Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

CYFLWYNO ARDAL Ble rydw i?.

Similar presentations


Presentation on theme: "CYFLWYNO ARDAL Ble rydw i?."— Presentation transcript:

1 CYFLWYNO ARDAL Ble rydw i?

2 Bala Abertawe Aberystwyth Conwy Caerffili Caerdydd Bedd Gelert
Dinbych-y-pysgod

3 castell canolfan hamdden parc antur siopa bywyd nos pwll nofio fferm antur amgueddfa llyn traeth sgïo mynyddoedd llwybrau cerdded chwaraeon dŵr seiclo

4 CARDIAU DOLEN CARDIAU DOLEN CARDIAU DOLEN CARDIAU DOLEN
Fy hobi ydy chwarae badminton Mae canolfan hamdden yn y dref. Dw i’n hoffi gwylio ffilmiau gyda ffrindiau bob nos Sadwrn. Mae sinema yn y dref – sinema deg sgrin. Dw i’n mwynhau ffilmiau hefyd ond mae’n well gyda fi nofio. Mae’r pwll nofio ar bwys y sinema a’r castell. Castell? Gwych. Hanes ydy fy hoff bwnc. Dw i’n hoffi darllen am yr ardal a gwneud gwaith ymchwil. Bydd staff y llyfrgell yn helpu gyda gwaith ymchwil. Maen nhw’n dda. Hefyd staff yr amgueddfa. Mae’r amgueddfa ar bwys y ganolfan siopa. Mae canolfan siopa newydd yn y dref gyda’r siopau trendi i gyd. Fy hobi ydy siopa. Dw i wrth fy modd yn dilyn ffasiwn. Mae’n bwysig iawn. O na, mae’n gas gyda fi ffasiwn. Dw i’n hoffi dillad cyfforddus. A bod yn onest dw i’n byw a bod mewn siorts a crys T. Does dim problem gyda siorts a crys T. Mae’n berffaith i seiclo. Mae llwybrau seiclo bendigedig yn yr ardal. Mae llwybrau seiclo a llwybrau cerdded da yma. Hefyd mae pobl yn hoffi cerdded ar y traeth. Yn bendant. Mae pawb yn hoffi’r traethau. Rydych chi’n gallu cerdded, nofio, syrffio neu ymlacio. Dim fel yn y parc antur! Mae parc antur cyffrous yn yr ardal gyda reidiau anhygoel a llawer o her. Ond mae problem gyda’r bwyd – mae’n ddrud! Mae bwyd blasus yn y caffi yn y dref. Mae dewis da ar y fwydlen yn cynnwys bwyd llysieuol. Hefyd mae siop sglodion. Wrth gwrs. Mae’r siop sglodion yn boblogaidd ond dydy bwyta sglodion ddim yn iachus. Mae sglodion yn iawn weithiau. Mae pawb yn bwyta sglodion ar ôl bod yn y sinema neu’r disgo. Mae bywyd nos yr ardal yn iawn ond does dim digon o bethau i bobl ifanc. Dw i’n cytuno. Dylen ni gael caffi seibr i bobl ifanc. Hefyd, hoffwn i gael caffi di-alcohol. Caffi di-alcohol? Rhywbeth i feddwl amdano!! Syniad da neu ddim?

5 PENTREF (y pentref) = village
Cyflwyno gwybodaeth syml (Newid o’r cadarnhaol i’r negyddol) PENTREF (y pentref) = village TREF (y dref) = town DINAS (y ddinas) = city e.e. Mae e’n / hi’n _______________ > Dydy e / hi ddim yn ____________ Mae _______ yma > Does dim ___________ yma Gallwch chi ______________ > Allwch chi ddim _________ Mae hi’n ardal hanesyddol. Mae’r pentref ar lan y môr. Mae digon i wneud yn yr ardal. Mae’r ddinas yn boblogaidd yn ystod y gaeaf. Gallwch chi syrffio a sgïo dŵr yma. Mae’r tywydd yn braf yn y dref bob amser. Gallwch chi aros mewn iglw yn lle gwesty. Mae sinema a theatr yn yr ardal.

