Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Cig a’r defnyddiwr meatandeducation.com 2012.

Similar presentations


Presentation on theme: "Cig a’r defnyddiwr meatandeducation.com 2012."— Presentation transcript:

1 Cig a’r defnyddiwr meatandeducation.com 2012

2 Testun y Modiwl Defnyddiwr yw rhywun sy’n defnyddio neu’n prynu gwasanaeth neu gynnyrch. Mae manwerthwr yn berson neu’n sefydliad sy’n gwerthu nwyddau i’r cyhoedd o safle fel siop neu archfarchnad. Mae cig yn fwyd sy’n cael ei werthu gan fanwerthwyr i ddefnyddwyr. Mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn hoffi rhai pethau ond nid eraill. Mae manwerthwyr yn cynnig dewis helaeth o fwydydd i ddefnyddwyr. meatandeducation.com 2012

3 Testun y Modiwl Felly mae’n rhaid i ddefnyddwyr wneud penderfyniadu a dewisiadau fel: • Beth maen nhw’n chwilio amdano a pham • Beth fydd yn bodloni eu anghenion orau Mae’r modiwl hwn yn trafod y gwahanol ffactorau y mae angen i ddefnyddwyr eu hystyried. meatandeducation.com 2012

4 Prynu cig Mae rhai o’r penderfyniadau a’r dewisiadau ynghylch prynu cig wedi’u gwneud eisoes ar ran y defnyddiwr gan y cigyddion a’r bobl sy’n prynu ar ran yr archfarchnadoedd. Pan fydd defnyddiwr yn prynu cig, bydd yn cael dewis nifer o fathau o gig a nifer o wahanol ddarnau o’r cig hwnnw. Mae’n rhaid i’r defnyddiwr wneud llawer o benderfyniadau – pa ddarn o gig sydd orau iddo ef/hi er mwyn diwallu ei anghenion ar y pryd. Yn 2008, gwariodd defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig 23% o’u bil siopa ar gig (DEFRA, 2010). meatandeducation.com 2012

5 Dewis cig Ystyriaethau wrth ddewis cig. Y darn o gig Cost
Os yw’r cig yn dod o gyhyr sydd wedi cael llawer o ddefnydd, bydd angen ei goginio’n hirach, mewn awyrgylch llaith. Cost Mae rhai darnau o gig yn ddrutach nag eraill. Chwiliwch am gynigion tymhorol neu gynigion hyrwyddo. Faint o gig heb lawer o fraster, braster ac asgwrn Mae angen i ddefnyddwyr chwilio am gig sy’n rhoi gwerth am arian, heb lawer o wastraff. Safon Mae defnyddwyr yn defnyddio’u synhwyrau i farnu ansawdd y cig. Mae labeli safonau’r diwydiant yn help i roi gwybodaeth i’r defnyddiwr. Maint y ddogn Wrth brynu cig sydd wedi’i baratoi’n barod, mae angen i ddefnyddwyr ystyried faint o gig heb lawer o fraster y maen nhw’n ei brynu. Ffres, wedi’i lapio, yn yr oergell neu yn y rhewgell Mae angen i ddefnyddwyr benderfynu sut i storio’r cig. Cyflwyniad Caiff defnyddwyr ddewis o blith darnau di-fraster sydd wedi’u trimio’n dda, darnau gwerth-ychwanegol, a darnau cyfandirol. Cyfleustra Does dim angen paratoi rhai darnau o gig. Mae hyn yn arbed amser i’r defnyddiwr. Mae prydau parod yn arbed amser hefyd. meatandeducation.com 2012

