Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byῬέα Σερπετζόγλου Modified over 6 years ago
1
Dr Lisa Sheppard (Sheppardlc@Caerdydd.ac.uk)
Addysgu Barddoniaeth Dr Lisa Sheppard
2
Nod y sesiwn Ymgyfarwyddo â’r fanyleb newydd a’r deunyddiau asesu enghreifftiol Ystyried yr wybodaeth a’r sgiliau dadansoddi a dehongli y mae disgwyl i fyfyrwyr eu harddangos wrth ateb cwestiynau asesu Cyflwyno syniadau am weithgareddau a deunyddiau ychwanegol a all helpu myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth honno
3
Y FANYLEB NEWYDD - Uned 3: iaith a barddoniaeth
Adran B: Barddoniaeth Gosodir cwestiwn ar y farddoniaeth isod. Wrth ymateb yn bersonol disgwylir i ymgeiswyr drin y materion canlynol: cynnwys y cerddi, themâu, arddull ac ymateb i destun y cerddi. Yn ogystal disgwylir i'r ymgeiswyr ystyried dehongliadau eraill (disgyblion eraill, athrawon a beirniaid llenyddol) a dylid eu hyfforddi i ddyfynnu a defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn briodol. Wrth drafod y farddoniaeth dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddefnyddio iaith yn y cywair priodol gan roi ystyriaeth i'r pwrpas a'r gynulleidfa. Nodir isod enwau'r cerddi i'w hastudio. Daw'r cerddi o'r gyfrol Fesul Gair. Iwan Rhys: Caerdydd Grahame Davies: Lerpwl Gwion Hallam: Dim ond serch Myrddin ap Dafydd: Twyll Tudur Dylan Jones: Newyddion
4
Deunyddiau asesu enghreifftiol
5
Gweithgaredd un Rhoi pennill yn ei gyd-destun Copi mawr o’r gerdd Uwcholeuwyr Post-its Defnyddiwch gwahanol liwiau i gysylltu elfennau o’r pennill gyda elfennau tebyg yng ngweddill y gerdd
6
Gweithgaredd 2 Technegau Arddull Sut i osgoi trafodaeth sylfaenol – ‘Mae odli’n bwysig oherwydd mae’n gwneud i’r gerdd lifo’ Cysylltu’r technegau arddull â phrif neges y gerdd / tensiwn yn y gerdd
7
tensiwn ‘The thing to do is to look for a contrast or opposition in the poem, a contrast which is at the heart of and informs the whole poem’ John Peck, How to Study a Poet, t. 4 Oes rhywbeth annisgwyl neu od yn y gerdd? Pam yr ydych yn teimlo ei fod yn od? A oes rhywbeth yn newid yn ystod y gerdd?
8
Enghraifft - ODLI Cyfleu’r syniad bod y drws i’r gymuned Gymraeg yn agor i groesawu siaradwyr newydd? Cyfleu’r syniad bod y Gymraeg yn agor drysau, yn cynnig cyfleoedd? Tensiwn rhwng drws yn agor a drws yn cau? Dangos sut y mae’r sefyllfa wedi newid yn ddiweddar – mwy o Gymraeg yn cael ei siarad na mewn cyfnodau cynt. Rhowch gynnig ar wneud yr un peth trwy edrych ar enghreifftiau o oferu yn y gerdd.
9
Gweithgaredd 3 Cysylltu’r gerdd â’r byd ehangach Ble i ddod o hyd i wybodaeth eilaidd?
10
Adnoddau a Ffynonellau Eilaidd
Am wybodaeth ystadegol: Cyfrifiad 2011 – Ystadegau Allweddol am Gymru /ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html Statiaith awdurdod-lleol/
11
Am wybodaeth yn y Gymuned: Mentrau Iaith: http://www. mentrauiaith
Am wybodaeth yn y Gymuned: Mentrau Iaith: Urdd Gobaith Cymru: Cyngor Lleol (tudalenau addysg?): Cymdeithas yr Iaith: Dyfodol yr Iaith: Comisiynydd y Gymraeg: Papurau Bro: Sefydliadau Cymraeg: e.e. Yr Hen Lyfrgell (Caerdydd), Tŷ’r Gwrhyd (Pontardawe)
12
Awgrymiadau am ddeunyddiau pellach
Mae Ysgol y Gymraeg yn bwriadu creu llyfryn o weithgareddau i’w defnyddio yn nosbarthiadau Cymraeg Safon Uwch/UG Ail Iaith. Mae croeso mawr ichi gysylltu gydag awgrymiadau am ddeunyddiau pellach a fyddai’n diwallu’ch anghenion:
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.