Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Cyflwyno arferion astudio

Similar presentations


Presentation on theme: "Cyflwyno arferion astudio"— Presentation transcript:

1 Cyflwyno arferion astudio
Sesiwn 2: Arferion Academaidd Da Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr; Y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol; Cymorth Cymraeg

2 Aferion Academaidd Da Datganiad y brifysgol am arferion da academaidd
Arddull academaidd Rheoli amser a chynllunio Amrediad o ddulliau (e.e. traethawd, adroddiad, cyflwyniad llafar, ac ati) Cyfeirnodi digonol Cydnabod pob ffynhonnell allanol Gwahaniaethu rhwng eich gwaith gwreiddiol eich hun a’r gwaith y mae’ch astudio wedi ei seilio arno Cymunedau academaidd, ystod yr adnoddau a ffynonellau cyfeirio priodol Dyfynnu, cyferio, aralleirio, cyfeirinodau a llyfryddiaethau Sôn am hyn yn fras wedyn. Cerwch i’r ddolen Sgiliau Aber a dangoswch y dudalen iddynt gan awgrymu y dylent ei darllen rywbryd.

3 Heriau i fyfyrwyr #1 Mae traethawd da yn dangos dealltwriaeth gyffredinol o’r materion a gododd y cwestiwn. Mae’n cael ei gefnogi trwy gloriannu’n feirniadol ffynonellau wedi eu cyhoeddi, wedi eu hadolygu gan gyfoedion. Yn gyffredinol mae’n osgoi defnyddio adnoddau sydd heb eu cyhoeddi mewn dogfennau academaidd (e.e. tudalennau gwe, gwyddoniaduron ar-lein), gan na fydd tystiolaeth fod hyn yn ddeunydd cynnwys gwreiddiol. Pwysleisiwch ei bod yn bwysig deall y cwestiwn – dangoswch y safle hon efallai: Da iawn os byddwch yn mynd i ‘gwestiynau’. Gallwch holi am hyn cyn dangos y sleid hwn os dymunwch. Cloriannu’n feirniadol = to critically evaluate Cyfoedion = peers Gwyddoniaduron ar-lein – beth yw enw’r un enwocaf?

4 Heriau i fyfyrwyr #2 Nid yw problemau gydag arferion academaidd yn anarferol ac mae’n gallu effeithio ar nifer o bobl. Yn aml bydd myfyrwyr yn cael trafferth defnyddio dyfyniadau, cyfeiriadau, llyfryddiaethau, crynhoi ac aralleirio. Gall yr arferion hyn fod yn anghyfarwydd oherwydd gwahaniaeth yn y diwylliant a’r cefndir academaidd. Er mwyn cysuro eu meddw: drysu a chael trafferth yn digwydd yn aml

5 Heriau i fyfyrwyr #3 Mae nifer o broblemau’n codi oherwydd diffyg cynllunio a rheoli amser. Mae amgylchiadau personol sy tu hwnt i reolaeth y myfyriwr yn gallu gwneud hyn yn fwy cymhleth. Adegau eraill, gall fod diffyg ymwybyddiaeth am reolau a rheoliadau ymerferion academaidd. Siaradawch am hyn – gofynnwch sut y maent yn rheoli/cynllunio amser a sut i osgoi methu gwneud popeth sy ei angen. Darganfyddwch ofynion yr Adran. Holwch pa fath o aseiniadau y maent yn eu disgwyl – bydd amrywiaeth.

6 Math o aseiniadau Traethodau Adroddiadau Arholiadau
Cyflwyniadau llafar Trafod mewn seminar Dogfennau amlgyfrwng Gwaith perfformio a chreadigol Gwaith labordy Pethau eraill Pa rai fydd ganddynt? Pa rai na fydd ganddynt? Unrhwy rai eraill (teithiau maes, trefnu digwyddiad, cyhoeddi llyfryn)

7 Faint dych chi’n ei wybod am …? 5 = llawer; 1 = dim byd
Cyfeirnodi Dyfynnu Cyfeiriadau Cadwyn cyfeirnodi Llyfryddiaethau Aralleirio Crynhoi Deunyddiau anaddas neu amhriodol Disgwyliadau aseiniadau a marcwyr Cyflwyno aseiniadau ar-lein Llênladrata Siaradwch a’ch gilydd . Meddyliwch ble ar y raddfa 1-5 yr ydych chi (5-7 munud). Cadwyn cyferinodi: dyfynnu un awdur sy’n dyfynnu awdur arall in ei lyfr/erthygl ac rydych yn cyferinodi’r un yng nghyhoeddiad y llall. when you quote from a writer who is quoting another writer in their book/article so you ref the one in the others publication. Dosbarthu’r daflen Cymraeg/Saesneg, termau Dywedwch wrthynt ei llenwi wrth fynd ymlaen – byddwn ni’n siarad mwy am bob un. Erbyn y diwedd, dyclech chi allu deall y gwahaniaeth rhwng pob un

8 Diffiniadau Dyfynnu Defnyddio yr union eiriau yn y ffynhonnell wreiddiol Rhaid defnyddio “dyfynodau” wrth ddyfynnu. Rhaid defnyddio cyfeiriad bob tro y byddwch yn dyfynnu.

