Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Cig ac Iechyd meatandeducation.com 2012.

Similar presentations


Presentation on theme: "Cig ac Iechyd meatandeducation.com 2012."— Presentation transcript:

1 Cig ac Iechyd meatandeducation.com 2012

2 Testun y Modiwl Mae cig coch (red meat) yn cynnwys protein ac iddo werth biolegol uchel a macrofaetholion, sydd i gyd yn hanfodol er mwyn cael iechyd da trwy gydol eich oes. Mae’r rhan fwyaf o ddeiets iachus, cytbwys yn cynnwys symiau cymedrol o gig heb lawer o fraster, carbohydradau startshlyd (yn cynnwys bwydydd grawn cyflawn), digonedd o ffrwythau a llysiau a symiau cymedrol o laeth a chynnyrch llaeth. Mae’r modiwl hwn yn edrych ar y rhan y mae cig coch yn ei chwarae yn y deiet. meatandeducation.com 2012

3 Cael y cydbwysedd cywir
Mae’r model hwn ar gyfer bwyta’n iach yn dangos y mathau o fwydydd a’r canrannau sydd angen ei fwyta mewn deiet amrywiol, iachus. Gall cig fod yn rhan o ddeiet iachus. meatandeducation.com 2012

4 Cig, pysgod a ffynonellau eraill protein heblaw cynhyrchion llaeth.
Gelwir y grŵp hwn yn: Cig, pysgod a ffynonellau eraill protein heblaw cynhyrchion llaeth. Mae’n dangos y dylid cynnwys y mathau hyn o fwyd yn eich deiet. Mae’n cynnwys y mathau hyn o gig: cig eidion: stêc, mins, darn o gig porc: ham, cig moch, golwython lwyn cig oen: golwythion, briwgig, coes oen meatandeducation.com 2012

5 Y rhan y mae cig coch yn ei chwarae yn y deiet
Mae cig coch (red meat) yn cynnwys protein ac iddo werth biolegol uchel a macrofaetholion pwysig, sydd i gyd yn hanfodol er mwyn cael iechyd da trwy gydol eich oes. Mae’r rhan fwyaf o ddeiets iachus, cytbwys yn cynnwys symiau cymedrol o gig heb lawer o fraster, carbohydradau startshlyd (yn cynnwys bwydydd grawn cyflawn), digonedd o ffrwythau a llysiau a symiau cymedrol o laeth a chynnyrch llaeth. meatandeducation.com 2012

6 Faint o gig coch rydyn ni’n ei fwyta?
Arweiniodd adroddiad y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN), “Iron and Health” (2010) at ganllawiau newydd gan Adran Iechyd Llywodraeth y DU ar fwyta cig coch a chig wedi’i brosesu (Chwefror 2011). Dyma’r cyngor: dylai oedolion sy’n bwyta dros 90g o gig coch a chig wedi’i brosesu mewn diwrnod ddechrau bwyta llai ohono – dim mwy na 70g y dydd ar gyfartaledd. Ar hyn o bryd, mae 42% o ddynion a 12% o fenywod yn bwyta mwy na 90g/y dydd (data NDNS 2000/01). Haearn ac iechyd meatandeducation.com 2012

7 Ynni a maetholion Mae’r ynni a roddir gan gig yn amrywio.
Mewn oedolion, mae pob cig (yn cynnwys cyw iâr ac ati) yn cyfrannu 18% o gyfanswm yr ynni a geir o fwyd ac, o hwnnw, mae cig coch yn cyfrannu 12% o gyfanswm yr ynni a geir o fwyd. (data NDNS 2008/09) Mae 1 gram o garbohydrad yn rhoi 16 cilojoule Mae 1 gram o brotein yn rhoi 17 cilojoule Mae 1 gram o fraster yn rhoi 37 cilojoule Mae cig yn darparu: bron ddim carbohydradau protein yn bennaf symiau amrywiol o fraster Mae cig brasterog yn rhoi fwy o egni. meatandeducation.com 2012

8 Y symiau gwahanol o facrofaetholion a geir mewn cig coch
Maetholyn (am bob 100g) Cig eidion ag ychydig o fraster Cig oen ag ychydig o fraster Porc ag ychydig o fraster Cyw iâr (cig tywyll a chig golau) Ynni (kj) 542 639 519 457 Protein (g) 22.5 20.2 21.8 22.3 Braster (g) 4.3 8.0 4.0 2.1 SFA (g) 1.7 3.5 1.4 0.6 MUFA (g) 1.9 3.1 1.5 1.0 PUFA (g) 0.2 0.5 0.7 0.4 Source: McCance and Widdowson’s The Composition of Foods (6th edition) meatandeducation.com 2012

9 Ynni, braster a phrotein
Yr ynni, y braster a’r protein sydd mewn darnau o gig coch heb lawer o fraster a darnau heb eu trimio (am bob 100g) meatandeducation.com 2012