6 Pethau i’r defnyddiwr eu hystyried
Dyma rai pethau i’w hystyried wrth benderfynu pa gig i’w brynu: Hoffi neu beidio? Mae pawb yn hoffi pethau gwahanol. Pa fath o flas sydd orau gan bobl? Pa fath o flas sydd orau gan y bobl eraill a fydd yn rhannu’r pryd? Diwylliant a chrefydd Some people do not eat certain types of meat. Has the animal been slaughtered in a certain way? Faint Ydyn nhw’n prynu ar gyfer un neu ar gyfer llawer o bobl? Faint fydd pawb yn ei gael? Arian Faint y mae pobl yn gallu ei fforddio? Rysáit Sut y mae angen paratoi a choginio’r cig? Sgiliau ymarferol Ydi’r sgiliau angenrheidiol gan y cogydd i baratoi a choginio’r cig? Amser Faint o amser sydd ar gael? Gellir prynu rhai darnau o gig wedi’u paratoi’n barod i arbed amser i chi. Offer coginio Ydi’r offer coginio angenrheidiol gan y cogydd? Ffwrn/Popty/Stof? Gradell? Popty ping? Storio A fydd angen paratoi a choginio’r cig ar unwaith? A ellir ei storio’n ddiogel? Bwyta’n iach Mae rhai darnau’n cael eu trimio’n ofalus i dynnu’r braster. Ydi’r defnyddiwr yn chwilio am gig â llai o fraster? meatandeducation.com 2012

7 Ffactorau sy’n dylanwadu ar y cig y mae defnyddwyr yn ei ddewis
Straeon yn y cyfryngaul wasg Trio bwydydd newydd Ddi - GM Organig Gallu cael yr nwyddau arferd Amer maebwyd yngymeryd iwgludo Edrych yn dda Ddim ychwanegiadau Dda a’r amgylchedd Masnach deg (Amodau Teg) Safonau lles yr anifeiliaid Blas Tarddiad/Gwlad Cynnwys halen Cynnwys siwgr Dyddiad gwerthu lamser Enw/Brand Cynnwys holl bynhwysion Pris/Gwerth yr arian Canran y defnyddwyr yr effeithiwyd arnynt meatandeducation.com 2012 Source: IGD Shopper Trends 2010

8 Tueddiadau o ran prynu cig
Grams bob person mewn wythnos Grams per person per week Cig carcas Eidion ac veal Cig oen ac dafa d Porc Cig di garcas a cynhyrchian cig Bacwn ac ham Da bywl cywion Bwydydd parod cig Pob cynhyrdrion cig araill Family Food, DEFRA (February 2011 Edition) meatandeducation.com 2012

9 Lle i brynu cig Mae angen i bobl feddwl lle i brynu cig. Mae gwahanol fathau o siopau’n gwerthu cig e.e. siop y cigydd, archfarchnad, siop fferm. Mae angen meddwl am fanteision ac anfanteision prynu cig o wahanol fathau o siopau. meatandeducation.com 2012

10 Sut y caiff y cig ei brynu
Siop gigydd/siop fferm Sut y caiff y cig ei brynu Cyfleoedd Cyfyngiadau Prynu cig ffres yn ôl ei bwysau, yn unol ag anghenion y defnyddiwr. Efallai y bydd darnau o gig wedi’u rhewi ar gael hefyd. Gwahanol fathau o gig. Gellir prynu ychydig ar y tro (yn addas ar gyfer un person). Arddangosfa ffenest/oergell arddangos yn dangos yr holl gig sydd ar gael. Rhai’n gwneud eu sosejis, ham a chig moch eu hunain. Mae cigyddion yn gallu rhoi cyngor arbenigol i ddefnyddwyr am y darnau i’w prynu a syniadau am ryseitiau. Gall y gwasanaeth fod yn arafach am fod pawb yn cael sylw unigol. Dim defnydd pacio arbennig, ac felly byddai angen lapio’r cig yn barod i’w storio neu ei rewi. Dim label yn dangos y dyddiad defnyddio na’r cyfarwyddiadau coginio. meatandeducation.com 2012

11 Sut y caiff y cig ei brynu
Archfarchnad Sut y caiff y cig ei brynu Cyfleoedd Cyfyngiadau Llawer o fathau o gig yn cael eu gwerthu wedi’u pacio’n barod a’r pris arnynt. Mae cigyddion ar gael mewn rhai siopau. Dewis da o gig ffres, cig wedi’i bacio a chig wedi’i rewi. Y defnyddwyr yn cael pori trwy’r dewis a chymryd eu hamser. Gwerthu fesul un darn a phecynnau teulu. Pecynnau’n dangos y pwysau a’r pris. Labeli ar y pecynnau. Dewis o becynnau ‘gwerth ychwanegol’ ar gael. Siop un-stop. Mae posib prynu pethau eraill yn yr un lle. Gall y gwaith paratoi a phecynnu olygu bod y cig yn ddrutach. Dim gwasanaeth unigol (ac eithrio mewn siopau lle ceir cigydd). Gall y pecynnau fod yn fwy na’r angen e.e. dim darnau unigol i un person. meatandeducation.com 2012

