Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Mae Oxfam yn gweithio gydag eraill i oresgyn tlodi a dioddefaint

Similar presentations


Presentation on theme: "Mae Oxfam yn gweithio gydag eraill i oresgyn tlodi a dioddefaint"— Presentation transcript:

1 Mae Oxfam yn gweithio gydag eraill i oresgyn tlodi a dioddefaint
CYFLWYNO OXFAM Mae Oxfam yn gweithio gydag eraill i oresgyn tlodi a dioddefaint Cred Oxfam y gellir a bod rhaid goresgyn tlodi. Mae Oxfam yn cydweithio gyda nifer o bartneriaid a chyfeillion ledled y byd, i helpu i oresgyn tlodi a dioddefaint.

2 Faint o bobl sy’n byw yn y byd?
CLICIWCH I SYMUD I’R LLUN NESAF 7 biliwn. Mae’n rhif mor enfawr, mae’n anodd ei ddychmygu. Felly gadewch i ni ddychmygu yn lle 7 biliwn o bobl, mai dim ond 7 o bobl sy’n y byd. CLICIWCH 5 O WEITHIAU I GAEL LLAI A LLAI O SMOTIAU NES MAI 7 YN UNIG SYDD AR ÔL. Faint allan o’r 7 o bobl sy’n brin o fwyd heddiw? CLICIWCH I’R LLUN NESAF Ie. Am bob 7 person sy’n byw ar y blaned – mae 1 heb ddigon o fwyd i’w fwyta. Felly mae gennym saith o smotiau yn cynrychioli 7 biliwn o bobl – beth yw cyfanswm y nifer o bobl sydd heb ddigon o fwyd? Ie, 1 biliwn.

3 Mae’r cyflwyniad hwn yn egluro pam ar y ddaear fod hyn yn digwydd, a pham bod angen i ni fel bodau dynol aeddfedu, bod yn ddoethach, a dysgu rhannu, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu bwydo. Oherwydd 1 ffaith yr ydym yn ei wybod yw bod mwy na digon o fwyd i’w gael ar gyfer pawb ar hyn o bryd. Felly pam mae’r 1 biliwn o bobl yn brin o fwyd? Wel, fel ddywedais i, mae 1 biliwn yn rhif mawr iawn – mae’n anodd iawn egluro. Felly rwy’n mynd i adrodd y stori drwy lygaid 1 o’r 1 biliwn o bobl – a dychmygwch mai chi yw hwnnw.

4 Dychmygwch eich bod yn ffermwr, a’ch bod yn dibynnu ar dyfu bwyd i wneud arian ac i fwyta.
Oherwydd yn rhyfedd ddigon, mae nifer o’r bobl sy’n brin o fwyd heddiw mewn gwirionedd yn tyfu bwyd i wneud bywoliaeth. Rydych wedi cael eich magu mewn pentref gwledig, a’ch rhieni, fel eu rhieni nhw cyn hynny, wedi’ch dysgu am bopeth sydd ei angen er mwyn gweithio fel ffermwr. Rydych yn dechrau’n gynnar yn y bore, ac yn gweithio am oriau maith, ond rydych yn falch o fedru dweud eich bod yn gwneud gwaith gonest. Nid yw’n hawdd gwneud yn siŵr bod digon o fwyd gennych i fwydo’ch teulu, ond rydych eisiau medru fforddio anfon eich plant i’r ysgol a sicrhau eu bod yn hapus ac yn iach.

5 BETH SYDD EI ANGEN I DYFU A BWYTA?
Fel ffermwr, beth yw’r pethau sydd eu hangen i dyfu bwyd a bwyta bwyd? [Rhowch gyfle i aelodau’r grŵp ymateb] CLIC Y tywydd iawn – glaw a haul mewn patrymau arferol, rheolaidd. Adnoddau – hadau, offer, gwrtaith ayyb. Tir – i dyfu bwyd, po fwyaf o dir sydd ar gael, y mwyaf y gallwch ei gynhyrchu! Arian – Ac mae angen hyn hefyd. Pam? I dalu am ysgol, moddion, lloches a bwyd. Ie, bwyd. Rydych chi’n tyfu bwyd, ond yn ei werthu i wneud arian, felly mae angen i chi brynu rhywfaint ohono i’w fwyta hefyd.

