Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Draig! Datblygu iaith yn greadigol yn y CS.

Similar presentations


Presentation on theme: "Draig! Datblygu iaith yn greadigol yn y CS."— Presentation transcript:

1 Draig! Datblygu iaith yn greadigol yn y CS.
Haf Llewelyn

2 Llafaredd – y sail i ddarllen ac ysgrifennu.
Llafaredd – y cam pwysicaf i addysg bob plentyn. Heb y ddawn o siarad a gwrando – fedr y plentyn ddim trosglwyddo ei syniadau, na rhesymu a chyfathrebu’n effeithiol. Yn gyntaf oll rhaid i blant gael y cyfle i wrando a siarad a chael cyfle i gyfleu syniadau . Rhaid iddynt gael y cyfle i wneud synnwyr o’r hyn gaiff ei ddweud wrthynt. Heb ddealltwriaeth o ystyr yr hyn sy’n cael ei ddweud wrthynt, sut mae disgwyl iddynt ddeall beth fydd geiriau ar dudalen yn ei ddweud? Haf Llewelyn

3 Rhai dyfyniadau i gnoi cil arnynt -
Some people learn how to use talk effectively at home and through various out-of-school activities. But many children are rarely encouraged to present their ideas or to take part in a “reasoned discussion”. Employers in the UK regularly say that they want to recruit people who are effective public communicators and team workers. Weaker communication skills predict poor life chances. Vocabulary at age five, for example, is one of the strongest predictors of how many GCSEs a child will get at 16. Weaker communication skills are also closely linked to social disadvantage; children from less well-off homes start school on average 16 months behind their better-off peers in their language. Haf Llewelyn

4 Agor y drws i fod yn greadigol
Wrth gael cyfle i fod yn greadigol mae plentyn yn cael cyfle i ymchwilio i wahanol bosibiliadau, rhoi cynnig arni, ail-drio, datrys problemau, rhannu syniadau a dod yn feddylwyr mwy annibynnol – yr holl sgiliau sydd eu hangen i ymdopi â’r byd modern. Haf Llewelyn

5 Donaldson fe ddylai ein plant ddatblygu i fod yn -
ddysgwyr uchelgeisiol, galluog gyfranwr mentrus, creadigol ddinasyddion egwyddorol, gwybodus unigolion iach, hyderus Haf Llewelyn

6 Haf Llewelyn

7 Yn ein gweithgareddau heddiw byddwn yn yn taro ar y Fframwaith dro ar ol tro -
Haf Llewelyn

8 Llafaredd - siarad Haf Llewelyn

9 Haf Llewelyn

10 Ysgogi syniadau Fyddech chi’n hoffi’r ddraig fel ffrind?
Cychwyn trafodaeth – beth wyt ti’n wybod am ddreigiau? Beth am gychwyn gyda’r bocs o wyau draig? Pwy sydd wedi eu gadael? Haf Llewelyn

11 Darllen y nodyn Annwyl blant,
Os gwelwch yn dda a wnewch chi ofalu am yr wyau yn ofalus. Maen nhw angen – Lle cynnes Lle tawel Lle diogel Diolch o galon i chi – dwi’n gwybod y gwnewch chi wneud y gwaith yn ardderchog! Cofion cynnes… Haf Llewelyn

12 Beth fydd diben fy siarad a ‘sgwennu?
Disgrifio Cyflwyno patrymau brawddeg Cyflwyno geirfa Ar ddiwedd yr uned,bydd y plant yn gallu: defnyddio geirfa amrywiol defnyddio patrymau iaith diddorol rhoi eu barn am y cwestiwn mawr rhesymau dros eu barn Haf Llewelyn

13 Cychwyn efo testun difyr
Yn dod yn fuan ym mis Ebrill – Cyfres Roli Poli, Gomer – Deri Dan y Daliwr Dreigiaiu Haf Llewelyn

14 Darllen torfol – neu ddynwared
Mae’r ddraig yna’n hen un gas. Gwranda arni’n thuo! Darllen torfol – neu ddynwared Mae’n swnio’n drist i fi. Camodd Mari ymlaen yn ddewr. Roedd hi’n gallu gweld y cen ar gynffon y ddraig a theimlo gwres ei hanadl. Ond yn lle draig enfawr ffyrnig a brawychus, dyna lle’r oedd draig fach ofnus yn sownd yn y ffynnon. Roedd hi’n galw am help. Mae dreigiau’n rhy beryglus o lawer. Mae’r ddraig yna’n boen! Haf Llewelyn

