Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3 Literacy in key stage 3

Similar presentations


Presentation on theme: "Llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3 Literacy in key stage 3"— Presentation transcript:

1 Llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3 Literacy in key stage 3

2 Cefndir Background First of a series of reports on how schools are developing pupils’ literacy skills across the curriculum in KS3. Later reports will focus on the implementation and impact of the literacy aspect of the National Literacy and Numeracy Framework. 21 secondary schools visited; senior leaders and literacy co-ordinators interviewed; Year 9 humanities or science lesson observed; school development plan, schemes of work and pupils’ books scrutinised; and inspectors listened to a group of Year 8 and Year 9 pupils. Hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau ar sut mae ysgolion yn datblygu medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm yn CA3. Bydd adroddiadau diweddarach yn canolbwyntio ar weithrediad ac effaith yr agwedd llythrennedd ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Ymwelwyd â 21 o ysgolion uwchradd; cafodd uwch arweinwyr a chydlynwyr llythrennedd eu cyfweld; arsylwyd ar wersi’r dyniaethau neu wyddoniaeth Blwyddyn 9; craffwyd ar gynlluniau datblygu ysgol, cynlluniau gwaith a llyfrau’r disgyblion; a bu arolygwyr yn gwrando ar grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 8 a Blwyddyn 9.

3 Prif ganfyddiadau Main findings
Nationally In most secondary schools, standards for oracy are much higher than for reading and writing. At all National Curriculum levels, English performance is lower than the other core subjects, although Welsh first language is much higher. Girls perform significantly better than boys at the expected and higher levels in English and Welsh. Yn genedlaethol Yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, mae safonau llefaredd yn uwch o lawer na safonau darllen ac ysgrifennu. Ar bob lefel o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae perfformiad mewn Saesneg yn is na’r pynciau craidd eraill, er bod Cymraeg iaith gyntaf yn uwch o lawer. Mae merched yn perfformio’n llawer gwell na bechgyn ar y lefel ddisgwyliedig a’r lefelau uwch mewn Saesneg a Chymraeg.

4 Prif ganfyddiadau Main findings
Reading Ages Around 40% of learners enter secondary schools in Year 7 with reading ages significantly (at least six months) below their chronological age. Around 20% of these learners are not functionally literate, with reading ages of below nine and a half years. Oedrannau Darllen Mae tua 40% o ddysgwyr yn dechrau ysgolion uwchradd ym Mlwyddyn 7 gydag oedrannau darllen gryn dipyn islaw eu hoedran cronolegol (o leiaf chwe mis). Nid yw tua 20% o’r dysgwyr hyn yn llythrennog weithredol, ac mae eu hoedrannau darllen islaw naw mlwydd a hanner.

5 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae asesiadau athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 a’r profion oedran darllen yn mesur cynnydd yn wahanol. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd gwneud cymariaethau rhwng oedrannau darllen a medrau darllen disgyblion. Hyd nes cyflwyno prawf darllen cenedlaethol yn 2013, ni fydd gan Gymru ddata trylwyr, cymaradwy ar lefelau llythrennedd dysgwyr. Ar hyn o bryd, mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn defnyddio profion gwahanol ac yn mesur lefelau llythrennedd mewn ffyrdd gwahanol. The National Curriculum teacher assessments at the end of key stage 2 and the reading age tests measure progress differently. This makes it difficult to make comparisons between reading ages and pupils’ reading skills. Until the introduction of a national reading test in 2013, Wales will not have robust, comparable data on learners’ literacy levels. Currently, schools and local authorities use different tests and measure literacy levels in different ways.

6 Prif ganfyddiadau Main findings
Safonau mewn gwersi a arolygwyd o Fedi 2010 Mae disgyblion yn gwrando’n dda mewn gwersi ac yn ymateb yn rhwydd i gwestiynau ar lafar, ond mae eu hatebion yn rhy fyr ac arwynebol mewn tua un o bob deg ysgol. Mae llawer o ddisgyblion yn darllen gyda dealltwriaeth, ac yn dyfynnu a dehongli gwybodaeth yn dda. Fodd bynnag, mewn ychydig ysgolion, mae medrau darllen lleiafrif o ddisgyblion yn gyfyngedig, ac mae hyn yn effeithio ar eu cynnydd. Yn yr ysgolion hyn, nid yw disgyblion mwy galluog yn aml yn cael digon o gyfleoedd i ddadansoddi testunau darllen cymhleth. Standards in lessons inspected since September 2010 Pupils listen well in lessons and respond readily to questions orally, although in about one-in-ten schools their responses are too brief and superficial. Many pupils read with understanding, and extract and interpret information well. However, in a few schools, a minority of pupils have limited reading skills and this affects their progress. Often, in these schools, more able pupils do not have enough opportunities to analyse complex reading texts.

