Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Addysg i bawb.

Similar presentations


Presentation on theme: "Addysg i bawb."— Presentation transcript:

1 Addysg i bawb

2 Ffoto: Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone © Aubrey Wade/Oxfam

3 Y ffeithiau Yn 2015, nid oedd 58 miliwn o blant wedi'u cofrestru mewn ysgol gynradd. Graffeg: GCE UK (ystadegau’n gywir yn 2015)

4 Meddyliwch a phenderfynwch.
Beth sy'n gwneud addysg dda? Sylfaen Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn gorffen yr ysgol gynradd. Mae addysg dda'n golygu bod gan bob plentyn werslyfr. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn gallu darllen, ysgrifennu a rhifo. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn cael ei addysgu gan athro sydd wedi'i gymhwyso. Mae addysg dda'n golygu bod gan ferched a bechgyn gyfleoedd cyfartal. Mae addysg dda'n golygu bod gan bob ysgol ddŵr yfed a thoiledau. Estyniad Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn cofrestru mewn ysgol. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn mynd i'r ysgol rhwng 9am a 3.30pm bum diwrnod yr wythnos. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn cael ei addysgu mewn dosbarth heb fod yn fwy na 30 disgybl. Mae addysg dda'n golygu bod anghenion plant sydd ag ADY yn cael eu hateb. Mae addysg dda'n golygu bod plant yn saff ac yn ddiogel yn yr ysgol. Mae addysg dda'n golygu bod yr ysgol yn parchu diwylliant ac iaith gartref y plentyn. Ffotograff: Woodside High School, Llundain© Chris O’Donovan/Oxfam Meddyliwch a phenderfynwch.

5 Astudiaeth achos: Adama
Gadawodd Adama yr ysgol gynradd am flwyddyn ac yna dychwelyd. Pan gwrddodd Oxfam ag Adama, roedd hi'n ddisgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh, ychydig y tu allan i Freetown yn Sierra Leone. Roedd hi'n 12 mlwydd oed ‘Pan o'n i ym mlwyddyn 5 doedd fy mam ddim yn gallu fforddio talu'r tâl o 9,000 Leones (£1.40) i gronfa datblygu'r ysgol. Dyma'r arian y mae'n rhaid i rieni ei dalu er mwyn i'r ysgol allu prynu pethau fel dodrefn ac offer. Pan oedd hi'n methu talu roedd rhaid imi stopio mynd i'r ysgol. Doeddwn i ddim yn mynd i'r ysgol am flwyddyn. Drwy'r amser ro'n i'n byw yma, yn union wrth ymyl yr ysgol. 'Roedd fy mam yn mynd â fy chwaer a minnau i'r farchnad ac ro'n ni'n gwerthu gari (blawd casafa) bob dydd. Do'n i ddim yn hoffi gweithio yn y farchnad. Dydy e ddim yn fuddiol i blentyn a'r cyfan ro'n i'n meddwl amdano oedd beth ro'n i'n ei golli yn yr ysgol. 'Siaradais â fy rhieni. Dywedais wrthyn nhw nad o'n i eisiau gwerthu yn y farchnad. Dywedais, plîs gwnewch eich gorau i'm hanfon i'n ôl i'r ysgol. 'Ro'n i wir yn hapus pan ddywedodd fy rhieni wrtha i fy mod i wedi cael fy lle yn yr ysgol yn ôl. Roedd rhaid i mi ddechrau Blwyddyn 5 eto a nawr dwi ym Mlwyddyn 6 sy'n fy mharatoi at yr arholiadau terfynol. Dwi'n hoffi'r ysgol achos mae'r ysgol yn fanteisiol i mi ar gyfer y dyfodol. Pan fyddaf i'n henach dwi eisiau bod yn rhywun fel nyrs neu gyfreithiwr. 'Dwi'n gwerthfawrogi'r ysgol a dwi'n astudio'n galed iawn. Dwi eisiau pasio fy arholiadau a mynd i'r Ysgol Uwchradd Iau.' Ffotograff: Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone, © Aubrey Wade/Oxfam

