Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Rhaglen Dysgu Byd-Eang – Cymru
Creu Ethos Ysgol Gyfan Peidiwch ag anghofio gwneud cyflwyniadau! (5 munud)
2
Trosolwg o’r sesiwn Rhan 1 – Creu’r Weledigaeth Dysgu Byd-Eang
Rhan 2 – Asesu ble rydych chi nawr Rhan 3 – Rhoi Gweledigaeth ar waith Rhan 4 – Beth nesaf? Esboniwch y bydd y sesiwn yn ymdrin â’r 4 maes a amlinellir ar y sleid. Bydd cyfleoedd i bawb drafod ymagweddau a strategaethau – gofynnwch i gynrychiolwyr gyfrannu syniadau trwy gydol y sesiwn (2 funud)
3
Creu’r Weledigaeth Dysgu Byd-Eang
Ethos cadarnhaol a chynhwysol yw’r ffactor unigol pwysicaf wrth feithrin y dimensiwn byd-eang yn y cwricwlwm ac wrth ddarparu addysg effeithiol ar gyfer dinasyddiaeth mewn ysgolion a chanolfannau addysg gynnar.’ Dimensiwn Byd-Eang yn y Cwricwlwm, LTS et al. 2007
4
Dysgu Byd-Eang yn Yr Alban…
Mae rhai adnoddau yn Yr Alban a ddefnyddiwyd yn ystod y cyflwyniad hwn. Dylid esbonio, er bod y fideo yn tarddu o’r Alban, bod y materion yr un fath yng Nghymru. Fodd bynnag, mae adnoddau ar gael, yn arbennig ar wefan Dysgu Byd-Eang Cymru, sy’n defnyddio enghreifftiau o Gymru. Mae’r fideos hyn, fodd bynnag, yn gryno ac yn cyfleu’r neges yn glir iawn. Mae hwn yn fideo byr ar ffurf animeiddiad sy’n ffordd braf o ddechrau. (4 munud)
5
Sut beth yw’r ysgol Dysgu Byd-Eang?
Gwnewch gynrychiolaeth weledol o sut beth yw’r ysgol Dysgu Byd-Eang ddelfrydol, o ran y ffordd mae’n edrych, yn swnio ac yn teimlo. Sut caiff ei threfnu? Sut mae’n gweithredu? Gofynnwch i gynrychiolwyr lunio diagram, siart llif, neu defnyddiwch arteffactau o’r ystafell i ddychmygu sut gallai Ysgol Byd-Eang edrych. Gallent gyfeirio at ymddangosiad corfforol ysgol, neu’i hethos, ei phrosesau, ac ati. Caniatewch 10 munud. Gofynnwch iddynt esbonio beth maent wedi’i gynrychioli, a pham?
6
Sut mae hyn yn cymharu â’ch ysgol?
Sefydliad Pa mor dda y mae’r ysgol yn mynegi gweledigaeth/ethos? A gaiff Dysgu Byd-Eang ei fynegi yn y Cynllun Datblygu Ysgol? A oes uwch aelod o staff yn gyfrifol am Ddysgu Byd-Eang? A gaiff materion byd-eang eu mynegi mewn polisïau ysgol gyfan? Arferion Sut mae gweithdrefnau/arferion yr ysgol yn adlewyrchu Dysgu Byd-Eang? e.e. gwasanaethau? Defnydd o ynni? Arddangosfeydd? Hawliau’r Plentyn? Sut dylid strwythuro Dysgu Byd-Eang? E.e, Trawsgwricwlaidd neu thematig? Ymgorfforir mewn pynciau? Diwrnodau/wythnosau gweithgareddau? Amserlen amser i ffwrdd? Menter ar y cyd ag ysgolion rhwydwaith? Pa weithgareddau allgyrsiol sy’n cefnogi Dysgu Byd-Eang? Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i gynllunio i gael cynrychiolwyr i feddwl ynghylch pa mor dda y caiff Dysgu Byd-Eang ei ymgorffori yn eu hysgol. Rhowch ychydig o funudau iddynt feddwl am y cwestiynau. (3-4 munud) Yn dibynnu ar y sesiwn amser a ganiateir i chi, efallai yr hoffech drafod eu hymatebion/ Fel arall, gallwch ofyn iddynt fyfyrio yn unig, a pheidio â thrafod. Bydd y gweithgaredd hwn yn cefnogi’r gweithgaredd nesaf ar sleid 11.
7
Crynhowch eich gweledigaeth
Crëwch ddatganiad gweledigaeth ar gyfer prosbectws eich ysgol sy’n cwmpasu’r ethos Dysgu Byd-Eang y bydd eich ysgol yn ei fabwysiadu Fel y mae’r sleid yn ei ddweud, gofynnwch iddynt ysgrifennu brawddeg yn crynhoi eu cenhadaeth. (5-10 munud)
8
Rhan 2 – Ble ydych chi?
