Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Effaith Newid Hinsawdd ar Bobl

Similar presentations


Presentation on theme: "Effaith Newid Hinsawdd ar Bobl"— Presentation transcript:

1 Effaith Newid Hinsawdd ar Bobl

2 SESIWN 1 Beth yw newid hinsawdd?

3 BETH YDYN NI’N GWYBOD? Cynhaliwch ras at y bwrdd gwyn i weld beth yw gwybodaeth a dealltwriaeth bresennol y disgyblion am newid hinsawdd. Gwybodaeth am y llun: Ajwad Ahmed, 7 oed, yn ateb cwestiynau am newid hinsawdd ger bron y dosbarth mewn gwers yn Ysgol Gynradd Jubilee yn Hackney, dwyrain Llundain. Llun gan: Caroline Irby/Oxfam

4 TYWYDD NEU HINSAWDD? Mae’r tywydd yn cyfeirio at newidiadau tymor byr mewn ffactorau fel tymheredd, glaw a gwynt. Mae hinsawdd yn cyfeirio at batrwm hirdymor o dywydd mewn lle penodol, fel arfer dros gyfnod o 30 mlynedd. Gwybodaeth am y llun: Menyw yn cerdded yn ardal Kup, Talaith Chimbu, Papwa Gini Newydd. Mwyach, nid yw pobl yn gallu rhagweld pryd fydd y tymor gwlyb yn cyrraedd yr ardal hon. Llun gan: Jerry Galea/Oxfam

5 BETH YW EFFAITH TŶ GWYDR?
cwmwl Pelydrau’r haul yn cynhesu’r Ddaear Mae’r rhan fwyaf o wres yn dianc i’r gofod ac yn oeri’r Ddaear Caiff rhywfaint o wres ei ddal gan nwyon tŷ gwydr Golau is-goch Mae’r haul yn chwarae rhan bwysig wrth ffurfio hinsawdd y Ddaear. Mae’r haul yn allyrru ymbelydredd is-goch yn ogystal â golau gweladwy. Dyma beth sy’n gwneud golau’r haul yn ‘boeth’. Mae’r rhan fwyaf o olau is-goch yr haul yn pasio drwy’r atmosffer ac yn cynhesu’r Ddaear. Yr atmosffer yw’r haen o nwyon sy’n amgylchynu’r Ddaear. Mae’r rhan fwyaf o’r gwres sydd wedyn yn cael ei ryddhau gan y Ddaear yn dianc i’r gofod. Mae hyn yn oeri’r Ddaear. Ond mae rhywfaint o’r gwres hwn yn cael ei ddal gan nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer ac yn lleihau’r effaith hon o oeri. Mae’r nwyon tŷ gwydr hyn yn gweithredu fel blanced, gan adael golau’r haul i mewn ond yn dal y gwres y mae’n cynhyrchu. Mae’r nwyon tŷ gwydr yn cynnwys: carbon deuocsid, methan, osôn, anwedd dŵr ac ocsid nitraidd. Maent yn amsugno ac yn adlewyrchu ymbelydredd is-goch fwy na nwyon eraill yn yr atmosffer. Caiff yr effaith hon ei galw yn Effaith Tŷ Gwydr. Noder bod yr esboniad hwn wedi ei symleiddio ar gyfer cynulleidfa iau. Ffynhonnell:

6 PAM FOD YR HINSAWDD YN CYNHESU?
Dros y can mlynedd diwethaf, mae hinsawdd y Ddaear wedi cynhesu. Mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr yn credu bod y rhan fwyaf o’r cynhesu hwn yn ganlyniad i gynnydd yn y nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer. Mae nwyon tŷ gwydr yn bresennol yn naturiol yn yr aer o’n hamgylch. Ond mae gweithgarwch pobl wedi cynyddu faint o rai o’r nwyon hyn sydd yno. Er enghraifft, llosgi tanwydd ffosil fel glo, nwy ac olew. Nid mater o’r hinsawdd yn cynhesu yn unig yw hyn. Bydd rhai lleoedd yn oeri, bydd rhagor o stormydd a phatrymau tywydd ffyrnig, a bydd yn anoddach rhagweld y tywydd. Gwybodaeth am y llun: Llygredd aer o bwerdy tanwydd ffosil. Llun: "AlfredPalmersmokestacks" gan Alfred Palmer - Library of Congress CALL NUMBER LC-USW36-376, rhif atgynhyrchu LC-DIG-fsac-1a Trwyddedwyd o dan barth cyhoeddus drwy Wikimedia Commons:

