Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
DIRGRYNIAD LLAW - BRAICH
Introduction Usually have corporate induction every month – but have been revamping it and have reduced it to being half a day
2
Pryd bynnag y defnyddir tŵls llaw sy’n cael eu pweru, a hynny am gyfnodau hir o amser, gall dirgryniad llaw-braich fod yn risg uchel. Daw syndrom dirgryniad llaw - braich(HAVS) o ddefnyddio tŵls pŵer sy’n cael eu dal yn y llaw, ac mae’n achosi cryn waeledd (anhwylderau poenus ar y pibellau gwaed, y nerfau a’r cymalau sy’n creu anabledd i’r person). Mae modd atal HAVS, ond unwaith mae’r difrod wedi’i wneud mae’n barhaol.
3
PERYGLON Gall y difrod gan HAVS gynnwys anallu i wneud gwaith mân a gall hefyd achosi ymosodiadau poenus lle mae’r bysedd yn troi’n wyn. Mae HAVS yn ddifrifol ac yn amharu ar ba mor abl yw’r person, ac mae bron i 2 filiwn o bobl mewn perygl. Gall beri costau uchel i weithwyr a chyflogwyr wrth amharu ar allu’r person i weithio. .
4
SYMPTOMAU Beth yw’r arwyddion a’r symptomau cynnar i chwilio amdanynt?
Pinnau bach a diffyg teimlad yn y bysedd (gall hyn styrbio cwsg). Ddim yn gallu teimlo pethau efo’ch bysedd. Colli nerth yn eich dwylo (efallai na fyddwch yn gallu codi neu ddal gwrthrychau trwm cystal). Pan mae hi’n oer ac yn wlyb, mae blaenau eich bysedd yn mynd yn wyn wedyn yn goch ac yn boenus wrth ddod atynt eu hunain (dirgryniad bys gwyn). Os byddwch yn parhau i ddefnyddio tŵls sy’n dirgrynu llawer, mae’n debyg y bydd y symptomau hyn yn gwaethygu, er enghraifft: Gallai’r diffyg teimlad yn eich dwylo fynd yn rhywbeth parhaol ac ni fyddwch yn gallu teimlo pethau o gwbl; Byddwch yn ei chael hi’n anodd pigo gwrthrychau bach i fyny, megis sgriws neu hoelion; Gallai’r dirgryniad bys gwyn ddigwydd yn fwy aml ac effeithio ar ragor o’ch bysedd
5
Y nod yn y tymor hwy yw atal rhagor o achosion newydd o HAVS rhag digwydd a galluogi gweithwyr i aros yn eu gwaith heb anabledd. Y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol o reoli’r risg o brofi dirgryniad llaw-braich yw edrych am ddulliau gwaith newydd neu wahanol sy’n cael gwared â’r cyswllt neu’n atal y cyswllt â dirgryniad. Mae goruchwyliaeth iechyd yn hanfodol i ganfod ac ymateb i arwyddion cynnar o niwed Amserlenni gwaith - Mae gweithredu amserlenni gwaith yn ffordd arall effeithiol o leihau’r risg o HAVS trwy gyfyngu’r amser mae eich gweithwyr yn cael cyswllt â’r dirgryniad. Gallwch hefyd gynllunio gwaith i osgoi sefyllfa lle mae unigolion yn cael cyswllt â’r dirgryniad am gyfnodau hir, parhaus – mae’n well cael nifer o gyfnodau byrrach. Ac yn olaf, pan fo raid defnyddio tŵls yn barhaus neu’n rheolaidd, defnyddiwch rota gweithwyr i gyfyngu ar faint o amser mae gweithwyr unigol yn eu defnyddio (dylech osgoi sefyllfa lle mae gweithwyr yn gweithio â’r tŵls am gyfnodau sy’n ddigon hir i’w rhoi yn y grŵp risg uchaf). LLEIHAU’R RISG
6
Mae copi llawn o bolisi dirgryniad y Cyngor i’w weld ar MonITor trwy ddilyn y ddolen isod
Mae gwybodaeth bellach am ystod o faterion iechyd a diogelwch ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac ar dudalennau MonITor y Cyngor. .
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com. Inc.
All rights reserved.