6 Astudiaeth achos: Hawanatu
Gadawodd Hawanatu yr ysgol heb gwblhau ei haddysg gynradd a dechrau gweithio. Pan gwrddodd Oxfam â Hawanatu roedd hi'n wrthi'n gweithio, yn torri llysiau yn y stryd yn Pamaronkoh, ychydig y tu allan i Freetown yn Sierra Leone. Roedd hi'n 13 blwydd oed. 'Es i i bob blwyddyn ysgol yn yr ysgol gynradd hyd at Flwyddyn 5. Yna buodd fy nhad farw wan o'n i ar fin dechrau Blwyddyn 6. Dwi'n byw gyda fy anti a doedd hi ddim yn gallu fforddio'r tâl ysgol, felly roedd rhaid i mi adael heb orffen fy arholiadau ysgol gynradd. 'Dwi ddim yn teimlo'n dda o gwbl am hyn achos dwi'n gorweithio. Mae fy anti'n gwerthu eba (toes casafa), halen a winwns o stondin y tu allan i'n tŷ ni. Dwi'n gweithio bob dydd yn nôl dŵr, yn ysgubo ac yn paratoi bwyd. Hefyd mae'n rhaid i mi helpu i gadw'r tŷ'n daclus. 'Dydy fy mrodyr a'm chwiorydd ddim yn mynd i'r ysgol chwaith. Ers i fy nhad farw does dim un ohonon ni'n mynd i'r ysgol. 'Un rheswm hoffwn i fynd yn ôl a gorffen yr ysgol yw achos bod y gwaith hwn yn ormod i mi. Ond hefyd hoffwn i fod yn nyrs ac mae hynny'n hollol amhosibl os nad ydw i'n gorffen yr ysgol.' Ffoto: cymuned Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone © Aubrey Wade/Oxfam

7 Astudiaeth achos: Gbessay
Aeth Gbessay ddim I’r ysgol gynradd, a dechreuodd hi ddarllen ac ysgrifennu pan oedd hi yn ei harddegau, mewn canolfan hyfforddi galwedigaethol. Cwrddodd Oxfam â Gbessay yn Grassroots, canolfan hyfforddi galwedigaethol yn Pamaronkoh yn union y tu allan i Freetown yn Sierra Leone. Doedd Gbessay erioed wedi bod i'r ysgol a chofrestrodd yn Grassroots er mwyn dysgu gwneud dillad. Roedd hi'n 15 mlwydd oed.  'Dwi erioed wedi bod i'r ysgol. Roedd ysgol wrth ymyl fy nghartref pan o'n i'n byw yn y pentref ond es i byth. Mae fy rhieni'n dlawd iawn a doedd dim arian gyda nhw i dalu i mi fynd i'r ysgol. 'Ro'n i'n teimlo'n wael am golli'r ysgol. Aethon nhw â fi i fferm y teulu ac roedd rhaid i mi weithio yno. Ro'n i'n teimlo'n wael am hynny. Dechreuais weithio pan o'n i'n chwe blwyddyn oed, yn gwneud pethau fel chwynnu a gyrru'r adar i ffwrdd. Gweithiais ar y fferm am bum mlynedd heb fynd i'r ysgol o gwbl. Roedd fy ffrindiau yn y pentref yn gwrthod siarad â mi. Ro'n nhw'n mynd i'r ysgol a do'n i ddim, felly pan o'n nhw'n fy ngweld i, ro'n nhw'n gwrthod siarad â mi. 'Ro'n i'n teimlo fy mod i'n cael fy esgeuluso oherwydd mai merch o'n i. Siaradais â fy rhieni ac ymbil arnyn nhw i'm hanfon i'r ysgol. Dywedon nhw wrtha i nad oedd arian gyda nhw i wneud hynny. Dim ond nawr mae rhieni'n anfon merched i'r ysgol. 'Daeth fy nain â fi i Freetown pan o'n i'n 11. Roedd hi eisiau i mi ddysgu rhywbeth. Des i i'r ganolfan (Grassroots) a dechrau dysgu sgiliau newydd. Darllenais ddarllen pan o'n i'n 13. Roedd ysgrifennu fy ychydig eiriau cyntaf yn braf iawn. 'Nawr dwi'n dysgu gwneud dillad. Hoffwn sefydlu fy menter fy hun os gallaf godi'r arian. O edrych yn ôl hoffwn i ddweud pa mor bwysig yw hi i ferch fynd i'r ysgol. Y rheswm? Os yw person yn anllythrennog, mae bywyd yn anodd iawn iddyn nhw.' Ffoto: cymuned Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone © Aubrey Wade/Oxfam

