Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Cyfarfod boreol (i blant 7-14 oed)
Cyfarfod boreol i blant 7-14 oed: Danfona fy HOLL Ffrindiau i’r Ysgol 2014 Cyfarfod boreol (i blant 7-14 oed)
2
Faint o blant yn y byd sydd ddim yn mynd i’r ysgol?
24 miliwn 45 miliwn Mae miliynau o bobl yn y byd sydd ddim yn mynd i’r ysgol. Cwestiwn 1: Faint o blant yn y byd sydd ddim yn mynd i’r ysgol? 24 miliwn 45 miliwn 57 miliwn. Ateb = mae 57 miliwn o blant yn y byd sydd ddim yn mynd i’r ysgol. Mae mwy o weithgareddau fel hyn i gael fan hyn: Llun: Ysgol Kingsbury 57 miliwn
3
O’r plant sydd ddim yn mynd i’r ysgol, faint ohonynt sy’n anabl?
4 miliwn 11 miliwn Pam fod hyn yn bwysig? O’r 57 miliwn o blant sydd ddim yn mynd i’r ysgol, faint ohonynt sy’n anabl? 4 miliwn o blant 11 miliwn o blant 24 miliwn o blant Ateb = 24 miliwn o blant. Mae hyn yn fwy na phoblogaeth Llundain, Glasgow, Caerdydd, Birmingham, Manceinion, Lerpwl a Belfast gyda’i gilydd. Mae Lucy yn byw yn Kenya ac mae’n dioddef o bolio. Mae eisiau mynd i’r ysgol er mwyn iddi allu bod yn annibynnol ond nid yw’n gallu teithio yno. Nid oes trafnidiaeth i fynd â hi ar y daith bell i’r ysgol. Felly mae Lucy yn aros gartref ac yn helpu gyda’r gwaith tŷ. Mae mwy o ffeithiau i’w gweld ar daflen ffeithiau Addysg ac Anabledd: Llun: Arjun Kohli/Arete Stories/ActionAid 24 miliwn 11 oed yw Lucy. Mae’n byw yn Kenya. Mae’n dioddef o bolio sy’n effeithio ar ei choes dde. Llun: Arjun Kohli/Arete Stories/ ActionAid
4
Mae’n gwybod bod cael y cyfle i fynd i’r ysgol yn beth gwerthfawr.
Mae Tasui yn byw yn Nigeria. Mae’n 15 oed ac yn dioddef o bolio. Mae’n ymgyrchu i blant gael mynd i’r ysgol. Llun: Kate Holt/Shoot the Earth/ ActionAid Beth yw’r stori? Dyma Tasui. Y mae’n ddyn ifanc llawn ysbrydoliaeth ac mae’n dod o le o’r enw Kaduna yn Nigeria. Bu Tasui yn dioddef o bolio ers pan oedd yn ddwy oed ac mae’n ei chael yn anodd cerdded. Mae’n gwybod bod cael y cyfle i fynd i’r ysgol yn beth gwerthfawr. A dyna pam fod Tasui yn gwneud popeth a all i gael yr addysg y mae’n ei haeddu. Llun: Kate Holt/Shoot the Earth/ActionAid
5
Llun: Kate Holt/Shoot the Earth/ActionAid
Tasui yn helpu ei deulu gartref yn Kaduna, Nigeria. Llun: Kate Holt/Shoot the Earth/ ActionAid Beth yw’r stori? Mae Tasui yn 15 oed nawr. Mae’n helpu gartref ac mae’n glanhau esgidiau ac yn cardota yn y farchnad. Mae’n gwneud hyn i drio cael digon o arian i gael mynd yn ôl i’r ysgol. Bu’n rhaid i Tasui adael yr ysgol ychydig flynyddoedd yn ôl am nad oedd yn cael y gefnogaeth oedd ei hangen arno ac roedd yn costio gormod iddo barhau i fynd. Meddai, “Byddwn i’n dwlu cael darllen ac ysgrifennu eto. Rwy’n teimlo’n wael am fethu â gweld fy ffrindiau a’u bod nhw yn cael addysg a minnau heb. Rwy eisiau mynd i’r ysgol am fy mod i eisiau bod yn gyfreithiwr er mwyn gallu helpu pobl”. Mae Tasui eisiau helpu pobl sydd ag anableddau a gwneud yn siŵr bod ganddynt yr hawl i astudio fel pawb arall. Llun: Kate Holt/Shoot the Earth/ActionAid
6
Beth yw'r stori? Dyma fap o Nigeria. Gallwch weld fod y wlad yng ngorllewin Affrica. Mae gŵr rhyfeddol arall yn dod o’r lle hwn, ac rydych ar fin ei gyfarfod. Cafodd y gŵr hwn ei eni yn Nigeria a chafodd bolio pan oedd yn dair oed. Yn fuan wedyn, symudodd ei deulu i Brydain ac erbyn heddiw mae’n athletwr Paralympaidd ac yn gyflwynydd teledu. A oes unrhyw un yn gwybod pwy yw’r gŵr hwn?