6 Croeso i Sir Penfro. Dyma’r lle i bod! Mae’n gwych!!
Yn fi marn i mae’r sir yn anhygoel. Ydych chi’n hoffi hanes. Wel, mae sawl castell yma, fel Caeriw, Penfro a Hwlffordd. Hefid, mae chwaraeon yn boblogaidd yma, yn enwedig chwaraeon dwr. Yn olaf, mae pawb yn hoffir atyniadau cyffrous fel Fferm Folly, Park Oakwood a Sw Anna Ryder Richardson. I fod yn honest mae gwyliau yma yn well na gwyliau yn Sbaen. Am mwy o wybodaeth, ffonio Amy am Mae gwefan gyda ni hefyd, sef Byddwch chi ddim yn siomedig. Felly cysylltwch a staff y swyddfa heddiw. 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15

7 Croeso i Sir Penfro. Dyma’r lle i bod! Mae’n gwych!!
Yn fi marn i mae’r sir yn anhygoel. Ydych chi’n hoffi hanes. Wel, mae sawl castell yma, fel Caeriw, Penfro a Hwlffordd. Hefid, mae chwaraeon yn boblogaidd yma, yn enwedig chwaraeon dwr. Yn olaf, mae pawb yn hoffir atyniadau cyffrous fel Fferm Folly, Park Oakwood a Sw Anna Ryder Richardson. I fod yn honest mae gwyliau yma yn well na gwyliau yn Sbaen. Am mwy o wybodaeth, ffonio Amy am mae gwefan gyda ni hefyd, sef Byddwch chi ddim yn siomedig. Felly cysylltwch a staff y swyddfa heddiw. a 1 Sir Benfro 2 fod 3 wych 4 Yn fy marn i 5 ? 6 Hefyd 7 dŵr 8 hoffi’r 9 Parc Oakwood 10 I fod yn onest 11 ffoniwch 12 ar 13 Mae 14 Fyddwch chi ddim 15 â

8 Disgrifiadau Ardal ARDALOEDD Tŷ Ddewi Rhyl Caerdydd Llanelli
Llangrannog Llanfair PG Mae pum dinas yng Nghymru – Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Bangor ac mae un arall yn Sir Benfro. Mae’r ddinas hon yn gartref i nawdd sant Cymru ac yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid bob blwyddyn. Mae pobl yn hoffi ymweld â’r eglwys gadeiriol ond hefyd maen nhw’n mwynhau teithio’r arfordir a gweld bywyd y môr. Mae siopau unigryw yn y ddinas, ysgol uwchradd, canolfan hamdden a sawl tŷ bwyta blasus. Ble rydw i? Mae’r dref hon yn y gogledd. Dydy hi ddim yn bell o Wrecsam, Prestatyn a’r Wyddgrug. A bod yn onest dydy hi ddim yn bell o’r ffin gyda Lloegr. Tref ar lan y môr ydy hi. Roedd hi’n arfer bod yn enwog am y Ganolfan Haul ond mae’r ganolfan wedi cau erbyn heddiw. Mae ffair yno ac mae’r ffair yn boblogaidd gyda’r twristiaid a’r bobl ifanc bob amser. Hefyd mae traeth braf, siopau da a digon o dai bwyta gwahanol. Ble rydw i? Dyma ein prifddinas, un o ddinasoedd gorau Prydain Fawr. Mae’n enwog am ei siopau amrywiol, y castell hanesyddol, yr adeiladau diddorol a’r cyfleusterau da. Gallwch chi ymlacio yn y ddinas neu fwynhau bywyd y bae. Yn sicr, mae rhywbeth yma at ddant pawb. Mae llawer o westai moethus ac atyniadau fel Amgueddfa Sain Ffagan, Castell Coch a Stadiwm y Mileniwm. Heb amheuaeth mae digon i weld yma a digon i wneud. Ble rydw i? Tref yn y De ydy hon. Mae chwaraeon yn bwysig iddi, yn enwedig byd y bêl hirgrwn. Yn sicr, mae tîm rygbi poblogaidd iawn yn y dref hon. Mae sawl canolfan siopa yno fel Parc Trostre, canolfan hamdden fodern a theatr newydd. Mae canran uchel o’r bobl yn siarad Cymraeg yma. Mae pedair ysgol uwchradd yn y dref, yn cynnwys ysgol cyfrwng Gymraeg. Yn olaf mae hanes y pyllau glo yn bwysig i’r ardal. Ble rydw i? Mae’r ardal hon ar lan môr. A bod yn onest mae’n boblogaidd iawn gyda phobl ifanc, yn enwedig plant rhwng 9 – 12 oed. Mae gwersyll gwyliau yno a’r cyfle i ddysgu Cymraeg gyda gweithgareddau fel sgïo, gwibgartio a merlota. Mae’r traeth yn dawel ac yn heddychon. Mae’r pentref yn fach gyda siop leol ac un capel. Dyma’r lle am wyliau hamddenol i’r teulu cyfan neu wyliau llawn her yn y gwersyll. Ble rydw i? Mae’r dref hon yn enwog heddiw achos yr enw hir. Dydy’r bobl leol ddim yn defnyddio’r enw llawn ond mae’r enw ar yr orsaf a hefyd mae cardiau post a phosteri yn dangos yr enw yn boblogaidd iawn. Mae pobl wedi ysgrifennu caneuon am y dref ac mae plant yn hoffi dysgu’r enw fel her. A bod yn onest mae __ llythyren yn yr enw. Dyma’r enw hiraf ar dref yng Nghymru. Ble ydw i?