15 Cerrig camu – Sut un ydi hi? Mae ganddi…
grafangau caled groen cennog draed anferth dafod danllyd anadl boeth gynffon fforchiog lygaid ffyrnig Haf Llewelyn

16 Cerrig camu – Beth mae hi’n ei wneud? Mae hi yn…
llamu’n llawen neidio’n bell swatio’n swil rhuo’n uchel chwythu tân ymosod yn ffyrnig sniffian crio Haf Llewelyn

17 Beth am greu draig anwes
Beth am greu draig anwes? Rhowch enw iddi cofiwch geisio gael eich enw i gyflythrennu. Haf Llewelyn

18 Rhowch nodweddion iddi, labelwch eich llun -
llygaid tafod gynffon clustiau tanllyd swil pigog fforchiog Mae ganddi lygaid swil. Mae ganddi dafod danllyd. Mae ganddi gynffon fforchiog llamu’n swatio’n chwythu’n rhuo’n Mae hi’n gallu ffyrnig uchel danllyd swil Haf Llewelyn

19 Gêm – Ti ydi’r ddraig. Oes gen ti
Gêm – Ti ydi’r ddraig! Oes gen ti? (mi fedrwch gyfyngu’r nifer o eiriau sydd ar gael i 3/4/5) Dewis 3 enw o’r rhestr e.e. llygaid, tafod, cynffon Dewis 3 ansoddair e.e. pigog, disglair, fforchiog Rhaid i ti greu 3 brawddeg i ddisgrifio sut un wyt ti, ond shsh – paid â dweud! Rhaid i dy ffrind ofyn – Oes gen ti….? Rhaid i ti ateb – Oes mae gen i…../ Nagoes, does gen i ddim… Haf Llewelyn

20 Gêm – Ti ydi’r ddraig. Wyt ti’n gallu
Gêm – Ti ydi’r ddraig! Wyt ti’n gallu? (mi fedrwch gyfyngu’r nifer o eiriau sydd ar gael i 3/4/5) Dewis 3 berf* o’r rhestr e.e. llamu’n,anadlu’n , rhuo’n Dewis 3 ansoddair/adferf* e.e. wyllt , uchel, ffyrnig Rhaid i ti greu 3 brawddeg i ddisgrifio beth fedri di wneud - shsh – paid â dweud! Rhaid i dy ffrind ofyn – Wyt ti’n gallu….? Rhaid i ti ateb – Ydw rydw i’n gallu…../ Nachdw, dydw i ddim yn gallu… Haf Llewelyn

21 Ffonia’r plismon dreigiau!
Dad – Helo, plismon dreigiau sydd yna? Plismon Dreigiau – Ia, sut medra i eich helpu chi? Dad – Wel diolch byth! Dewch ar unwaith, mae yna ddraig yma! P.D. – O diar! Sut un ydi hi? Dad – Wel, mae ganddi dafod danllyd! P.D. – Rhywbeth arall? Dad- Oes , mae ganddi …. P.D. – O am ofnadwy! Rhywbeth arall? Dad – Oes, mae ganddi…. P.D. O am ddifrifol, rhywbeth arall? Dad – Oes , mae hi’n gallu … P.D. – Wel wir! Mi fydda i yna’n syth bin! Haf Llewelyn

22 Theatr fforwm Dychmygwch mai chi ydi Dad – beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth blismon y dreigiau? Haf Llewelyn

23 Creu llwybr heibio Craig y Ddraig – yr ardal tu allan
Creu llwybr gan ddefnyddio geirfa lleoliadau e.e. o flaen, gyferbyn , tu ôl i, wrth ymyl, drws nesa i.. Bydd Mali yn dod yn ôl at hyn – geirfa yn y pecyn. Nodyn am wahaniaethu – her un *, ** a *** Haf Llewelyn

24 Delyth y dylwythen ydw i.
Deio dewin ydw i. Colin y cawr ydw i. Pwy wyt ti? Bili blaidd ydw i. Dora draig ydw i. Delyth y dylwythen ydw i. Haf Llewelyn