7
Nawr ydych chi’n gwybod pwy ydy e?
Ade yn siarad gyda disgyblion yn Ysgol Gynradd Southern Road yn nwyrain Llundain. Llun: Garry Crompton/Ysgol Gynradd Southern Road Beth yw'r stori? Dyma fe yn siarad gyda disgyblion yn Ysgol Gynradd Southern Road yn Llundain. Nawr ydych chi’n gwybod pwy ydy e? Ade Adeptitan yw ei enw. Mae Ade yn athletwr Paralympaidd ac yn gyflwynydd teledu. Meddai, petai wedi ei fagu yn Nigeria, byddai bywyd wedi bod yn wahanol iawn. Llun: Garry Crompton/Ysgol Gynradd Southern Road
8
Llun: Garry Crompton/Ysgol Gynradd Southern Road
Ade a’r disgyblion yn ymuno ag ymgyrch Danfona fy HOLL Ffrindiau i’r Ysgol. Llun: Garry Crompton/Ysgol Gynradd Southern Road Beth yw'r stori? Fel rhan o ymgyrch Danfona fy HOLL Ffrindiau i’r Ysgol 2014, aeth Ade yn ôl i’w ysgol gynradd yn nwyrain Llundain i ddweud diolch. Diolch i’w holl athrawon am ei helpu gyda’i anabledd ac am roi rhodd addysg iddo. Dysgwch fwy am daith Ade drwy wylio ffilm yr ymgyrch: Llun: Garry Crompton/Ysgol Gynradd Southern Road
9
Yn y flwyddyn 2000 roedd 114 miliwn o blant ddim yn mynd i’r ysgol….
Erbyn heddiw, mae’r nifer wedi haneru. Ond mae 57 miliwn o blant yn dal i fod heb addysg. Pam nawr? Mae’r rhifau hyn yn bwysig, oherwydd yn ôl yn 2000, rhoddodd arweinwyr byd addewid y byddai pob plentyn yn derbyn addysg gynradd erbyn 2015. Mae llawer wedi ei gyflawni. Mae nifer y plant sydd heb gael addysg wedi haneru. Ond mae hynny’n gadael 57 miliwn o blant heb addysg. Ac mae un ym mhob tri o’r plant hyn yn anabl. Mae hynny’n 24 miliwn o blant. Felly, eleni, rydym eisiau atgoffa arweinwyr byd i ddanfon ein HOLL ffrindiau i’r ysgol. Mae 1 ym mhob 3 o’r plant hyn yn anabl.