9 Diffiniad Cyfeirio/cyfeiriad
Mae’r cyfeiriad yn nodi enw’r awdur, y flwyddyn a weithiau rhif y dudalen yn y ffynhonnell; weithiau defnyddir berf i adrodd: Mae A (2010, p.21) yn dadlau bod… Yn dilyn dadl A (2010, p.21) gellir gweld bod….. Gall y cyfeiriad gael ei gynnwys mewn troed-nodyn neu mewn ôl-nodyn: e.e. Mae nifer o resymau’m cefnogi’r safbwynt hwnnw(1) Yn ogystal â nodi cyfeiriad pan pan ddefnyddiwch ddyfyniad, rhaid hefyd cyfeirio pan fyddwch yn aralleirio syniad yn eich geiriau’ch hun.

10 Diffiniadau Cyfeirnod
Mae cyfeirnod yn nodi manylion llawn y ffynhonnell yr ydych yn ei defnyddio. Mae’n ymddangos ar waelod eich aseiniad. Mae’n cynnwys enw’r awdur, y golygydd (os bydd hyn yn briodol), y flwyddyn cyhoeddi, teitl (ac isdeitl) y ffynhonnell, argraffiad (os yw’n 2il argraffiad neu’n un diweddarach), dinas y cyhoeddi, cwmni cyhoeddi. Mae’r drefn uchod yn dilyn dull Harvard neu APA.

11 Diffiniadau Cyfeirnodau a Llyfryddiaeth
Mae rhestr y cyfeirnodau yn cynnwys pob ffynhonnell yr ydych yn cyfeirio atyn nhw yn y gwaith yr ydych yn ei gyflwyno. Mae llyfryddiaeth yn cynnwys pob darn o waith yr ydych wedi edrych arno wrth ddatblygu’ch gwaith. Gair i gall: I sicrhau bod pob cyfeirnod yn cael ei restru, aroleuwch pob cyfeiriad yn eich aseinaid a chroesgyfeiriwch yn erbyn eich rgestr cyferinodau/llyfryddiaeth. Gallwch weld a oes unrhyw gyfeiriadau ar goll

12 Dull cyfeirnodi Harvard - gorolwg
(Derby University) Gwyliwch – youtube Dull Harvard yn gyffredin iawn ond gall amyrwio o le i le. 7.10 munud o hyd

13 Canllawiau ir arddulliau cyferinodi
APA: American Psychological Association Harvard (Detailed interpretation where main differences with APA can be seen) IEEE: Institute of Electrical and Electronics Engineers MHRA: Modern Humanities Research Association MLA: Modern Language Association Bras olwg ar yr ystod o ddulliau. Dim rhaid edrych ar bob un

14 Dewch i adnabod canllaw i arddull eich adran
Chwiliwch am y canllaw i’r arddull y mae’ch adran yn ei ddefnyddio. Os na allwch ddod o hyd iddo ar safle we’r adran neu ar y tudalennau Blackboard, holwch aelod o staff. Os ydyn nhw’n defnyddio Harvard, does dim canllaw swyddogol, terfynol ar gael ac mae prifysgolion dros y byd wedi creu eu crynodebau eu hun o’r canllawiau sy’n amrywio ychydig o ran manylion megis atalnodi a rhifo’r tudalennau. Cadwch at bob nodwedd yn gyson. Rhestr canllawiau cyfeirnodi Gallent ddefnyddio eu ffonau i chwilio i gael gweld a yw eu hadran nhw ar y rhestr.

15 Beth yw’r gwahaniaeth APA Harvard MHRA MLA
Brumfit, C. & Johnson, K. (Eds.) (1979). The Communicative Approach to Language Teaching. Oxford: Oxford University Press. Harvard Brumfit, C. and Johnson, K. (Eds.) The Communicative Approach to Language Teaching. Oxford: Oxford University Press. MHRA Brumfit, Christopher, J. and Johnson, Keith, eds., The Communicative Approach to Language Teaching (Oxford: Oxford University Press, 1979) MLA Brumfit, Christopher, J. and Johnson, Keith, eds. The Communicative Approach to Language Teaching. Oxford: Oxford University Press, 1979. Nodwch ble mae’r gwahaniaethau

16 Nodyn pwysig Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pa ganllaw arddull penodol mae’n rhaid i fyfyrwyr yn eich adran chi yn ei ddefnyddio. Mae’r enghraifft yn y ddogfen hon yn un ffordd o ddehongli dull Harvard. Gall adrannau eraill argymell diwyg ac atalnodi sy’n wahanol i’r enghreifftiau hyn neu fe allen nhw gymeradwyo ffynonellau cyfeirio allanol. Chwiliwch yng nghanllawiau’r adran am arddulliau ar gyfer mathau o ddogfennau na restrwyd yma. Dyw hyn ddim yn ganllaw cynhwysfawr, terfynol i gyfeirnodi ym mhob adran ym Mhrifysgol Aberystwyth – enghraifft yw hyn.