6 Y tywydd iawn Offer, hadau, ayyb Tir Arian i brynu bwyd
Fel ffermwr, beth yw’r pethau sydd eu hangen i dyfu bwyd a bwyta bwyd? [Rhowch gyfle i aelodau’r grŵp ymateb] CLIC Y tywydd iawn – glaw a haul mewn patrymau arferol, rheolaidd. Adnoddau – hadau, offer, gwrtaith ayyb. Tir – i dyfu bwyd, po fwyaf o dir sydd ar gael, y mwyaf y gallwch ei gynhyrchu! Arian – Ac mae angen hyn hefyd. Pam? I dalu am ysgol, moddion, lloches a bwyd. Ie, bwyd. Rydych chi’n tyfu bwyd, ond yn ei werthu i wneud arian, felly mae angen i chi brynu rhywfaint ohono i’w fwyta hefyd. Tir Arian i brynu bwyd 6

7 PA BROBLEMAU ALLAI GODI WRTH DYFU BWYD?
Yn ddiweddar rydych wedi bod yn straffaglu i gynhyrchu digon o fwyd. Dydych chi ddim yn gwneud cymaint o arian ac nid oes digon o fwyd i chi a’ch teulu. Pam?! CLIC CLIC Meddyliwch beth sydd ei angen a meddyliwch pa broblemau allai godi. Y tywydd iawn– beth sy’n eich rhwystro? CLIC Mae newid hinsawdd yn achosi mwy o enghreifftiau o dywydd eithafol fel llifogydd a sychder. FFAITH DDEWISOL; Gellid achub 12 miliwn o blant rhag newyn erbyn 2050 pe bai modd i ni atal newid hinsawdd Offer, hadau ayyb – Mae angen cymorth arnoch i gael yr hadau a’r offer gorau. Beth sy’n eich rhwystro? Mae’r llywodraeth yn helpu busnesau mawr a ‘ffermwyr dwys’ ond dydyn nhw ddim yn buddsoddi mewn ffermydd bach fel eich un chi. FFAITH DDEWISOL: Mae $250 biliwn yn cael ei wario gan lywodraethau gwledydd cyfoethog bob blwyddyn i gefnogi sectorau amaethyddol. Mae hyn 79 gwaith yn fwy na’r swm sy’n cael ei wario ar gymorth amaethyddol i wledydd sy’n datblygu. Tir – Mae angen eich tir, ond rydych mewn perygl o’i golli, pam? ‘Tir gipio’, lle bo cwmni mawr yn prynu’r tir yr ydych yn ei ddefnyddio i dyfu bwyd. FFAITH DDEWISOL. Yn y 10 mlynedd ddiwethaf, mae cwmnïau preifat a llywodraethau tramor wedi prynu ardal sy’n fwy na dwbl maint yr Almaen – yn aml heb yn wybod i’r cymunedau tlawd sy’n dibynnu ar y tir hwnnw am fwyd. Bwyd – Rydych yn gwneud arian i brynu bwyd ond mae’n dod yn gynyddol anodd – pam? CLIC. Oherwydd y ffactorau a nodwyd eisoes, a ffactorau eraill ar y cyd. Mae bwyd yn dod yn rhy ddrud. Er enghraifft mae prisiau reis yng Nghambodia wedi chwyddo yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r pentwr o reis ar y chwith yn dangos beth gall eich arian brynu heddiw, ac ar y dde, beth fyddai wedi ei brynu am yr un swm flwyddyn yn ôl. FFEITHIAU DEWISOL. Yn sgil ‘cynnydd mewn prisiau bwyd yn 2008 , gwthiwyd 100 miliwn o bobl i dlodi. Disgwylir i brisiau bwyd godi 70%-90% erbyn 2030. Sut mae hyn yn effeithio arnoch chi?? Wrth edrych ar y problemau – pe byddech yn rheoli’r byd beth fyddech chi’n ei wneud?? 7