8 Astudiaeth achos: Fatmata
Gorffennodd Fatmata ei haddysg gynradd a symud ymlaen i addysg uwchradd iau. Pan gwrddodd Oxfam â Fatmata roedd hi'n fyfyriwr Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Iau yn Makeni, Sierra Leone. Roedd yn 16 blwydd oedWhen Oxfam met Fatmata she was a Year 9 student at St Joseph’s Junior Secondary School in Makeni, Sierra Leone. Fatmata was 16 years old. 'Dwi'n byw ym mhentref Mashirmba y tu allan i Makeni. Roedd yr ysgol gynradd yn weddol agos i'm cartref ond mae'r ysgol uwchradd yn y dref ac yn bell o gartref. Dwi'n codi am 5 y bore er mwyn gallu cerdded i'r ysgol erbyn y gwersi am 8am. Dwi'n gadael yn syth ar ôl i'r gwersi orffen am 4pm ac yn cerdded adref, gan gyrraedd y tŷ am 7pm. Yna dwi'n bwyta, yn gwneud fy ngwaith cartref ac yn helpu fy rhieni yn y tŷ. Mae gen i saith brawd a phedair chwaer. 'Ar y penwythnos mae fy rhieni'n disgwyl i mi eu helpu nhw gyda'r fferm. Weithiau dwi'n dweud fy mod i eisiau gwneud gwersi ychwanegol ond mae fy rhieni'n dweud: paid â gwneud rhagor o ysgol, dere i helpu dy rieni. Does dim un o'm rhieni wedi cael addysg. Maen nhw eisiau i mi fod yn gyfreithiwr, ond hefyd mae fy angen i arnyn nhw i helpu. 'Weithiau dwi'n colli'r ysgol oherwydd fy mod i mor flinedig, ond rwy'n benderfynol o wneud yn dda a dwi eisiau bod yn gyfreithiwr. Mae rhai o'm ffrindiau wedi gadael yr ysgol. Naill ai does dim arian gyda nhw ar gyfer yr ysgol neu mae eu hangen nhw i weithio. Maen nhw'n gwneud pethau fel gwerthu yn y farchnad neu weithio yn y caeau'n cario coed. Dwi bob amser yn dweud wrthyn nhw fod addysg yn bwysig iawn. Fydd addysg byth yn eich siomi chi. Mae llawer o ferched sydd ddim yn mynd i'r ysgol yn cael babis, ac yna mae'n amhosibl mynd yn ôl.' Dywedodd athrawes Fatmata ei bod hi'n fyfyriwr gwych ond roedd hi'n cwyno ei bod hi'n aml yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol a'i bod hi'n flinedig. Byddai hi wedi hoffi i Fatma aros yn y prynhawniau i wneud gweithgareddau allgyrsiol. Ffotograff: Ysgol Uwchradd Iau St Joseph’s, Makeni, Sierra Leone © Aubrey Wade/Oxfam

9 MDG2 yn troi'n SDG4 MDG2 'Sicrhau, erbyn 2015, y bydd plant ym mhobman, bechgyn a merched fel ei gilydd, yn gallu cwblhau cwrs llawn o addysg gynradd.' SDG4 ‘Sicrhau bod addysg gynhwysol a chydradd o ansawdd dda a hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.’ Yn 2015 lansiodd y Cenhedloedd Unedig y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs). Disodlodd y SDGs Nodau Datblygu’r Mileniwm(MDGs), a’u bwriad yw adeiladu ar lwyddiannau’r MDGs ac arwain at ddileu tlodi erbyn 2030.

10 Beth yw'r pethau sy'n debyg ac yn wahanol?
Trafodwch: Beth yw'r pethau sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y nodau? Pa un o'r nodau sydd agosaf at eich syniadau chi am addysg dda? Gweithiwch gyda rhywun nad ydych chi’n ei adnabod. (10 munud, gyda 5 munud ar gyfer adborth)

11 Beth yw targedau addysg 2030?
pob merch a bachgen yn gorffen addysg gynradd ac uwchradd o ansawdd dda addysg gyn-ysgol o ansawdd dda ar gael i bob bachgen a merch addysg dechnegol, alwedigaethol a phrifysgol fforddiadwy o safon ar gael i bob menyw a dyn mwy o ieuenctid ac oedolion â sgiliau cyflogaeth da mynediad cyfartal i bob lefel o addysg, e.e. i fenywod a phobl ag anableddau llythrennedd a rhifedd da gan bob person ifanc a llawer o oedolion pawb yn dysgu am ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang cyfleusterau addysg da i bawb ehangu ysgoloriaethau i bobl mewn gwledydd sy'n datblygu cynyddu nifer yr athrawon wedi'u cymhwyso. Dyma restr lawn targedau’r CU:

12 Diolch! Ffotograff: Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh, Freetown, Sierra Leone © John McLaverty/Oxfam


Download ppt "Addysg i bawb."

Similar presentations


Ads by Google