12 Labeli ar gig Mae labeli’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a hanfodol i ddefnyddwyr ac yn helpu i werthu’r cynnyrch. Gallant fod yn ddeniadol ac yn drawiadol a gallant hysbysebu nodweddion arbennig y cig e.e. llai o fraster. Mae gwybodaeth ar y pecynnau yn helpu defnyddwyr i ddewis rhwng gwahanol fwydydd, brandiau a blasau. Yn ogystal, mae’r gyfraith yn mynnu bod llawer o’r wybodaeth yn cael ei chynnwys ar y label. meatandeducation.com 2012

13 Labeli bwyd – gofynion cyfreithiol
• Enw’r bwyd • Cyfarwyddiadau storio • Cyfarwyddiadau paratoi • Enw a chyfeiriad y gwneuthurwr, y paciwr neu’r manwerthwr • Pwysau/cyfaint • Presenoldeb organeddau a addaswyd yn enetig (GMO) neu gynhwysion a wnaed o GMO. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymwneud â chig ac nid yw cynhyrchion cig yn cynnwys GMO • Rhestr o gynhwysion (yn cynnwys alergenau, a faint o gynhwysyn a enwir neu a gysylltir â’r bwyd) • Marc dyddiad (‘best-before’ neu ‘use-by’) • Rhif lot neu batsh • O ba wlad mae’n dod meatandeducation.com 2012

14 Labeli bwyd – dim rheidrwydd cyfreithiol
• Does dim rheidrwydd cyfreithiol i gael labeli blaen-pecyn e.e. Canllaw Meintiau Dyddiol (GDAs) neu labeli goleuadau traffig • Does dim rheidrwydd cyfreithiol i roi manylion maethegol ar gefn y pecyn, os na wneir honiad o ran y cynnwys maethegol • Does dim rheidrwydd cyfreithiol i wneud honiadau am faeth nac iechyd, ond os gwneir, mae angen iddynt ddilyn cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd ar honiadau • Nid oes rheidrwydd cyfreithiol i wneud honiadau am statws organig bwyd ond, os gwneir, mae angen eu cadarnhau meatandeducation.com 2012

15 Labeli bwyd – bwyd sy’n cael ei werthu’n rhydd
Does dim angen rhestr o gynhwysion na manylion dyddiad nac amodau storio ar fwyd a werthir yn rhydd. Ond, os yw bwyd rhydd wedi’i addasu yn enetig (GM), mae’n rhaid cael gwybodaeth ger y bwyd i ddweud ei fod yn fwyd GM. meatandeducation.com 2012

16 Crynodeb • Defnyddiwr yw rhywun sy’n defnyddio neu’n prynu gwasanaeth neu gynnyrch. Mae manwerthwr yn berson neu’n sefydliad sy’n gwerthu nwyddau i’r cyhoedd o safle fel siop neu archfarchnad. • Mae nifer o ystyriaethau’n effeithio ar y math o gig a’r darn o gig y mae defnyddwyr yn eu dewis. • Mae cwmnïau ymchwil i’r farchnad yn rhoi gwybodaeth am y ffactorau sy’n dylanwadu ar y dewisiadau a wneir gan ddefnyddwyr, ac am dueddiadau yn y farchnad. • Gellir prynu cig o siopau cigyddion, archfarchnadoedd a siopau fferm. Mae i’r gwahanol fathau o siopau wahanol gyfleoedd a chyfyngiadau. • Mae labeli bwyd yn rhoi gwybodaeth bwysig am y cynnyrch i’r defnyddwyr. Mae gofynion cyfreithiol yn rheoli labelu cynhyrchion bwyd. meatandeducation.com 2012

17 Os hoffech ragor o wybodaeth a chymorth, ewch i:
meatandeducation.com 2012


Download ppt "Cig a’r defnyddiwr meatandeducation.com 2012."

Similar presentations


Ads by Google