Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Cyflwyno arferion astudio

Similar presentations


Presentation on theme: "Cyflwyno arferion astudio"— Presentation transcript:

1 Cyflwyno arferion astudio
Sesiwn 1: Beth allen ni ei gynnig i chi Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr; Y Ganolfan Saesneg Ryngwladol; Cymorth Cymraeg

2 Ursula Byrne Prifysgol Aberystwyth University - Coleg Cymraeg Cenedlaethol Darlithydd Mewn Cymraeg Proffesiynol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Ystafell : D33 Rhif ffôn: Tiwtor Sgiliau Iaith Gymraeg Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg Ystafell: B Rhif ffôn: Adeilad Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DY

3 Pam ydw i yma? Gradd Meddwl yn feirniadol Dysgu
Sgiliau proffesiynol a’r potensial i gael swydd - cyflogadwyedd Gwneud ffrindiau Gradd: nod pennaf a chanlyniad terfynol pob proses sy’n dilyn Meddwl yn feirniadol: archwilio perthnasau rhesymeg a manylu mewn meysydd arbenigol; herio’ch hunan a phobl eraill i gyfiawnhau barn a syniadau; dadlau’r pwynt gyda chefnogaeth rhesymegol a phwrpasol Dysgu: datblygu strategaethau dysgu academaidd a phersonol Sgiliau proffesiynol a’r potensial i gael swydd - cyflogadwyedd: cysylltu’ch astudio â’ch diddordebau yn y dyfodol Gwneud ffrindiau: dod o hyd i’r cytbwysedd gorau rhwng astudio, gweithio a byw’ch bywyd Trafodwch yr uchod gyda’ch cymar – pam maen nhw yma? Am beth hoffech ddysgu mey?

4 Pwy ydyn ni a beth ydyn ni’n ei gynnig yn Saesneg?
Cynnorthwyo gyda sgiliau astudio gan gynnwys ysgrifennu academaidd, sgiliau cyflwyno, cyfeirnodi ac ati Seminarau bob wythnos am ddim Modiwlau israddedig Sesiynau un-wrth-un gydag ysgrifennwr proffesiynol (Cronfa Lenyddol Frenhinol - RLF) Sesiynau un-wrth-un cymorth iaith (Canolfan Saesneg Ryngwladol) Deunyddiau sgiliau astudio a chyngor ar-lein ar safle SgiliauAber: tab_group_id=_58_1 Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr a’r Ganolfan Saesneg Ryngwladol sy’n darparu Mae myfyrwyr yn cael dilyn pob rhaglen tu allan i’r system modiwlau yn Saesneg ym mha bynnag gyfuniad y dymunant yn Semester 1 a 2. RLF – Cynan Jones yn siarad Cymraeg ond yn methu cynnig cymorth gydag ysgrifennu yn Gymraeg.

5 Pwy ydyn ni a beth ydyn ni’n ei gynnig yn Gymraeg?
Cynnorthwyo gyda sgiliau iaith Gymraeg gan gynnwys ysgrifennu academaidd, sgiliau cyflwyno ac ati Seminarau am ddim Bob wythnos neu sesiynau dwys brynhawn Mercher (2 sesiwn) Cofrestrwch am y Dystysgrif Sgiliau Iaith a chael cymhwyster ychwanegol Sesiynau un-wrth-un gyda’r Tiwtor Sgiliau Iaith Gymraeg Deunyddiau sgiliau astudio a chyngor ar-lein ar safle SgiliauAber ac ar safle’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Cyflwyno aseiniadau i gael adborth iaith Cofrestrwch cyn 30 Hydref 2017: Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg sy’n darparu Cofrestrwch erbyn 30 Hydref 2017

6 Cynllunio’ch astudio Tasg: dywedwch wrth eich gilydd beth dych chi’n ei astudio/pa gwrs gradd

7 Cynllunio tymor byr Trefn arferol Defnyddiwch y bylchau’n fuddiol
Rhannwch yr astudio’n dasgau Cydbwyso’r gwaith a’r cymdeithasu Sut ydych chi’n mynd amdani i wenud hyn? Beth fydd eich trefn arferol bob dydd? Rhaid ystyried Darlithoedd, Seminarau, Gwaith ymarferol, gwaith maes neu leoliad gwaith, teulu, chwaraeon, ymuno â chymdeithasau, byw bob dydd (golchi dillad, siopa, coginio…)