9
I fod yn effeithiol, mae angen ymgorffori ADCDF ar draws y cwricwlwm a’i drwytho ar draws bywyd yr ysgol – rhan o’r ethos a’r addysgeg ac mae’n gynhenid yn y ffordd y caiff yr ysgol ei threfnu a’i rheoli. Dealltwriaeth ar y Cyd o ADCDF
10
Rhannwch eich profiad Sut mae eich ysgol wedi mynegi materion Byd-Eang yn ei pholisïau a’i gweithdrefnau? Person A – Paratowch i siarad â phartner am 2 funud am yr hyn rydych chi’n ei wneud, pam rydych yn ei wneud, sut rydych yn ei wneud, beth yw ei effaith a sut rydych chi’n gwybod. Person B – Gwrandewch ar Berson A a pharatowch gwestiynau i’w gofyn. Newidiwch rolau Byddwch yn barod i rannu â’r grŵp. Rhannwch y cynrychiolwyr yn barau. Rhowch funud iddynt baratoi i siarad â’u partner am y modd y mae eu hysgol yn mynegi materion byd-eang yn ei pholisïau a’i gweithdrefnau. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sleid. Mae gan Bartner B 1 funud i ofyn cwestiynau cyn newid y rolau. Bydd amser yn dibynnu ar nifer y cynrychiolwyr a faint o enghreifftiau rydych chi am eu rhannu. (20 munud)
11
Sut gallai arweinwyr yr ysgol weithio tuag at y weledigaeth hon?
Ysgrifennu am ddysgu byd-eang yng ngweledigaeth neu ddatganiad cenhadaeth yr ysgol gyfan Hyrwyddo dysgu byd-eang fel diben i’r cwricwlwm ysgol gyfan Darparu cyfleoedd DPP a hyfforddiant dysgu byd-eang i staff Cyflwyno llwyddiannau dysgu byd-eang i Estyn Defnyddio fframweithiau ac adnoddau dysgu byd-eang priodol i gefnogi’r weledigaeth Meithrin cysylltiadau ystyrlon â’r byd tu allan, y gymuned leol a’r gymuned fyd-eang fel ei gilydd Galluogi’r ysgol gyfan i gymryd camau cadarnhaol a gwybodus Mae’r sleid hon wedi’i chynllunio i roi syniadau ychwanegol i gynrychiolwyr ynglŷn â sut gallant gyflwyno materion dysgu byd-eang yn eu hysgol. Faint sydd eisoes yn gwneud y pethau hyn? (3 munud)
12
Sut gallai athrawon weithio tuag at y weledigaeth hon?
Integreiddio safbwynt byd-eang wrth gynllunio a chyflwyno gwersi Defnyddio adnoddau dysgu byd-eang cyfoes Dilyn hynt a helynt materion cyfoes a newyddion byd Defnyddio enghreifftiau bywyd go iawn mewn gwersi i gymell myfyrwyr Hyrwyddo meddwl creadigol a beirniadol trwy weithgareddau mewn gwersi Hyrwyddo gweithgareddau cyfranogi a gweithgareddau wedi’u harwain gan fyfyrwyr mewn gwersi Chwilio am gyfleoedd iddyn nhw eu hunain a’u myfyrwyr weithredu yn unol â nhw Datblygu eu dealltwriaeth eu hunain o ddysgu byd-eang trwy DPP a hyfforddiant pellach Mae’r sleid hon wedi’i chynllunio i ddangos i’r cynrychiolwyr sut gallant gael athrawon ystafell ddosbarth i feddwl am ddysgu byd-eang wrth iddynt baratoi. Trwy ddefnyddio’r templed hwn, gall ysgolion sicrhau ymagwedd gyson ar draws yr ysgol. (5 munud)
13
Rhan 3 – Rhoi Gweledigaeth ar Waith
14
Cynllunio Camau Gweithredu
Ymchwilio i Gamau Gweithredu Cynllun Beth fyddwch chi’n ei wneud a pham? Gweithredu Yn eich dosbarth/ ysgol Arsylwi Beth ydych chi’n ei weld a’i glywed? Myfyrio Sut gallech chi fireinio? Mae’r sleid hon wedi’i chynllunio i’w hannog i feddwl am yr hyn y byddant yn ei wneud nesaf i sicrhau eu bod yn mynd yn ôl i’w hysgol gyda materion dysgu byd-eang ar frig eu rhestr o flaenoriaethau. Mae hon yn ymagwedd syml i gynllunio camau gweithredu ar gyfer rheoli newid. Yn syml, trafodwch y diagram gyda nhw. (5 munud)
15
Mynd â phobl Gyda Chi yn seiliedig ar “Leading Change” (tud
Mynd â phobl Gyda Chi yn seiliedig ar “Leading Change” (tud ) gan Kotter Sefydlu ymdeimlad o frys Creu tîm o gefnogwyr Datblygu gweledigaeth a strategaeth Cyfleu’r weledigaeth ar gyfer newid Penderfynu ar y man cychwyn Cynhyrchu enillion byr dymor Dathlu enillion a llwyddiannau a chreu haen nesaf y newid Ymgorffori’r ymagweddau newydd i wneud y “norm newydd” Mae hyn yn cefnogi’r cynrychiolwyr mewn ymagwedd strwythuredig at arwain newid yn yr ysgol. Gellir defnyddio hyn ym mhob agwedd ar gyflwyno syniadau newydd yn yr ysgol. (5 munud)
16
A allwch chi ddefnyddio ymagwedd Kotter i gynllunio eich ffordd ymlaen?