7 EFFAITH TŶ GWYDR MEWN JAR

8 EFFAITH TŶ GWYDR MEWN JAR
Amser Tymh. dim jar Tymh. jar wydr Ymbelydredd is-goch

9 SESIWN 2 Pwy a beth sy’n gyfrifol?

10 BETH SY’N GYFRIFOL? Yn glocwedd o’r pen uchaf chwith:
Gwybodaeth am y llun: Edrych tua’r de uwch Interstate 80 yn Berkley, California, UDA. Dyma ffordd fawr brysur gyda llawer o lonydd a thraffig trwm. Llun gan: Minesweeper, Gwybodaeth am y llun: Archfarchnad yn São Paulo, Brasil. Llun gan: Linsensuppe, Gwybodaeth am y llun:  Torri corn i wneud silwair yn Vilarromarís, Oroso, Galicia, Sbaen. Llun gan: Luis Miguel Bugallo Sánchez,  Gwybodaeth am y llun: Air Berlin B D-ABBN 787 Dreamliner colours yn Düsseldorf (EDDL). Llun gan: Arcturus, Gwybodaeth am y llun: Goleuadau’r nos yn ninas Yagamata, Japan. Llun gan: User:Tokino, wedi ei wella, ei dorri a’i leihau gan User:Dicklyon, Gwybodaeth am y llun: Ceblau trydan o Bwerdy Taichung, Taiwan. Llun gan:

11 BYWYD CAN ALIWMINIWM Gwybodaeth am y llun: Can diod alwminiwm
Llun gan: Marcos André,

12 TAITH TORTH O FARA Yn glocwedd o’r pen uchaf chwith:
Gwybodaeth am y llun: Medi’r gwenith yn Palouse, Idaho, USA. Llun gan: United States Department of Agriculture, Agricultural Research Service, Gwybodaeth am y llun: Dyfrhau’r gwenith yn Sir Yuma, Arizona, UDA. Llun gan: Gene Alexander, USDA Natural Resources Conservation Service, Gwybodaeth am y llun: Pobi bara. Llun gan: Zivya, Gwybodaeth am y llun: Bara wedi ei sleisio. Llun gan: kspoddar,

13 BETH YW ÔL-TROED CARBON?

14 RHOWCH NHW YN EU TREFN Yr Emiraethau Arabaidd Unedig 25.0 1 UDA 18.0 6
Gwlad Allyriadau CO2 y pen yn (tCO2): Safle yn y byd yn ôl allyriadau CO2 y pen yn (tCO2): Yr Emiraethau Arabaidd Unedig 25.0 1 UDA 18.0 6 Awstralia 15.0 15 Y Deyrnas Unedig 10.0 31 De Affrica 6.4 50 Tsieina 5.8 52 Brasil 2.4 71 India 1.7 79 Malawi 0.2 109 Noder bod y data uchod yn ymwneud ag allyriadau CO2 mewn perthynas â defnydd. Maent yn cynnwys allyriadau sy’n deillio o’r tu mewn i’r wlad ac o gynhyrchu mewnforio y wlad. Ffynhonnell: Yr Atlas Carbon Byd-eang:

15 PWY SY’N GYFRIFOL? Allyriadau CO2 y pen
Mae’r map hwn yn dangos faint o garbon deuocsid a gynhyrchwyd y pen ar gyfartaledd ym mhob gwlad yn Nid oes data ar gael ar gyfer rhai gwledydd. Ffynhonnell: The Global Carbon Atlas, Mae fersiwn ryngweithiol o’r map hwn ar gael fan hyn: Allyriadau CO2 y pen

16 PWY SY’N GYFRIFOL? Allyriadau CO2 fesul gwlad
Maer map hwn yn dangos cyfanswm allyriadau CO2 fesul gwlad. Ffynhonnell: The Global Carbon Atlas, Mae fersiwn ryngweithiol o’r map hwn ar gael fan hyn: Allyriadau CO2 fesul gwlad

17 SESIWN 3 Beth sy’n cael ei effeithio?

18 EFFEITHIAU NEWID HINSAWDD
Noder y bydd gwybodaeth am y lluniau hyn a’r materion perthnasol yn cael eu rhoi yn y sleidiau sydd i ddod, felly nid oes angen mynd i ormod o fanylion amdanynt ar y cam hwn.