8 Rheoli’ch llwyth gwaith
Nodwch eich dyddiadau cau ddigon ymlaen llaw Deall eich modiwlau, manylion a’r drefn asesu Blaenoriaethu’ch tasgau Rhannwch eich tasgau yn rhai tymor byr, tymor canolig a’r tymor hir Gadewch ddigon o amser i bethau annisgwyl megis gwrthdaro yn eich amserlen(salwch, digwyddiadau cymdeithasol ac ati) Darllen gweithdrefnau’ch adran am gyflwyno yn hwyr Trafodwch gyda’ch cymar sut ydych chi’n blaenoriaethu tasgau a gwahaniaethu rhwng nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir. Rhaid gwybod am eich dyddiadau cau: beth yw gweithdrefnau’r adran a’r brifysgol os byddwch yn methu cyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau? Gwybodaeth am y modiwlau i’w weld yn y sleidiau nesaf, gan gynnwys sut mae rhagdybio’r cynnwys a’r asesu (mae myfyrwyr yn cael gweld a oes bylchau yn yr wybodaeth ac felly a oes angen holi cwestiynau). Pa fath o dasgau yw’r rhai tymor hir, tynor canolig a tymor byr? Holi am draethodau/adroddiadau, cyflwyniadau, paratoi i seminarau ac ati. Darllenwch y cynllun marcio neu’r meini prawf i ddeall gwerth pob tasg a faint o gynllunio y dylech ei wneud oherwydd hynny Amhosibl rhagweld popeth hyd yn oed pan fydd cynlluniau eglur. 6 modiwl a mwy mewn blwyddyn academaidd. Rhaid rheoli amserlenni a llwyth gwaith cau sy’n agos iawn at ei gilydd. Bydd y dyddiadau cau yn eich llawlyfrau neu ar y BwrddDu a byddwch yn cael gwybod amdanynt ar ddechrau pob semester. Darllenwch y polisi am estyniadau. Dim modd cael estyniad am resymau cymdeithasu neu weithio (nid oes modd cyflwyno’n hwyr, estynaidau am resymau eithriadol difrifol, rhaid gofyn o leiaf tri diwrnod cyn y dyddiad cau). Mewn argyfwng, llai na thir diwrnod cyn y dyddiad cau, siaradwch â’r aelod o staff yn eich adran sy;n gyfrifol am hyn

9 Deall eich gradd Cynlluniau astudio Gwybodaeth am y modiwlau
Gwybodaeth am y modiwlau Hen bapurau arholiad Agorwch dudalen flaen y brifysgol Astudio gyda ni (ar y brig)  Myfyrwyr presennol Gwybodaeth Astudio Ddefnyddiol: Cynlluniau Astudio Modiwlau Hen bapurau arholiad

10 Cynlluniau astudio a modiwlau
Adnabod eich cynllun astudio Teitl Côd Dynodwyr modiwlau: mae gan bob modiwl gôd unigryw sef dynodwr y modiwl, e.e. MR10120 Egwyddorion Marchnata Y ddwy lythyren gyntaf = y cynllun gradd neu’r adran Y rhif cyntaf = blwyddyn astudio Y ddau rif olaf = nifer y credydau (20 fel arfer, ond gall fod hefyd yn10, 30 neu 40)

11 Nodwch y canlynol i bob un o’ch modiwlau (cynnwys enghreifftiau)
Dynodwr y modiwl Math o ddysgu Darlithoedd, seminarau ac ati Math o asesiad Traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, arholiadau, traethodau hir ac ati Nifer y geiriau/Hyd Dyddiadau cau (Gweler y dyddidau yn llawlyfrau’r modiwlau)  Asesiad atodol (beth fydd yn digwydd os bydd angen ichi ailsefyll) IP12420 Darlithoedd/ seminarau Adolygiad beirniadol Traethawd Adolygu erthygl 1,500 2,000 1,000 ? Ailwneud yr asesiad a fethodd MM10120 Gwaith cwrs/ cyfrannu mewn seminarau Arholiad anweledig 2 awr FM10620 10 x darlith/seminar Aseiniad 1 Aseiniad 2 3,000 Cynhelir asesiadau atodol rhwng diwedd Gorffennaf a dechrau Medi fel arfer: bydd cyfnod cyflwyno ar gyfer traethodau a bydd dyddiad penodol ar gfyer arholiaidau. Arholiadau Atodol 2017/18: 20 August - 30 August 2018

