Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Dod â data'n fyw – dulliau ystadegol o ymdrin â materion byd-eang   Sesiwn 1, Cyfnod Allweddol 3 Ychwanegwch nodiadau am destun y wers neu wybodaeth gefndir.

Similar presentations


Presentation on theme: "Dod â data'n fyw – dulliau ystadegol o ymdrin â materion byd-eang   Sesiwn 1, Cyfnod Allweddol 3 Ychwanegwch nodiadau am destun y wers neu wybodaeth gefndir."— Presentation transcript:

1 Dod â data'n fyw – dulliau ystadegol o ymdrin â materion byd-eang   Sesiwn 1, Cyfnod Allweddol 3
Ychwanegwch nodiadau am destun y wers neu wybodaeth gefndir am unrhyw luniau (dewsiol).

2 Casglu data yn Ethiopia

3 Meddyliwch am bedwar cwestiwn am y lluniau hyn
Mae’r lluniau hyn yn dangos cynhyrchu mêl yn Ethiopia. Mae cynhyrchwyr mêl yn llwytho rhestlau wedi’u cymryd o gwch gwenyn modern i mewn i allgyrchydd fydd yn gwahanu’r mêl rhag y cwyr. Yna bydd y rhestlau, gyda’r cwyr, yn cael eu rhoi yn ôl yn y cwch gwenyn. Credyd am y llun: Tom Pietrasik/Oxfam UK Honey producers load racks taken from a modern hive into a centrefuge that will separate the honey from the wax. The racks, complete with wax, will then be replaced in the hive. Photo credit: Tom Pietrasik/Oxfam UK Meddyliwch am bedwar cwestiwn am y lluniau hyn

4 Meddyliwch am bedwar cwestiwn am y lluniau hyn
Mae’r lluniau hyn yn dangos cynhyrchu mêl yn Ethiopia. Aelodau o grwpiau gweithredu cyfunol yn dangos technegau cadw gwenyn modern i fenywod eraill yn eu pentref i’w hyfforddi sut i gynhyrchu mêl. Credyd am y llun: Tom Pietrasik/Oxfam UK Meddyliwch am bedwar cwestiwn am y lluniau hyn

5 Meddyliwch am bedwar cwestiwn am y lluniau hyn
Mae’r lluniau hyn yn dangos cynhyrchu mêl yn Ethiopia. Mae’r cychod gwenyn hyn wedi galluogi rhagor o fenywod i gymryd rhan mewn cynhyrchu mêl. Mae casglu mêl o gychod gwenyn traddodiadol yn golygu dringo coed, ac nid yw hyn yn gymdeithasol dderbyniol i fenywod. Gellir cadw cychod gwenyn modern ar y ddaear, yn agos at y cartref, ac maent yn gymharol rad. Maent hefyd yn cynhyrchu rhagor o fêl, sydd o ansawdd gwell, na chychod gwenyn traddodiadol. Credyd am y llun: Tarekegn Garomsa/Oxfam UK Meddyliwch am bedwar cwestiwn am y lluniau hyn

6 Sut le yw Ethiopia? Gosod yr olygfa.....

7 Byw yn Ethiopia Addis Ababa – prifddinas Ethiopia, defnyddiwyd o dan drwydded greadigol gyffredin - Mae’r llun yn dangos amgylchedd mwy trefol. Nid yw pawb yn Ethiopia yn byw yn yr un amgylchiadau gwledig â’r ffermwyr sy’n fenywod a gymerodd ran yn astudiaeth Oxfam.

8 Byw yn Ethiopia Dessie yn Ethiopia, defnyddiwyd o dan drwydded greadigol gyffredin - Mae’r llun yn dangos amgylchedd mwy trefol. Nid yw pawb yn Ethiopia yn byw yn yr un amgylchiadau gwledig â’r ffermwyr sy’n fenywod a gymerodd ran yn astudiaeth Oxfam.