10 Protin Mae’n rhaid cael protin yn y deiet er mwyn tyfu ac er mwyn cynnal a chadw a thrwsio’r corff. Mae protin yn cynnwys cadwyni o asidau amino. Mae’r corff yn gallu syntheseiddio rhai asidau amino ond nid rhai eraill – asidau amino hanfodol. Mae cig coch yn bwysig gan ei fod yn darparu’r wyth asid amino hanfodol y mae ar oedolion eu hangen. Mae hefyd yn darparu histidin, sy’n cael ei gyfrif yn asid amino hanfodol ar gyfer plant. meatandeducation.com 2012

11 Protin Mae protin o anifeiliaid yn darparu’r holl asidau amino hanfodol y mae ar y corff eu hangen – dywedir bod mwy o werth biolegol i’r math hwn o brotin. Dydi’r rhan fwyaf o blanhigion sy’n rhoi protin ddim yn darparu’r holl asidau amino hanfodol pan gânt eu bwyta’n unigol ac felly dywedir bod eu gwerth biolegol yn is. Fodd bynnag, pan fydd pobl sy’n dilyn deiet fegan neu lysieuol yn cyfuno protin llysiau o ddwy ffynhonnell neu fwy, bydd y gwahanol ffynonellau yn cyfrannu at ei gilydd a bydd y cyfuniad o fwydydd yn rhoi’r holl asidau amino hanfodol y mae ar y corff eu hangen. meatandeducation.com 2012

12 Braster Braster yw’r elfen yn y deiet sy’n rhoi fwyaf o ynni ac mae’n rhoi maetholion hanfodol fel fitaminau sy’n toddi mewn braster ac asidau brasterog hanfodol. Mae cig coch yn rhoi asidau brasterog dirlawn, ac asidau brasterog amlannirlawn hanfodol omega-6 (n-6) ac omega-3 (n-3). Gall faint a roddir amrywio’n fawr yn dibynnu ar y math o gig a’r darn o gig. Cydnabyddir erbyn hyn mai’r math o fraster yn hytrach na chyfanswm y braster sy’n bwysig o ran clefyd cardiofasgwlaidd. meatandeducation.com 2012

13 Newidiadau yn swm y braster sydd mewn cig
Gostyngiad mewn cynnwys braster o’r 1950au i’r presenol (cig amrwd) Eidion Porc Oen Mae datblygiadau mewn technolegau prosesu bwyd a rhaglenni bridio, a newidiadau ym mhorthiant anifeiliaid a thechnegau cigydda yn golygu bod llai o fraster mewn cigoedd carcas erbyn hyn. Yn y Deyrnas Unedig dros y 15 mlynedd diwethaf, llwyddwyd i sicrhau bod llai o fraster mewn cig: 30% yn llai mewn porc 15% yn llai mewn cig eidion 10% yn llai mewn cig oen 1950au to 1970au Bridio newidiadau bwydo, cigydda 1990au Cigydda modern, tynnu braster cefn Trimio pellach (seam butchery) Colli mwy wrth goginio meatandeducation.com 2012

14 Fitaminau Mae cig coch yn cynnwys nifer o fitaminau B:
thiamin (fitamin B1) ribofflafin (fitamin B2) nïasin (fitamin B3) B6 B12 Mae fitaminau B yn helpu i ryddhau ynni o’r macrofaetholion (carbohydradau, protein a braster) i’r corff gael ei ddefnyddio. Cig a chynnyrch anifeiliaid yw’r unig fwydydd sy’n rhoi fitamin B12 yn naturiol. meatandeducation.com 2012

15 Mwynau Mae haearn yn hanfodol er mwyn i haemoglobin ffurfio mewn celloedd gwaed coch. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y system imiwnedd ac mae’n angenrheidiol ar gyfer metabolaeth ynni arferol – troi bwyd yn ynni. Mae’r corff yn amsugno haearn o gig yn hawdd. Cig coch sy’n darparu 12% o haearn dynion a 9% o haearn menywod. Mae 46% o ferched oed yn cael llai o haearn yn eu deiet na’r hyn a argymhellir (LRNI). meatandeducation.com 2012

16 Mwynau Mae sinc yn hanfodol er mwyn i gelloedd rannu. Mae’n rhaid ei gael felly er mwyn i bobl dyfu ac er mwyn trwsio meinweoedd. Mae’n angenrheidiol hefyd ar gyfer datblygiad y system atgenhedlu, system imiwnedd iach ac i wella briwiau. Mae cig coch yn cynnwys cryn dipyn o sinc a cyfrifir bod rhai darnau o gig eidion a chig oen yn ffynhonnell dda o sinc a phorc yn ffynhonnell o sinc. Cig coch sy’n darparu 32% o sinc dynion a 27% o sinc menywod. Mae 15% o ferched oed yn cael llai o sinc na’r LRNI. meatandeducation.com 2012