9 plenty to do natural beauty interesting history to see a variety of shops beaches and water sports opportunities to relax tourist attractions facilities for young people public transport leisure shopping centre the place to be the theatre and the cinema suitable for the whole family outdoor activities something to suit everyone places digon o hwyl a her the best place

10 digon i wneud harddwch naturiol hanes diddorol i weld amrywiaeth o siopau traethau a chwaraeon dŵr cyfleoedd i ymlacio atyniadau twristiaeth cyfleusterau i’r ifanc trafnidiaeth gyhoeddus hamdden canolfan siopa y lle i fod y theatr a’r sinema addas i’r teulu cyfan gweithgareddau awyr agored rhywbeth at ddant pawb lleoedd digon o hwyl a her gorau

11 * * ABERYSTWYTH * * Croeso i Aberystwyth, un o drefi pwysicaf ardal Ceredigion. Mae’r dref rhwng Aberaeron a Machynlleth – ar arfordir Gorllewin Cymru. A bod yn onest mae’r dref yn bwysig o safbwynt hanesyddol a hefyd fel cartref i un o brifysgolion gorau Cymru. Cafodd y brifysgol ei sefydlu yn 1872 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Mae miloedd o fyfyrwyr yn mynd yno bob blwyddyn i astudio pynciau gwahanol, yn enwedig daearyddiaeth, hanes, Cymraeg, Saesneg a mathemateg. Mae amrywiaeth o siopau yn yr ardal, yn cynnwys siopau poblogaidd fel W.H.Smith, Monsoon, Animal a New Look. Wrth gwrs mae amrywiaeth o dai bwyta hefyd yn cynnwys Wetherspoons a McDonalds. Mae dwy ysgol uwchradd – Ysgol Penweddig ac Ysgol Penglais. Ysgol Gymraeg ydy Ysgol Penweddig ond mae pawb yn astudio Cymraeg yn Ysgol Penglais hefyd. Mae Aberystwyth yn ardal hanesyddol gyda’r castell a’r Hen Goleg ar y ffrynt. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yno ers 1907 ac erbyn heddiw mae Canolfan y Celfyddydau yno hefyd. Dyma’r lle i wylio’r dramâu a ffilmiau diweddara. Gallwch chi gerdded ar hyd y prom neu mae trên bach yn dringo Rhiw Conti fel arfer, yn ystod yr haf. Mae twristiaid yn mwynhau ardal Pont-ar-fynach hefyd – lle da i gerdded a gweld y rhaeadrau ysblennydd. Mae gwarchod byd natur yn bwysig yn yr ardal a felly mae Parc Penglais yn lle da i fod. Yn olaf, mae llawer o lwybrau cerdded a llwybrau seiclo ar gael, e.e. Taith Ystwyth. Yn wir, mae digon i wneud a digon i weld yn Aberystwyth. Hoffech chi wybod mwy am ardal Aberystwyth? Mae sawl gwefan ar gael, fel neu Dewch i Aberystwyth. Dyma’r lle i fod!