25 Darllen torfol, fel bod pawb yn gallu sôn am nodweddion y gwahanol gymeriadau -
Mae ganddi lygaid brown disglair, fel siocled yn toddi wrth eich gweld. Un garedig ydi hi, oherwydd fydd hi byth yn gwneud drwg i neb. Does ganddi ddim eisiau sylw, un fach swil ydi hi. Mae hi'n byw mewn ogof dywyll i fyny yn y mynyddoedd, dydi hi ddim yn hoffi llond lle o bobl. Ond er hynny, mae hi'n hoffi pobl sy'n gwneud iddi chwerthin. Dydi hi ddim yn drwsgl, mae hi'n hedfan yn ofalus. Mae hi'n hoffi helpu trwy wneud tôst i bawb sy'n mynd i'w gweld. Haf Llewelyn

26 Oes mae gen i?/ Na does gen i ddim…
Pwy wyt ti? Rhowch amlen i blentyn gyda llun un o’r cymeriadau ynddi. Rhaid iddo holi ei bartner i geisio dyfalu pwy ydi o. Oes gen ti…? Oes mae gen i?/ Na does gen i ddim… Haf Llewelyn

27 Oes gen i lygaid brown disglair?
Oes gen i lyfr swynion? Oes gen i gynffon hir, flewog, lwyd? Oes gen i flodau gwyllt? Haf Llewelyn

28 Ydw dwi’n gallu/ Na dydw i ddim yn gallu…
Pwy wyt ti? Rhowch amlen i blentyn gyda llun un o’r cymeriadau ynddi. Rhaid iddo holi ei bartner i geisio dyfalu pwy ydi o. Wyt ti’n gallu…? Ydw dwi’n gallu/ Na dydw i ddim yn gallu… Haf Llewelyn

29 Ydw i’n gallu dawnsio’n osgeiddig?
Ydw i’n gallu rhoi help llaw? Ydw i’n gallu gwneud swynion? Ydw i’n un da am wneud smonach? Haf Llewelyn

30 Beth arall? Mae’r posibiliadau yn ddi-bendraw – Cyfarwyddiadau –
Adeiladu nyth i’r ddraig Sut i achub y ddraig o’r ffynnon Adeiladu trap dreigiau drwg Cerddi draig Posteri rhybudd rhag dreigiau Cerddoriaeth i gyd fynd gyda symudiadau – cawr/ tylwythen deg/ draig/ Gweler y ffurfiau ysgrifennu sydd yn cyd-fynd â’r llyfr Mae’r Ddraig yna’n Boen Haf Llewelyn

31 Sut i adeiladu nyth i’r ddraig fach. Byddwn angen: brigau gwellt plu
pethau sgleiniog ychydig o lud balŵn Dull: yn gyntaf chwythwc y balŵn Yna rhowch y gwellt yn ofalus fesul ychydig i mewn yn y glud. Beth am fynd ati i greu nyth i’r ddraig? Arwain at gyfarwyddiadau – modelu’r iaith a threfn - Haf Llewelyn

32 Beth arall fedrwn ni ei wneud?
Perswadio Haf Llewelyn

33 Odli Creu cerddi bach – cychwyn gyda chwpledi, a chyfrif sillafau –
Beth mae’r ddraig yn gallu wneud? Un andros o dda am grasu tôst gwneud cawl coch a thatws rhôst! Nyth, syth sych, gwych Coch, croch, moch, boch, Tafod, cawod, malwod, Bach, sach, gwrach Tŵr, dŵr, gŵr Cawr, mawr, llawr Gwenu, canu, malu,gwasgu, cysgu, crynu, Tôst, bôst, rhôst Beth mae’r cawr yn gallu wneud? Un swnllyd a barus ydi’r cawr, Llygaid ffyrnig a llais mawr mawr! Haf Llewelyn

34 Cerdd: Beth sydd yn nyth y ddraig fach?
Rydym am feddwl am bethau go-iawn y byddai gan y ddraig fach e.e. chilis i roi tân yn ei bol. Nawr meddyliwch am bethau sy’n ymwneud a’r synhwyrau e.e. gweld, teimlo, clywed, arogli Nawr meddyliwch am deimlad (emosiynol) na fedrwch ei ddal yn eich llaw e.e. hiraeth, ofn, hapusrwydd… Haf Llewelyn

35 Yn nyth y ddraig mae- Plisgyn wedi torri, ogla tôst wedi llosgi, cynffon fforchiog feddal, chilis a hanner afal geiriau storis hen, hen a llygaid bach clên, ond dagrau bach yn sgleinio – ‘Dwi isho Mam yma heno.’ Haf Llewelyn


Download ppt "Draig! Datblygu iaith yn greadigol yn y CS."

Similar presentations


Ads by Google