Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru (GLP-W)
Eich helpu i gynllunio ar gyfer newid i’r cwricwlwm a PISA 2018
2
Asesiad Myfyrwyr PISA 2018 Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn datblygu fframwaith ar gyfer mesur cymhwysedd byd-eang a fydd yn asesu ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r byd cydgysylltiedig yr ydym yn byw ynddo a’u gallu i ymdrin yn effeithiol â’r gofynion canlyniadol. Disgwylir i asesiadau 2018 PISA gynnwys elfennau sgiliau a dealltwriaeth ym maes cymhwysedd byd-eang. Mae GLP-W yn helpu disgyblion i ddeall eu rôl mewn byd cyd-ddibynnol, gan archwilio ffyrdd y gallant ei wneud yn fwy cyfiawn a chynaliadwy.
3
Donaldson: Dyfodol Llwyddiannus
Argymhelliad 3: Dylai’r cwricwlwm yng Nghymru geisio sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu fel: dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i gymryd rhan lawn mewn bywyd a gwaith dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a’r byd unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Mae GLP-W yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau byd-eang disgyblion, ac archwilio gwerthoedd.
4
Meysydd Dysgu Mae’r Adolygiad yn cadarnhau y dylai pynciau a disgyblaethau barhau i fod yn bwysig, ond y dylent gael eu grwpio o fewn chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Dylai pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad hyn gynnwys, lle y bo’n briodol, elfen Gymreig a safbwynt rhyngwladol yn unol ag argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r Cwricwlwm Cymreig, sef hanes a stori Cymru. Mae GLP-W yn helpu i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at ddysgu byd-eang, gan bwysleisio cyfleoedd ar gyfer gwaith trawsgwricwlaidd.
5
Meysydd Dysgu Dylai athrawon allu helpu plant a phobl ifanc i wneud cysylltiadau ar draws dysgu, gan ddwyn ynghyd agweddau gwahanol i fynd i’r afael â materion pwysig sy’n ymwneud, er enghraifft, â dinasyddiaeth, menter, gallu ariannol a chynaliadwyedd. Mae fframwaith cwricwlwm GLP-W yn cynorthwyo ysgolion trwy gysylltu â saith thema ADCDF a’u datblygu
6
Nid ailadrodd ac ymarfer am gyfnodau hir yn ystod y diwrnod ysgol yw’r hyn sy’n allweddol i feistroli’r sgiliau yma, ond yn hytrach ddealltwriaeth gadarn o’u helfennau hanfodol a ategir gan addysgu a dysgu sy’n briodol yn ddatblygiadol a chyd-destunau cyfoethog lle y gellir eu hatgyfnerthu, eu hymestyn a’u cymhwyso. Heb hyn, fel y dywedodd un cyfrannwr, ‘Mae perygl go iawn y byddwn yn addysgu mecaneg ysgrifennu heb roi unrhyw beth i’r plant ysgrifennu amdano’. Mae adnoddau GLP-W yn cynorthwyo datblygiad llythrennedd a rhifedd trwy ystod o bynciau a chyd-destunau.
7
Sgiliau ehangach Mae’r ‘sgiliau ehangach’ yng Nghymru yn cynnwys:
meddwl yn feirniadol a datrys problemau cynllunio a threfnu creadigrwydd ac arloesedd effeithiolrwydd personol Mae’r Fagloriaeth Cymru newydd yn cydnabod rolau allweddol y sgiliau hyn, yn enwedig o safbwynt cyflogaeth, ond ceir dadl gref y dylent gael eu cyflwyno ar ddechrau addysg plentyn a’u datblygu drwy gydol ei amser yn yr ysgol yn hytrach nag ymddangos pan fydd person ifanc ym Mlwyddyn 10. Mae’r Adolygiad yn cynnig y dylid mynd i’r afael â sgiliau ehangach o ddechrau addysg mewn ffyrdd sy’n cydnabod sut mae plant yn dysgu a datblygu.
8
dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a’r byd
9
Pwyslais cryf ar ddilyniant
Mae addysgu a dysgu da yn: gosod tasgau a dewis adnoddau sy’n ychwanegu at wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu Mae GLP-W wedi’i seilio ar fodel dilyniant eglur mewn dysgu byd-eang, o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4.
10
Ac yn olaf… ...dylai systemau atebolrwydd fynd i’r afael â’r cwestiwn: ‘I ba raddau y mae’r ysgol yn datblygu ei holl blant a phobl ifanc fel: dysgwyr uchelgeisiol, galluog; unigolion mentrus, creadigol; dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a’r byd; ac unigolion iach, hyderus?’ Mae GLP-W wedi’i seilio ar fodel cymorth ysgol i ysgol, a hunanwerthuso sy’n gysylltiedig â Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn.
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.