8 Diffyg buddsoddiad Newid hinsawdd Tir Gipio Cynnydd pris bwyd
Yn ddiweddar rydych wedi bod yn straffaglu i gynhyrchu digon o fwyd. Dydych chi ddim yn gwneud cymaint o arian ac nid oes digon o fwyd i chi a’ch teulu. Pam?! CLIC CLIC Meddyliwch beth sydd ei angen a meddyliwch pa broblemau allai godi. Y tywydd iawn– beth sy’n eich rhwystro? CLIC Mae newid hinsawdd yn achosi mwy o enghreifftiau o dywydd eithafol fel llifogydd a sychder. FFAITH DDEWISOL; Gellid achub 12 miliwn o blant rhag newyn erbyn 2050 pe bai modd i ni atal newid hinsawdd Offer, hadau ayyb – Mae angen cymorth arnoch i gael yr hadau a’r offer gorau. Beth sy’n eich rhwystro? Mae’r llywodraeth yn helpu busnesau mawr a ‘ffermwyr dwys’ ond dydyn nhw ddim yn buddsoddi mewn ffermydd bach fel eich un chi. FFAITH DDEWISOL: Mae $250 biliwn yn cael ei wario gan lywodraethau gwledydd cyfoethog bob blwyddyn i gefnogi sectorau amaethyddol. Mae hyn 79 gwaith yn fwy na’r swm sy’n cael ei wario ar gymorth amaethyddol i wledydd sy’n datblygu. Tir – Mae angen eich tir, ond rydych mewn perygl o’i golli, pam? ‘Tir gipio’, lle bo cwmni mawr yn prynu’r tir yr ydych yn ei ddefnyddio i dyfu bwyd. FFAITH DDEWISOL. Yn y 10 mlynedd ddiwethaf, mae cwmnïau preifat a llywodraethau tramor wedi prynu ardal sy’n fwy na dwbl maint yr Almaen – yn aml heb yn wybod i’r cymunedau tlawd sy’n dibynnu ar y tir hwnnw am fwyd. Bwyd – Rydych yn gwneud arian i brynu bwyd ond mae’n dod yn gynyddol anodd – pam? CLIC. Oherwydd y ffactorau a nodwyd eisoes, a ffactorau eraill ar y cyd. Mae bwyd yn dod yn rhy ddrud. Er enghraifft mae prisiau reis yng Nghambodia wedi chwyddo yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r pentwr o reis ar y chwith yn dangos beth gall eich arian brynu heddiw, ac ar y dde, beth fyddai wedi ei brynu am yr un swm flwyddyn yn ôl. FFEITHIAU DEWISOL. Yn sgil ‘cynnydd mewn prisiau bwyd yn 2008 , gwthiwyd 100 miliwn o bobl i dlodi. Disgwylir i brisiau bwyd godi 70%-90% erbyn 2030. Sut mae hyn yn effeithio arnoch chi?? Wrth edrych ar y problemau – pe byddech yn rheoli’r byd beth fyddech chi’n ei wneud?? Tir Gipio Cynnydd pris bwyd

9 SUT FEDRWN NI HELPU? Mae ymgyrch TYFU Oxfam yn tynnu sylw at y ffaith bod system fwyd y byd wedi torri, ond beth fedrwn ni ei wneud i’w drwsio? Newid hinsawdd – beth fedrwn ni ei wneud? CLIC Rhaid i wledydd cyfoethog roi arian i wledydd tlawd er mwyn iddynt addasu ar gyfer y tywydd cyfnewidiol (llun o ffermwyr Bangladesh â gerddi sy’n arnofio i oresgyn llifogydd). CLIC. Mae angen i ni stopio llygru cymaint hefyd. Buddsoddi mewn ffermio – beth fedrwn ni ei wneud am ffermwyr mawr sy’n cael cymaint o arian a ffermwyr bach sy’n cael ychydig iawn? CLIC. Mae angen i wledydd cyfoethog, cwmnïau a mudiadau rhyngwladol fuddsoddi arian mewn ffermwyr bach. FFAITH DDEWISOL. Heddiw, mae 500 miliwn o ffermwyr bach y byd yn cynnal tua dau biliwn o bobl, bron i dreian o ddynoliaeth, felly mae’n werth buddsoddi ynddynt. Tir Gipio – beth ellid ei wneud? CLIC. Mae angen i ni atal cwmnïau mawr rhag prynu tir sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan ffermwyr bychain. Yn rhyngwladol, mae angen i bobl sefyll gyda’i gilydd a dweud nad yw hyn yn iawn. Prisiau bwyd – beth ellid ei wneud? CLIC Mae angen i Lywodraethau gydweithio i gadw prisiau dan reolaeth. 9