9 Byw yn Ethiopia Rhanbarth Tigray yn Ethiopia, defnyddiwyd o dan drwydded greadigol gyffredin - Mae’r llun hwn yn dangos peth o’r dirwedd yn Ethiopia – efallai ei bod yn fwy gwyrdd a mynyddig na’r hyn yr oedd dysgwyr yn ei ddisgwyl.

10 Byw yn Ethiopia Lalibela, defnyddiwyd o dan drwydded greadigol gyffredin - Mae Lalibela yn dref yng ngogledd Ethiopia sy’n enwog am ei heglwysi wedi’u torri o’r graig. Bwriad y llun hwn yn dangos peth o’r amrywiaeth sydd i’w gweld ar draws Ethiopia.

11 Menywod yn Ethiopia Llun o fenyw mewn gwisg goch, defnyddiwyd o dan drwydded greadigol gyffredin - Llun o fenyw gyda photel o ddŵr, defnyddiwyd o dan drwydded greadigol gyffredin - Mae’r lluniau hyn yn dangos bod rhai menywod â ffordd o fyw wahanol yn Ethiopia. Nid yw pawb yn byw yn yr un amgylchiadau â’r ffermwyr sy’n fenywod a gymerodd ran yn yr astudiaeth Oxfam hon.

12 Sut beth yw bywyd i’r menywod sy’n cynhyrchu mêl? Gosod yr olygfa…

13 Menywod sy’n cynhyrchu mêl
Mae’r sleidiau canlynol yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o le y dysgwyr trwy ddangos agweddau ar fywydau menywod a chynhyrchu mêl yn Ethiopia. Tair menyw sy’n cynhyrchu mêl sy’n rhan o fenter gydweithredol yn rhanbarth Amhara. Credyd am y llun: Berhanu Denu/Oxfam UK Menywod sy’n cynhyrchu mêl

14 Menywod sy’n cynhyrchu mêl
Mae’r sleidiau canlynol yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o le y dysgwyr trwy ddangos agweddau ar fywydau menywod a chynhyrchu mêl yn Ethiopia. Mae’r cychod gwenyn modern hyn wedi galluogi rhagor o fenywod i gymryd rhan mewn cynhyrchu mêl. Mae casglu mêl o gychod gwenyn traddodiadol yn golygu dringo coed, rhywbeth nad yw’n gymdeithasol dderbyniol i fenywod. Gellir cadw cychod gwenyn modern ar y ddaear, yn agos at y cartref, ac maent yn gymharol rad. Maent hefyd yn cynhyrchu mwy o fêl sydd o well ansawdd na chychod gwenyn traddodiadol. Credyd am y llun: Tarekegn Garomsa/Oxfam UK Menywod sy’n cynhyrchu mêl

15 Menyw o Ethiopia gyda’i chychod gwenyn
Mae’r sleidiau canlynol yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o le y dysgwyr trwy ddangos agweddau ar fywydau menywod a chynhyrchu mêl yn Ethiopia. Aelod o grŵp gweithredu cyfunol yn sefyll ger ei chychod gwenyn modern sydd wedi ei helpu i gynhyrchu mêl. Credyd am y llun: Tarekegn Garomsa/Oxfam UK Menyw o Ethiopia gyda’i chychod gwenyn

16 Menywod sy’n cadw gwenyn yn cydweithio
Mae’r sleidiau canlynol yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o le y dysgwyr trwy ddangos agweddau ar fywydau menywod a chynhyrchu mêl yn Ethiopia. Ymchwilydd yn cynnal holiadur gyda menywod sy’n cynhyrchu gwenyn ar gyfer prosiect ymchwil Oxfam, i gael gwybod pa effaith y mae bod yn aelod o grŵp gweithredu cyfunol wedi’i chael ar eu bywydau. Credyd am y llun: Berhanu Denu/Oxfam UK Menywod sy’n cadw gwenyn yn cydweithio

