Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
GWEITHIO UNIGOL Introduction
Usually have corporate induction every month – but have been revamping it and have reduced it to being half a day
2
Gweithwyr unigol yw’r rheini sy’n gweithio ar eu pen eu hunain heb oruchwyliaeth agos neu uniongyrchol. Mae dyletswydd ar gyflogwyr i asesu risgiau gweithwyr unigol ac i gymryd camau i osgoi neu reoli risgiau ble bo’r angen. Gallai staff o’r fath fod yn agored i fwy o risg gan nad oes unrhyw un yno i’w cynorthwyo. Y Gweithiwr Unigol
3
Mae dyletswydd ar gyflogwyr i asesu risgiau gweithwyr unigol ac i gymryd camau i osgoi neu reoli risgiau ble bo’r angen. Rhaid i hyn gynnwys: Cynnwys gweithwyr wrth ystyried risgiau posibl a mesurau i reoli’r risgiau hynny. Cymryd camau i sicrhau bod risgiau’n cael eu diddymu ble bynnag bo hynny’n bosibl. Rhoi mesurau rheoli yn eu lle, e.e. dewis offer gwaith yn ofalus er mwyn sicrhau bod y gweithiwr yn gallu cyflawni’r tasgau angenrheidiol o fewn amgylchedd ddiogel. Cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth. Adolygu asesiadau risg o bryd i’w gilydd neu pan gwelir newidiadau sylweddol yn y gweithle.
4
Mae’n bwysig ystyried y canlynol pan fyddwch yn gweithio’n unigol:
Bod yn ymwybodol o asesiadau risg sy’n ymwneud â gweithio unigol a’r risgiau uwch posibl o ganlyniad i weithio unigol. Dilyn gweithdrefnau gweithio unigol cywir ac ymgyfarwyddo eich hun â’r polisi gweithio unigol. Sicrhau bod gwahanol ffyrdd o gysylltu â’r rheolwr llinell wedi eu sefydlu. Hysbysu cydweithwyr/rheolwyr o’ch lleoliad ac am ba mor hir y byddwch yn gweithio’n unigol. Cofrestru ar ddiwedd y diwrnod gwaith Gweithio Unigol
5
Mae mwy o wybodaeth am amrywiaeth o faterion iechyd a diogelwch ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac ar dudalennau Monitor y Cyngor.
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.