10 Atal Tir Gipio Sefydlogi pris bwyd Torri carbon ac addasu
Buddsoddi ffermydd bach Mae ymgyrch TYFU Oxfam yn tynnu sylw at y ffaith bod system fwyd y byd wedi torri, ond beth fedrwn ni ei wneud i’w drwsio? Newid hinsawdd – beth fedrwn ni ei wneud? CLIC Rhaid i wledydd cyfoethog roi arian i wledydd tlawd er mwyn iddynt addasu ar gyfer y tywydd cyfnewidiol (llun o ffermwyr Bangladesh â gerddi sy’n arnofio i oresgyn llifogydd). CLIC. Mae angen i ni stopio llygru cymaint hefyd. Buddsoddi mewn ffermio – beth fedrwn ni ei wneud am ffermwyr mawr sy’n cael cymaint o arian a ffermwyr bach sy’n cael ychydig iawn? CLIC. Mae angen i wledydd cyfoethog, cwmnïau a mudiadau rhyngwladol fuddsoddi arian mewn ffermwyr bach. FFAITH DDEWISOL. Heddiw, mae 500 miliwn o ffermwyr bach y byd yn cynnal tua dau biliwn o bobl, bron i dreian o ddynoliaeth, felly mae’n werth buddsoddi ynddynt. Tir Gipio – beth ellid ei wneud? CLIC. Mae angen i ni atal cwmnïau mawr rhag prynu tir sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan ffermwyr bychain. Yn rhyngwladol, mae angen i bobl sefyll gyda’i gilydd a dweud nad yw hyn yn iawn. Prisiau bwyd – beth ellid ei wneud? CLIC Mae angen i Lywodraethau gydweithio i gadw prisiau dan reolaeth. Atal Tir Gipio Sefydlogi pris bwyd

11 OES MODD I NI WYNEBU’R HER?
Efallai eich bod yn meddwl – mae hyn yn ormod, does dim modd gwneud unrhyw beth am y problemau hyn. Ond rydym yn gwybod, pan fo llywodraethau yn mynd ati o ddifrif i daclo problem, gallwn weld newidiadau sylweddol. Mae gwledydd penodol wedi profi hyn.

12 Dim Newyn ym Mrasil Ym Mrasil – mae’r gyfran o bobl sydd heb ddigon o fwyd bron wedi haneru rhwng 1992 a Beth yw’r rheswm dros y gwahaniaeth mawr hwn? Yn y pen draw, mae diolch i’r llywodraeth am gymryd y broblem o ddifrif, gyda chefnogaeth mudiad dinasyddion cryf dan arweiniad pobl sy’n byw mewn tlodi. Mae menter Dim Newyn Llywodraeth Brasil – a lansiwyd yn 2003, yn cynnwys 50 o fentrau, yn amrywio o ddarparu arian i famau tlawd i gefnogaeth arbennig i gynhyrchwyr bwyd ar raddfa fechan. Er bod y buddiannau wedi’u gwireddu’n gyflym, cymerodd Dim Newyn amser hir i’w sefydlu; mae’n ganlyniad 20 mlynedd o ymgyrchu gan gymdeithas sifil a mudiadau cymdeithasol Brasil. Trefnwyd ymgyrchoedd a heriwyd y drefn, gan ethol gwleidyddion â’r weledigaeth i wneud gwahaniaeth., Am fwy o wybodaeth; Llun:

13 BETH FEDRWCH CHI WNEUD? Dysgu Dysgwch fwy ar Meddwl Pa gamau gallwch chi eu cymryd? Gweithredu Codi ymwybyddiaeth, cysylltu gyda’ch AS, gweithredu ar Ddiwrnod Bwyd y Byd Beth fedrwch chi ei wneud? Wel Gallwch ddysgu mwy am y mater. CLIC Gallwch feddwl am gamau y gallwch chi eu cymryd i wneud gwahaniaeth Gallwch weithredu drwy ymuno ag ymgyrch TYFU Oxfam – gan helpu i godi ymwybyddiaeth yn eich ysgol a’ch cymuned leol, a thrwy gysylltu gyda’ch AS am yr ymgyrch. Gallwch ddechrau grŵp Ieuenctid Oxfam er mwyn cydweithio ar ymgyrch. Ydych chi’n meddwl y bydd hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth? Wel os nad ydych…

