Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
LANSIAD YSGOLION UWCHRADD CYFLWYNIAD
BBC Plant mewn Angen LANSIAD YSGOLION UWCHRADD CYFLWYNIAD I'w gyflwyno yn ystod gwasanaeth yr ysgol gyfan, gwasanaeth grŵp blwyddyn neu yn ystod amser tiwtor
2
Mae popeth yn newid... Eleni bydd pobl ifanc mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad yn dod at ei gilydd i fod yn Bencampwyr Newid i BBC Plant mewn Angen.
3
Mae BBC Plant mewn Angen yn mynd i fod yn fwy ac yn well nag erioed eleni!
Mae Pudsey wedi bod yn rhan o fagwraeth pob un ohonon ni – mae'n siŵr bod diwrnod BBC Plant mewn Angen yn gwneud i chi feddwl am wisg ffansi, cael hwyl gyda'ch ffrindiau, taflu sbwng at athrawon o bosib. I ni mae'n creu cyffro ar ddiwrnod na fyddai, fel arall, yn llawer mwy na diwrnod llwyd arall ym mis Tachwedd. Ond i lawer o blant a phobl ifanc ar draws y DU, mae'n newid eu bywyd er gwell drwy gydol y flwyddyn
4
Introduction to BBC Children in Need
Fideo 2
5
Mae BBC Plant mewn Angen yn helpu pobl ifanc yn ein hardal ni heddiw.
Pobl ifanc fel ni. Fel mae'r ffilm yn dangos, mae BBC Plant mewn Angen yn gwneud llawer mwy na dim ond helpu plant bach – mae hefyd yn newid bywyd pobl ifanc fel ni. Mae'r arian sy'n cael ei godi yn talu am brosiectau yn ein hardal ni heddiw! Yn wir mae'n bosib eich bod chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, wedi elwa o'r arian sy'n cael ei godi ar gyfer BBC Plant mewn Angen. (Grŵp myfyrwyr gwirfoddol: byddai'n syniad da ychwanegu enghreifftiau o brosiectau yn eich ardal chi yma – ewch i i gael gwybod mwy)
6
Mae hyd yn oed swm bach o arian yn gallu newid bywyd.
Bydd £1 yn golygu bod merch 11 mlwydd oed sy'n cael ei bwlio yn gallu gwneud ffrindiau yn ei chlwb ieuenctid lleol Bydd £10 yn talu am sesiwn therapi cerdd mewn hosbis er mwyn i blentyn chwe blwydd oed sydd â thiwmor ar yr ymennydd allu cael ychydig o hapusrwydd yn ystod wythnosau olaf ei bywyd Bydd £15 yn golygu bod bachgen 12 oed sydd ag anawsterau dysgu yn cael chwarae, dysgu a magu hyder mewn prosiect pêl-droed a llythrennedd Bydd £20 yn talu am sesiwn therapi i fachgen ifanc sydd â rhieni alcoholig, er mwyn ei helpu i ddeall eu salwch ac i reoli ei bryderon Bydd £40 yn helpu merch 17 mlwydd oed a oedd yn ddibynnol ar gyffuriau i roi trefn ar ei bywyd ac i ddod o hyd i swydd Y llynedd, fe wnaethon ni godi (bydd angen gofyn beth oedd y cyfanswm, a'i ychwanegu yma) yn yr ysgol. Roedd hyn yn ddigon i (bydd angen ychwanegu enghraifft o sut byddai'r arian wedi gallu cael ei ddefnyddio drwy edrych ar yr enghreifftiau uchod). Fe wnaeth yr arian y gwnaethoch chi ei godi wneud gwahaniaeth go iawn. Ac rydyn ni am wneud hyd yn oed yn well eleni.
7
Eleni, mae BBC Plant mewn Angen yn gofyn i bob un ohonon ni fod yn Bencampwyr Newid.
Gadewch i ni gael gwybod mwy... Fideo 1
8
Ydyn, mae myfyrwyr yn [bydd angen ychwanegu enw'r ysgol] yn cymryd drosodd!
Dros yr wythnosau nesaf, rydyn ni'n mynd i wneud ein gorau glas i godi llawer o arian i BBC Plant mewn Angen cyn y diwrnod mawr ar ddydd Gwener 13 Tachwedd! [Bydd llun] (Bydd angen ychwanegu enw'ch ysgol a llun o'ch Grŵp Myfyrwyr Gwirfoddol at y sleid hwn.) Ni yw'ch Grŵp Myfyrwyr Gwirfoddol ar gyfer BBC Plant mewn Angen (fe allech chi gyflwyno'ch hunain yn y fan hon). Yn ystod y cyfnod a fydd yn arwain at Ddiwrnod BBC Plant mewn Angen, byddwn yn trefnu pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau codi arian – mae'n siŵr y byddwch chi'n ein gweld ni'n aml!
9
Beth rydyn ni'n mynd i'w wneud?
We hope that lots of you will take part – there really will be something for everyone. We already know that we’re going to (add details of activities already decided, e.g. dressing up on the day, Celebration of Champions). If you’ve got ideas for your own fundraising activities, please let us know You may well take part in activities related to BBC Children in Need in lessons too.
10
0000.00 Targed codi arian ein hysgol ni
(Bydd angen ychwanegu eich targed codi arian yma) Targed codi arian ein hysgol ni ar gyfer BBC Plant mewn Angen 2015 ydy £XXXX. Mae hi'n mynd i fod yn anodd cyflawni'r her hon ond, gyda'n gilydd, rydyn ni'n credu y gallwn ni wneud hynny. Fe gawn ni wybod os ydyn ni wedi llwyddo yn Nathliad y Pencampwyr ar 13 Tachwedd! Dewch i siarad gyda ni os hoffech chi gymryd rhan, neu siaradwch â (bydd angen ychwanegu enw'r athro arweiniol). Diolch i chi ymlaen llaw am eich holl gefnogaeth. Rydyn ni'n mynd i gael llawer o hwyl, a bydd wir yn newid bywydau plant a phobl ifanc er gwell.
11
Felly, gadewch i ni ddechrau bod yn Bencampwyr Newid!
Chwarae'r gân gyflwyno eto Cymryd rhan... Codi arian.... Newid ein byd!
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.