17 “Agweddau Hanfodol ar Arfer Academaidd” – Dogfennaeth gyflawn
Blackboard: Tab SgiliauAber ar y brig NEU SgiliauAber: Arfer academaidd da a chyfeirnodi: mic-practice/ Braidd yn ailadroddus

18 Ddydd Mercher 18fed Hyd – 6fed Rhag 14:00 – 15:00: Sgiliau Astudio ac Ysgrifennu
Free Undergraduate course in Academic Writing and Information Skills (Saesneg yn unig) Penglais: Hugh Owen C22 Dehongli cwestiynau traethodau Eglurdeb a chanolbwyntio Cynllunio ac ysgrifenuu cyflwyniadau Aralleirio a chyfeirnodi Dyfynnu a chyfeirnodi Strwythuro traethawd: natur dadlau Tynnu casgliadau ac ysgrifennu casgliadau Adolygu a sgiliau arholiadau Ni fydd y pynciau hyn yn cael eu cyflwyno yn union yn y drefn hon o reidrwydd. Nodwch y bydd sesiynau sgiliau yn cael eu harwain gan Wasanaethau Gwybodaeth ar ddyddiau Mercher rhwng 8.15 a 8.45 yn Medrus

19 Cyrsiau a gwasanaethau ar gyfer Cymorth Dysgu
Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr / Canolfan Saesneg Rhyngwladol Free Undergraduate course in Academic Writing and Information Skills (Saesneg) (gwybodaeth yn Gymraeg) Undergraduate modules support/modules/ Cymorth ysgrifennu un-wrth-un(RLF) neu gofynnwch am apwyntiad trwy Cymorth iaith un-wrth-un neu gofynnwch am apwyntiad trwy – dim ond i fyfrwyr tramor SgiliauAber: adnoddau astudio ar-lein (Blackboard neu ar-lein)

20 Y Gymraeg Sesiynau sgiliau iaith Gymraeg Dechrau 13eg Tachwedd 2017
Amserlen ar gael yn nes at yr amser Rhaid cofrestru ar gyfer y Dystysgrif Sgiliau Iaith Neu roi’ch enw imi Seminarau wythnosol – cyfres o 8 Ailadrodd sawl gwaith dros y flwyddyn Neu 2 weithdy 3 awr yr un ar brynhawn Mercher

21 Dysgu cynhwysol a chynhyrchiant
Cysylltwch â Chymorth i Fyfyrwyr os oes gennych wahaniaeth dysgu penodol megis dyslecsia neu os oes gennych gyflwr iechyd tymor hir : Cymorth i Fyfyrwyr Tel: Os byddwch yn dechrau cael trafferth ar ôl dechrau’r cwrs, cysylltwch yn syth. Dyw rhai myfyrwyr ddim yn gwybod am wahaniaethau dysgu oherwydd y dull trafod hyn yn yr ysgol. Mae mentoriaid, sesiynau galw heibio a gwirio ar gael.Hefyd, gwiriwch y Bwletin Wythnosol (ebost).

22 Cymorth Cymraeg Cynnorthwyo gyda sgiliau iaith Gymraeg gan gynnwys ysgrifennu academaidd, sgiliau cyflwyno ac ati Seminarau bob wythnos neu sesiynau dwys brynhawn Mercher (2 sesiwn) Cofrestrwch am y Dystysgrif Sgiliau Iaith a chael cymhwyster ychwanegol Cewch dynnu yn ôl cyn gwneud yr asesiadau Sesiynau un-wrth-un gyda’r Tiwtor Sgiliau Iaith Gymraeg Deunyddiau sgiliau astudio a chyngor ar-lein ar safle SgiliauAber ac ar safle’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Cyflwyno aseiniadau i gael adborth iaith cyn cyflwyno’ch gwaith i’w asesu Cofrestrwch cyn 1 Tachwedd 2016: Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg – Coleg Cymraeg Cenedlaethol Cofrestrwch erbyn 1 Tachwedd

23 Cwestiynau Diolch am fod yma Unrhyw gwestiynau? Taflen adborth?


Download ppt "Cyflwyno arferion astudio"

Similar presentations


Ads by Google