14 …Christie Todd Whitman
“Mae unrhyw un sy’n meddwl ei fod yn rhy fach i wneud gwahaniaeth, heb geisio cysgu pan fo mosquito yn yr ystafell.” …Christie Todd Whitman “Mae unrhyw un sy’n meddwl ei fod yn rhy fach i wneud gwahaniaeth, heb geisio cysgu pan fo mosquito yn yr ystafell.” Christie Todd Whitman a Peidiwch byth ag amau y gall grŵp bach o ddinasyddion meddylgar, ymroddedig newid y byd. Yn wir, dyna’r unig beth sydd erioed wedi gwneud hynny Margaret Mead (Anthropolegydd o’r UDA, )  A rhai dyfyniadau eraill… “Yr unig beth sydd ei angen er mwyn i ddrygioni ennill.....yw i ddynion da wneud dim.” Winston Churchill “Mae’r byd yn newid yn ôl y ffordd y mae pobl yn ei weld, ac os oes modd newid, hyd yn oed o filimedr, y ffordd y mae pobl yn gweld realiti, gallwch newid y byd.” James Baldwin

15 “Peidiwch byth ag amau y gall grŵp bach o ddinasyddion meddylgar, ymroddedig newid y byd. Yn wir, dyna’r unig beth sydd erioed wedi gwneud hynny…Margaret Mead “Mae unrhyw un sy’n meddwl ei fod yn rhy fach i wneud gwahaniaeth, heb geisio cysgu pan fo mosquito yn yr ystafell.” Christie Todd Whitman a Peidiwch byth ag amau y gall grŵp bach o ddinasyddion meddylgar, ymroddedig newid y byd. Yn wir, dyna’r unig beth sydd erioed wedi gwneud hynny Margaret Mead (Anthropolegydd o’r UDA, )  A rhai dyfyniadau eraill… “Yr unig beth sydd ei angen er mwyn i ddrygioni ennill.....yw i ddynion da wneud dim.” Winston Churchill “Mae’r byd yn newid yn ôl y ffordd y mae pobl yn ei weld, ac os oes modd newid, hyd yn oed o filimedr, y ffordd y mae pobl yn gweld realiti, gallwch newid y byd.” James Baldwin 15

16 Pam ydw i’n dweud hyn? Wel cofiwch bod hyn yn effeithio ar fwy nag un person - 1 ym mhob 7 person ar y blaned. Mae’n fater enfawr, ac mae dirfawr angen trwsio’r system fwyd. Mae’n fater o gyfiawnder. Beth bynnag ydych chi’n meddwl y gallwch ei wneud, gweithredwch! Diolch.

17 Lluniau drwy garedigrwydd: Karen Robinson/Oxfam Rajendra Shaw/Oxfam
Noder: Mae’r holl luniau a ddefnyddiwyd yn y cyflwyniad hwn wedi’u darparu at ddefnydd mewn sefydliadau addysg, ac nid i’w hatgynhyrchu na’u hailddefnyddio heb ganiatâd ysgrifenedig gan Oxfam. Lluniau drwy garedigrwydd: Karen Robinson/Oxfam Rajendra Shaw/Oxfam Nguyen Quoc Thuan /Oxfam Tom Greeenwood/Oxfam Crispin Hughes/Oxfam EPA/STR Oxfam Novib Caroline Gluck/Oxfam Gilvan Barreto/Oxfam Toby Adamson/Oxfam Jim Holmes/Oxfam Abbie Trayler-Smith/Oxfam Golam Rabban/Oxfam Ng Swan Ti/Oxfam Miguel Saavedra/docs.xchange “Mae unrhyw un sy’n meddwl ei fod yn rhy fach i wneud gwahaniaeth, heb geisio cysgu pan fo mosquito yn yr ystafell.” Christie Todd Whitman a Peidiwch byth ag amau y gall grŵp bach o ddinasyddion meddylgar, ymroddedig newid y byd. Yn wir, dyna’r unig beth sydd erioed wedi gwneud hynny Margaret Mead (Anthropolegydd o’r UDA, )  A rhai dyfyniadau eraill… “Yr unig beth sydd ei angen er mwyn i ddrygioni ennill.....yw i ddynion da wneud dim.” Winston Churchill “Mae’r byd yn newid yn ôl y ffordd y mae pobl yn ei weld, ac os oes modd newid, hyd yn oed o filimedr, y ffordd y mae pobl yn gweld realiti, gallwch newid y byd.” James Baldwin 17


Download ppt "Mae Oxfam yn gweithio gydag eraill i oresgyn tlodi a dioddefaint"

Similar presentations


Ads by Google