17 Cyfarfod o grŵp menywod sy’n cadw gwenyn
Mae’r sleidiau canlynol yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o le y dysgwyr trwy ddangos agweddau ar fywydau menywod a chynhyrchu mêl yn Ethiopia. Ymchwilydd yn siarad gydag aelodau o fenter gydweithredol menywod yn unig yn rhan o brosiect ymchwil Oxfam. Credyd am y llun: Berhanu Denu/Oxfam UK Cyfarfod o grŵp menywod sy’n cadw gwenyn

18 Menywod o Ethiopia mewn marchnad
Mae’r sleidiau canlynol yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o le y dysgwyr trwy ddangos agweddau ar fywydau menywod a chynhyrchu mêl yn Ethiopia. Marchnad leol lle mae ffermwyr yn dod i werthu eu cynnyrch, yn cynnwys mêl. Mae pobl yn defnyddio ymbarelau i warchod eu hunain a’u cynnyrch rhag yr haul. Credyd am y llun: Berhanu Denu/Oxfam UK Menywod o Ethiopia mewn marchnad

19 Menywod o Ethiopia mewn marchnad
Mae’r sleidiau canlynol yn helpu i ddatblygu ymdeimlad o le y dysgwyr trwy ddangos agweddau ar fywydau menywod a chynhyrchu mêl yn Ethiopia. Marchnad leol lle mae ffermwyr yn dod i werthu eu cynnyrch, yn cynnwys mêl. Mae pobl yn defnyddio ymbarelau i warchod eu hunain a’u cynnyrch rhag yr haul. Credyd am y llun: Berhanu Denu/Oxfam UK Menywod o Ethiopia mewn marchnad

20 Ethiopia Beth allwch chi ei ddweud am gynhyrchu mêl ac Ethiopia o’r lluniau yr ydych wedi’u gweld? Ble yn y byd mae Ethiopia? Defnyddiwch enwau cyfandiroedd a chyfarwyddiadau cwmpawd yn eich ateb. Pam mae cynhyrchu mêl yn bwysig i Ethiopia? Defnyddiwch rai ffigurau yn eich ateb. Sut mae’r sector mêl wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Pa rôl sydd gan fenywod wrth gynhyrchu mêl? Sut beth yw hinsawdd Ethiopia? Pa mor gyfoethog (CMC) yw Ethiopia o’i chymharu â gwledydd eraill? Mae’r cwestiynau mewn italig yn enghreifftiau o bynciau pellach i ddysgwyr eu harchwilio os ydynt yn defnyddio atlasau neu ddeunyddiau ategol eraill i ymestyn eu hymchwil cefndirol ar y ddwy wlad. CMC neu gynnyrch mewnwladol crynswth yw gwerth ariannol yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchwyd mewn gwlad dros gyfnod o amser.

21 Astudiaethau Achos Ar ôl darllen yr astudiaeth achos, ychwanegwch ddau ddarn arall o wybodaeth i’ch disgrifiad o rôl menywod yn Ethiopia a dau ddarn arall o wybodaeth am gynhyrchu mêl.

22 Heriau casglu data Faint o ddata y dylid eu casglu? Pryd y dylid eu casglu? Pwy ddylai eu casglu? A yw pobl bob amser yn rhoi atebion gonest? Pam na fyddent efallai yn rhoi ateb gonest neu lawn? Sut ydych chi’n cymharu’r menywod yr ydych yn casglu data arnynt â gweddill y boblogaeth? Gweler y cynllun sesiwn ar gyfer y pwyntiau i’w trafod gyda dysgwyr.


Download ppt "Dod â data'n fyw – dulliau ystadegol o ymdrin â materion byd-eang   Sesiwn 1, Cyfnod Allweddol 3 Ychwanegwch nodiadau am destun y wers neu wybodaeth gefndir."

Similar presentations


Ads by Google