1. Sefydlu Ymdeimlad o Frys 2. Creu Tîm o Gefnogwyr 3. Datblygu Gweledigaeth a Strategaeth 4. Cyfleu’r Weledigaeth ar gyfer Newid 5. Penderfynu ar Fan Cychwyn 6. Creu Enillion Cyflym 7. Dathlu Llwyddiannau 8. Ymgorffori i wneud y Norm Mae adeiladu ar y sleid flaenorol yn galluogi cynrychiolwyr i gwblhau cynllun gweithredu sylfaenol. Taflen – rhowch gopi papur o’r sleid hon iddynt. Rhowch 20 munud iddynt nodi syniad ym mhob blwch. Gallant fynd â hyn yn ôl i’r ysgol yn sail i ffordd bosibl o fwrw ymlaen â materion dysgu byd-eang.
17
Rhan 4 – Beth Nesaf?
18
Hunanasesiad a Chynllun Gweithredu
Defnyddiwch offeryn Hunanasesu Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru i gael amcan o ble rydych chi Nodwch dargedau a chamau gweithredu gyda meini prawf llwyddiant Dywedwch wrthynt mai’r peth nesaf i’w wneud pan fyddant yn cyrraedd yn ôl i’w hysgol yw mewngofnodi ar dudalen gwe Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru a chwblhau hunanasesiad yr ysgol. Bydd hyn yn amlygu meysydd arfer da a meysydd i ganolbwyntio arnynt. (2 funud)
19
Gwerthuso ac Effaith Sut bydd yr ysgol yn mesur effaith eu dysgu byd-eang? Beth ddylid ei fesur? Safbwyntiau pwy y dylid eu gofyn? A pha mor aml? Pa ddata meintiol y dylid ei gasglu? Pa ddata ansoddol y dylid ei gasglu? Beth ddylid ei wneud â’r data hwnnw? Sut ydych chi’n gwella’r hyn rydych chi wedi’i wneud? Sut ydych chi’n rhannu a dathlu’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni? Bydd y sleid hon yn eu helpu i ganolbwyntio ar ganlyniadau posibl ac yn eu helpu i feddwl am ffyrdd o fesur effaith dysgu byd-eang. Gofynnwch iddynt feddwl am y cwestiynau hyn ac awgrymwch syniadau y gall pawb eu rhannu a mynd â nhw’n ôl i’r ysgol. (10 munud)
20
Rhannu a Dathlu eich Llwyddiannau
Rhwydweithio ag iNet Cymru Digwyddiadau Dysgu Cyflymder Dysgu Byd-eang gydag iNet Cymru Rhannu adnoddau â Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru Defnyddio cyfryngau cymdeithasol, e.e. Twitter, Facebook Cylchlythyrau Ysgol Datganiadau i’r Wasg Cymryd rhan gyda sefydliadau Dysgu Byd-eang eraill Sleid i rannu ffyrdd o hysbysebu dysgu byd-eang y tu hwnt i’w hysgol. Bydd hyn yn helpu’r Cydlynydd Ysgol Arweiniol sy’n creu portffolio tuag at Achrediad yr Ymarferwr Arweiniol. Hefyd, dylid crybwyll y bydd digwyddiad Dysgu Cyflym yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn lle gallant rannu eu hymagweddau gyda phobl eraill yn y rhwydwaith ac ar draws y rhanbarth. (3 munud)
21
Adnoddau Y Dimensiwn Byd-eang www.globaldimension.org.uk
Oxfam: Dinasyddiaeth Fyd-eang Weithredol UNICEF: Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau SEEd: Fframweithiau Ysgolion Cynaliadwy Y Cwricwlwm Cynradd Rhyngwladol Bagloriaeth Ryngwladol (IB) Ysgolion Masnach Deg Gwobr Eco Ysgolion Gwobr Ysgol Ryngwladol Dysgu Byd-eang Yr Alban – fideo Ymagwedd Ysgol Gyfan: Dysgu Byd-eang Yr Alban: Dysgu Byd-eang Cymru:
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.