Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Achrediad Ymarferydd Arweiniol RhDB-C

Similar presentations


Presentation on theme: "Achrediad Ymarferydd Arweiniol RhDB-C"— Presentation transcript:

1 Achrediad Ymarferydd Arweiniol RhDB-C
Adeiladu rhwydweithiau Ymgorffori arfer da Creu effaith Paul Stock, Cydlynydd Rhaglen iNET Cymru

2 Beth ydyn ni’n gobeithio ei gyflawni heddiw?
Cael trosolwg o’r cynllun achrediad ymarferydd arweiniol Deall y broses o wneud cais i fod yn ymarferydd arweiniol achrededig RhDB-C Deall sut y gellir defnyddio achrediad Ymarferydd Arweiniol Byd-eang fel offeryn i arwain dysgu ar draws rhwydweithiau Trafod pa brofiad a thystiolaeth bosibl y gallwn eu defnyddio i gefnogi cyflwyniad ar gyfer statws ymarferydd arweiniol achrededig

3 RhDB-C: themâu allweddol
Beth yw ymarferydd arweiniol?

4 Chi fel Arweinydd Dysgu – pa sgiliau sydd eu hangen?
Sgiliau Personol Prosesu a Dylanwad ar eraill Gwybodaeth Broffesiynol

5 Beth yw achrediad Ymarferydd Arweiniol?
Ardystiad a gydnabyddir yn rhyngwladol o arloesedd ac ymarfer effeithiol i unigolion sy’n cefnogi ac yn arwain eraill wrth gyflawni rhagoriaeth yn eu hymarfer addysgol Y weledigaeth yn y pen draw yw cefnogi trawsnewid deilliannau addysgol ar gyfer pob dysgwr

6 Achrediad ymarferydd arweiniol
Adeiladu gweithlu o safon fyd-eang ar gyfer system addysg o safon fyd-eang

7 Beth yw’r Achrediad Ymarferydd Arweiniol

8 Buddion i staff unigol ‘Roedd hwn yn gymaint mwy na rhywbeth i’w dicio ar restr pethau i’w gwneud. Roedd hwn yn gyfle i mi eistedd i lawr a myfyrio ar yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud dros y tair blynedd diwethaf, a dadansoddi pa effaith rwyf wedi’i chael. Datblygiad proffesiynol rhagorol’.

9 Buddion i staff unigol Achrediad cenedlaethol ar gyfer arbenigedd proffesiynol mewn ymarfer arweiniol Datblygiad proffesiynol parhaus drwy’r broses achredu Cyfleoedd trwy rwydwaith cenedlaethol Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru o ysgolion o feddylfryd tebyg. Cydnabyddir fel cofnod ar gyfer rolau arwain yn y dyfodol

10 Camau gwneud cais Cam 1: Ymgymryd â hunanasesiad ar-lein Cam 2: Ysgrifennu datganiadau ategol ar gyfer pob maen prawf Cam 3: Casglu tystiolaeth i ddangos effaith Cam 4: Lanlwytho tystiolaeth a chyflwyno gwaith i’w safoni Cam 5: Disgwyl am adborth

11 Ymarfer arweiniol Gweithgaredd 1 Pam? Beth? Sut? Dylanwad?
Mewn parau, meddyliwch am brosiect rydych wedi’i arwain neu ar fin ei arwain gyda chydweithwyr. Person A - Paratowch i siarad â phartner am 2 funud ynglŷn â beth wnaethoch chi, pam y’i gwnaethoch, sut y’i gwnaethoch, pe effaith a gafodd a sut y gwyddoch hynny. Person B – gwrandewch ar Berson A a pharatowch gwestiynau i’w gofyn. Cyfnewidiwch rolau Byddwch yn barod i rannu gyda’r grŵp. Pam? Beth? Sut? Dylanwad? Sut y gwyddoch chi?

12 10 o Sgiliau Ymarferydd Arweiniol
Datblygu gwybodaeth am gynnwys DB/AD Datblygu gwybodaeth am addysgeg DB/AD Cymhwyso gwybodaeth am gynnwys ac addysgeg DB/AD i arbenigedd pwnc neu faes cwricwlwm Trosglwyddo arbenigedd DB/AD Gwybodaeth broffesiynol Sgiliau Personol Agwedd Fyd-eang Cyfathrebu, cyflwyno ac arloesi Cyd-drafod a dylanwadu, herio a datblygu Prosesu a dylanwad ar eraill Hyfforddi i arwain Cyd-drafod i arwain Rhwydweithio i arwain