12 ABERAERON (Ceredigion)
LLAFAR GRŵP Rhaid i chi ddewis un o’r lleoedd yma. Rhaid i chi berswadio’r 2 berson arall i ddewis eich lle chi. Bydd eisiau ymchwil ofalus, rhesymau da a digon o berswâd. Mae rhai ffeithiau yma i’ch helpu. Pob lwc! Ble hoffech chi dreulio penwythnos? ABERAERON (Ceredigion) BANGOR (Gwynedd) ABERHONDDU (Powys) Tref ar lan y môr Amrywiaeth o siopau bach Llawer o dai bwyta blasus Traeth tawel, heddychlon Harbwr cyffrous, lliwgar Gwestai unigryw Hufen iâ blas mêl Llwybrau cerdded diddorol Llawer o bobl yn siarad Cymraeg Un o hoff leoedd Dylan Thomas, y bardd Yn agos i Aberystwyth (theatr / sinema) Yn agos i draethau arbennig fel Cei Newydd, Cwmtydu a Borth. Dinas fawr Amrywiaeth o siopau da, cyfoes – canolfan siopa newydd yn 2014 Eglwys gadeiriol Oriel Gelf / Amgueddfa Prifysgol fawr Ger yr Wyddfa, Sir Fôn, Llanfair PG … Siarad Cymraeg yn bwysig Stiwdio deledu / 2 orsaf radio Y Beatles wedi aros yma yn 1967 Pobl enwog fel Cheryl Cole, Dizzee Rascal, Rihanna ac Alicia Keys wedi perfformio yma Timau pêl-droed a rygbi da Tref ganolig Amrywiaeth o siopau bach, diddorol Ardal wledig / Ffermio yn bwysig Llawer o bobl yn dysgu Cymraeg Llwybrau cerdded / seiclo Chwaraeon awyr-agored fel canŵio, merlota, rafftio Teithiau ar y gamlas Sinema Amgueddfa

13 MEINI PRAWF LLWYDDIANT: LLAFAR GRŴP
LEFEL 5 LEFEL 6 LEFEL 7 Deall ac ymateb i sefyllfaoedd cyfarwydd (Understands and responds in familiar situations) Deall yr iaith lafar mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddethol manylion penodol (Understands spoken language used in a range of familiar situations by selecting specific details) Deall ac ymateb i amrywiaeth o sefyllfaoedd – cyfarwydd ac anghyfarwydd (Understands and responds to a variety of familiar and unfamiliar situations) Dechrau sgwrs gan ddangos mwy o hyder gyda pheth ymwybyddiaeth o drefn a dilyniant (Initiates conversation and shows more confidence, with some awareness of order and progression) Gwrando yn ofalus ar eraill gan ymateb drwy ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau perthnasol (Listens carefully to others, and respond by asking questions and making relevant comments) Gwrando ar eraill gan ofyn cwestiynau i gynnal syniadau a chefnogi a gwerthuso safbwynt (Listens to others and asks questions to support and evaluate ideas) Mynegi barn gyda rhesymau i esbonio syniadau (expresses opinions and gives reasons to explain ideas) Mynegi barn gan gytuno ac anghytuno a chynnig rhesymau i ategu safbwynt (Expresses opinions, agrees and disagrees, providing reasons to support their view) Mynegi barn gan ddethol tystiolaeth i ategu safbwynt (Expresses opinions selecting evidence to support their viewpoints) Ynganiad yn ddealladwy ac yn weddol rhugl (Speech is understandable and fairly fluent) Ynganiad yn ddealladwy ac yn eitha rhugl (Speech is understandable and quite fluent) Siarad yn eitha naturiol gan ddefnyddio iaith briodol (Speak naturally using appropriate language) Defnyddio amrywiaeth o ymadroddion, patrymau brawddegol a ffurfiau’r ferf yn weddol gywir (Uses a variety of phrases, sentence patterns and verb forms with a good measure of accuracy.) Defnyddio ystod gynyddol o ymadroddion a phatrymau brawddegol gan amrywio person ac amser y ferf yn gywir (Uses an increasing variety of phrases and sentence patterns accurately, varying both the verb tense and person) Dangos gafael amlwg ar gystrawen naturiol y Gymraeg gan ddefnyddio ystod eang o batrymau iaith (Shows a clear grasp of the natural syntax of the Welsh language using a wide variety of language patterns)