7 Prif ganfyddiadau Main findings
Safonau mewn gwersi a arolygwyd o Fedi 2010 Mewn tua thri chwarter o ysgolion uwchradd, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ysgrifennu’n glir at ystod briodol o wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd. Mewn tua chwarter o ysgolion, nid yw safonau ysgrifennu disgyblion cystal â’u darllen neu’u llafaredd. Nid yw disgyblion yn cynhyrchu digon o ysgrifennu estynedig ar draws y cwricwlwm ac maent yn gwneud camgymeriadau sylfaenol mewn sillafu, atalnodi a gramadeg. Standards in lessons inspected since September 2010 In about three-quarters of secondary schools, most pupils write clearly for an appropriate range of different purposes and audiences. In about a quarter of schools, standards of pupils’ writing are not as good as their reading or oracy. Pupils do not produce enough extended writing across the curriculum and make basic errors in spelling, punctuation and grammar.

8 Prif ganfyddiadau Main findings
Yn yr ysgolion y gwnaed arolwg ohonynt Mae mwy o ysgolion uwchradd yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ennill cymwysterau cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru. Fodd bynnag, nid yw ennill y cymwysterau hyn o reidrwydd yn golygu bod disgyblion yn cymhwyso’r medrau hyn yn gyson ar draws y cwricwlwm. Mae lleiafrif o ysgolion yn cynnal archwiliad o fedrau llythrennedd disgyblion i weld a yw pynciau’n nodi ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu’r medrau hyn. In the surveyed schools More secondary schools plan opportunities for pupils to gain Essential Skills Wales communication qualifications. However, gaining these qualifications does not necessarily mean that pupils are applying these skills consistently across the curriculum. A minority of schools audit pupils’ literacy skills to see whether subjects identify and provide opportunities for pupils to develop these skills.

9 Prif ganfyddiadau Main findings
Pan fydd ysgolion wedi datblygu hyfforddiant ar strategaethau llythrennedd, mae cynlluniau gwaith yn fwy cyson o ran amlygu’r union fedrau llythrennedd fydd yn cael eu haddysgu. Mae gan lawer o ysgolion weithdrefnau diffiniedig ar gyfer asesu galluoedd darllen disgyblion, a threfniadau i gefnogi’r rhai y mae eu medrau’n wannach. Fodd bynnag, dim ond lleiafrif sy’n cofnodi cynnydd y disgyblion hyn ar ddiwedd cyfnod allweddol 3 neu’n monitro’r dysgwyr mwy galluog yn ddigon da. Where schools have developed training on literacy strategies, subject schemes of work are more consistent in highlighting the precise literacy skills to be taught. Many schools have well-defined procedures for assessing pupils’ reading abilities and arrangements to support those with weaker skills. However, only a minority record these pupils’ progress at the end of key stage 3 or monitor more able readers well enough.

10 Prif ganfyddiadau Main findings
All schools surveyed have literacy coordinators who are responsible for coordinating whole-school approaches and working groups which focus on literacy. However, it is too early to judge their effectiveness on improving standards. While improving literacy is a priority in many development plans, only a minority of schools have a clear literacy focus in monitoring and evaluation procedures. Mae cydlynwyr llythrennedd sy’n gyfrifol am gydlynu dulliau ysgol gyfan, a gweithgorau sy’n canolbwyntio ar lythrennedd, ym mhob ysgol y gwnaed arolwg ohoni. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i farnu eu heffeithiolrwydd o ran gwella safonau. Er bod gwella llythrennedd yn flaenoriaeth mewn llawer o gynlluniau datblygu, mewn lleiafrif o ysgolion yn unig y mae ffocws clir ar lythrennedd mewn gweithdrefnau monitro ac arfarnu.

11 Argymhellion Recommendations
Dylai ysgolion: roi blaenoriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd mewn cynlluniau gwella a chynlluniau gwaith; olrhain a monitro cynnydd pob disgybl, yn enwedig y rhai ar raglenni ymyrraeth a dysgwyr mwy galluog, i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud cynnydd da ar draws pob cyfnod allweddol; amlinellu cyfleoedd ar gyfer llefaredd, darllen ac ysgrifennu ar draws y cwricwlwm, yn enwedig o ran gwella ysgrifennu estynedig disgyblion a chywirdeb eu gwaith ysgrifenedig; Schools should: make developing literacy skills a priority in improvement plans and schemes of work; track and monitor the progress of all pupils, particularly those on intervention programmes and more able learners, to make sure that they make good progress across all key stages; map opportunities for oracy, reading and writing across the curriculum, particularly in improving pupils’ extended writing and the accuracy of their written work;

12 Argymhellion Recommendations
Schools should: monitor and evaluate the impact of strategies for improving literacy; and train teachers to plan more challenging opportunities in all subjects to develop pupils’ higher-order reading and writing skills. Dylai ysgolion: fonitro ac arfarnu effaith y strategaethau ar gyfer gwella llythrennedd; a hyfforddi athrawon i gynllunio mwy o gyfleoedd heriol ym mhob pwnc i ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu lefel uwch disgyblion.

