘choices’ are made by victims is critical to our ability to respond effectively to CSE. The response to CSE requires a shift to viewing parents/carers as partners in the safeguarding process (rather than a source of risk). Safe and consistent relationships are paramount to the promotion of resilience in children & young people

7 6. SUT I YMATEB 6. HOW TO RESPOND
Ydw i’n hyderus fy mod yn deall sut i adnabod yr arwyddion bod CSE yn/wedi digwydd? Sut alla’i gael plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu hecsbloetio gan oedolion i ymddiried ynof i? Sut alla’i greu cyfleoedd i ddatgelu heb roi pwysau ar ddioddefwyr i wneud hynny cyn eu bod nhw’n barod? Sut all goruchwyliaeth fy helpu i ddatblygu fy nulliau ymarfer? Am I confident in my understanding of the signs and indicators of CSE? How can I build trust with children and young people who have been exploited by adults? How can I create opportunities for disclosure without pressuring victims to disclose before they are ready? How can supervision help me to develop my practice?

8 7. GWEITHREDU ACTION Dywed y rhai sydd wedi dioddef CSE fod angen i weithwyr proffesiynol roi blaenoriaeth iddynt, bod yn amlwg effro i’w hanghenion, yn sylwgar, yn ymatebol ac yn ddibynadwy, gan barhau i roi cefnogaeth iddynt hyd yn oed os yw hynny’n mynd yn anodd weithiau. Siaradwch â’r swyddog sy’n arwain ar Ddiogelu yn eich asiantaeth chi. Cyfeiriwch at Weithdrefnau Diogelu Plant Cymru Gyfan a Chanllawiau Cenedlaethol perthnasol i CSE. Those affected by CSE say that professionals need to prioritise them, to be visibly attentive, responsive and reliable, sticking with them even when this might be difficult. Speak to the Safeguarding Lead in your agency Refer to All Wales Child Protection Procedures and National Guidance around CSE.


Download ppt "1. BETH YDI HYN? WHAT IS IT? Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) yn fath o gam-drin rhywiol. Mae’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn."

Similar presentations


Ads by Google