10
Pam nawr? Stori Linh Mae Linh yn dod o Dalaith Ninh Thuan yn Fiet-nam ac mae’n gallu teithio i’r ysgol am fod yr ysgol yn agos i’w chartref. Saith oed yw Linh ac mae ei choes wedi parlysu. Mae’n dal i fod yn ddigon ysgafn i’w mam a’i thad allu ei chario i’r ysgol. Maen nhw’n cario Linh ar eu cefnau bob bore. Wedyn maen nhw’n dod â hi adref bob amser cinio ac yn mynd â hi i’r gwersi prynhawn ac yn ôl wedyn. Maen nhw’n gwneud hyn am fod Linh wrth ei bodd yn yr ysgol. Beth ydych chi’n credu fydd yn digwydd wrth i Linh fynd yn hŷn? Petai ganddi gadair olwyn, gallai ddal ati i fynd i’r ysgol. Mae merched fel Linh, sydd yn dlawd, yn byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn anabl, yn wynebu llawer o rwystrau i fynd i’r ysgol ac aros yno. Llun: Oxfam 7 oed yw Linh. Mae’n byw yn Fiet-nam. Mae ei mam yn ei chario i’r ysgol. Mae coes Linh wedi parlysu. Llun: Oxfam
11
Llun: Georgina Cranston/SightSavers
Naw oed yw Difasi, ac mae’n byw yn Uganda. Bu’n ddall ers iddo gael ei eni. Nid yw’n mynd i’r ysgol am nad oes deunydd addysgu ar gael iddo. Llun: Georgina Cranston/SightSavers Pam nawr? Stori Difasi Hyd yn oed os yw plant yn llwyddo i fynd i’r ysgol, yn aml nid oes yno’r cyfleusterau na’r cymorth i’w cefnogi. Roedd Difasi, er enghraifft, yn arfer mynd i’r ysgol ond rhoddodd ei rieni’r gorau i dalu am nad oedd yn cael yr help oedd ei angen arno. Mae Difasi yn byw yn Uganda, a bu’n ddall ers iddo gael ei eni. Doedd dim unrhyw ddeunydd addysgu yn yr ysgol, nac athrawon a oedd wedi eu hyfforddi. Mae eisiau bod yn feddyg, ond ar hyn o bryd mae’n treulio ei ddiwrnodau adref ar fferm y teulu. Llun: Georgina Cranston/SightSavers
12
Llun: Peter Caton/Sightsavers
Naw oed yw Borsha, ac mae’n byw ym Mangladesh. Mae’n ddall ond mae’n mynd i’r ysgol am fod ei hathrawon wedi eu hyfforddi i gefnogi plant sy’n ddall. Llun: Georgina Cranston/Sightsavers Pam nawr? Stori Borsha Byddai Difasi wrth ei fodd yn cael y cyfle y mae Borsha yn ei gael. Mae Borsha yn byw ym Mangladesh. Naw oed yw hithau hefyd a bu’n mynd i’r ysgol ers ei bod yn saith oed. Gwnaeth mudiad o’r enw Sightsavers yn siŵr bod ei hathrawon wedi eu hyfforddi i helpu plant sy’n ddall. Er enghraifft, mae Hasina Begum, athrawes Borsha, yn gwneud lluniau a mapiau gan ddefnyddio reis a llinyn i helpu Borsha i deimlo gwahanol wead. Mae hyn yn ei helpu i ddatblygu’r sensitifrwydd ym mlaenau ei bysedd er mwyn iddi allu dysgu Braille. Llun: Peter Caton/Sightsavers
13
Cylchoedd dylanwad Y PRIF WEINIDOG FY YSGOL FY NHEULU FI
FY AELOD SENEDDOL FY YSGOL FY NHEULU Beth gallwn ni wneud? Sut gallwn ni atgoffa arweinwyr byd i wneud yn siŵr bod POB plentyn yn derbyn addysg erbyn 2015? Mae’r cylchoedd hyn yn dangos sut gallwn ddylanwadu ar bobl, gan ddechrau gyda’n teulu, ein hysgol a hyd yn oed y Prif Weinidog. Gallwch anfon eich negeseuon i’ch Aelod Seneddol a gofyn iddi/iddo eu hanfon ymlaen at y Prif Weinidog. Gall y Prif Weinidog geisio dwyn perswâd ar arweinwyr byd i wario mwy o arian ar addysg. Rydym eisiau i chi fod yn greadigol iawn a gwneud y gadwyn fwyaf erioed o ffrindiau papur. Fel dosbarth, meddyliwch sut bydd eich cadwyn o ffrindiau papur yn cynrychioli HOLL blant y byd. Pa neges fyddech chi’n ei rhoi i ddwyn perswâd ar eich Aelod Seneddol ynglŷn â phwysigrwydd y mater hwn? FI
14
Llun: Richard Baker/Oxfam
Lynne Featherstone AS yn ymweld ag Ysgol Gynradd Rhodes Avenue yn 2013. Llun: Richard Baker/Oxfam Beth gallwn ni wneud? Dyma lun o blant Ysgol Gynradd Rhodes Avenue yn cwrdd â’u Haelod Seneddol lleol, Lynne Featherstone. Fe wnaethon nhw ysgrifennu negeseuon ar eu ffrindiau papur, a phenderfynu cynnal digwyddiad yn yr ysgol er mwyn iddi dderbyn y neges i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn mynd i’r ysgol. Gallech chi gynnal digwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn yr ysgol i ddisgyblion, athrawon, rhieni a’ch Aelod Seneddol. Rhowch gyhoeddusrwydd i’ch gwaith yn y papur newydd lleol gan ddefnyddio pecyn y wasg: Llun: Richard Baker/Oxfam