19 DŴR Er nad yw’n bosibl dweud eto bod unrhyw ddigwyddiad unigol o dywydd wedi ei achosi gan y newid yn yr hinsawdd, mae tebygolrwydd tywydd eithafol yn cynyddu. Dangoswyd bod y newid yn yr hinsawdd yn ffactor allweddol yn y sychder yng Nghorn Affrica yn Roedd y sychder hwn yn cwmpasu ardaloedd o Ethiopia, Somalia a Kenya ac, mewn rhai lleoedd, dyma’r sychder gwaethaf mewn 60 mlynedd. Mae’n debygol y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gyflenwadau dŵr ffres mewn llawer o rannau o’r byd. Er enghraifft, mewn rhai ardaloedd, gallai lefelau uwch y môr achosi i ffynonellau dŵr ffres tanddaearol ac ar yr arwyneb gael eu halogi â dŵr hallt. Gwybodaeth am y llun: Menywod yn casglu dŵr gyda’u hasynnod yn ardal Somali yn Ethiopia. Mae’n rhaid i lawer o bobl yn yr ardal hon gerdded am hyd at hanner diwrnod i ddod o hyd i ddŵr. Llun gan: Nega Bazezew/Oxfam Ffynhonnell: F.C. Lott, N. Christidis, a P.A. Stott (2013) ‘Can the 2011 East African drought be attributed to human-induced climate change?’, Geophysical Research Letters 40, 1177–1181.

20 CARTREFI Wrth i dymheredd yr aer ar yr arwyneb godi, mae’r môr yn amsugno mwy o wres o’r atmosffer ac yn cynhesu. Mae hyn yn achosi iddo ehangu a bydd lefel y môr yn codi. Mae rhewlifoedd a llenni iâ, yn yr Ynys Las (Greenland) ac Antarctig, er enghraifft, hefyd yn cyfrannu at lefelau uwch y môr. Mae llawer o leoedd yn y byd mewn perygl wrth i lefel y môr godi. Mae Bangladesh yn arbennig o agored i niwed. Mae’n rheolaidd yn dioddef o stormydd trofannol llym ac mae ardaloedd mawr o’r wlad yn dir isel. Bydd rhai cymunedau yn parhau i geisio addasu at effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ond gallai eraill gael eu gorfodi i adael eu cartrefi a symud i ardaloedd eraill. Gwybodaeth am y llun: Menyw yn cerdded drwy dir sydd dan lifogydd yn Bangladesh er mwyn dychwelyd i’w chartref. Llun gan: Peter Caton/Oxfam

21 BWYD Heddiw, mae un o bob wyth o bobl y byd yn mynd i’w gwely yn llwgu. Mae hynny’n golygu bod bron i 900 miliwn o bobl ledled y byd yn brin o fwyd. Y newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad unigol mwyaf i’r frwydr yn erbyn newyn. Amcangyfrifir y gallai nifer y bobl sydd mewn perygl o newyn erbyn 2050 gynyddu rhwng 10 ac 20 y cant yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Gwybodaeth am y llun: Bachgen ifanc yn bwyta reis yn ei gartref yn ardal Pouh Town, sir Grand Gedeh, Liberia. Llun gan: Kieran Doherty/Oxfam Ffynhonnell: M.L. Parry, et al (2009) ‘Climate change and hunger: Responding to the challenge’, World Food Programme, gan gyfeirio at W. Easterling a P. Aggarwal (2007) ‘Food, Fibre and Forest Products’, yn M.L. Parry et al (2007) ‘Climate Change 2007: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Fourth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change’, Cambridge University Press. Noder bod y gwaith ymchwil yn tybio: 'a development pathway of continuing high population growth and regional disparity of income’:

22 FFERMWYR Mae’r cynnydd mewn tymheredd a newidiadau i batrymau glaw yn gorfodi ffermwyr i newid pa gnydau maen nhw’n tyfu. Mae tywydd eithafol, fel gwres mawr, sychder a llifogydd, yn digwydd yn amlach ac yn fwy llym. Yn ogystal ag effeithio ar y gwaith o gynhyrchu’r cnydau, ac ansawdd y cnydau, gall y tywydd eithafol hyn hefyd ddifrodi neu ddinistrio systemau cludo a dosbarthu bwyd. Mae hyn yn ei dro yn effeithio ar gyflenwad bwyd a faint o fwyd sydd ar gael ac yn cynyddu’r prisiau. Cyn hir, bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar beth mae pawb ohonom yn bwyta. Gwybodaeth am y llun: Ffermio reis yn Fiet Nam. Fiet Nam yw un o’r gwledydd sydd fwyaf agored i gael ei heffeithio gan y newid yn yr hinsawdd. Mae’r wlad a’i phobl o dan fygythiad gan y cynnydd tebygol mewn tywydd eithafol fel glaw a sychder mawr iawn, a chan newidiadau araf i’r hinsawdd fel lefel y môr yn codi a’r tymheredd yn codi. Llun gan: Nguyen Quoc Thuan / Oxfam GB