17 Cig eidion Stêc Syrlwyn Briwgig Coch Stêc Stiwio  Ffynhonnell
Mae ffynhonnell yn 15% neu fwy o'r lwfans dyddiol argymelledig (RDA) mewn pob 100g* 100g Egni kJ 728 566 514 kCal 174 135 122 Protin g 21.90 23.50 22.60 Braster 9.60 4.50 3.50 Braster dirlawn 4.20 2.00 1.40 Braster anirlown 4.10 1.90 1.60 Braster amlannirlawn 0.40 0.20 Fitamim B1 mg 0.07 0.10 Fitamin B2 0.15 0.26o 0.27o Fitamin B3 6.40r 5.50r 4.2o Fitamin B6 0.42r 0.56r 0.45r Fitamin B12 ug 2.00r Haearn 1.50 2.10o Sinc 4.40r 4.00r 5.7r Ffynnhonell dda Mae ffynhonnell dda yn 30% neu fwy o'r lwfans dyddiol argymelledig (RDA) mewn pob 100g* * Yn ol deddfwriaeth hwlio iechyd yr Undeb Ewropeaidd (Rheoliad (EU) Rhif 1924/2006 meatandeducation.com 2012

18 Cig oen Ciwbiau Ysgwydd oen Cytledi oen Stêcs coes gyda asgwrn
 Ffynhonnell Mae ffynhonnell yn 15% neu fwy o'r lwfans dyddiol argymelledig (RDA) mewn pob 100g* 100g Egni kJ 976 957 666 kCal 235.00 231.00 160.00 Protin g 17.60 11.90 15.00 Braster 18.30 20.40 11.10 Braster dirlawn 8.50 9.90 3.70 Braster anirlown 7.10 7.60 3.40 Braster amlannirlawn 1.00 0.60 Fitamim B1 mg 0.14 0.11 0.18o Fitamin B2 0.16 Fitamin B3 4.4o 3.7o 3.1o Fitamin B6 0.23o 0.25o 0.29 Fitamin B12 ug 2.0r 1.0r Haearn 1.10 0.70 1.20 Sinc 3.4r 1.40 2.3o Ffynnhonell dda Mae ffynhonnell dda yn 30% neu fwy o'r lwfans dyddiol argymelledig (RDA) mewn pob 100g* * Yn ol deddfwriaeth hwlio iechyd yr Undeb Ewropeaidd (Rheoliad (EU) Rhif 1924/2006 meatandeducation.com 2012

19 Porc Darnau yr asen Stribedi filed Golwythion lwyn  Ffynhonnell
Mae ffynhonnell yn 15% neu fwy o'r lwfans dyddiol argymelledig (RDA) mewn pob 100g* 100g Egni kJ 390 615 1119 kCal 94 147 270 Protin g 9.00 22.00 18.60 Braster 6.40 6.50 21.70 Braster dirlawn 2.50 2.30 8.00 Braster anirlown 8.50 Braster amlannirlawn 0.80 1.30 3.60 Fitamim B1 mg 0.36r 1.16r 0.81r Fitamin B2 0.08 0.32o 0.18 Fitamin B3 2.40o 6.10r 4.90r Fitamin B6 0.16 0.50r 0.62r Fitamin B12 ug 1.00r Haearn 0.40 0.70 Sinc 1.20 1.60o Ffynnhonell dda Mae ffynhonnell dda yn 30% neu fwy o'r lwfans dyddiol argymelledig (RDA) mewn pob 100g* * Yn ol deddfwriaeth hwlio iechyd yr Undeb Ewropeaidd (Rheoliad (EU) Rhif 1924/2006 meatandeducation.com 2012

20 Crynodeb Gall cig coch a chynhyrchion cig wneud cyfraniad pwysig at y maetholion a gawn yn ein deiet. Yng nghyd-destun deiet iachus a chytbwys, mae cig coch yn cyfrannu protein, asidau brasterog n-3 cadwyn hir, a microfaetholion fel haearn sinc, seleniwm a fitamin D a fitaminau B3 a fitamin B12). Mae rhai o’r maetholion hyn yn cael eu hamsugno’n haws o gig nag o fwydydd eraill ac mae SACN wedi nodi bod rhai ohonynt yn brin o ddeiet rhai rhannau o’r boblogaeth. (SACN, 2008). meatandeducation.com 2012

21 Gweithgareddau Cig ac addysg/Elfennau rhyngweithiol/Mae Digi Bites Quiz 1 yn cynnwys cwestiynau amlddewis wedi’u seilio ar y gyfres gyntaf o 15 fideo digidol. Mae’r gyfres hon yn cyflwyno nodweddion maethegol cig coch yng nghyd-destun yr ymgyrchoedd presennol i wella deiet pobl Prydain. Gwefan fach sy’n sôn am fanteision iechyd bwyta cig eidion fel rhan o ddeiet cytbwys yw “The Beef Report”. Cewch archebu adnoddau am ddim i helpu’r myfyrwyr i ddysgu e.e. Pork Tales, Lamb Tales a Beef Tales, gyda phoster sy’n dangos manteision maethegol cig eidion a’r gwahanol bethau y gallwch eu gwneud ag ef. Mae’n cynnwys ryseitiau, awgrymiadau ar gyfer coginio a syniadau am brydau. meatandeducation.com 2012

22 Os hoffech ragor o wybodaeth a chymorth, ewch i:
meatandeducation.com 2012


Download ppt "Cig ac Iechyd meatandeducation.com 2012."

Similar presentations


Ads by Google