Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byKevin McDonald Modified over 6 years ago
1
Hysbyseb Swydd Ysgol Llanhari Rheolwr Busnes a Safle
Cyflog: APT&C Graddfa 13 £39,961 Cytundeb Parhaol, llawn amser I gychwyn Medi 3ydd 2018 Ydych chi’n chwilio am gyfle arwain cyffrous mewn Ysgol Bob Oed , 3-19 a ddyfarnwyd yn ‘dda’ gan Estyn ymhob categori dan y Fframwaith arolygu newydd? Rydym yn cynnig cyfle arbennig i arweinydd brwdfrydig, deinamig, egnïol, ysbrydoledig ac effeithlon ymuno â’n tîm. Mae Ysgol Llanhari yn ysgol gymharol fach sy’n tyfu (tua 713 disgybl erbyn Medi 2018) a chanddi safonau a disgwyliadau uchel ymhob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae safle’r ysgol yn eang ac wedi ei leoli mewn ardal braf nid nepell o gyffordd yr M4 . Mae hon yn swydd allweddol ar gyfer arweinydd sy’n arddangos meddwl strategol, blaengaredd, cymhelliant ac arweinyddiaeth gadarn. Mae’r rôl newydd hon yn gyfle i chwarae rhan allweddol o osod cyfeiriad yr ysgol a gweithio mewn partneriaeth â’r Tîm Arwain a’r Bwrdd Llywodraethu er mwyn sicrhau gwelliant parhaus. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynllunio cyllidol strategol a gweinyddu systemau cyllidol yr ysgol, datblygu arloesedd busnes, rheolaeth a datblygiad strategol y safle a rheoli risg. Fe’ch anogir i gysylltu â’r Pennaeth, Mrs Rhian Phillips os am sgwrs anffurfiol ynglŷn â‘r swydd neu i drefnu ymweld â’r ysgol cyn rhoi cais i mewn i chi gael gweld y safle a chael blas ar ein hethos a’n gweledigaeth. Dyddiad cau/ Closing Date: Dydd Llun, Mehefin 25ain, hanner dydd, 12 o’r gloch. Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwyr, rannu’r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol (Enhanced CRB) Gellir cael ffurflen gais a swydd ddisgrifiad ar wefan eteach. Ffôn:
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.