15
1. Pa stori ydych chi eisiau ei hadrodd?
Meddyliwch am syniadau neu neges yr ydych chi eisiau eu rhannu ag arweinwyr byd. Wedyn lluniwch ffrind papur – mae templedi parod fel yr un yma i’w cael ym mhecyn gweithgareddau eich ysgol. Gwnewch eich ffrindiau papur yn fawr fel bod lle i ysgrifennu neges yn gofyn i arweinwyr byd anfon ein ffrindiau i gyd i’r ysgol. Gwnewch eich ffrindiau papur yn ddeniadol gan ddefnyddio lliwiau, gliter, sticeri a ffabrig. Llun: Camille Shah/Ysgol Uwchradd Kingsbury
16
2. Torrwch o amgylch eich ffrind papur
Ychwanegwch luniau i’r oriel a chewch dystysgrif am gymryd rhan: Llun: Camille Shah/Ysgol Uwchradd Kingsbury
17
3. Gwnewch gadwyn o ffrindiau papur
Unwch eich ffrindiau papur i wneud y gadwyn fwyaf erioed. Anfonwch eich ffrindiau papur i’ch Aelod Seneddol erbyn diwedd yr haf. Anogwch eich Aelod Seneddol i roi eich ffrindiau papur i’r Prif Weinidog. Anogwch y Prif Weinidog i ddylanwadu ar arweinwyr byd i wneud yn siŵr bod POB plentyn yn mynd i’r ysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofnodi’r hyn y mae eich ysgol yn gwneud yn ein cyfansymiwr ar-lein: Llun: Camille Shah/Ysgol Uwchradd Kingsbury
18
Llun: Mark Chilvers/ActionAid
Ymgyrchydd, Emma, yn annerch Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin yn 2013. Llun: Mark Chilvers/ActionAid Y diwedd Cyn i ni orffen, dewch i ni gwrdd â rhagor o bobl ysbrydoledig. Mae Emma Woods hefyd yn teimlo’n angerddol ynglŷn â’r ymgyrch hon. Gyda chymorth ei ffrindiau a’i hathrawon, llwyddodd i gael ei hysgol gyfan i gymryd rhan mewn gweithgareddau Danfon fy Ffrind i’r Ysgol yn ystod cyfarfodydd boreol, gwersi a chyfnodau dosbarth. Gwahoddodd ei Haelod Seneddol i’r ysgol, rhoddodd gyfweliad iddo ar gyfer gwefan Danfon fy Ffrind i’r Ysgol a siaradodd am y pwnc yn Nhŷ’r Cyffredin. Dwedodd wrth yr Aelodau Seneddol bod “plant sydd ag anableddau yn ei chael yn anodd cofrestru yn yr ysgol ac aros yn yr ysgol”. Fel y dwedodd Ade Adeptian: “Os yw arweinwyr byd o ddifri ynglŷn â rhoi addysg i bob plentyn, mae’n rhaid iddyn nhw nawr roi blaenoriaeth i anghenion plant sydd ag anableddau”. Llun: Mark Chilvers/ActionAid
19
Sut y byddwch chi’n rhannu’r neges?
Campaigner Navdeep speaking at Malala Day at the House of Commons in July, 2013. Photo: Mark Chilvers/ActionAid Plant o ddwy ysgol yng Nghymru yn cwrdd â’r Prif Weinidog yn Stryd Downing yn 2013. Y diwedd Y llynedd, aeth plant o ddwy ysgol yng Nghymru â’u negeseuon yn syth i Rif 10 Stryd Downing. Dyma nhw’n gofyn, “Mr Cameron, wnewch chi ddanfon fy ffrind i’r ysgol?” Dwedodd Aimee wrthym, “Mae’r hyn wnaethon ni heddiw yn bwysig oherwydd fe ddwedon ni wrth y gwleidyddion bod llawer o bobl, gan gynnwys plant, eisiau i bawb fynd i’r ysgol erbyn 2015.” Sut y byddwch chi’n rhannu’r neges? Cofiwch ddweud wrthym am yr hyn a wnaethoch fan hyn:
20
Y diwedd Dewch i ni ymuno ag Emma, Navdeep, Linh, Difasi, Lucy, Borsha, Tasiu ac Ade yn yr ymgyrch fwyaf erioed i ddanfon ein HOLL ffrindiau i’r ysgol.
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.