13 Argymhellion Recommendations
Dylai Llywodraeth Cymru: roi arweiniad a chymorth i athrawon i’w helpu i roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol ar waith a datblygu medrau llythrennedd ar draws y cwricwlwm. Dylai awdurdodau lleol: lunio strategaeth llythrennedd ddatblygedig a mecanweithiau i wella safonau ar draws y cwricwlwm; a chefnogi ysgolion i hyfforddi pob aelod o staff i ddefnyddio strategaethau llythrennedd effeithiol, yn cynnwys rhannu arfer orau rhwng ysgolion. The Welsh Government should: provide guidance and support for teachers to help them to implement the National Literacy and Numeracy Framework and develop literacy skills across the curriculum. Local authorities should: produce a well-developed literacy strategy and mechanisms to improve standards across the curriculum; and support schools in training all staff to use effective literacy strategies, including sharing best practice between schools.

14 Arfer orau Best practice
Mae Pecyn Cymorth Llythrennedd Merthyr yn cynnwys ystod o strategaethau ar gyfer darllen, ysgrifennu a llefaredd sy’n cael eu haddysgu mewn gwersi ar draws y cwricwlwm yn raddol. Mae ffocws penodol ar ddarllen, ysgrifennu a llefaredd bob tymor, a datblygir tair strategaeth ym mhob blwyddyn. The Merthyr Literacy Toolkit consists of a range of strategies for reading, writing and oracy, taught in lessons across the curriculum progressively. Each term has a specific focus on reading, writing and oracy and three strategies are developed in each year.

15 Arfer orau Best practice
Mae’r pecyn cymorth yn darparu adnoddau a gwybodaeth am bob strategaeth. Rhoddir hyfforddiant ysgol gyfan ar sut i ddefnyddio’r pecyn cymorth. Caiff athrawon eu hannog i ddefnyddio’r strategaethau hyn, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 3, ac mae uwch arweinwyr wedi trefnu gweithgareddau monitro ac adolygu i arfarnu effaith y strategaethau ar fedrau llythrennedd disgyblion. Megis dechrau cael ei datblygu y mae’r fenter. Mae’r dull ‘camau cryno’ ar gyfer datblygu strategaethau llythrennedd dros gyfnod o dair blynedd yn ddefnyddiol wrth hyfforddi pob athro i ddefnyddio’r strategaethau wrth gynllunio gwersi ac asesiadau. The toolkit provides resources and information on each strategy. Whole-school training is given on how to use the toolkit. Teachers are encouraged to use these strategies, particularly at key stage 3, and senior leaders have arranged monitoring and review activities to evaluate the impact of the strategies on pupils’ literacy skills. The initiative is at an early stage of development. The ‘bite size’ approach to developing literacy strategies over a three-year period is helpful in training all teachers to use the strategies in planning lessons and assessments.

16 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
Faint o flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i lythrennedd yn ein cynllun gwella? A yw cynlluniau gwaith yn amlygu medrau darllen ac ysgrifennu penodol i’w haddysgu? A ydyn ni wedi amlinellu cyfleoedd ar gyfer darllen, ysgrifennu a llefaredd ar draws pynciau? A yw’r cyfleoedd hyn yn dangos dilyniant ar draws y cyfnod allweddol? How high a priority is literacy in our improvement plan? Do schemes of work highlight specific reading and writing skills to be taught? Have we mapped opportunities for reading, writing and oracy across subjects? Do these opportunities show progression across the key stage?

17 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
Sut ydyn ni’n mynd ati i olrhain a monitro cynnydd disgyblion, yn enwedig y rhai ar raglenni ymyrraeth a dysgwyr mwy galluog? A ydyn ni’n gwybod a yw pob disgybl yn gwneud cynnydd da mewn llythrennedd ar draws y cyfnodau allweddol? Pa mor sicr a chyson yw ein polisi marcio ac asesu o ran gwirio cywirdeb gwaith ysgrifenedig disgyblion, ac o ran gwella cyfleoedd ar gyfer ysgrifennu estynedig mewn pynciau heblaw am Saesneg/ Cymraeg? How do we track and monitor the progress of pupils, particularly those on intervention programmes and more able pupils? Do we know whether all pupils make good progress in literacy across key stages? How secure and consistent is our marking and assessment policy in checking the accuracy of pupils’ written work and in improving opportunities for extended writing in subjects other than English/Welsh?

18 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
Pa strategaethau llythrennedd ydyn ni’n eu datblygu ar hyn o bryd? Sut ydyn ni’n mynd ati i fonitro ac arfarnu effaith y strategaethau hyn er mwyn dangos gwelliant? Pa hyfforddiant ysgol gyfan ydyn ni wedi’i drefnu er mwyn cynllunio mwy o dasgau heriol ac i ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu lefel uwch y disgyblion. What literacy strategies are we currently developing? How do we monitor and evaluate the impact of these strategies to show improvement? What whole-school training have we organised to plan more challenging tasks and develop pupils’ higher-order reading and writing skills?

19 http://www. estyn. gov. uk/download/publication/249003

20 Cwestiynau... Questions…


Download ppt "Llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3 Literacy in key stage 3"

Similar presentations


Ads by Google