Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Diwrnod Moshoeshoe Hapus
. Pam ddylen ni ddathlu Diwrnod Moshoeshoe? Cysylltwyd Cymru a Lesotho 32 mlynedd yn ôl ar Ddiwrnod Moshoeshoe, sef Diwrnod Cenedlaethol Lesotho. Ganwyd yr elusen Dolen Cymru ac mae wedi bod yn creu partneriaethau sy’n newid bywydau gyda phobl Basotho ers hynny. “Ym maes iechyd, addysg, amgylchedd a chrefydd mae’r bartneriaeth â Chymru wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a gobaith i’n pobl.“ Kenneth Tsekoa, Gweinidog Materion Tramor Lesotho Dathlwch ar 11 Mawrth
2
Brenin Moshoeshoe M Fy enw yw Morena Moshoeshoe a fi yw sylfaenydd Lesotho a chenedl Basotho. Fi yw’r Brenin cyntaf. Yn ystod y 19eg Ganrif roedd llawer o wrthdaro yn Ne Affrica rhwng y Zwlŵaid, y Boeriaid a’r Prydeinwyr. Aeth y Pennaeth Moshoeshoe ati i greu byddin oedd yn uno nifer o lwythau a thra’r oedden nhw’n ceisio amddiffyn y Deyrnas rhag y Boeriaid, gofynnodd i’r Frenhines Fictoria eu gwarchod a daeth hyn â’r rhyfel i ben.
3
Thaba Bosiu This mountain was the site of their famous battle and is where he is buried. It is called Thaba Bosiu (Mountain of the Night) Y mynydd hwn oedd safle anheddle a chaer Moeshoeshoe. Mae wedi’i gladdu yno ac mae nifer o ymwelwyr yn ymweld â’i fedd bob blwyddyn. Ei enw yw Thaba Boisu (Mynydd y Nos) oherwydd roedd pobl yn credu ei fod yn tyfu yn ystod y nos ac yn mynd yn llai yn ystod y dydd. Profodd i fod yn gadarnle na ellir mo’i groesi yn erbyn gelynion.
4
Mae het Basotho Mae het Basotho wedi’i siapio fel y mynydd, a’i enw yw Mokorotlo. Dyma brif symbol fflag Basotho. Beth mae’r lliwiau’r faner yn eu cynrychioli?
5
Mae Diwrnod Moshoeshoe yn cael ei ddathlu ar y 11eg o fis Mawrth bob blwyddyn i ddathlu ei farwolaeth yn 1870 – gwyliwch ein fideo i weld beth sy’n digwydd
6
Anthem Lesotho Cenedlaethol
Lesotho, fatse la bo – ntat’a a rona, Har’a mafatse le letle ke iona, Ke moo re hlahileng, Ke moo re holileng, Kea le rata. Molimo ak’u boloke Lesotho, U felise lintoa le matsoenyeho, Oho, fatse lena, La bo – ntat’a rona, Le be le khotso. Khotso. Pula. Nana. Lesotho, gwlad ein cyndeidiau ni i gyd; O'r holl wledydd, y wlad harddaf yn y byd; Dyma lle ein ganwyd; Dyma lle ein magwyd; Ni'n ei charu hi. Dduw, gofala am Lesotho, ein gwlad; Arbed hi rhag gorthrwm, trais a phoen; O, Wlad, Gwlad ein Tadau, Dangnefedd bo i thi. Heddwch. Glawiad. Ffyniant.
7
Dathlwch ar 11 Mawrth Dysgwch a pherfformiwch Anthem Genedlaethol Basotho neu ddawns draddodiadol Basotho Cymharwch Anthem Basotho â’r un Gymraeg – pa eiriau a themau sydd ganddynt yn gyffredin? Ewch ati i greu arddangosfa am y Brenin Moshoeshoe a gwrthrychau diwylliannol traddodiadol Basotho Cyflwynwch yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu mewn gwasanaeth i weddill yr ysgol Anfonwch eich lluniau a’ch fideos at eich Ysgol Gyswllt yn Lesotho Ewch ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio tag Dolen Cymru @DolenCymru #MoshoeshoeDayinWales
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.