12 Lluniwch grynodeb i bob semester
Nifer Nifer y geiriau/hyd Traethodau Adroddiadau Arholiadau Cyflwyniadau Pethau eraill Cyfanswm yr aseiniadau Cyfanswm y geiriau (traethodau/ adroddiadau) Cyfanswm yr amser (arholiadau, cyflwyniadau) Cewch grynodeb gan ddilyn eich llawlyfrau modiwlau. Swyddfa Ansawdd Academaidd yn cymeradwyo Blwyddyn 1, modiwlau 10 credyd, o leiaf 1500 gair, modiwlau 20 credyd o leiaf 3000 gair Blwyddyn 2 a 3, modiwlau 10 credyd, o leiaf 2500 gair, modiwlau 20 credyd o leiaf 5000 gair 1 semester = 60 credyd = o leiaf 9000 gair (neu’r cyfwerth) 1 flwdyddyn = 120 credyd = o leiaf gair (neu’r cyfwerth)

13 Dogfen gyflawn “Deall eich gradd”
Blackboard: SgiliauAber ar frig y dudalen (i’r dde) NEU SgiliauAber: Strategaethau Dysgu:

14 Ddydd Mercher 18fed Hyd – 6fd Rhag 14:00 – 15:00: Sgiliau Astudio ac Ysgrifennu
Free Undergraduate course in Academic Writing and Information Skills (Saesneg yn unig) Penglais: Hugh Owen C22 Dehongli cwestiynau traethodau Eglurdeb a chanolbwyntio Cynllunio ac ysgrifenuu cyflwyniadau Aralleirio a chyfeirnodi Dyfynnu a chyfeirnodi Strwythuro traethawd: natur dadlau Tynnu casgliadau ac ysgrifennu casgliadau Adolygu a sgiliau arholiadau Ni fydd y pynciau hyn yn cael eu cyflwyno yn union yn y drefn hon o reidrwydd. Nodwch y bydd sesiynau sgiliau yn cael eu harwain gan Wasanaethau Gwybodaeth ar ddyddiau Mercher rhwng 8.15 a 8.45 yn Medrus

15 Y Gymraeg Sesiynau sgiliau iaith Gymraeg Dechrau 13eg Tachwe2017
Amserlen ar gael yn nes at yr amser Rhaid cofrestru ar gyfer y Dystysgrif Sgiliau Iaith Neu roi’ch enw imi Seminarau wythnosol – cyfres o 8 Ailadrodd sawl gwaith dros y flwyddyn Neu 2 weithdy 3 awr yr un ar brynhawn Mercher

16 Cyrsiau a gwasanaethau ar gyfer Cymorth Dysgu
Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr / Canolfan Saesneg Rhyngwladol Free Undergraduate course in Academic Writing and Information Skills (Saesneg) (gwybodaeth yn Gymraeg) Undergraduate modules support/modules/ Cymorth ysgrifennu un-wrth-un(RLF) neu gofynnwch am apwyntiad trwy Cymorth iaith un-wrth-un neu gofynnwch am apwyntiad trwy – dim ond i fyfrwyr tramor SgiliauAber: adnoddau astudio ar-lein (Blackboard neu ar-lein)

17 Dysgu cynhwysol a chynhyrchiant
Cysylltwch â Chymorth i Fyfyrwyr os oes gennych wahaniaeth dysgu penodol megis dyslecsia neu os oes gennych gyflwr iechyd tymor hir : Cymorth i Fyfyrwyr Tel: Os byddwch yn dechrau cael trafferth ar ôl dechrau’r cwrs, cysylltwch yn syth. Dyw rhai myfyrwyr ddim yn gwybod am wahaniaethau dysgu oherwydd y dull trafod hyn yn yr ysgol. Mae mentoriaid, sesiynau galw heibio a gwirio ar gael.Hefyd, gwiriwch y Bwletin Wythnosol (ebost).

18 Sesiwn Goroesi bywyd myfyriwr
Gall yr wythnosau cyntaf yn y brifysgol fod yn anodd; efallai mai dyma’r tro cyntaf ichi fod oddi cartref.   Os ydych yn cael trafferth ymgartrefu yn y brifysgol, dewch i weld rhwyun yng Nganolfan Croesawu Myfyrwyr Neu gysylltwch a am ragor o wybodaeth

19 Cwestiynau Diolch am fod yma Unrhyw gwestiynau?
Ysgrifenni a chyfeirnodi fydd y sesiwn nesaf


Download ppt "Cyflwyno arferion astudio"

Similar presentations


Ads by Google