23 PYSGOTA Mae cymunedau pysgota yn agored iawn i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a’r perygl o drychinebau. Ar 8 Tachwedd 2013, cafodd Ynysoedd Philippines eu taro gan Deiffŵn Haiyan. Teiffŵn yw’r enw ar storm drofannol dros y Môr Tawel. Cafwyd difrod eang ar draws llawer o ganol Ynysoedd Philippines gan wyntoedd cryf, glaw trwm, llifogydd a thonnau llanw. Lladdwyd mwy nag 8,000 o bobl, a gorfodwyd pedair miliwn i adael eu cartrefi. Mae bron i dri chwarter y cymunedau pysgota wedi eu heffeithio’n ddifrifol, gyda 30,000 o gychod wedi eu difrodi neu’u dinistrio. Roedd y teiffŵn hefyd wedi difrodi coedwigoedd mangrof a riffiau cwrel sydd yn fannau pwysig i bysgod gladdu eu hwyau. Caiff Ynysoedd Philippines eu taro’n rheolaidd gan deiffŵn, ond yn ôl cofnodion y llywodraeth, mae’r stormydd hyn yn cryfhau. Mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu y bydd stormydd enfawr fel Teiffŵn Haiyan yn digwydd yn amlach yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Gwybodaeth am y llun: Roedd Joel yn arfer bod yn bysgotwr. Collodd ei gartref, ei gwch a’i offer pysgota yn Nheiffŵn Haiyan. Ei fywoliaeth bellach yw gwerthu metel sgrap y mae’n dod o hyd iddo ar hyd y lan. Llun gan: Eleanor Farmer / Oxfam Ffynhonnell:

24 TRAETHAU Mae llawer o draethau’r byd a’r cymunedau sy’n byw yno yn cael eu bygwth gan erydu arfordirol a lefel gynyddol y môr. Proses naturiol yw erydu arfordirol, lle mae llinell yr arfordir yn cael ei threulio gan wynt, tonnau a’r llanw, gan achosi iddo gilio’n ôl. Bydd cynnydd mewn tywydd eithafol yn peri i fwy o ddifrod ddigwydd yn sgil erydu arfordirol. Yn y Môr Tawel, mae’n rhaid i’r holl bobl sy’n byw yn rhai o’r ynysoedd symud oddi yno, wrth i lefel y môr godi a halogi’r pridd â halen. Mae dwy o ynysoedd Kiribati (un o genhedloedd ynysoedd y Môr Tawel) eisoes wedi eu colli o dan y tonnau. Mae llawer o ddinasoedd mawr y byd wedi’u lleoli ar hyd yr arfordir, ac mae bron i chwarter poblogaeth y byd yn byw ar yr arfordir. Gwybodaeth am y llun: Bechgyn yn chwarae ar y traeth yn Barra de Sirinhaém, Pernambuco, Brasil Llun gan: Tatiana Cardeal Ffynhonnell:

25 CANLYNIADAU NEWID HINSAWDD
Cynefinoedd yn cael eu difrodi a’u dinistrio. Plant heb gael addysg. Ardaloedd arfordirol ac isel yn dioddef o lifogydd. Plant yn methu â mynd i’r ysgol. Lefel y môr yn codi. Cartrefi, ysgolion a chnydau yn cael eu difrodi a’u dinistrio. Pobl heb unlle i fyw. Tymheredd yr aer a’r môr yn codi. Mwy o risg o dywydd eithafol. Methu â rhagweld faint o law sydd am ddisgyn. Pobl yn llwgu. Enghraifft o we ganlyniadau newid hinsawdd. Pobl methu â fforddio prynu bwyd. Newid hinsawdd Ffermwyr yn methu â thyfu cnydau i’w gwerthu na bwydo eu teuluoedd. Prisiau bwyd yn codi.

26 CANLYNIADAU NEWID HINSAWDD
Lefel y môr yn codi Newid hinsawdd Risg uwch o dywydd eithafol Tymheredd yr aer a’r môr yn codi Methu â rhagweld faint o law sydd am ddisgyn Llifogydd Sychder Ffermwyr yn methu â thyfu cnydau na bwydo eu teuluoedd Gallech roi’r we ganlyniadau hon, sydd heb ei gorffen, i’r dysgwyr ei chwblhau.


Download ppt "Effaith Newid Hinsawdd ar Bobl"

Similar presentations


Ads by Google