13 Caiff pob un o’r 10 maen prawf Ymarfer Arweiniol eu hasesu ar bedair lefel
1. Datblygu gwybodaeth am gynnwys DB/AD: Lefel Rwyf wedi nodi meysydd penodol yn fy ngwybodaeth am gynnwys DB/AD a fydd yn gwella dysgu fy myfyrwyr ac rwyf wedi rhannu’r wybodaeth hon gyda chydweithiwr. Dechrau Rwyf wedi cyfranogi mewn ymchwil i wybodaeth am gynnwys DB/AD ac wedi ehangu a dyfnhau fy nealltwriaeth o safbwyntiau gwahanol ar faterion byd-eang a datblygu, ac wedi rhannu’r dysgu hwn gyda fy nhîm. Datblygu Rwyf wedi cyfranogi mewn ymchwil i wybodaeth am gynnwys DB/AD ac wedi datblygu dealltwriaeth fwy beirniadol o faterion byd-eang a datblygu, ac wedi rhannu’r dysgu hwn y tu allan i fy nhîm. Ehangu Rwyf wedi cyfranogi mewn ymchwil i wybodaeth am gynnwys DB/AD ac wedi datblygu dealltwriaeth fwy beirniadol o faterion byd-eang a datblygu, ac wedi rhannu’r dysgu hwn y tu hwnt i’m hysgol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol. Trawsnewid ac arwain

14 Gwneud eich ymarfer yn fesuradwy
Gweithgaredd 2

15 Cam 1: Hunanasesu Yr hunanasesiad yn erbyn y 10 maen prawf Ymarferydd Arweiniol ar y 4 lefel sy’n galluogi’r ymgeisydd i: feddwl am ba brofiad a thystiolaeth all fod gennych i’w cynnwys yn eich cais nodi pa feysydd y gall fod angen eu datblygu mwy (cyn ymgeisio’n ffurfiol os ydych chi’n adolygu yn y llawlyfr yn gyntaf) defnyddio’ch rheolwr llinell / hyfforddwr / cydweithiwr i drafod eich cais yn erbyn y meini prawf Ymarferydd Arweiniol (hunanasesu)

16

17 Cam 2: Datganiadau ategol
Angen: dangos sut y bodlonwyd y maen prawf ar y lefel a aseswyd dangos y cyd-destun a’r dylanwad ar ymarferwyr eraill, ac yn ei dro, ar blant a phobl ifanc nodi cyfeiriadau ar gyfer y dystiolaeth a lanlwythwyd

18 Cam 2: Datganiadau ategol
Pam? Beth? Sut? Dylanwad? Sut y gwyddoch chi?

19

20 Datganiadau ategol a thystiolaeth
Gweithgaredd 3 Dechreuwch feddwl am y math o bethau y byddech yn dechrau rhoi at ei gilydd i lunio datganiad ategol a’r dystiolaeth i gefnogi hynny. Sut allech chi ddangos tystiolaeth o’r lefel y gwnaethoch asesu eich hun arni? Beth fyddech chi’n ei gynnwys yn eich datganiad ategol?

21 Datganiadau ategol a thystiolaeth Gweithgaredd 4
Dechreuwch feddwl am y math o bethau y byddai angen i chi wneud i gyrraedd y lefel nesaf. Sut allwch chi fynd â’ch gwaith y tu hwnt i’r gynulleidfa yr ydych eisoes wedi dylanwadu arni? Sut allech chi ddangos tystiolaeth eich bod wedi cyrraedd y lefel newydd hon? Beth fyddech chi’n ei gynnwys yn eich datganiad ategol?

22 Cam 3: Casglu tystiolaeth
Negeseuon e-bost a llythyrau/ tystebau Cofnodion cyfarfodydd Gwerthusiadau/adborth Photograffau digidol Deunyddiau/adnoddau cynllunio Astudiaethau achos Hyperddolenni at we-dudalennau Llais y disgybl Tystiolaeth o benodiadau i swyddi a dyletswyddau proffesiynol ehangach

23 Cam 4: Cyflwyno cais Mae hyn yn cynnwys:
Lanlwytho datganiad ategol wedi’i lofnodi gan bennaeth yr ysgol/ sefydliad a rhestr tystiolaeth i’r safle Cael caniatâd ar gyfer unrhyw ffotograffau neu ddata personol a gynhwyswyd Cyflwyno gwaith ar gyfer adolygiad ar-lein* Dylai ymgeiswyr wybod, wedi iddynt gyflwyno’u cais gallant gael adborth gan eu safonwr yn gofyn am ragor o dystiolaeth

24 Pa gymorth sydd ar gael nawr?
Llawlyfr ar-lein Tystebau ar-lein Modiwlau cymorth ar-lein Tîm achredu Ymarferydd Arweiniol SSAT (Y Rhwydwaith Ysgolion) E-bost:

25 Cwestiynau?

26 A ydyn ni wedi cyflawni’r hyn yr oeddem yn gobeithio ei gyflawni heddiw?
Cael trosolwg o’r cynllun achredu ymarferydd arweiniol Deall y broses o wneud cais i ddod yn ymarferydd arweiniol RhDB-C Deall sut y gellir defnyddio achrediad Ymarferydd Arweiniol Byd-eang fel offeryn i arwain dysgu ar draws rhwydweithiau Trafod pa brofiad a thystiolaeth bosibl y gallwn eu defnyddio i gefnogi cyflwyniad ar gyfer statws ymarferydd arweiniol achrededig


Download ppt "Achrediad Ymarferydd Arweiniol RhDB-C"

Similar presentations


Ads by Google