14 Ansoddeiriau Defnyddiol
Treiglad Meddal yn dilyn “yn” + ansoddair tawel / distaw - quiet prysur - busy diddorol - interesting diflas - boring glân - clean cyfoes / modern - modern bach - small mawr – big enfawr – huge lliwgar - colourful enwog - famous arbennig - special cyfeillgar - friendly pert / prydferth / tlws - pretty hanesyddol - historical cyffredin - ordinary cyffrous - exciting di-gyffro – un-exciting poblogaidd - popular diogel – safe grymus/ pwerus - powerful cyfoethog - rich egniol – energetic cadarn - strong hudoles - magical garw - rough haearniaidd – solid dylanwadol - influential nodweddiadol - characterictic rhyfeddol - wonderful traddodiadol - traditional trefnus - ordered ysblennydd - spectacular hardd – pretty ysbrydoledig – inspiring awdurdodol - authoritative heddychlon - peaceful gwefreiddiol - amazing syfrdanol - stunning adnabyddus – well-known perffaith - perfect trwsiadus - neat snobyddlyd – snobby/upper-class dymunol - desirable godidog - excellent amrywiol - varied deniadol - attractive arwyddocaol - significant cartrefol – homely gosgeiddig - graceful llonydd - still chwyldroadol = revolutionary C G - T D DD P B F M

15 Ysgrifennu Erthygl Meini Prawf (Success Criteria) Cynnwys (Content)
Iaith (Language) 1 2 3 4 5

16 MEINI PRAWF LLWYDDIANT: YSGRIFENNU
LEFEL 5 LEFEL 6 LEFEL 7 Ysgrifennu brawddegau cysylltiedig, datblygu syniadau yn synhwyrol a dangos ymwybyddiaeth o ffurf (Writes linked sentences, develop ideas and shows a of form) Ysgrifennu paragraffau synhwyrol, yn defnyddio ffuriau cywir gan ateb gofynion y dasg dan sylw (Writes linked paragraphs using the correct form according to the demands of the task) Ysgrifennu yn hyderus gan ddefnyddio ystod eang o ffurfiau amrywiol (Writes with confidence using a wide range of appropriate forms) Mynegi barn yn syml (Expresses opinions simply) Mynegi barn gyda rhai rhesymau (Expresses opinions with some reasons) Cefnogi barn gyda rhesymau (Supports opinions with reasons) Dethol geiriau ac ymadroddion addas at bwrpas ac amrywio brawddegau lle’n bosibl (Select words and phrases suitable for purpose, and vary sentences where possible) Dethol geiriau ac ymadroddion addas at bwrpas a dechrau creu effeithiau yn y gwaith (Select words and phrases suitable for purpose, and begin to create effects in the work) Datblygu syniadau gyda threfn, cynnal dadleuon gyda thystiolaeth i ategu barn a defnyddio iaith addas at y dasg (Develops ideas clearly, sustains arguments giving evidence to support reasons and uses language appropriate to the task) Sillafu cywir fel arfer (Spells most of the words accurately) Gafael dda ar sillafu a pharagraffu (A good grasp of spelling and grammar) Defnyddio prif-lythrennau, marc cwestiwn ac atalnod llawn yn gywir. Dechrau defnyddio collnod a dyfyn-nodau lle’n briodol (Uses capital letters, question marks and full stops accurately and begin to use apostrophes and quotation marks when necessary) Atalnodi pwrpasol (Appropriate punctuation) Defnyddio atalnodi cywir er mwyn creu gwaith trefnus (Uses correct punctuation to create organised work) Gwaith ysgrifennu taclus gyda chyflwyniad effeithiol (Work is legible and effectively presented)


Download ppt "CYFLWYNO ARDAL Ble rydw i?."

Similar presentations


Ads by Google